Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw cyflym

Beth yw diben y canllaw hwn

Mae’r canllaw hwn wedi’i sgrifennu ar gyfer cwsmeriaid sydd heb hawlioar gyfer Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS)

Beth yw'r grant hwn

Mae Troi'n Organig yn grant arwynebedd i helpu ffermwyr i droi tir cymwys o fod yn dir cynhyrchu confensiynol i dir cynhyrchu organig. Caiff y taliadau trosi eu gwneud yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, ond rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod y tir wedi'i gofrestru'n organig am bum mlynedd y dyfarniad grant. 

A ga i ymgeisio

Cewch, cewch ymgeisio ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein os ydych yn bodloni’r meini prawf canlynol. 

Pa dir sy'n gymwys

  • caeau cyfan yn unig
  • rhaid dechrau troi tir yn dir organig ar 1 Ionawr 2027
  • nid oes rhaid ichi droi holl dir eich daliad yn Organig
  • efallai y bydd tir comin yn gymwys os mai un porwr sy'n ei bori
  • gall tir organig sydd wedi troi'n ôl i fod yn dir confensiynol fod yn gymwys o dan rai amgylchiadau

Pa dir sydd ddim yn gymwys

  • tir sydd eisoes wedi’i gofrestru’n organig
  • tir sydd eisoes wrthi'n cael ei droi'n organig
  • rhan o barsel cae
  • tir comin â mwy nag un porwr
  • tir gafodd grant yn y gorffennol i droi'n organig gan yr un busnes

Cyfraddau talu

Cyfradd daluSystem ffermioTaliad
Cyfradd 1Garddwriaeth£640/ha
Cyfradd 2Tir wedi'i amgáu, gyda glaswelltir dros dro/cnydau âr£250/ha
Cyfradd 3Tir wedi'i amgáu, gyda chnydau / glaswelltir parhaol£130/ha
Cyfradd 4Glaswelltir ar fferm odro£430/ha
Cyfradd 5Tir sy'n uwch na'r tir uchaf sydd wedi'i amgáu a thir penodedig arall£18/ha

Taliad ardystio ychwanegol

Mae cyfraniad o £500 y flwyddyn dros ddwy flynedd y cyfnod trosi ar gael tuag at gostau cofrestru gyda'r Corff Rheoli Organig (OCB) ar gyfer busnesau sy'n troi'n organig am y tro cyntaf. 

Sut mae ceisiadau'n cael eu dewis

  • mae ceisiadau yn cael eu sgorio'n gystadleuol
  • mae'r sgôr yn seiliedig ar ba mor dda mae troi i fod yn organig yn cyfrannu at amcanion amgylcheddol
  • defnyddir haenau amcan targed GIS i asesu manteision amgylcheddol
  • mae ymgeiswyr sydd wedi hawlio Haen Gyffredinol yr SFS yn cael blaenoriaeth ychwanegol

Beth fydd yn digwydd nesaf os bydda i'n llwyddiannus

Byddwch yn cael Llythyr Dyfarniad Grant trwy RPW Ar-lein.

Bydd y grant:

  • yn dechrau ar 1 Ionawr 2027
  • yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2031
  • yn gofyn bod y tir wedi'i gofrestru'n organig gydol y 5 mlynedd
  • rhaid ichi gadarnhau'ch bod yn derbyn y llythyr dyfarnu grant o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl cynnig y grant ichi

Beth sy'n rhaid imi ei wneud

Yn ystod blynyddoedd 1 and 2

  • trosi'r tir sydd wedi'i gymeradwyo i fod yn dir organig
  • cyflwyno tystiolaeth ar gyfer cael tystysgrif
  • hawlio ar y SAF bob blwyddyn
  • bodloni unrhyw ofynion penodol ar gyfer cyfraddau talu 1 a 4 os oes angen, gan gynnwys cyflwyno dogfennau ategol 

Yn ystod blynyddoedd 3 i 5

Er nad fydd unrhyw daliadau i chi, rhaid i chi:

  • barhau i gadw'r tir wedi'i gofrestru'n organig
  • parhau i gyflwyno SAF bob blwyddyn 
  • parhau i fodloni amodau'r grant
  • parhau i roi tystiolaeth eich bod wedi'ch cofrestru erbyn 31 Rhagfyr bob blwyddyn 

Dyma'r dyddiadau pwysicaf

EitemDyddiad/Cyfnod
Ffenestr ymgeisio29 Gorffennaf 2026 – 9 Medi 2026
Dechrau troi'n organig1 Ionawr 2027
Grant yn dechrau1 Ionawr 2027
Taliadau troi'n organig2027–2028
Cadw'r ardystiad organig2027–2031
Grant yn dod i ben31 Rhagfyr 2031

Adran A: cyflwyniad

Mae’r canllaw hwn wedi’i sgrifennu ar gyfer cwsmeriaid sydd heb hawlio ar gyfer Haen Gyffredinol yr SFS.

Mae'r grant Troi'n Organig wedi'i gynllunio i gefnogi ffermwyr i droi at system organig ac i gefnogi ffermwyr i gadw ardystiad organig. 

Mae'r canllaw hwn yn esbonio'r cymorth ar gyfer Troi'n Organig sydd ar gael o dan y categori Ffermio Organig. Darllenwch y canllaw hyn yn ofalus. Os hoffech wneud cais, darllenwch 'Adran E: Y broses ymgeisio, dewis a dyfarnu grant' a'r canllawiau 'gan defnyddio RPW ar lein i wneud cais'. 

Mae Troi'n Organig yn grant sy'n seiliedig ar arwynebedd sydd ar gael i'r rhai sydd am newid o fod yn gynhyrchwyr confensiynol i fod yn gynhyrchwyr organig. Trwy eich cefnogi dros ddwy flynedd y cyfnod trosi, y nod yw esgor ar fanteision amgylcheddol a chanlyniadau cadarnhaol rheoli tir yn gynaliadwy. 

Mae'r grant Troi'n Organig yn para am 5 mlynedd.  Mae'r cyllid yn cael ei dalu am y 2 flynedd gyntaf, ond rhaid i chi gadw'r dystysgrif organig am 5 mlynedd llawn y grant.

Unwaith y bydd eich tir wedi cael tystysgrif organig lawn ar ôl 2 flynedd gychwynnol y grant, gallwch wneud cais ar y SAF am Gymorth Organig i gael taliad fesul hectar i gadw'ch ardystiad organig llawn.

Darllenwch y canllaw hwn ar Droi'n Organig cyn cyflwyno cais.

Bydd y ffenest ymgeisio yn agor ar 29 Gorffennaf 2026 ac yn cau ar 9 Medi 2026.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar ein wefan, Gwlad ac os oes angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Rydyn ni (Llywodraeth Cymru) eisiau gweithio gyda busnesau a sefydliadau sy’n falch o’u henw da, o'r hyn maen nhw’n ei gyflawni ac o'u hymddygiad. Mae’r ddolen sy’n dilyn yn mynd â chi at ganllawiau sy’n esbonio’r mathau o ymddygiad, diwylliant a gwerthoedd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r rheini sy’n derbyn grantiau ganddi eu harddel. 

Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y rheini sy’n derbyn grant.

Adran B: pwy sy'n gymwys

Rydych yn gymwys i wneud cais os ydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). I gael cyngor ar sut i gofrestru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004. 

Rhaid: 

  • bod gennych o leiaf dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru (gan gynnwys eich cyfran o dir comin), sydd wedi'i gofrestru gydag RPW

neu

  • eich bod yn gallu dangos eich bod yn gwneud dros 550 o oriau o lafur safonol ar weithgareddau amaethyddol neu ategol  
  • eich bod yn cynnal gweithgareddau amaethyddol neu ategol ar dir amaethyddol Diffinnir amaethyddiaeth a gweithgareddau cysylltiedig yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru)

Mae gweithgareddau amaethyddol yn cynnwys;   

  • cadw a bridio da byw. Defnyddio tir ar gyfer garddwriaeth, ffermio cnydau âr a ffermio llaeth
  • defnyddio tir fel tir pori ac fel coetir ffermydd neu ar gyfer amaeth-goedwigaeth
  • amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir, tyfu planhigion i'w gwerthu neu werthu rhan o'r planhigyn fel cynhyrchu hadau  
  • cynnal tir mewn cyflwr sy’n ei wneud yn addas ar gyfer y gweithgarwch a restrir uchod

Mae gweithgareddau ategol yn cynnwys:   

  • gweithgareddau ar dir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth i greu a rheoli cynefin, neu at ddibenion eraill sy'n gysylltiedig â chadwraeth natur, lliniaru'r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo, neu gynnal ecosystemau a'u gwneud yn fwy gwydn    
  • gwerthu, marchnata, paratoi, pecynnu, prosesu neu ddosbarthu cynhyrchion sy'n deillio o amaethyddiaeth

Byddwn yn edrych a oes gennych hawliad cymwys o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ym mlwyddyn gyfredol neu ddiweddaraf y cynllun i gadarnhau bod gennych dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru a'ch bod yn cynnal gweithgareddau amaethyddol neu ategol.  

Os nad ydych wedi cyflwyno hawliad BPS cymwys ym mlwyddyn gyfredol neu ddiweddaraf y cynllun, rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda'ch cais i gadarnhau'r canlynol: 

  • eich bod yn cynnal gweithgareddau amaethyddol neu ategol pan fyddwch yn cyflwyno'r cais
  • naill ai bod gennych dri hectar o dir amaethyddol cymwys wedi'i gofrestru gyda RPW neu dystiolaeth eich bod wedi gwneud 550 o oriau o lafur safonol yn ystod y 12 mis diwethaf  

Tystiolaeth ddogfennol dderbyniol ar gyfer 550 o oriau o lafur safonol yw:  

  • llythyr achrededig gan gyfrifydd, fydd yn cadarnhau bod y busnes wedi cwblhau mwy na 550 o oriau 

neu  

  • dim ond os yw'n darparu lefel gyfatebol o sicrwydd y derbynnir tystiolaeth heblaw llythyr gan gyfrifydd achrededig fel prawf. Mae hynny’n golygu y dylai fod wedi’i dilysu gan rywun achrededig annibynnol, fel cyfreithiwr, sy’n deall digon am y busnes i gadarnhau’r haeriad o 550 o oriau

Os na chyflwynir y dystiolaeth ddogfennol hon cyn y dyddiad cau am geisiadau, bydd eich cais yn cael ei wrthod. 

Codau tir a chnydau cymwys

Tir cymwys

Dim ond ar gaeau cyfan y gallwch wneud cais ac ni fyddwch wedi dechrau eu troi'n organig. Rhaid ichi ddechrau troi'r caeau'n organig ar 1 Ionawr 2027. 

Nid oes rhaid i chi gynnwys yr holl dir ar eich daliad yn eich cais ar gyfer Troi'n Organig. 

Rhaid i chi allu gwarantu y bydd y tir o dan eich rheolaeth lwyr am bum mlynedd y dyfarniad grant, gan ddechrau 1 Ionawr 2027.

Bydd gennych reolaeth lwyr os; 

  • mai chi yw perchennog a meddiannydd y tir 
  • ydych yn denant sydd â ‘meddiant llwyr’ ar y tir naill ai o dan Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 gyda Thenantiaeth Busnes Fferm neu denantiaeth lawn o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 
  • tenant â thenantiaeth lafar â’r un lefel o reolaeth â’r uchod 
  • os ydych wedi caniatáu trwyddedai o dan drefniant trwyddedu penodol ar gyfer pori, tyfu cnwd neu ladd gwair/silwair dros gyfnod penodedig a chyfyngedig o amser o fewn y flwyddyn, ond eich bod wedi cadw rheolaeth ar y tir 

Tir Comin sy’n cael ei bori a chi yw’r unig borwr cofrestredig (Tir Comin ag Un Porwr). Mae'n rhaid i'r parseli tir hyn gael eu cofrestru ar System Adnabod Parseli Tir (LPIS) RPW. 

Tir oedd wedi'i ardystio'n organig o'r blaen 

Os mai chi yw perchennog newydd tir a oedd wedi'i ardystio'n organig o'r blaen ond sydd bellach yn cael ei ffermio'n gonfensiynol, efallai y byddwch yn gymwys i'w droi'n dir organig eto gan ddefnyddio cymorth Troi'n Organig.

Codau cnydau cymwys 

Ar gae sydd wedi'i ddatgan ar eich SAF 2026, defnyddir cod y cnwd sydd wedi'i ddatgan i benderfynu a yw'n gymwys ar gyfer Troi'n Organig:

Os ydych chi'n gwneud cais ar gyfer caeau nad ydynt wedi'u datgan ar eich SAF 2026, bydd gofyn ichi gyflwyno'r codau cnydau ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ddogfennol fel cofnodion cnydau, derbynebau, anfonebau, ac ati gyda'ch cais. 

Fe welwch yr holl godau cnydau cymwys ynghyd â'u Categori Gorchudd Tir cysylltiedig ar gyfer Troi'n Organig yn Atodiad 1: tabl 1 o'r canllaw hwn. 

Bydd cyfraddau talu gwahanol yn cael eu talu ar sail y codau cnydau fydd wedi'u datgan, y Categori Gorchudd Tir cysylltiedig a'r system ffermio sy'n cael ei throi'n organig, fel a ddisgrifir yn y tabl isod. Gweler Adran C Cyfraddau talu:

Cyfradd daluDisgrifiad o'r system ffermioCategori gorchudd tir yn seiliedig ar y cod cnydau sydd wedi'i ddatgan
1GarddwriaethGarddwriaeth
2Tir wedi'i amgáu, gyda glaswelltir dros dro/cnydau ârGlaswelltir Dros Dro / Tir âr
3Tir wedi'i amgáu, gyda chnydau / glaswelltir parhaol

Glaswelltir Parhaol

Cnwd Parhaol

4Tir wedi'i amgáu, gyda glaswelltir parhaol a dros dro ar fenter odro.

Glaswelltir Parhaol

Glaswellt Dros Dro

5Tir sy'n uwch na'r tir uchaf sydd wedi'i amgáu a thir penodedig arallGlaswelltir Parhaol

Codau cnydau a thir anghymwys

Nid yw’r canlynol yn gymwys; 

  • tir nad yw'n cael ei ardystio'n gwbl organig
  • tir oedd eisoes yn cael ei droi'n organig cyn 1 Ionawr 2027
  • ni chewch droi tir yn organig eto sydd eisoes wedi'i droi'n organig gyda chymorth gennych gan ddefnyddio SFS Opsiynol
  • rhannau o barseli tir 
  • nid yw tir comin, neu dir sy'n cael ei gyd-ddefnyddio, lle mae sawl porwr yn defnyddio'r tir, yn gymwys 

Mae codau cnydau anghymwys ar gyfer taliadau'r Cynllun Troi'n Organig wedi'u rhestru yn Atodiad 1: tabl 2 o'r canllaw hwn.

Adran C: cyfraddau talu

Cyfraddau talu

Mae cyfraddau talu yn amrywio rhwng mathau o dir gan fod costau ac effeithiau troi'n organig ar systemau ffermio gwahanol yn amrywio. Gall troi'n organig olygu newid arferion rheoli, llai o gynhyrchiant yn ystod y cyfnod pontio, a gofynion ardystio a chydymffurfio  ychwanegol. 

Mae cyfraddau talu gwahanol yn helpu i sicrhau bod y cymorth yn cyfateb i'r costau tebygol a'r incwm a gollir sy'n gysylltiedig â throi'n organig, gan ddarparu cymorth teg a sicrhau yr un pryd bod y cyhoedd yn cael gwerth eu harian am y buddsoddiad.

Dyma'r cyfraddau talu ar gyfer Troi'n Organig:

Cyfradd daluDisgrifiad o'r system ffermio, sy'n seiliedig ar god cnydau'r caeTaliad
1.Garddwriaeth£640/ha
2.Tir wedi'i amgáu, gyda glaswelltir dros dro/cnydau âr£250/ha
3.Tir wedi'i amgáu, gyda chnydau / glaswelltir parhaol£130/ha
4.Tir wedi'i amgáu, gyda glaswelltir parhaol a dros dro ar fenter odro.£430/ha
5.Tir sy'n uwch na'r tir uchaf sydd wedi'i amgáu a thir penodedig arall£18/ha

Diffiniadau o gyfraddau talu a phrif ofynion

Cyfradd dalu 1: garddwriaeth

Tir a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu garddwriaethol yn 2026.

Rhaid tyfu a gwerthu'r cnydau ar raddfa fasnachol. Dylai graddfa y cynhyrchu fod yn hafal i gyfeintiau cynhyrchu organig masnachol.

Prif ofynion

Er mwyn cael y gyfradd dalu ar gyfer garddwriaeth, rhaid tyfu cnydau garddwriaethol ar y tir y dyfernir grant iddo. 

Rhaid cyflwyno dogfennau ategol bob blwyddyn. Pan nad oes digon o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos bod gofynion wedi'u bodloni, gellir cadw'r taliad yn ôl neu ei newid yn barhaol i gyfradd dalu arall. 

Cyfradd dalu 2: tir wedi'i amgáu, gyda glaswelltir dros dro/cnydau âr

Tir o fewn cylchdro âr, megis tir âr, glaswelltir o fewn cylchdro âr, glaswelltir dros dro a gwyndynnydd cymysg.

Cyfradd dalu 3: tir wedi'i amgáu, gyda glaswelltir parhaol / cnydau parhaol

Glaswelltir parhaol, wedi'i sefydlu ers dros 5 mlynedd.

Cnydau parhaol

Cyfradd dalu 4: tir wedi'i amgáu,  gyda glaswelltir parhaol a dros dro ar fenter odro

Gall tir fod yn laswelltir o fewn cylchdro cnydau, yn laswelltir parhaol neu’n laswelltir dros dro.

Bydd y gyfradd dalu hon ond yn cael ei thalu ar dir sy'n cynnal menter odro. (anifeiliaid godro a stoc godro ifanc)

Nid yw'r tir a ddefnyddir ar gyfer magu anifeiliaid godro ar gontract yn gymwys.

Os ydych chi'n gynhyrchydd llaeth organig ar hyn o bryd, sy'n ceisio cael tystysgrif organig ar dir ychwanegol, ni fyddwch yn gymwys i gael y gyfradd dalu hon, gan nad oes anifeiliaid godro confensiynol yn defnyddio'r tir pan gyflwynir y cais.

Trothwy talu

Ar gyfer ffermydd â mwy nag un fenter, er enghraifft, uned odro a defaid, dim ond y tir a ddefnyddir gan y fenter odro y bydd cyfradd 4 yn cael ei thalu arno. 

Bydd tir a ddefnyddir gan y fenter ddefaid yn cael ei dalu naill ai ar gyfradd talu 2, 3 neu 5.

Pwysig: Bydd y tir cymwys yn seiliedig ar nifer yr anifeiliaid godro sydd ar y daliad, gan gyfri'r unedau da byw safonol (LSU). Bydd anifeiliaid sydd wedi'u datgan ar eich cais yn cael eu gwirio yn erbyn cofnodion Cronfa Ddata Adnabod Electronig (EID) Cymru a'r System Olrhain Gwartheg (CTS).

Da bywUnedau da byw (LU)
Gwartheg godro (dros 24 mis)1 LU
Gwartheg godro ifanc (6-24 mis)0.6 LU
Geifr godro (6 mis neu fwy)0.16 LU
Geifr godro ifanc (llai na 6 mis)0.04 LU
Defaid godro (6 mis neu fwy)0.11 LU
Defaid godro ifanc (llai na 6 mis)0.04 LU

Bydd yr arwynebedd mwyaf y caiff cyfradd dalu 4 ei thalu arno yn cael ei gyfrif yn ôl nifer yr anifeiliaid godro organig sydd ar y daliad ac ar sail lefel stocio uchaf o 2 LU / Ha.

Er enghraifft

Enghraifft 1:

Bydd gan fferm sydd â 100 o fuchod godro (dros 12 mis) a 60 o wartheg ifanc godro (6 i 12 mis) 136 o unedau da byw godro. Ar sail defnydd o 2 LU am bob hectar o dir pori, yr arwynebedd mwyaf y gallai cyfradd dalu 4 gael ei dalu arno yw 68 Ha. (136 LU wedi'i rannu â 2).

Byddai unrhyw laswelltir parhaol ychwanegol uwchlaw'r 68 Ha yn cael ei dalu ar gyfradd taliad 3. 

Enghraifft 2:

Bydd gan fferm gyda 120 o fuchod godro (dros 12 mis) ac 80 o wartheg ifanc godro (6-12 mis) 168 o unedau da byw godro (LU). Yr arwynebedd mwyaf y gallai cyfradd dalu 4 gael ei dalu arno yw 84 Ha. (168 LU wedi'i rannu â 2).

Os mai dim ond 50 Ha o laswelltir parhaol sydd gan y fferm hon a bod yr arwynebedd sy'n weddill sy'n cynnal y fenter odro yn dir âr, byddai cyfradd dalu 4 yn cael ei thalu ar laswelltir dros dro hyd at yr uchafswm o 84 ha.

Fodd bynnag, pe bai'r tir âr yn cael ei ddefnyddio i dyfu cnydau heblaw glaswelltir dros dro, (e.e. indrawn neu gnwd cyfan), byddai'r tir hwn yn gymwys ar gyfer cyfradd dalu 2 yn unig.

Prif ofynion

I gael cyfradd dalu'r  tir wedi'i amgáu, gyda glaswelltir parhaol a dros dro, ar fenter odro, rhaid i chi barhau i gynhyrchu llaeth. 

Rhaid cyflwyno dogfennau ategol bob blwyddyn. Pan nad oes digon o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos bod gofynion wedi'u bodloni, gellir cadw'r taliad yn ôl neu ei newid yn barhaol i gyfradd dalu arall.

Cyfradd dalu 5: tir sy’n uwch na therfyn uchaf y tir wedi'i amgáu a thir penodedig arall

Tir sy'n uwch na'r tir sydd wedi’i amgáu

Parseli tir ar yr ucheldir yn bennaf (neu ran ohonynt), sy'n debygol o gynnal systemau da byw gyda dwysedd stocio isel. 

At ddibenion Troi'n Organig, 'Tir uwch na therfyn uchaf y tir sydd wedi'i amgáu' yw unrhyw dir a nodir ar fap sy'n uwch na therfyn uchaf y tir sydd wedi'i amgáu ar DataMapCymru.

Mae tir penodedig arall yn cynnwys:

  • tir comin sy’n cael ei bori a chi yw’r unig borwr cofrestredig (Tir Comin ag Un Porwr)
  • parseli tir â 50% neu fwy o’r cae yn orgors, yn rhos arfordirol, yn rhos llawr gwlad neu’n forfa heli sy'n cael ei bori

Costau ardystio OCB

Darperir cyfraniad tuag at gostau ardystio o £500 y flwyddyn ar gyfer dwy flynedd y cyfnod troi'n organig.

Os oes gennych ardystiad organig eisoes ond eich bod yn gwneud cais i droi rhagor o dir, ni fyddwch yn gymwys i gael y cyfraniad tuag at gostau ardystio.

Capio taliadau a'r gyfradd dalu uchaf 

Nid oes terfyn uchaf ar arwynebedd y tir y gellir ei gyflwyno ar gyfer ei Droi'n Organig.

Bydd cap ar y grant y gellir ei dalu:

ArwynebeddTaliad
0 – 200 ha o dir cymwys100% o’r gyfradd dalu.
200 – 400 ha o dir cymwys50% o’r gyfradd dalu
400 ha +10% o’r gyfradd dalu

O gyrraedd unrhyw rai o’r trothwyon talu, y gyfradd dalu uchaf fydd yn cael ei hystyried gyntaf.

Er enghraifft:

Mae ymgeisydd yn gwneud cais ar gyfer 350 ha, sy'n cynnwys:

  • 50ha o dir wedi'i amgáu, gyda chnydau cylchdro / glaswelltir dros dro 
  • 200 hectar o dir wedi'i amgau, gyda glaswelltir / cnydau parhaol a 
  • 100 ha o dir uwchlaw terfyn uchaf y tir wedi'i amgáu 

Dyma'r grant a gynigir:

ArwynebeddTaliad
50 hectar ar gyfradd dalu 2 (£250/ha)£12,500
150ha ar gyfradd dalu 3 (£130 / ha)£19,500
50ha ar 50% o'r gyfradd dalu 3 (£130)£3,250
100ha ar 50% o'r gyfradd dalu 5 (£18)£900
Cyfanswm y Grant a Gynigir£36,150

Unwaith y bydd gwerth y taliad grant wedi'i sefydlu, ni ellir ei gynyddu. 

Os caiff nodweddion anghymwys parhaol eu cyflwyno neu eu nodi ar gaeau'r Llythyr Dyfarnu Grant (e.e. coetir neu adeiladau) ni fydd yr arwynebedd hwn yn gymwys am daliad a chaiff ei dynnu o'r grant.  Gellir gofyn i chi ad-dalu unrhyw daliadau sydd eisoes wedi'u gwneud.

Adran D: tir mewn cynlluniau eraill a thalu ddwywaith

Mae manylion y berthynas rhwng Troi'n Organig a thir sydd o dan gynlluniau eraill wedi’u nodi isod.

Cynlluniau organig blaenorol

Ni fydd modd ystyried unrhyw dir sydd naill ai'n cael ei droi'n organig neu sydd eisoes â statws organig ar gyfer cael cymorth o dan y SFS Opsiynol: Troi'n Organig. 

Felly, ni ellir cynnwys tir a ariennir o dan gynlluniau organig blaenorol fel Glastir Organig, Cynllun Troi'n Organig neu Gymorth Organig yn y cais Troi'n Organig hwn.

Creu Coetiroedd a Grantiau Bach – Yr Amgylchedd 

Ni fydd parseli tir sydd wedi'u cynnwys mewn dyfarniad grant neu gontract ar gyfer y cynlluniau canlynol yn gymwys ar gyfer Troi'n Organig:

  • Creu Coetir Glastir
  • Grant Creu Coetiroedd
  • Grantiau Bach – Creu Coetiroedd
  • Cynllun Adfer Coetir
  • Grantiau Bach – Yr Amgylchedd (opsiynau creu coetir), a 
  • Grant Creu Coetir Bach

Gellir defnyddio caeau Troi'n Organig i wneud cais i gynlluniau creu coetir a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Os byddwch yn gwneud cais llwyddiannus am gymorth creu coetir, ni fydd rhagor o daliadau Troi'n Organig yn cael eu gwneud ar y tir a blannwyd.

Talu ddwywaith

Rhaid i chi beidio â gwneud cais am Droi'n Organig os ydych yn derbyn cyllid at yr un diben o ffynhonnell arall, o wneud, byddwch yn gwneud cais i gael eich talu ddwywaith ar yr un tir.

Os cadarnheir eich bod yn derbyn cyllid o ffynhonnell arall, gall hyn arwain at sancsiynau, adennill grantiau a dalwyd a/neu eich gwahardd yn y dyfodol.  Gweler Adran I: taliadau.

Bydd gofyn i chi gwblhau 'Adran 6' o'ch llythyrdDyfarnu grant a fydd yn cael ei gynnwys yn y SAF i'w chwblhau. Rhaid gwneud hynny cyn ymrwymo i unrhyw beth. 

Adran E: y broses ymgeisio, dewis a dyfarnu grant

RPW Ar-lein

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio RPW Ar-lein i gwblhau cais i Droi'n Organig.  

Cewch fwy o fanylion am RPW Ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW: Canllawiau RPW Ar-lein i asiantau ac undebau ffermio.

Cyflwyno cais

Mae'r cais ar gyfer Troi'n Organig ar gael drwy RPW Ar-lein. 

Cyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno cais drwy RPW Ar-lein.

Bydd manylion yr holl dir y mae gennych reolaeth lwyr arno gydol 2026 yn cael ei lenwi ymlaen llaw ar eich cais. Bydd gofyn i chi ddewis yr holl gaeau yr hoffech wneud cais ar gyfer Troi'n Organig arnyn nhw. Cewch ychwanegu caeau nad ydynt wedi’u rhestru neu sydd ddim wedi’u cofrestru gydag RPW, ond rhaid ichi gyflwyno ffurflen Rheoli Fy Nhir gyda’r cais hwn. Rhaid i’r caeau hynny fodloni’r meini prawf gofynnol. 

Dylai nifer y da byw rydych chi'n eu rhoi ar eich cais gyfateb i'r nifer ar y daliad fel y'u cofnodwyd ar EIDCymru neu'r CTS.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais yn cael ei lenwi’n gywir a bod yr wybodaeth i gefnogi’ch cais yn gywir.

Rhaid llenwi pob rhan o'r cais a chyflwyno’r holl ddogfennau a nodir isod i gefnogi'r cais. 

Byddwn yn anfon hyd at ddau nodyn i’ch atgoffa i gyflwyno cais drafft trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Os na fydd eich cais yn gymwys, byddwn yn rhoi gwybod ichi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lenwi'ch cais, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.  Bydd yn gallu'ch helpu a'ch cynghori gan gynnwys rhoi helpu digidol os oes angen.

Newid ceisiadau 

Wedi ichi gyflwyno'ch cais, ni chewch ei newid. Os ar ôl ichi gyflwyno'ch cais y gwelwch fod angen newid un o'r codau cnydau, cyn belled nad yw'r ffenestr ymgeisio wedi cau, gallwch dynnu'ch cais gwreiddiol yn ôl ac ailgyflwyno un newydd gyda'r manylion cywir. 

Tynnu'r cais yn ôl 

Ar ôl i chi gyflwyno cais ar gyfer Troi'n Organig, gallwch dynnu'ch cais yn ôl ar unrhyw adeg cyn i chi gael cynnig grant. Gallwch wneud hynny yn 'Fy Negeseuon' ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Gallwch wneud cais eto mewn unrhyw rowndiau yn y dyfodol, os bydd ffenestr ymgeisio pellach ar gael. 

Sgorio a dewis

Y gyllideb fras fydd yn cael ei dyrannu ar gyfer Troi'n Organig yw £2m dros ddwy flynedd galendr, 2027 a 2028.

Byddwn yn dewis cais ar sail ei allu i gyfrannu tuag at gyflawni nodau Troi'n Organig. 

Y ceisiadau fydd yn cael y sgôr uchaf yw'r rheini fydd yn cyfrannu fwyaf at gyflenwi'r farchnad organig a'r ystod o fanteision amgylcheddol y gall rheolaeth organig holistig eu cynnig.

Bydd ymgeiswyr sydd wedi hawlio Haen Gyffredinol yr SFS bob amser yn cael blaenoriaeth dros y rhai nad ydynt wedi hawlio'r Haen Gyffredinol. Bydd pwysoliad ychwanegol i roi blaenoriaeth i'r ymgeiswyr hynny. 

Bydd y broses sgorio'n edrych ar botensial pob cais i gyfrannu at fanteision amgylcheddol Troi'n Organig. 

Gwneir hyn trwy nodi lleoliad y tir sydd yn y cais sy'n gorgyffwrdd â haenau System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), lle maen nhw'n bod yng Nghymru. Defnyddiwyd yr haenau GIS i benderfynu ar yr ardaloedd gorau ar gyfer cyflawni amcanion penodol Troi'n Organig yng Nghymru.

Er enghraifft:

Er enghraifft, gall arferion ffermio organig wella ansawdd dŵr a gwella safleoedd dynodedig, fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, neu Henebion Cofrestredig  a, lle mae blaenoriaeth uwch i gyfrannu at yr amcanion hyn, bydd y cais yn sgorio'n uwch na lle rhoddir blaenoriaeth is. 

Mae pwysoliad i bob haen GIS, sy'n dibynnu ar flaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru. Mae manylion ar gael yn Atodiad 2: haenau amcanion targed Troi'n Organig a phwysoliad.

Cyfrifir sgôr pob cais ar sail faint o'i dir sy'n dod o fewn haen gan ddefnyddio'r fformiwla ganlynol:

Arwynebedd (ha) cais o fewn yr haen amcan targed x pwysoliad y targed*     

 

=  Sgôr y cais

Arwynebedd (ha) y cais

*Cyfrifir ffigur ar gyfer pob haen. 

Er enghraifft: 

Rhoddir pwysoliad o 4 fesul hectar i gais 90.24ha o faint ar gyfer yr 65.64ha ohono sydd o fewn haen Afon Sensitif. Byddai cyfraniad haen yr amcan hwn at gyfanswm sgôr y cais hwn yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn: 

65.64 x 4 = 2.9 

   90.24 

Mae'r amcan Afon Sensitif, felly, yn cyfrannu 2.9 pwynt at sgôr y cais hwn. 

Byddwn yn gwneud yr un sym ar gyfer pob un o haenau amcanion y GIS y mae'r cais yn gorgyffwrdd â nhw. 

Byddai cais sy'n gorgyffwrdd â mwy o haenau, ac yn arbennig haenau ag iddynt flaenoriaeth uchel, yn cael sgôr uwch. Mae'r sgoriau a roddir ar gyfer pob haen yn cael eu hadio at ei gilydd i roi cyfanswm y sgôr sydd wedyn yn cael ei rannu ag arwynebedd y cais. 

Mae'r holl geisiadau yn cael eu rhestru yn nhrefn y sgôr derfynol a bydd y rheini â'r sgoriau uchaf yn cael eu dewis a'u prosesu.

Mae tabl sy'n rhestru'r holl haenau GIS amcan a'r pwysoli cysylltiedig wedi'i gynnwys yn Atodiad 2. 

Os na fydd gennym ddigon o gyllideb i allu cynnig grant i bob ymgeisydd, bydd Llywodraeth Cymru’n dilyn proses ddewis gystadleuol i benderfynu pa ymgeiswyr ddylai gael cynnig grant.  Pan fydd ceisiadau wedi cael yr un sgôr a’u bod o’r un gwerth ac ar yr un safle o ran trothwy’r gyllideb sydd ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i naill ai ddewis neu wrthod y ceisiadau hyn, gan ddibynnu ar y gyllideb sydd ar gael.

Byddwn yn rhoi gwybod ichi a fydd eich cais yn llwyddiannus neu ddim gan restru’r amcanion a ddefnyddiwyd i gyfrif sgôr eich fferm.

Os caiff eich cais ei ddewis, byddwch yn cael llythyr dyfarnu grant.

Llythyr dyfarnu grant

Mae'r grant Troi'n Organig yn para am 5 mlynedd. Mae'r cyllid yn cael ei dalu am y 2 flynedd gyntaf, ond rhaid i chi fodloni amodau'r dystysgrif organig am 5 mlynedd llawn y grant. Bydd gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol i gefnogi'r gofyniad hwn ar gyfer pob un o'r pum mlynedd.

Mae dyfarniad y grant yn dechrau ar 1 Ionawr 2027 a daw i ben ar 31 Rhagfyr 2031. 

Ein nod yw dechrau anfon llythyrau dyfarnu grant allan ddiwedd mis Hydref 2026 a dylai pob ymgeisydd fod wedi cael ei lythyr cyn diwedd mis Tachwedd 2026. 

Rhaid ichi gadarnhau’ch bod yn derbyn y grant sydd wedi'i ddyfarnu i chi o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl dyddiad y cynnig drwy bwyso ar y botwm glas yn hafan RPW Ar-lein. 

Os na fyddwch wedi cadarnhau'ch bod yn derbyn y grant o fewn 21 diwrnod calendr, bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl. 

Bydd manylion llawn erbyn pryd y bydd yn rhaid i chi dderbyn eich dyfarniad grant yn y llythyr. Byddwn yn eich atgoffa ar eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Ni allwn newid eich llythyr dyfarnu grant ar ôl ei anfon. 

Adran F: amodau'r grant

Ar ôl i chi gadarnhau'ch bod yn derbyn y grant Troi'n Organig, rydych yn ymrwymo i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru ac felly'n rhywun sy'n dal cytundeb (deiliad cytundeb) at ddibenion Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025. 

Mae Troi'n Organig yn dod o dan nifer o ddeddfau perthnasol (gweler Adran M). Rhaid i Lywodraeth Cymru a deiliad y cytundeb weithredu yn unol â’r deddfau hynny.  

Mae'r grant yn cael ei gynnig yn unol â’r telerau a'r amodau a fydd yn cael eu nodi yn eich llythyr dyfarnu grant, gan gynnwys y telerau a’r amodau a nodir isod.

Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad grant arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu adennill yr arian sydd eisoes wedi’i dalu i chi, neu leihau'r grant y byddwn yn ei dalu ichi.

Amodau 

Gwneir y dyfarniad ar sail y datganiadau y byddwch chi neu'ch cynrychiolwyr wedi'u gwneud. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol. 

Rhaid ichi hawlio’r cyllid yn unol â’r dyddiadau a nodir yn y proffil talu bras. 

Gellid erlyn person sy’n gwneud datganiad ffug neu na fydd wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd yn y cais hwn. Gallai datganiad ffug, anghywir neu anghyflawn neu beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw newid perthnasol i’r wybodaeth sydd wedi’i rhoi i Lywodraeth Cymru arwain at derfynu'r contract a/neu adennill taliadau sydd wedi’u gwneud.

Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru’r rheolau a’r amodau os bydd newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.

Rhaid ichi gydymffurfio â’r holl gyfreithiau neu reoliadau domestig neu ryngwladol neu gyfarwyddebau swyddogol cymwys.

Ni chewch newid y prosiect mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys lleoliad y gweithgaredd, heb ganiatâd ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.

Rhaid ichi ddarllen a deall y canllawiau perthnasol.

Mae’r manylion rydych wedi’i rhoi yn y ceisiadau ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn.

Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn atebol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys yn ddigyfyngiad unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â’r grant, ac mai chi sy’n llwyr atebol am yr holl benderfyniadau busnes a wneir.  

Rhaid ichi gytuno i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau sy'n gymwys yn ystod cyfnod y Dyfarniad Grant hwn.

Rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu hasiant awdurdodedig priodol, fynd ar eich tir ac archwilio’r tir a'r holl gofnodion a gwybodaeth berthnasol sydd eu hangen i gadarnhau’ch bod yn gymwys a bod y wybodaeth a roddwyd gennych ar gyfer gwneud cais yn gywir.

Ni fyddwch wedi cynnwys tir sydd o dan gytundebau rheoli eraill neu sy’n destun grant neu gais am grant arall, a allai ei gwneud yn bosibl eich talu ddwywaith.

Rhaid bod gennych yswiriant digonol ar gyfer y risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo neu unrhyw weithgaredd yr ymgymerir ag ef wrth gyflawni’r Dibenion. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn ichi gyflwyno tystiolaeth o’ch yswiriant.

Mae'n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru rannu gwybodaeth am eich dyfarniad grant â sefydliadau eraill, ac rydych yn cytuno i ni ddatgelu neu rannu unrhyw wybodaeth yn ôl yr angen.

Gallai Llywodraeth Cymru ofyn hefyd i sefydliadau eraill am wybodaeth amdanoch chi, neu roi gwybodaeth amdanoch chi iddyn nhw er mwyn cadarnhau cywirdeb yr wybodaeth, er mwyn atal neu ganfod troseddau, ac er mwyn diogelu arian cyhoeddus. Mae'r sefydliadau eraill hynny'n cynnwys adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff eraill, yn ôl y gofyn.

Rwy'n deall y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn datgelu gwybodaeth yn unol â’r ymrwymiadau a’r dyletswyddau sydd arni o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025. Caiff gwybodaeth arall a roddir ei datgelu hefyd os caniateir hynny o dan y gyfraith.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn dod o dan yr hysbysiad preifatrwydd. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).

Adran G: amgylchiadau'n newid

Yn unol â'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu'r cymorth hwn, rhaid i chi roi gwybod i RPW cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol, am unrhyw newid yn eich amgylchiadau y gellid disgwyl yn rhesymol iddo effeithio ar eich gallu i fodloni'r meini prawf a/neu amodau'r grant. Dylech wneud hyn o fewn 60 diwrnod ar ôl i'r newid perthnasol yn eich amgylchiadau ddigwydd. 

Pan fyddwch wedi rhoi gwybod i ni, gallwn gymryd un neu fwy o'r camau canlynol:

  1. newid, dileu neu ddisodli amod, am gyfnod dros dro neu’n barhaol
  2. newid, dileu neu ddisodli unrhyw ofynion neu amserlenni naill ai dros dro neu'n barhaol
  3. gosod sancsiynau a/neu leihau taliadau 
  4. ei gwneud yn ofynnol i chi ad-dalu rhai neu'r holl daliadau blaenorol a wnaed 

Bydd Llywodraeth Cymru yn barod i dderbyn y gallai cyfres o ddigwyddiadau sy'n gyfystyr ag Amgylchiadau Eithriadol eich rhwystro rhag cadw at ymrwymiadau penodol. Ceir mwy o fanylion yn Adran I. 

Adran H: tynnu dyfarniadau grant yn ôl

Os ydych yn derbyn dyfarniad grant ac am dynnu'ch dyfarniad grant yn ôl, rhaid i chi roi gwybod i RPW gan ddefnyddio'r ffurflen amrywio yn eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Os byddwch yn tynnu'ch dyfarniad grant yn ôl ar ôl i chi gael taliad, efallai y byddwn yn gofyn ichi ad-dalu unrhyw daliadau blaenorol sydd wedi'u talu ichi.

Adran I: taliadau

Hawliadau

Rhaid i chi hawlio taliadau Troi'n Organig ar eich SAF. 

Bydd taliadau'n cael eu gwneud ar ôl dilysu eich hawliad yn llwyddiannus a phan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gofynion troi'n organig ac ardystio tir wedi'u bodloni. 

Bydd taliadau’n cael eu talu i chi drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn cael taliad Troi'n Organig, byddwch:

  • wedi cadarnhau'ch bod am dderbyn y dyfarniad grant o fewn 21 niwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a rhaid cadw at yr holl ofynion 
  • wedi cyflwyno hawliad dilys a chyflawn gan ddefnyddio'r SAF, erbyn dyddiad cau'r SAF, yn y flwyddyn hawlio berthnasol
  • wedi cyflwyno'r holl ddogfennau ategol perthnasol erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn hawlio berthnasol. Ni fydd hawliad yn ddilys nes bod yr holl wybodaeth ategol wedi’i chyflwyno

Dogfennau ategol 

Mae'r tabl isod yn nodi'r dogfennau ategol y mae'n rhaid i chi eu cyflwyno erbyn 31 Rhagfyr ym mhob blwyddyn y grant. 

Byddwn yn gwrthod dogfennau ategol sy'n cyrraedd ar ôl 31 Rhagfyr. 

Dyddiad cauDogfennau ategol 
 

Cais OCB

 

Cynllun Troi'n Organig 

 

Y dystysgrif OCB ddiweddaraf a'r rhestr tirDogfennau ategol ar gyfer cyfradd dalu 1 Dogfennau ategol ar gyfer cyfradd dalu 4
31 Rhagfyr 2027OesOesOesOes, os yw'n berthnasolOes, os yw'n berthnasol
31 Rhagfyr 2028NaNaOesOes, os yw'n berthnasolOes, os yw'n berthnasol
31 Rhagfyr 2029NaNaOesNaNa 
31 Rhagfyr 2030NaNaOesNaNa 
31 Rhagfyr 2031 NaNaOesNaNa 

Tystiolaeth i gefnogi cyfradd dalu 1

Os ydych chi'n hawlio Cyfradd dalu 1, rhaid i chi gyflwyno'r canlynol: 

  • cofnodion cnydau, derbynebau a / neu anfonebau i ddangos bod cnydau garddwriaeth yn cael eu tyfu a'u gwerthu ar raddfa fasnachol. Dylai graddfa y cynhyrchu fod yn hafal i gyfeintiau cynhyrchu organig masnachol
  • os nad oes gennych dystiolaeth eich bod yn gwerthu'n fasnachol, er enghraifft, gan nad yw'r cnwd yn barod i'w gynaeafu, e.e. gwinllan neu berllan sydd newydd ei sefydlu, efallai y gallwn eich talu os gallwch gyflwyno tystiolaeth, e.e. anfonebau ar gyfer y planhigion a / neu luniau geo-dag o'r cnwd yn y ddaear, i ddangos y bydd eich menter yn gweithredu ar raddfa fasnachol

Tystiolaeth i gefnogi cyfradd dalu 4

Os ydych chi'n hawlio cyfradd dalu 4, rhaid i chi gyflwyno'r canlynol: 

  • llythyr o fwriad, gan brynwr / prosesydd llaeth yn datgan, mewn egwyddor, y bydd yn prynu'r llaeth organig wedi ichi droi'n organig
  • i'r rhai sy'n prosesu llaeth ar y daliad, bydd angen iddynt gadarnhau ac esbonio sut maent yn bwriadu newid eu dulliau prosesu a'u cynhyrchion mewn ymateb i'r llaeth organig sydd ar gael

Pan nad oes digon o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos bod gofynion wedi'u bodloni, gellir cadw'r taliad yn ôl, gwrthod yr hawliad neu ofyn ichi ad-dalu unrhyw arian sydd wedi'i dalu.

Fe welwch ragor o wybodaeth am gyflwyno hawliad a chyflwyno dogfennau ategol yn y SAF flynyddol.

Sancsiynau 

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys, yn gywir ac wedi'i gyflwyno gyda'r dogfennau ategol.

Pan fyddwn yn dod o hyd i anghysondebau yn eich hawliad, bydd taliadau'n cael eu gostwng i'r swm a ganfuwyd.

Os na fyddwch yn datgan holl dir amaethyddol eich daliad ar y SAF (yr holl dir rydych yn berchen arno a’r tir sydd gennych ar rent ac nid dim ond y caeau a restrir yn llythyr dyfarnu grant Troi'n Organig), gallai'ch taliad gael ei leihau

Gorddatgan

Bydd cosbau am orddatgan os yw'r arwynebedd gafodd ei ddatgan ar gyfer Troi'n Organig ar y SAF yn fwy na'r arwynebedd gafodd ei weld mewn archwiliad. Cyfrifir cosbau gan ddefnyddio'r arwynebedd gafodd ei ddatgan ar eich SAF sy'n derbyn yr un gyfradd dalu. 

Os gwelir bod yr arwynebedd gafodd ei hawlio ar gyfer Troi'n Organig yn fwy na'r arwynebedd cymwys (e.e. bod nodwedd anghymwys wedi'i ychwanegu at yr arwynebedd y grant), rhaid ad-dalu unrhyw grant gafodd ei dalu ar yr arwynebedd anghymwys.

Os yw'r gwahaniaeth yn yr arwynebedd yn fwy na 3% neu 2 hectar o arwynebedd y dyfernir grant iddo, bydd yr arwynebedd sy'n gymwys am daliad yn cael ei leihau 1.5 gwaith y gwahaniaeth a welir.

Ni fydd y gosb yn fwy na 100% o'r symiau sy'n seiliedig ar yr arwynebedd a ddatganwyd.

Fe welwch isod enghraifft o gosbau cyffredin am orddatgan.

Enghraifft 1:

Yr arwynebedd a hawlir ar gyfer cyfradd dalu 1 Troi'n Organig yw 100ha ond gwelir mai'r arwynebedd cymwys yw 98.5ha gan fod yr hawlydd wedi adeiladu adeilad amaethyddol newydd ar dir y telir grant ar ei gyfer. Ni fydd unrhyw gosb gan nad yw'r gwahaniaeth yn fwy na 3% neu 2 hectar, ond caiff y taliad Troi'n Organig ei leihau a bydd yn seiliedig ar 98.5 hectar.

Enghraifft 2:

Yr arwynebedd a hawlir ar gyfer cyfradd dalu 1 Troi'n Organig yw 100ha ond gwelir mai'r arwynebedd cymwys yw 90ha gan fod yr hawlydd wedi plannu coetir newydd ar dir sydd o dan y dyfarniad grant. Gan fod y gwahaniaeth yn fwy na 3% neu 2 Ha, bydd yna gosb. Caiff taliad Troi'n Organig ei leihau a bydd yn seiliedig ar 75 ha, sef 90ha minws 15ha (10ha x 1.5).

Torri sylfaen reoleiddio'r SFS 

Mae cyfrifoldeb arnoch i fodloni holl ofynion y sylfaen Rreoleiddio am y flwyddyn galendr lawn. Fe welwch ragor o fanylion Sylfaen Reoleiddio'r SFS yn nhaflenni ffeithiau Sylfaen Reoleiddio'r SFS, sydd ar gael yn Cynllun Ffermio Cynaliadwy: sylfaen reoleiddio 2026

Os nad ydych yn bodloni'r gofynion, caiff eich taliadau Troi'n Organig eu cosbi yn y flwyddyn pan gafodd y diffyg cydymffurfio ei ddarganfod, yn unol â Safonau Dilysadwy a Matrics Lleihau Taliadau Sylfaen Reoleiddio'r SFS. Mae'r rheini hefyd ar gael yn Cynllun Ffermio Cynaliadwy: sylfaen reoleiddio 2026

Camgymeriadau amlwg 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig darpariaeth camgymeriad amlwg yn unol â'r ddeddfwriaeth sy'n rheoli'r cymorth. Bydd yn seiliedig ar asesiad cyffredinol o'r achos penodol, cyn belled â bod yr ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb wedi gweithredu gyda phob bwriad da. 

Fel rheol gyffredinol, i gamgymeriad fod yn amlwg, byddwn wedi gallu ei ddarganfod gan ddefnyddio'r dogfennau a'r wybodaeth yr oeddech wedi'u cyflwyno i RPW fel rhan o geisiadau neu wrth hawlio taliadau neu i'w cefnogi, gan gynnwys dogfennau ategol a hysbysiadau perthnasol, ac o ganlyniad i wiriadau cynhwysfawr yn erbyn gwybodaeth berthnasol arall a gedwir gan Lywodraeth Cymru.  Mewn achosion o'r fath, gellir cywiro a / neu addasu'r cais am gymorth neu daliadau ar unrhyw adeg ar ôl ei gyflwyno.

Amgylchiadau eithriadol 

Amgylchiadau eithriadol yw amgylchiadau anarferol sydd y tu allan i reolaeth yr ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb, a oedd yn annisgwyl ac nad oedd modd eu hosgoi er gwaethaf pob gofal heb aberth ormodol ar ei ran. Mae enghreifftiau y gellir eu cydnabod yn cynnwys: 

  • digwyddiadau naturiol, fel cyfnod hir o dywydd drwg, llifogydd neu glefyd ar anifail neu blanhigyn  
  • salwch neu anaf difrifol neu farwolaeth sy’n effeithio ar y busnes  
  • colli rheolaeth ar y busnes mewn ffordd na ellid fod wedi’i ragweld er enghraifft bod tenantiaeth yn cael ei derfynu neu oherwydd gorchymyn prynu gorfodol 
  • amgylchiadau ariannol fel methdalaeth  
  • problemau yn y gadwyn gyflenwi, gyda thystiolaeth 
  • difrod troseddol gan drydydd parti, fel tân troseddol neu fandaliaeth  

Er mwyn i Lywodraeth Cymru ystyried a derbyn bod digwyddiad yn amgylchiad eithriadol, rhaid i fanylion ysgrifenedig ddod i'n llaw, o fewn 60 diwrnod ar ôl i'r ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb, neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran, allu gwneud hynny.  

Gall digwyddiad effeithio'n uniongyrchol ar un aelod yn unig o sefydliad neu fusnes fferm, fodd bynnag, dylid esbonio sut gwnaeth y digwyddiad effeithio ar allu pawb yn y busnes neu'r sefydliad yn ei gyfanrwydd i gyflawni eu rhwymedigaethau. Gellir gofyn am dystiolaeth ddogfennol ychwanegol a dylid ei darparu yn ôl y gofyn.  

Mae'r ddarpariaeth amgylchiadau eithriadol ar gael mewn perthynas â’r canlynol:

  • cyflwyno cais neu hawliad yn hwyr  
  • cyflwyno dogfennau ategol yn hwyr mewn perthynas â chais neu hawliad   
  • yr hawl am daliad mewn perthynas â rhai arwynebeddau cymwys a ddatganwyd ar gais neu hawliad ond nad ydynt bellach ar gael i'r ymgeisydd neu ddeiliad y cytundeb oherwydd digwyddiad amgylchiadau eithriadol  
  • yr anallu i gydymffurfio â gofynion y cynllun gan gynnwys amodau bod yn gymwys
  • cosbau a osodir ar hawliadau. Y gofyn i ad-dalu'n rhannol neu'n llawn y taliadau a dderbyniwyd

Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau.  

Troseddau

Mae rheoliad 19 o Reoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 yn sefydlu troseddau mewn perthynas ag agweddau penodol ar y cymorth ariannol a ddarperir o dan y rheoliadau hynny. Mae’r rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i Droi'n Organig. Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ar unrhyw adeg, methu â darparu gwybodaeth, tystiolaeth neu gopïau o gofnodion pan ofynnir amdanynt ac atal neu rwystro archwiliad, gan gynnwys methu â darparu cymorth rhesymol wrth i archwiliad gael ei gynnal. 

Pan fyddwn yn barnu eich bod wedi cyflawni trosedd yn unol â'r rheoliadau, gellir tynnu eich grant yn ôl yn llwyr neu'n rhannol.

Ymddygiad annerbyniol

Ni ddylai swyddogion Llywodraeth Cymru nac unigolion neu sefydliadau sy’n gwneud dyletswyddau ar ran Llywodraeth Cymru ddioddef ymddygiad ymosodol, difrïol na sarhaus na gofynion afresymol a di-baid gan ymgeisydd neu ddeiliad cytundeb neu ei gynrychiolwyr. Ni ddylai aelodau’r Panel Apelio Annibynnol ddioddef ymddygiad o'r fath chwaith. 

Mae Rheoli ymddygiad annerbyniol cwsmeriaid Llywodraeth Cymru yn esbonio beth yn ein barn ni yw ymddygiad annerbyniol. 

Gall ymddygiad annerbyniol arwain at dynnu taliadau yn ôl a/neu wrthod cais neu hawliad.

Adennill taliadau 

Os gwelir bod taliad anghywir wedi'i wneud, gellir gofyn ichi dalu'r arian hwnnw neu ran ohono, yn ôl. 

Os bydd angen ichi ad-dalu arian, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i chi am y ddyled. Os na fyddwch wedi talu'r ddyled, caiff y swm llawn ei dynnu'n awtomatig o'r taliadau cymorth amaethyddol cyntaf ddaw'n ddyledus i chi yn y dyfodol neu unrhyw gymorth eraill a sefydlwyd o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

Eich gwahardd yn y dyfodol

Diben 'Gwaharddiad yn y dyfodol' yw sicrhau bod Troi'n Organig yn cyflawni ei amcanion amgylcheddol trwy annog y rheini nad ydynt yn barod i ymrwymo i droi'n organig am bum mlynedd cyfnod dyfarnu'r grant i beidio ag ymgeisio.

Os ydym yn derbyn na allwch gadw at un o ymrwymiadau Troi'n Organig oherwydd amgylchiadau eithriadol, caiff yr ymrwymiad ei dynnu o'r dyfarniad grant. Caiff pob cais ei asesu yn ôl ei rinweddau.

Adran J: archwiliadau

Bydd canran o'r hawlwyr yn cael eu dewis a'u harchwilio bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion Troi'n Organig. 

Bydd yr holl archwiliadau yn cael eu cynnal gan Arolygiaeth Wledig Cymru (RIW) Llywodraeth Cymru a/neu Awdurdodau Rheoli Cymwys (CCA) eraill neu Asiantau Dirprwyedig ar ran Llywodraeth Cymru.

Caiff archwiliadau eu dewis ar sail risg ac ar hap. 

Mae’n bosibl y cynhelir archwiliadau ychwanegol os bydd aelod o’r cyhoedd neu sefydliadau eraill yn tynnu sylw at achos.

Lle medrwn, byddwn yn cyfuno archwiliadau i edrych ar nifer o elfennau neu gynlluniau yn ystod un archwiliad neu ymweliad â fferm. 

Er enghraifft, gellir cyfuno archwiliadau i weld a yw'r ffermwr yn cydymffurfio â Throi'n Organig ac archwiliadau i weld a yw'n cydymffurfio â Chynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), yn ogystal ag unrhyw gymorth amaethyddol arall, megis Creu Coetir.

Os byddwch yn gwrthod caniatáu archwiliad neu'n rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, gall Llywodraeth Cymru wrthod eich hawliad.

Adran K: cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw am 10 mlynedd o ddyddiad taliad olaf y grant, yr holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau. 

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • ddarparu unrhyw wybodaeth am eich grant Troi'n Organig o fewn cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru
  • gofalu bod cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur, am eich Grant Troi'n Organig ar gael i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a’i hasiantwyr eu gweld.  Rhoi’r hawl i Lywodraeth Cymru gymryd dogfennau neu gofnod neu i wneud copïau neu godi darnau ohonyn nhwYou must keep all records and information you need to evidence that you have provided complete and accurate information and have complied with the grant award undertakings for 10 years from the last payment of the funding

Adran L: trosglwyddo a gwerthu tir sydd o dan y dyfarniad grant

Gellir trosglwyddo'r grant Troi'n Organig os yw'r busnes fferm sy'n cymryd rheolaeth o'r tir yn cytuno i gadw at delerau ac amodau'r dyfarniad grant. 

Fodd bynnag, os byddwch yn gwerthu neu'n trosglwyddo tir (cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig neu lafar), heb fod y busnes fferm arall yn cytuno i gymryd amodau'r dyfarniad grant, cyn i gyfnod y dyfarniad grant ddod i ben, caiff eich dyfarniad grant ei ganslo ac ni chewch unrhyw daliad. 

Adran M: newidiadau i’r ddeddfwriaeth a’r rheolau

Newidiadau i’r ddeddfwriaeth (gan gynnwys dehongliadau newydd)

Mae rheolau Troi'n Organig yn seiliedig ar Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 a Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025.

Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.

Newidiadau i'r rheolau neu ddyfarniad y grant

Mae’n bosibl y bydd angen i ni newid rheolau’r grant a/neu eich llythyr dyfarnu grant am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu newid rheolau’r grant oherwydd newidiadau i'r ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar ein wefan ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran N: y drefn apelio a chwyno

Y drefn apelio

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn rhoi caniatâd ichi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â'r rheolau a'r canllawiau, ar ôl ichi dderbyn eich dyfarniad grant. Nid oes sail dros apelio yn y cam ymgeisio.

Mae dwy ran i’r broses apelio:

  • cam 1: adolygiad gan swyddogion Llywodraeth Cymru
  • cam 2: adolygiad gan Banel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng ngham 1)

Mae’r Panel Apelio Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Rhaid i apêl, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Rhaid i apelwyr a’u cynrychiolwyr beidio â chysylltu’n uniongyrchol ag aelodau’r Panel Apelio Annibynnol. Efallai y gallwn ystyried bod hyn yn Ymddygiad Annerbyniol yn ôl y canllawiau ar rheoli ymddygiad annerbyniol cwsmeriaid Llywodraeth Cymru. Gall ymddygiad annerbyniol arwain at dynnu taliadau yn ôl a/neu wrthod cais, hawliad neu apêl.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: canllaw.

Y drefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch ragor o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan:

Tîm Cynghori ar Gwynion

Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhif ffôn:

03000 251378

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Hefyd ddewis cysylltu ag: 

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ

Rhif ffôn:

0300 790 0203

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Gwefan: Ombwdsmon

Adran O: monitro a gwerthuso

Beth yw monitro a gwerthuso 

Mae monitro yn golygu casglu data, wrth ac ar ôl cynnal y cynllun, i helpu i wneud penderfyniadau gwell yn awr ac yn y dyfodol. Gweler hefyd y ‘Llyfr gwyrdd (ar gov.uk).

Mae cysylltiad agos rhwng monitro a gwerthuso. Bydd gwerthusiad cyffredin yn dibynnu'n drwm ar ddata monitro. 

Mae gwerthuso yn golygu asesu dyluniad, gweithrediad a chanlyniadau'r cynllun. Mae'n cynnwys deall sut mae'r cynllun cymorth yn cael neu wedi cael ei weithredu a beth yw ei effeithiau, i bwy a pham.

Mae gwerthuso yn golygu hefyd nodi'r hyn y gellir ei wella a sut, a hefyd amcangyfrif ei gost-effeithiolrwydd ac effaith y polisi.

Ni all data monitro ar ei ben ei hun ateb pob cwestiwn gwerthuso. Bydd gwerthuso felly yn defnyddio cymysgedd o ddulliau meintiol ac ansoddol yn unol â'r Llyfr Magenta (ar gov.uk)

Pam mae angen monitro a gwerthuso

Mae monitro a gwerthuso yn ffordd bwysig o weld y gwersi y gellir eu dysgu er mwyn dylunio a darparu cymorth yr SFS yn well yn y dyfodol. 

Monitro a gwerthuso’r SFS

Llywodraeth Cymru fydd yn monitro a gwerthuso'r SFS ac yn adrodd arno, a hynny drwy: 

  1. ofynion cyfreithiol Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, gan roi sylw arbennig i amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM), a
  2. gwerthuso'r cynllun

Gofynion Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

O dan y Ddeddf, mae dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i fonitro a gwerthuso cyfraniad unrhyw gymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru at gyflawni amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) ac i adrodd ar hynny. 

Mae monitro yn hanfodol er mwyn i Lywodraeth Cymru allu bod yn atebol trwy fesur ei pherfformiad ar sail amcanion SLM a dibenion y cymorth. Mae adroddiadau yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar y Senedd a'r cyhoedd i allu cadw golwg ar hynt y cynllun a'r hyn sy'n cael ei wneud trwyddo.

Mae'r Ddeddf yn pennu fframwaith monitro ac adrodd clir ar lefel amcanion SLM a lefel y cynllun cymorth. Mae'n cynnwys pum lefel adrodd:

  • y Cynllun Cymorth Amlflwydd, sef rhag-gynllun pum mlynedd sy'n nodi sut mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi cymorth yn ystod cyfnod y cynllun i gyfrannu at gyflawni amcanion SLM. Cyhoeddwyd y Cynllun Amlflwydd cyntaf ym mis Rhagfyr 2024
  • mae'r datganiaddangosyddion a thargedau SLM yn nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn mesur cynnydd tuag at gyflawni'r pedwar amcan SLM. Cyhoeddwyd y dangosyddion a'r targedau cyntaf ym mis Rhagfyr 2025 
  • mae'r Adroddiad Blynyddol yn disgrifio'r cymorth ariannol ac anariannol a ddarperir o dan Adran 8 o'r Ddeddf yn ystod pob blwyddyn ariannol. Mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi hefyd fanylion y cymorth a ddarperir o dan bwerau eraill. Cafodd yr adroddiad cyntaf ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2026 
  • bydd Llywodraeth Cymru yn paratoi adroddiad effaith bob pum mlynedd a fydd yn gwerthuso'r holl gymorth fydd wedi'i ddarparu. Bydd yn cynnwys asesiad o'i effaith ac o effeithiolrwydd y cymorth o ran cyflawni'r dibenion y darperir y cymorth ar eu cyfer, a'i gyfraniad at gyflawni'r amcanion. Bydd yr adroddiad effaith cyntaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2030, gan gwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd Rhagfyr 2029
  • Bydd Adroddiad Rheoli Tir yn Gynaliadwy(SLM) yn cael ei gyhoeddi bob pum mlynedd i asesu effeithiolrwydd y camau a gymerir gan Weinidogion Cymru yn unol â'u dyletswydd i gyflawni amcanion SLM. Bydd yn asesu cynnydd cronnus o ran cyflawni amcanion SLM (ers i'r ddyletswydd SLM ddod i rym) yn ogystal â'r cynnydd dros gyfnod yr adroddiad. Rhaid iddo hefyd asesu'r cynnydd yn erbyn dangosyddion a thargedau SLM  ac esbonio a yw pob targed wedi cael ei gyflawni. Bydd yr adroddiad SLM cyntaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2026, gan gwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd Rhagfyr 2025 

Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 Rhif 1308 (Cy219)

Mae’r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chynlluniau cymorth y mae Gweinidogion Cymru yn darparu cymorth oddi tanynt. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cael cymorth o dan gynllun cymorth ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth i Weinidogion Cymru y gall fod ei hangen er mwyn, er enghraifft, wirio bod deiliad y cytundeb yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwysedd a sicrhau cydymffurfedd ag amodau’r cynllun:

Rheoliad 8 Rhaid i ddeiliad cytundeb ddarparu, yn y modd hwnnw ac ar yr adegau hynny a bennir gan Weinidogion Cymru, yr wybodaeth honno neu’r dystiolaeth honno sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru i:

  1. gwirio a yw deiliad y cytundeb yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cael cymorth
  2. gwirhau cydymffurfedd â’r amodau y darperir cymorth yn ddarostyngedig iddynt
  3. monitro i ba raddau y mae diben y cynllun cymorth wedi ei gyflawni, neu y bydd yn cael ei gyflawni, a 
  4. adolygu neu werthuso:

    (i) unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau a gynhelir gan ddeiliad y cytundeb o dan y cynllun cymorth, a 

    (ii) llwyddiant y cynllun cymorth yn ei gyfanrwydd

Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng monitro'r cymorth a ddarperir o dan gynllun a sefydlwyd yn unol ag adran 8 o'r Ddeddf a'r fframwaith adrodd a gynhwysir yn y Ddeddf. Er mwyn bodloni'r gofynion adrodd, caiff yr holl gymorth a roddir ei fonitro i fesur effaith ac effeithiolrwydd y cymorth hwnnw, yn ogystal â sicrhau rheolaeth ariannol briodol ac effeithiol. 

Bydd tystiolaeth a gyflwynir gan ymgeiswyr / deiliaid cytundebau yn cael ei defnyddio i fonitro effaith y cynlluniau cymorth ar draws y sector amaethyddol yng Nghymru, gan gynnwys asesu cyfraniad camau gweithredu â chymorth tuag at amcanion SLM. Gall hyn gynnwys data a gesglir trwy archwiliadau a datganiadau neu wrth weinyddu cynlluniau a bydd gofyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data a hysbysiadau preifatrwydd cynlluniau.  

Gwerthuso'r SFS

Yr SFS fydd prif gyfrwng, ond nid unig gyfrwng Llywodraeth Cymru, i gyflawni amcanion SLM. Bydd yr SFS yn darparu cyfran sylweddol o'r fframwaith monitro, adrodd a gwerthuso, gan sicrhau y gellir asesu effeithiolrwydd a gwerth am arian y cynllun ei hun. Er mwyn helpu i werthuso, efallai y byddwn yn gofyn i'r rheini sydd ar y cynllun gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil. Bydd y wybodaeth a'r adborth a gesglir drwy'r gweithgareddau hyn yn cyfrannu at ddatblygu'r cynllun yn y dyfodol, a helpu i sicrhau ei fod yn parhau'n effeithiol, yn ymatebol ac yn fuddiol i'r diwydiant amaeth yng Nghymru.

Bydd strategaeth fonitro a gwerthuso yn y dyfodol yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu asesu sut y bydd amcanion SLM a chynlluniau gan gynnwys yr SFS yn cael eu hasesu o ran gwerth am arian a'u canlyniadau i Gymru, gan gynnwys canlyniadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.  

Bydd y strategaeth yn cydnabod natur hirdymor y canlyniadau a geisir ac yn nodi mesurau interim a all ddangos cynnydd ar sail data perfformiad a rheoli gan Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a darparwyr gwasanaethau eraill.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi a’ch data:

Gallai Llywodraeth Cymru rannu’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi iddi mewn cysylltiad â’ch hawliad am Haen Opsiynol yr SFS (gan gynnwys eich data personol) â chontractwyr trydydd parti er mwyn monitro a gwerthuso’r cynllun. 

O ganlyniad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn ichi gymryd rhan mewn gwaith ymchwil. Byddwn yn esbonio diben yr ymchwil ichi, ond mater ichi yn llwyr fydd cymryd rhan. Bydd eich cyfraniad yn yr ymchwil yn ein helpu i sicrhau bod y cynlluniau’n parhau’n effeithiol.

Bydd contractwyr yn defnyddio’r data a ddarperir i gynnal weithgareddau ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru a hynny'n unig, yn unol â GDPR y DU.

Adran P: hysbysiad preifatrwydd: Grantiau Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi grant i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll eraill.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y gwnawn ni wrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu roi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol i chi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu waith ichi.

Er mwyn asesu’ch cymhwysedd, efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais â’r canlynol:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • awdurdodau lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)
  • swyddfeydd amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, awdurdodau lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu

Hefyd, mae’n bosibl y gwnawn ni rannu’ch gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall aelod arall o'r cyhoedd wneud cais i weld eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, Deddf Diogelu Data 2018 neu Reoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025.

Byddwn yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i ddeiliaid cytundeb sydd wedi derbyn cymorth o dan Reoliadau'r Cynllun Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025.  Bydd data yn cael ei gyhoeddi ar gyfer yr holl fuddiolwyr a bydd yn cynnwys yr enw llawn, y dref bost ac ardal y cod post a'r ardal lle mae deiliad y cytundeb yn preswylio. Bydd yn cynnwys manylion y symiau a'r cynlluniau y cafodd taliad ei wneud ar eu cyfer. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn gymwys i'r deiliaid cytundeb hynny sy'n derbyn llai na £1,250.00 o gymorth perthnasol yn y flwyddyn ariannol.  

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol yn unol â'n polisi cadw. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am saith mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phan fydd pob taliad wedi'i wneud. Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch
  • gofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) gofyn i'ch data gael eu ‘dileu’
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Yr Ail Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn:

0330 414 6421

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Gwefan: ico.org.uk/

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Adran Q: cysylltiadau

Ymholiadau: y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch ofyn cwestiwn drwy RPW Ar-lein ar unrhyw bryd.

Rhaid cael apwyntiad er mwyn ymweld â’n Swyddfeydd Rhanbarthol. Gall y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid drefnu apwyntiad ‘Cymorth Digidol’ i chi er mwyn ichi ymweld â Swyddfa Ranbarthol a chael help gan aelod o’r staff i wneud cais a/neu hawliad. 

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i'n wefan. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch e-bost.

Gwlad

Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae’n cynnwys newyddion, canllawiau a gwybodaeth hawdd eu ffeindio a'u deall. 

I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad. Gallwch wneud hyn naill ai ar Hysbysiadau neu Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth choedwigaeth.

Atodiad 1: codau cnydau cymwys ac anghymwys ar gyfer Troi'n Organig

Tabl 1: manylion yr holl godau cnydau cymwys ynghyd â'u categori gorchudd tir cysylltiedig ar gyfer Troi'n Organig

Manylion yr holl godau cnydau cymwys ar gyfer Troi'n Organig ynghyd â'u Categori Gorchudd Tir cysylltiedig.

Tabl 1:

Cnwd/disgrifiad o’r tir

Cnwd cymwys:

 

Categori gorchudd tir
AfalauAP4Garddwriaeth
Cnwd âr – cymysgMC3Garddwriaeth
ArtisiôcAR2Garddwriaeth
AsbaragwsAS1Garddwriaeth
Planhigyn wy, AubergineAU1Garddwriaeth
BambŵBA2Cnydau Parhaol
Haidd - wedi'i hau yn y gwanwynBA5Âr
Haidd - wedi'i hau yn y gaeafBA4Âr
BasilBA6Garddwriaeth
Ffa maes - wedi'u hau yn y gwanwynBN4Âr
Ffa maes - wedi'u hau yn y gaeafBN5Âr
Ffa gwyrddBN2Garddwriaeth
Ffa mungBE11Garddwriaeth
Llydanddail - Glastir pori Opsiwn 176BG1Glaswelltir Parhaol
Ffa soiaBN3Âr
Betys / MangoldsBT1Âr
Llus / LlygaeronBS2Garddwriaeth
Mwyar duon / Mwyar logan / MafonBS1Garddwriaeth
Maglys DuME6Garddwriaeth
Tafod yr YchBO1Garddwriaeth
Gwenith yr HyddBU1Âr
Bresych a brassica eraill - wedi'u hau yn y gwanwyn.CA21Garddwriaeth
Bresych a brassica eraill - wedi'u hau yn y gaeafCA22Garddwriaeth
CamelinaCA18Âr
Had Pefrwellt / pefrwelltCY1Âr
MoronCA20Garddwriaeth
SeleriacCE2Garddwriaeth
Coed conwydd - opsiwn Glastir pori 176CG1Glaswelltir Parhaol
SicoriCH5Âr
TsilisCI1Garddwriaeth
Tsili - CoedenCT1Garddwriaeth
MeillionCL4Âr
Meillion melysCL3Âr 
CwmffriCO5Garddwriaeth
Coedlan cylchdro byrCO4Cnydau Parhaol
CrambeCR2Âr
Berwr – saladCR4Garddwriaeth
Berwr dŵrCR5Garddwriaeth
CiwcymbrauCU1Garddwriaeth
Cennin PedrDA1Garddwriaeth
DilDL1Garddwriaeth
Ysgall bwytaTH1Garddwriaeth
Melyn yr HwyrEV1

Garddwriaeth

 

Gwyndwn - aildyfiant naturiolFA3Âr
Gwyndwn - porfa wedi'i hauFA4Âr
Gwyndwn - gorchudd bywyd gwyllt wedi'i hauFA5Âr
FfeniglFE2Garddwriaeth
FfenigrigFE1Garddwriaeth
Ymylon CaeauFM1Eraill
Erfin PorthiantRA9Âr
Eirin Mair / Cyrens coch / Cyrens duon / Cyrens gwynBS3Garddwriaeth
GrawnwinGR7Garddwriaeth
Glaswellt parhaol – dros 5 mlyneddGR2Glaswelltir Parhaol
Glaswellt parhaol – wedi'i ailhau yn ystod y 12 mis diwethafGR8Glaswelltir Parhaol
Glaswellt dros dro – o dan 5 oedGR1Âr
GrugHE9Glaswelltir Parhaol
Rhostir – poriHE7Glaswelltir Parhaol
CywarchHE2Âr
Had porthiant glasHE8Âr
HopysHO1Garddwriaeth
RhuddyglRA4Garddwriaeth
LafantLA1Garddwriaeth
CorbysLE1Garddwriaeth
LetysLE3Garddwriaeth
Had Llin/Linola - wedi'i hau yn y gwanwynLI4Âr
Had Llin/Linola - wedi'i hau yn y gaeafLI5Âr
LiwsernLU2Âr
Bysedd y blaidd - melysLU1Âr
IndrawnMA6Âr
Indrawn – Gyda chnwd wedi'i hau danyntMA7Âr 
Maro / Pwmpenni / Sgwash / CourgetteMA5Garddwriaeth
MelonauME3Garddwriaeth
Melonau dŵrME5Garddwriaeth
MiledMI1Âr
MiscanthusMI5Cnydau Parhaol
Gwyndynnydd cymysg (gwyndynnydd aml-rywogaeth neu flodeuog yn enwau eraill arnyn nhw) ML1Âr
Garddwriaeth cynnyrch cymysgMP1Garddwriaeth
MadarchMU2Garddwriaeth
MwstardMU3Garddwriaeth
Mwstard brownMU5Garddwriaeth
Cnydau cloi nitrogen - cymysgMN1Âr
Meithrinfa coed addurnolNU11Garddwriaeth
Cnau castanNU2Garddwriaeth
Cnau cyllNU5Garddwriaeth
Cnau pistasioPI1Garddwriaeth
Cnau FfrengigNU4Garddwriaeth
Ceirch - wedi'i hau yn y gwanwynOA5Âr
Ceirch - wedi'i hau yn y gaeafOA4Âr
Rêp had olew - wedi'i hau yn y gwanwynRA8Âr
Rêp had olew - wedi'i hau yn y gaeafRA7Âr
Wynwns / Cennin / Sialóts / GarllegON2Garddwriaeth
Perllan gymysgOR3Garddwriaeth
OreganoOR2Garddwriaeth
Helyg GwiailOS1Cnydau Parhaol
PersliPA1Garddwriaeth
PannasPA2Garddwriaeth
GellygPE10Garddwriaeth
Pys - ffacbysPE3Garddwriaeth
Pys (gwinwydd ac eraill) – wedi'u hau yn y gwanwynPS2Âr
Pys (gwinwydd ac eraill) - wedi'i hau yn y gaeafPS3Âr
PupurPP1Garddwriaeth
PlantanPL3Garddwriaeth
Eirin / Eirin Gwyrdd / Ceirios / AlmonauPL2Garddwriaeth
Tatws melysPO2Garddwriaeth
TatwsPO1Garddwriaeth
RadisRA2Garddwriaeth
RhiwbobRH1Garddwriaeth
Berwr y gerddiRO2Garddwriaeth
RhosodRO1Garddwriaeth
Rhyg - (gan gynnwys Meslin) - wedi'i hau yn y gwanwynRY4Âr
Rhyg - (gan gynnwys Meslin) - wedi'i hau yn y gaeaf RY5Âr
SaffrwnSA1Garddwriaeth
SaetsSA9Garddwriaeth
FfawlysSF1Âr
SalsiffiSA3Garddwriaeth
Morfa Heli - poriSM2Glaswelltir Parhaol
Twyni TywodSD1Glaswelltir Parhaol
ScorzoneraSC1Garddwriaeth
Pwmpen SiamSP7Garddwriaeth
SorgwmSO3Âr
Gwenith yr Almaen - wedi'i hau yn y gwanwynSP8Âr
Gwenith yr Almaen - wedi'i hau yn y gaeafSP9Âr
SbinaetsSP3Garddwriaeth
Pwmpen - BananaSQ1Garddwriaeth
Sgwash Cnau MenynSQ2Garddwriaeth
Sgwash JapanSQ3Garddwriaeth
MefusST1Garddwriaeth
Hadau blodau'r haulSU2Âr
ErfinSW4Âr
TybacoTO1Garddwriaeth
TomatosTO2Garddwriaeth
Traciau poriGT1Glaswelltir Parhaol
Coed gyda gorchymyn cadw coedTP8Eraill
MeillionTR5Âr
Meillion – Pys-y-CeirwTR9Âr
Rhygwenith - wedi'i hau yn y gwanwynTC4Âr
Rhygwenith - wedi'i hau yn y gaeafTC3Âr
TiwlipauTU4Garddwriaeth
Maip / Teiffon / ColzaTU5Garddwriaeth
Cymysgedd o ydau a chnydau protein, wedi'u hau yn y gwanwyn, heb eu chwistrellu.UM1Âr 
Pupys VE3Âr
Gwenith - wedi'i hau yn y gwanwynWT2Âr
Gwenith - wedi'i hau yn y gaeafWT1Âr
Cnwd Gorchudd Bywyd GwylltWB1Âr
Llysiau'r lliwWO1Âr 
IamYA1Garddwriaeth

Tabl 2: codau cnydau anghymwys ar gyfer Troi'n Organig

Manylion yr holl godau cnydau anghymwys ar gyfer Troi'n Organig ynghyd â'u Categori Gorchudd Tir cysylltiedig.

Tabl 2: Cnwd/disgrifiad o’r TirCodau cnydau anghymwysCategori gorchudd tir
Corneli caeau/ymyl coetir (heb stoc) GC3Eraill
Glaswellt (ac eithrio stoc)GR9Eraill
Rhostiroedd (heb stoc)HE6Eraill
Clustogfa pwll wedi'i greu ar gyfer GlastirGC2Eraill
Gwelyau cyrs/corsydd (heb stoc)RE3Eraill
Morfeydd heli (heb stoc)SM1Eraill
Prysgwydd/eithin/mieri (heb stoc)GS1Eraill
Coridor nantSC2Eraill
Coridor nant – wedi'i greu ar gyfer GlastirGC1Eraill
Coetir – llydanddail – heb stoc – sy'n gymwys i gael BPSBW1Eraill
Coetir – conifferaidd – heb stoc – sy'n gymwys i gael BPS CW1Eraill
CyrsRE1Eraill
BrwynRU1Eraill
Prysgwydd/ Eithin/ mieri – heb stoc – ddim yn gymwys am BPSGS2Eraill
Coridorau glan nant – ddim yn gymwys am BPSSC3Eraill
Tir nad oes modd ei ddefnyddio – dros droTT99Eraill
Coetir conwydd – grŵp ZZ10Eraill
Coetir llydanddail – grŵpZZ11Eraill
Coetir conwydd gwasgarogYY14Eraill
Coetir llydanddail gwasgarogYY15Eraill
Coetir – boncyffion YY16Eraill
Coetir conwydd – heb stoc – ddim yn gymwys am BPS TR2Eraill
Coetir llydanddail – heb stoc – ddim yn gymwys am BPS WS1Eraill
Rhedyn - grŵpZZ20Eraill
Rhedyn gwasgarogYY21Eraill
Prysgwydd / Eithin / Mieri - grŵpZZ22Eraill
Prysgwydd / Eithin / Mieri – gwasgarogYY23Eraill
Pyllau dŵr PD2Eraill
Pyllau dŵr ZZ30Eraill
Afonydd a nentyddZZ31Eraill
Sgri / Cnycau / Meini / Tywod - grŵpZZ40Eraill
Sgri / Cnycau / Meini / Tywod – gwasgarogYY41Eraill
Adeiladau/iardiauZZ89Eraill
Wynebau caledZZ92Eraill
FfyrddZZ94Eraill
Traciau – heb eu poriZZ97Eraill
Gweithgareddau anamaethyddolNO1Eraill

Atodiad 2: haenau amcanion targed Troi'n Organig

Haen amcan targed Sgôr
Llynnoedd Sensitif4
Afonydd Sensitif4
Pwll dŵr1
Ffos6
SoDdGAau Biolegol a 300m o lain glustogi6
SoDdGA Biolegol ar Arfordir ac Iseldir â Blaenoriaeth48
Madfall Dwr Cribog 1km3
Gwyniad6
Misglen berlog yr afon4
Cen ar hen goed wrth ymylon ffyrdd a thir parc3
Y gardwenynen lwydfrown4
Y gardwenynen feinlais4
Planhigion âr1
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth un30
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth dau10
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth tri3
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pedwar2
Blaenoriaeth Ansawdd Dŵr1
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 40–50%1
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 50–60%2
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 60–70%10
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 70–80%18
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 80–90%32
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 90–100%60
Lleihau'r perygl o lifogydd (Rheoliadau ynghylch storio dŵr a llif uchaf - adfer a chreu gwlyptir a golchdir)20
Ardaloedd y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac ardaloedd gwarchodedig sydd â dyddiad targed ar gyfer cyflawni amcan amgylcheddol erbyn 201520
Materion Maethynnau â Thystiolaeth8
Priddoedd carbon blaenoriaeth 1 (iseldir)30
Priddoedd carbon blaenoriaeth 2 (iseldir)15
Priddoedd carbon blaenoriaeth 3 (iseldir)6