Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno data a gasglwyd o'r cyfrifiad blynyddol o ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae hefyd yn cyflwyno data ar gyfer ysgolion annibynnol. Mae’n adrodd gwybodaeth ar gyfer:

  • ysgolion
  • disgyblion
  • ethnigrwydd
  • cymwys i brydau ysgol am ddim
  • anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion addysgol arbennig (AAA)
  • maint dosbarthiadau
  • athrawon a staff cymorth

Cesglir y data yn yr adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru oddi wrth ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol mewn datganiad electronig o’r enw’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) a chan ysgolion annibynnol mewn datganiad cyfanredol.

Prif bwyntiau

  • Roedd 1,441 ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 8 llai o’i gymharu ag Ionawr 2025.
  • Roedd 453,699 disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 6,392 llai na mis Ionawr 2025 ac yn parhau â'r cwymp dros y blynyddoedd diwethaf.
  • O’r 372,070 disgybl 5 i 15 oed, roedd 20.5% yn gymwys am brydau ysgol am ddim, i fyny o 20.3% ym mis Ionawr 2025 ac yn parhau â'r cwymp dros y blynyddoedd diwethaf.
  • Roedd 26.8% o ddisgyblion 5 i 15 oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu o dan warchodaeth drosiannol, i lawr o 28.3% ym mis Ionawr 2025.
  • Roedd 39,850 disgyblion ag ADY neu AAA mewn ysgolion a gynhelir (8.8% o'r holl ddisgyblion), i lawr o 43,885 (9.5%) ym mis Ionawr 2025.
  • Roedd 23,407 o athrawon cymwysedig cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir, i lawr o 323 ym mis Ionawr 2025.

Ysgolion a disgyblion

Mae’r adran yma yn cyflwyno data ar gyfer ysgolion a disgyblion.

Am ddiffiniadau o fathau o ysgolion (gan gynnwys sut y cânt eu dosbarthu yn nhermau iaith yr addysgu (cyfrwng)) gweler diffiniadau.

Tabl 1: nifer yr ysgolion yng Nghymru yn ôl sector, 2025 i 2026
Sector20252026
Meithrin65
Cynradd1,1991,193
Canol3131
Uwchradd174173
Arbennig3939
Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol 1,4491,441
Annibynnol8578
Cyfanswm1,5341,519

Mae’r tabl yn dangos bod 1,441 o ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ym mis Ionawr 2026, i lawr 8 o'i gymharu â mis Ionawr 2025. Roedd 78 o ysgolion annibynnol ym mis Ionawr 2026, i lawr 7 o'i gymharu â mis Ionawr 2025.

Mae’r canllawiau ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi’u diweddaru. Pwrpas y trefniadau newydd ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yw helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio eu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg mewn ffordd sy’n ategu’r Cwricwlwm i Gymru ynghyd â’r nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg, fel cyflwynwyd yn Cymraeg 2050. Dyma'r ail flwyddyn i ddata sy'n defnyddio'r system gategoreiddio newydd gael ei gyhoeddi. Nid yw’r data yn gymharol â’r system categoreiddio flaenorol. Gweler y diffiniadau am ragor o fanylion.

Ffigwr 1: nifer o ysgolion wedi’u cynnal yn ôl awdurdod lleol a cahtegori ysgol, 2026 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart bar stac yn dangos Caerdydd oedd â'r nifer uchaf o ysgolion yn gyffredinol ym mis Ionawr 2026. Gwynedd oedd â'r nifer uchaf o ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Nifer yr ysgolion a gynhelir, yn ôl awdurdod lleol a chyfrwng (MS Excel)

[Nodyn 1] Ysgolion cynradd, canol ac uwchradd (ac eithrio ysgolion meithrin ac arbennig). Mae cyfrwng Cymraeg yn cynnwys ysgolion dwy iaith sy’n trosi i gyfrwng Cymraeg. Mae dwyiaith yn cynnwys ysgolion sy'n cofnodi mwy nag un categori iaith ysgol (ac eithrio C3 – cyfrwng Cymraeg a CP – Cyfrwng Cymraeg Benodedig) ac ysgolion cyfrwng Saesneg sy'n trosi i ddwy iaith.

Ym mis Ionawr 2026 roedd:

  • 403 o ysgolion cyfrwng Cymraeg
  • 73 o ysgolion dwy iaith
  • 921 o ysgolion cyfrwng Saesneg
  • 91,776 o ddisgyblion (21%) yn cael eu haddysg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg
  • 25,483 o ddisgyblion (6%) mewn ysgolion dwy iaith
  • 329,266 o ddisgyblion (74%) mewn ysgolion cyfrwng Saesneg

Roedd y rhan fwyaf o ysgolion naill ai'n ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwy iaith yn:

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Ceredigion
  • Sir Gaerfyrddin

Yn yr 17 awdurdod arall addysgir rhan fwyaf o ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Tabl 2: nifer y disgyblion yng Nghymru yn ôl sector, 2025 i 2026
Sector20252026
Meithrin431397
Cynradd252,182246,237
Canol30,74430,461
Uwchradd170,424169,827
Arbennig6,3106,777
Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol 460,091453,699
Annibynnol [Nodyn 1]9,7339,154
Cyfanswm469,824462,853

Mae'r tabl yn dangos bod 453,699 o ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, i lawr 6,392 o'i gymharu â mis Ionawr 2025. Roedd 9,154 disgyblion mewn ysgolion annibynnol (2% o'r holl ddisgyblion) ym mis Ionawr 2026, i lawr 579 o’i gymharu â mis Ionawr 2025.

Gostyngodd nifer y disgyblion ym mhob sector ac eithrio ysgolion arbennig.

[Nodyn 1] Ni chyflwynodd 3 ysgol annibynnol data yn 2025 ac ni chyflwynodd. Cyflwynodd pob ysgol ddata yn 2026.

Amcanestyniadau disgyblion

Mae amcanestyniadau disgyblion yn adlewyrchu'r tueddiadau a ddangosir mewn amcanestyniadau poblogaeth a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn seiliedig ar yr amcanestyniadau poblogaeth diweddaraf ar gyfer Cymru yn seiliedig ar 2024, amcanestynnir y bydd nifer y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir yn gostwng tua 100,000 neu 23% dros y 15 mlynedd nesaf. Gweler tabl 20 o'r daenlen gysylltiedig (MS Excel).

Mae'r holl ddata sy'n dilyn yn y datganiad hwn yn ymwneud ag ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yn unig.

Ffigur 2: cymhareb disgybl athro (CDA) yn ôl sector, 2008 to 2026

Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart llinell sy'n dangos bod CDAau dros y 19 mlynedd diwethaf yn gyffredinol wedi aros yn gyson ag ysgolion cynradd sydd â'r CDAau uchaf ac ysgolion meithrin yn gweld gostyngiadau yn y degawd diwethaf.

CDA yn ôl sector (MS Excel)

[Nodyn 1] Mae ysgolion canol yn gategori o ysgol a gyflwynwyd yn 2013. Gallant gynnwys disgyblion rhwng 3/4 a 16/18 oed.

Roedd y CDA ym mis Ionawr 2026 ar ei uchaf mewn ysgolion cynradd gyda 21.3 ac yn isaf mewn ysgolion arbennig gyda 7.0. Roedd y gymhareb disgybl athro mewn ysgolion uwchradd yn 17.5.

Gostyngodd y CDA mewn ysgolion meithrin, cynradd a chanol yn 2026.

Cynyddodd y PTR mewn ysgolion arbennig ac dim newid mewn ysgolion uwchradd yn 2026.

Darparodd Llywodraeth Cymru gyllid i ysgolion o dan y cynllun Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau (RRRS) i recriwtio staff ychwanegol i gefnogi disgyblion yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Darparwyd y cyllid yn ystod y pandemig a'r cyfnod adfer hyd at Ebrill 2023 i Fawrth 2024, er bod y swm a ddosbarthwyd wedi gostwng ers y cyllid cychwynnol yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Mae hyn yn debygol o fod wedi cyfrannu at y cwymp yn y CDA yn ystod y cyfnod hwn.

Cefndir ethnig

Dyma'r grŵp ethnig y mae'r disgybl yn uniaethu eu hunain ag ef.

Tabl 3: nifer y disgyblion 5 oed a throsodd yn ôl cefndir ethnig, 2026
Cefndir ethnigNiferCanran
Gwyn344,70687.4
Gwyn Prydeinig329,79283.6
Teithiwr5040.1
Sipsi/Roma7450.2
Unrhyw gefndir Gwyn arall13,6653.5
Cymysg16,9334.3
Gwyn a Du Caribïaidd2,7140.7
Gwyn a Du Affricanaidd2,5020.6
Gwyn ac Asiaidd3,2520.8
Unrhyw gefndir cymysg arall8,4652.1
Asiaidd13,7273.5
Indiaidd4,8131.2
Pacistanaidd3,4080.9
Bangladeshaidd3,2580.8
Unrhyw gefndir Asiaidd arall2,2480.6
Du8,2172.1
Du Caribïaidd2110.1
Du Affricanaidd7,4291.9
Unrhyw gefndir Du arall5770.1
Tsieineaidd8910.2
Unrhyw gefndir ethnig arall7,0761.8
Cyfanswm â chategori dilys391,55099.3
Ddim yn gwybod2,7030.7
Pob disgybl394,253100.0

Mae'r tabl yn dangos fod 83.6% o ddisgyblion 5 oed a throsodd wedi nodi eu bod yn Wyn Prydeinig ym mis Ionawr 2026. Mae’r ffigwr hyn wedi gostwng ychydig ym mob un o’r 5 mlynedd diwethaf gyda chynnydd yn y cefndiroedd ethnig eraill dros yr un cyfnod.

O'r disgyblion hynny o gefndir ethnig lleiafrifol y grwpiau mwyaf yw'r rhai o gefndir ethnig cymysg (16,933 o ddisgyblion), Asaidd (13,727), cefndir gwyn ac eithrio Gwyn Prydeinig, Teithwyr neu Sipsi/Roma (13,665 o ddisgyblion) a Du (8,217); tra bod dros 7,076 o ddisgyblion yn nodi eu hunain fel grŵp ethnig arall.

Prydau am ddim (PYD)

Mae disgyblion yn gymwys i gael PYD os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth.

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM)

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu PYD i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru erbyn 2024. Dechreuodd y cyflwyniad ym mis Medi 2022 ac fe'i cwblhawyd ym mis Medi 2024.

Nid yw'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn adlewyrchu cyfanswm nifer y disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim ym mis Ionawr 2026. Yn hytrach, mae ond yn cynnwys nifer y disgyblion sy’n gymwys i PYD os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau penodol (fel yr adroddwyd mewn blynyddoedd blaenorol). Gweler y canllaw gwybodaeth prydau ysgol am ddim am fanylion llawn y meini prawf cymhwysedd a'r buddion.

Ffigur 3: canran o ddisgyblion sy’n gymwys am PYD, 2008 i 2026 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart llinell sy'n dangos bod canran y disgyblion yn hysbys i fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi gostwng yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Mae'n dal i fod yn uwch yn 2026 nag yn y blynyddoedd cyn pandemig COVID-19.

Canran o ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (MS Excel)

[Nodyn 1] Disgyblion sy'n gymwys os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth. Mae'n bosibl bod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar ansawdd y data hwn ac efallai ei fod wedi arwain at or-gofnodi'r data hwn yn 2020 i 2022. Gweler yr adran Gwybodaeth ansawdd a methodoleg a diweddariad ein Prif Ystadegydd ar hyn. O 2023 ymlaen gwnaethom ganiatáu amser ychwanegol a gweithredu rheolau a gweithdrefnau dilysu newydd i sicrhau data o'r ansawdd uchaf posibl.

[Nodyn 2] Oedran ar 31 Awst yn y flwyddyn flaenorol.

Rhwng Ionawr 2025 ac Ionawr 2026:

  • gostyngodd nifer y disgyblion rhwng 5 a 15 oed yn hysbys i fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o 76,636 i 76,125
  • cynyddodd canran y disgyblion rhwng 5 a 15 oed sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim o 20.3% i 20.5%
  • gostyngodd nifer y disgyblion o bob oed yn hysbys i fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o 84,764 i 83,699
  • roedd dim newid yn y canran y disgyblion o bob oed sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef 18.4%

Gwarchodaeth drosiannol (GD) ar gyfer PYD

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi GDnewydd ar gyfer PYD. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael GD. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol hyd at 31 Rhagfyr 2023 o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

Tabl 4a: nifer a chanran y disgyblion 5 i 15 oed yn hysbys i fod yn gymwys am PYD neu GD, 2024 i 2026
Disgyblion 5 i 15 oed202420252026
Nifer yn gymwys am PYD81,31676,63676,125
% yn gymwys am PYD21.320.320.5
Nifer yn gymwys am PYD neu GD111,805106,94399,766
% yn gymwys am PYD neu GD29.328.326.8
Tabl 4b: nifer a chanran y disgyblion pob oedran yn hysbys i fod yn gymwys am PYD neu GD, 2024 i 2026
Disgyblion pob oedran202420252026
Nifer yn gymwys am PYD90,10884,76483,699
% yn gymwys am PYD19.318.418.4
Nifer yn gymwys am PYD neu GD122,101116,172108,495
% yn gymwys am PYD neu GD26.225.223.9

Mae'r tabl yn dangos fod 99,766 o ddisgyblion (26.8%) rhwng 5 a 15 oed yn hysbys i fod yn gymwys i gael PYD neu GD ym mis Ionawr 2026, i lawr o 106,943 o ddisgyblion (28.3%) ym mis Ionawr 2025.

Roedd 108,495 disgybl (23.9%) o bob oedran yn hysbys i fod yn gymwys i gael PYD neu GD ym mis Ionawr 2026, i lawr o 116,172 disgybl (25.2%) ym mis Ionawr 2025.

Mae'r gostyngiadau hyn yn rhannol oherwydd ni all unrhyw ddisgyblion newydd gael GDar ôl 31 Rhagfyr 2023 ac mae rhai disgyblion wedi colli GDoherwydd newid cyfnod ysgol.

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Mae Deddf ADY a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ALNET), Cod ADY Cymru 2021, a'r rheoliadau cysylltiedig yn nodi'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc 0 i 25 oed ag ADY yng Nghymru. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn ffurfio'r system ADY, sydd wedi'i gweithredu'n llawn ers mis Medi 2025 ar ôl cyflwyniad o bedair blynedd. Mae hyn wedi disodli'r system anghenion addysgol arbennig (AAA).

Ystyrir bod plentyn neu berson ifanc gyda ADY os oes ganddynt anhawster dysgu neu anabledd ac mae angen cymorth sy'n ychwanegol neu'n wahanol i'r cymorth sydd ar gael yn gyffredinol i eraill o'r un oed mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion, neu addysg bellach.

Ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY, mae eu hanghenion a'r cymorth sydd ei angen arnynt wedi'u cofnodi mewn Cynllun Datblygu Unigol (CDU) statudol. Mae'r IDP yn cael ei gynnal naill ai gan eu lleoliad addysg neu gan yr awdurdod lleol.

Newidiadau i ddata anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer 2026

Er mwyn sicrhau bod statws darpariaeth ADY wedi'i gofnodi'n gywir ac yn gyfreithlon yn PLASC 2026, cofnodwyd plant a phobl ifanc a drosglwyddodd yn awtomatig i'r system ADY ar 31 Awst 2025 ond nad oeddent wedi cwblhau'r broses benderfynu ADY eto ac nad oeddent wedi cael CDU wedi'u cofnodi fel rhai 'wedi'u trosglwyddo i'r system ADY ac yn aros am benderfyniad ADY'.

Ffigur 4: nifer a chanran y disgyblion ag ADY neu AAA mewn ysgolion a gynhelir yn ôl math o ddarpariaeth, 2025 i 2026 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart bar clwstwr yn dangos mai’r math mwyaf cyffredin o ddarpariaeth ADY neu AAA yn 2026 oedd CDU ysgol. Mae darpariaeth IDP wedi cynyddu o'i gymharu â 2025, wrth i'r symud i'r system ADY newydd gael ei gwblhau.

Nifer a chanran y disgyblion ag ADY neu AAA mewn ysgolion a gynhelir yn ôl math o ddarpariaeth (MS Excel)

[Nodyn 1] Mae’r canrannau yn cynrychioli'r canran o’r holl ddisgyblion gyda’r mathau yma o ddarpariaeth AAA.

[Nodyn 2] Mae CDU yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a ddaeth i rym ar 1 Medi 2021. Gall fod gan ddysgwr naill ai CDU a gynhelir gan ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.

[Nodyn 3] Disgyblion sydd wedi trosglwyddo i'r system ADY ac sy'n aros am benderfyniad ADY.

Roedd 39,850 disgyblion ag ADY neu AAA mewn ysgolion a gynhelir (8.8% o'r holl ddisgyblion) ym mis Ionawr 2026, i lawr o 43,885 (9.5%) ym mis Ionawr 2025.

Ffigur 5: adroddiadau o ADY mewn ysgolion a gynhelir yn ôl math yr angen, 2026 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart bar sy'n dangos nifer yr adroddiadau o bob math o anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig. Anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu oedd y math mwyaf cyffredin o ADY yn 2026 ac yna anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.

Adroddiadau o ADY mewn ysgolion a gynhelir yn ôl math yr angen (MS Excel)

[Nodyn 1] Mae'r rhifau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. O fis Ionawr 2017 caniatawyd ysgolion a gynhelir i adrodd gymaint o AAAy disgybl sy'n ofynnol. Nid yw anghenion hyn wedi’u graddio ac felly ni ellir dangos unrhyw fath o ADY fel 'Prif Angen' y disgybl. Mae'r siart uchod yn dangos nifer o weithiau adroddwyd bob math ADY e.e. os yw mathau ADY 'Dyslecsia' a 'Dyspracsia' yn cael eu hadrodd ar gyfer disgybl yna mae’r disgybl yn cael ei gyfrif ddwywaith, unwaith o dan bob math. Bydd nifer o adroddiadau ADY felly yn fwy na nifer y disgyblion sydd ag ADY.

Gwnaed 62,681 adroddiadau o’r fath o ADY - cyfartaledd o 1.6 fesul disgybl sydd ag ADY.

Y math mwyaf cyffredin o angen a adroddwyd oedd 'Anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu', yn cynrychioli 36.9% o ddisgyblion ag ADY.

Yr uchaf nesaf oedd 'Anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol' (35.4%) ac yna ' Anhwylderau ar y sbectrwm awtistig' (29.5%).

Maint dosbarthiau

Tabl 5: maint dosbarthiadau babanod ac iau ar gyfartaledd, 2024 i 2026
Dosbarth202420252026
Babanod24.824.724.3
Iau26.026.125.8

Mae'r tabl yn dangos bod maint cyfartalog dosbarthiadau babanod ac iau wedi gostwng o'i gymharu â 2025.

Mae dosbarthiadau babanod o fwy na 30 disgybl yn anghyfreithlon o fawr heblaw bod amgylchiadau penodol o'r enw 'eithriadau' wedi’u bodloni.

Ffigur 6: canran y disgyblion mewn dosbarthiadau babanod cyfreithlon neu anghyfreithlon o fawr, 2024 i 2026

Image

Disgrifiad o ffigur 6: siart bar clystyrog sy'n dangos nad yw canran y disgyblion mewn dosbarthiadau mawr yn gyfreithlon ac yn anghyfreithlon yn 2026 wedi dangos fawr ddim newid o'i gymharu â 2024.

Canran y disgyblion mewn dosbarthiadau babanod cyfreithlon neu anghyfreithlon o fawr (MS Excel)

Roedd 5,948 o ddisgyblion (6.6%) mewn pob dosbarth babanod o dros 30 o ddisgyblion ym mis Ionawr 2026, i fyny o 5,755 o ddisgyblion (6.0%) ym mis Ionawr 2025.

Roedd 651 o ddisgyblion (0.7%) mewn dosbarthiadau anghyfreithlon o fawr o dros 30 o ddisgyblion ym mis Ionawr 2026, i lawr o 1,033 o ddisgyblion (1.1%) ym mis Ionawr 2025.

Athrawon a staff cymorth

Cyflwynwyd Cyfrifiad Blynyddol y Gweithlu Ysgol (CBGY) yn 2019 i ddarparu mwy o wybodaeth am y gweithlu a helpu i lywio polisi. Bydd y data yn cael ei ddefnyddio wrth gynllunio'r gweithlu a'i ddefnyddio i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’r data sydd wedi’u cyhoeddi yn y datganiad ystadegol yma wedi’u seilio ar gwybodaeth o’r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a dylid parhau i’w defnyddio fel yr ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol, a’u defnyddio ar gyfer cymhariaeth dros amser. Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol CBGY diweddaraf ar 14 Gorffennaf 2026 fel ystadegau swyddogol.  Unwaith bydd safon y data a gesglir trwy’r CBGY wedi’u sicrhau ac unrhyw wahaniaethau wedi’u hesbonio bydd y datganiad yma yn darparu’r ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol.

Gweler ein hadroddiad ‘Canlyniadau Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion: adroddiad gwybodaeth gefndir a gwybodaeth am ansawdd a methodoleg’ am fwy o fanylion ar y casgliad CBGY a chymharu eitemau data a gesglir yn y CBGY a CYBLD (ar gyfer athrawon wedi cymhwyso, absenoldebau athrawon trwy salwch a recriwtio a chadw athrawon).

Tabl 6: nifer a athrwon wedi cymhwyso a staff cymorth cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion wedi’u cynnal, 2024 i 2026
Rôl staff202420252026
Athrawon wedi cymhwyso24,29723,72923,407
Staff cymorth25,01824,23323,585

Mae'r tabl yn dangos bod 23,407 o athrawon wedi cymhwyso cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol ym mis Ionawr 2026, i lawr 323 o'i gymharu â mis Ionawr 2025.

Hefyd, roedd yna 23,585 staff cymorth cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol ym mis Ionawr 2026, i lawr 649 o’i gymharu â mis Ionawr 2025.

Diffiniadau

Ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol

Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdodau lleol. Bydd yr awdurdodau'n talu eu costau'n rhannol o drethi’r cyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru.

Ysgolion annibynnol

Ysgolion sy'n codi ffioedd ac a all gael eu hariannu hefyd gan unigolion, cwmnïau neu sefydliadau elusennol. Rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru gofrestru gyda Llywodraeth Cymru.

Ysgolion meithrin

Dan 5 oed.

Ysgolion cynradd

3/4 i 10 oed.

Ysgolion canol

3/4 i 16/18 oed.

Ysgolion uwchradd

11 i 16/18 oed.

Ysgolion arbennig

Ysgolion arbennig, rhai dydd a rhai preswyl, sy'n darparu addysg i blant o unrhyw oedran 3 oed neu'n hŷn ag ADY neu AAA na allant gael eu haddysgu'n foddhaol mewn ysgolion prif ffrwd.

Categori iaith yr ysgol

Mae canllawiau categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi’u diweddaru. Gall ysgolion cynradd, canol ac uwchradd nawr ddisgrifio iaith yr ysgol yn ôl yr opsiynau canlynol. Gall ysgolion ddewis mwy nag un categori i ddisgrifio eu darpariaeth os oes angen.

  • C1 - Ysgol/darpariaeth cyfrwng Saesneg
  • T2 - Ysgol/darpariaeth cyfrwng Saesneg neu rheiny gyda chyfran uchel o ddarpariaeth Cymraeg sy’n trosi i fod yn ysgol/darpariaeth dwy iaith (Cymraeg a Saesneg) dros amser
  • C2 - Ysgol/darpariaeth dwy iaith (Cymraeg a Saesneg)
  • T3 - Ysgol/darpariaeth dwy iaith (Cymraeg a Saesneg) sy’n trosi i fod yn ysgol/darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser
  • C3 - Ysgol/darpariaeth cyfrwng Cymraeg
  • CP - Ysgol/darpariaeth uwchradd benodedig cyfrwng

Yn y datganiad hwn rydym wedi diffinio ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwy iaith a chyfrwng Saesneg yn y ffordd ganlynol. Mae hyn er mwyn symleiddio'r broses o grwpio ysgolion o ystyried nifer y gwahanol gyfuniadau sy'n bosibl oherwydd bod ysgolion yn gallu dewis mwy nag un categori.

  • Cyfrwng Cymraeg – T3, C3, CP neu C3 a CP
  • Dwy iaith – T2, C2 ac unrhyw ysgol sy'n cofnodi mwy nag un categori (ac eithrio C3 a CP)
  • Cyfrwng Saesneg – C1

Cyfwerth ag amser llawn

Mae niferoedd disgyblion cyfwerth ag amser llawn yn cyfrif disgyblion rhan-amser fel 0.5.

Mae niferoedd athrawon rhan-amser cyfwerth ag amser llawn yn dynodi gwasanaeth athrawon mewn oriau fel cyfran o wythnos ysgol: 32.5 awr ar gyfer ysgolion a gynhelir a 26 awr ar gyfer ysgolion annibynnol.

Cymarebau disgybl athro (CDA)

Cyfrifir y rhain o'r nifer o ddisgyblion FTE, wedi eu rhannu gan y nifer o athrawon FTE (prifathrawon, pennaeth dros dro, pennaeth cynorthwyol, dirprwyon ac athrawon cymwysedig eraill).

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) - Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU)

Mae CDU yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a ddaeth i rym ar 1 Medi 2021. Gall fod gan ddysgwr naill ai CDU a gynhelir gan ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.

Anghenion addysgol arbennig (AAA)

O dan y system AAA, gallai dysgwyr gael Datganiadau, Gweithredu Ysgol neu Weithredu Ysgol a Mwy. Mae'r system AAA bellach wedi'i disodli gan y system ADY, sydd wedi'i gweithredu'n llawn ers mis Medi 2025 yn dilyn cyflwyniad o bedair blynedd.

Disgyblion â datganiad

Disgyblion y mae'r awdurdod yn cadw datganiad o AAA ar eu cyfer o dan Ran iv o Ddeddf Addysg 1996. Gall yr awdurdod lleol gyhoeddi datganiad ar ôl asesu anghenion plentyn.

Gweithredu gan yr Ysgol

Pan mae athro dosbarth neu bwnc yn nodi bod y disgybl ag AAA ac yn darparu ymyriad sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol.

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

Pan mae’r athro dosbarth neu bwnc a’r Cydlynydd AAA yn derbyn cyngor neu gefnogaeth gan arbenigwyr o’r tu allan, fel bod ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’ yn bodoli. Mae’r Cydlynydd AAAyn arwain fel arfer, er cyfrifoldeb yr athro dosbarth neu bwnc yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd.

Maint dosbarthiadau babanod

Rhoddodd Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a’r rheoliadau cysylltiedig ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i gyfyngu maint dosbarthiadau i:

  • 30 ar gyfer dosbarthiadau Derbyn o 1999 ymlaen
  • 30 ar gyfer dosbarthiadau Derbyn a Blwyddyn 1 o 2000 ymlaen
  • 30 ar gyfer dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 o 2001 ymlaen

Rhaid i ddosbarthiadau blynyddoedd cymysg neu Gyfnodau Allweddol cymysg gwrdd â’r terfyn, os yw’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn y blynyddoedd priodol, mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau meithrin/derbyn cymysg.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau’r DU) (Saesneg yn unig).

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig. Cafodd eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis Gorffennaf 2010. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r OSR yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.

Gelwir ystadegau swyddogol achrededig (OSR) yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Hygrededd

Mae’r data yn y datganiad hwn yn ymwneud â’r holl ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol yng Nghymru. Mae data ar gyfer ysgolion a gynhelir yn deillio o ddata CYBLD a ddarparwyd gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y cyfrifiad, sydd fel arfer ym mis Ionawr bob blwyddyn. Caiff y datganiadau eu hawdurdodi gan benaethiaid a'u dilysu gan awdurdodau lleol. Mae ysgolion annibynnol yn cwblhau datganiad STATS1 cyfanredol a awdurdodir gan benaethiaid.

Cynhelir y gwaith casglu a dilysu data rhwng Ionawr a Mai. Cyhoeddir y data fel arfer ym mis Gorffennaf.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn mewn modd hygyrch, trefnus, a datgan ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi.

Mae'r allbwn hwn yn cadw at y Cod Ymarfer trwy ddatgan ymlaen llaw y dyddiad cyhoeddi trwy'r tudalennau gwe calendr sydd i ddod.

Ansawdd

Mae'r ffigurau cyhoeddedig a ddarperir yn cael eu casglu gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a defnyddio dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u set sgiliau dadansoddol. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu colofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau’r DU) (Saesneg yn unig) ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol.

Mae CYBLD yn gasgliad data electronig o ddata ar lefel disgybl ac ysgol a ddarperir pob mis Ionawr gan bob ysgol a gynhelir. Mae ysgolion yn cofnodi data ar eu disgyblion a’u hysgol trwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Gwybodaeth Rheoli (MIS). Mae’r data yn cael ei chyfuno i ffeil electronig CYBLD a’i gyrru i Gynulliad Cymru trwy DEWI, system rhannu data diogel ar y we, a ddatblygwyd gan Gynulliad Cymru. Mae DEWi yn dilysu’r data mewn nifer o ffyrdd er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel ar gyfer creu polisi a chyllido.

Mae’r data cyfrifiad yn y datganiad hwn yn dangos y sefyllfa ar Ddydd Mawrth 20 Ionawr 2026. Roedd DEWi ar gael i lanwytho ffeiliau ar 20 Ionawr 2026. Wedyn gofynnwyd i ysgolion ac awdurdodau lleol ddilysu eu data yn y cyfnod dilysu, a ddaeth i ben ar 29 Mai 2026.

Oherwydd lefel yr achosion COVID-19 ym mis Ionawr 2022, gohiriwyd dyddiad y cyfrifiad i 15 Chwefror 2022. Roedd cau ysgolion rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021 oherwydd y pandemig COVID-19 yn golygu bod dyddiad cyfrifiad 2021 wedi’i ohirio tan 20 Ebrill 2021.

Data cymhwysedd prydau ysgol am ddim 2020 i 2022

Yn 2023 gwnaethom gynnal dilysiad ychwanegol o'r data gydag awdurdodau lleol ar ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Gweler Diweddariad y prif ystadegydd: yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf a’n cynlluniau i ddiweddaru ein hamcanestyniadau ar hyn.

Canlyniad y dilysiad ychwanegol hwn oedd bod rhai disgyblion a oedd ond yn derbyn PYD oherwydd gwarchodaeth drosiannol neu drwy'r polisi prydau ysgol am ddim cynradd cyffredinol wedi'u cofnodi'n anghywir fel rhai sy'n gymwys i gael PYD drwy'r meini prawf modd (mae disgyblion yn gymwys i gael PYD os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth, gweler Prydau ysgol am ddim: gwybodaeth i rieni a gofalwyr).

Ers 2023 rydym wedi datblygu rheolau dilysu ychwanegol sydd wedi helpu i nodi unrhyw broblemau gyda'r data cymwys i PYD yn gynharach. Yna rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod dilysu i sicrhau bod data cywir yn cael ei ddarparu.

Data ADY/AAA, 2021 i 2025

Gweithredwyd y system ADY rhwng Ionawr 2021 ac Awst 2025, gan ddisodli'r system AAA. Yn arwain at ac yn ystod gweithredu'r system ADY bu gostyngiad yn nifer y dysgwyr ADY/AAA oherwydd adolygiad systematig ysgolion o ddysgwyr sydd ag angen dysgu ychwanegol. Ni chafodd rhai dysgwyr a gefnogwyd drwy School Action a School Action Plus (o dan y system AAA flaenorol) eu hail-adnabod fel ADY/AAA yn CYBLD. Roedd hyn naill ai oherwydd bod eu hanghenion yn fyrdymor, neu nad oedd angen darpariaeth ychwanegol neu'n wahanol i'r hyn a ddarperir i ddysgwyr eraill.

Tynnwyd y categori 'Anawsterau dysgu cyffredinol' hefyd o PLASC 2023 ymlaen. Roedd y categori hwn yn cael ei ddefnyddio i gofnodi'r rhai sydd angen cymorth dal i fyny, gyda mân anghenion a/neu le'r oedd anghenion lluosog yn bodoli, yn hytrach na'i fwriad gwreiddiol, sef dal dysgwyr sy'n aros am asesiad.

Gwerth

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw ffyrdd. Dyma ychydig o enghreifftiau:

  • dyrannu adnoddau yn Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru a’r Grant Datblygu Disgyblion
  • cyngor i weinidogion
  • i hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn polisïau addysg yng Nghymru, gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
  • i hysbysu Estyn yn ystod arolygiadau ysgolion
  • maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • i gynorthwyo ymchwil mewn i gyrhaeddiad addysgol

Mae'r ffigurau wedi'u cyhoeddi mewn fformat "Open Document Spreadsheet" hygyrch y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenni. Mae tablau manylach ar gael ar StatsCymru, gwasanaeth rhad ac am ddim i'w ddefnyddio sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data. Fe fydd y data hefyd yn cael ei gyhoeddi ar Fy Ysgol Leol, gwefan a ddyluniwyd i agor mynediad i ddata ysgolion i rieni a phawb arall sydd â diddordeb yn eu hysgol leol.

Cafodd yr esboniad a'r nodiadau yn y datganiad eu datblygu fel bod yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr. At hynny, cyhoeddir ein holl allbynnau ystadegau ysgolion yn Gymraeg a Saesneg.

Cymharedd

Lloegr

Ystadegau: niferoedd ysgolion a disgyblion (Yr Adran Addysg)

Ystadegau: addysg a hyfforddiant y DU (Yr Adran Addysg)

Yr Alban

Ystadegau Addysg Ysgolion (Llywodraeth yr Alban)

Gogledd Iwerddon

Ystadegau addysg (Yr Adran Addysg, Gogledd Iwerddon)

Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, lle mae Gweinidogion Cymru yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegau ysgol
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 65/2026

Image