Canllawiau anstatudol ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus a byrddau partneriaeth rhanbarthol: Asesiadau, data a thystiolaeth - 4. Disgwyliadau ar y cyd a meysydd cyffredin
Mae’r canllawiau hyn yn cefnogi byrddau gwasanaethau cyhoeddus a byrddau partneriaeth phanbarthol wrth iddyn nhw baratoi eu hasesiadau statudol o dan ddwy Ddeddf ar wahân.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r disgwyliadau yn yr adran hon wedi cael eu datblygu ar y cyd gan Dasglu Asesu a Chynghori Cenedlaethol, gan ddefnyddio canllawiau statudol, cylchoedd blaenorol, ac adborth gan bartneriaethau. Nid yw’r disgwyliadau’n disodli dyletswyddau cyfreithiol. Yn hytrach, maen nhw’n nodi ymrwymiadau ymarferol y gallai cyrff cenedlaethol a phartneriaethau lleol eu mabwysiadu i helpu i sicrhau eglurder a chysondeb ar draws y cylch asesu nesaf.
4.1 Yr hyn y bydd cyrff cenedlaethol yn ei wneud
Mae cyrff cenedlaethol yn deall y pwysau sy’n wynebu partneriaethau ac maen nhw wedi ymrwymo i helpu i wneud y broses yn un bwrpasol a hawdd ei rheoli. Mae cyrff cenedlaethol wedi ymrwymo i wneud y canlynol:
- Darparu cyngor clir, cyson sy’n cyd-fynd, ac sy’n seiliedig ar ganllawiau statudol ac unrhyw beth a ddysgir.
- Cynnig offer ac adnoddau ymarferol i gefnogi dulliau cymesur a chyson.
- Helpu i gael mynediad at setiau data craidd, dangosyddion cenedlaethol, ymchwil a gwybodaeth am dueddiadau’r dyfodol.
- Hwyluso dysgu ar y cyd a chymorth gan gymheiriaid ar draws rhanbarthau.
- Annog dulliau cytbwys sy’n cyfuno data meintiol, gwybodaeth ansoddol a phrofiad bywyd mewn ffordd dryloyw ac ymarferol.
4.2 Yr hyn y dylai partneriaethau ei wneud
Efallai y bydd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol am ddefnyddio’r disgwyliadau hyn i lywio gwaith cynllunio cynnar a chefnogi dull gweithredu ar y cyd ar draws y rhanbarth. Fel partneriaethau, dylech wneud y canlynol:
- Mabwysiadu dull cytbwys a thryloyw o ymdrin â thystiolaeth, gan egluro sut y gwnaeth y dystiolaeth hon siapio eich casgliadau.
- Cydlynu prosesau ymgysylltu lle y bo hynny’n ymarferol, gan ddefnyddio dulliau cynhwysol a dwyieithog, a dangos sut mae mewnbwn pobl wedi llywio eich asesiad.
- Cryfhau cyfranogiad drwy sicrhau bod lleisiau pobl nad ydynt yn cael eu clywed yn aml yn cael eu cynnwys yn rhagweithiol, gan ddefnyddio dulliau sy’n gymesur, yn hygyrch ac yn ddiwylliannol sensitif.
- Defnyddio gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli gan gymunedau, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau, gan nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth ddemograffig neu ddaearyddol cyn ymgysylltu o’r newydd.
- Defnyddio ystyriaethau sy’n ymwneud â’r Gymraeg, cydraddoldebau ac ystyriaethau economaidd-gymdeithasol yn gyson ac yn benodol.
- Mabwysiadu dulliau cymesur a realistig, gan ddogfennu rhagdybiaethau a chyfyngiadau’n glir.
- Cytuno ar ddisgwyliadau lleol ar gyfer drafftio, ansawdd tystiolaeth a sicrwydd dadansoddol.
- Edrych ar ddulliau cyffredin i ymdrin â chynllunio ar gyfer senarios a chynllunio ar gyfer y dyfodol lle y bo hynny’n briodol.
- Defnyddio dull cwrs bywyd o’r blynyddoedd cynnar hyd at ddiwedd oes i sicrhau anghenion cynhwysfawr cymunedau a sicrhau ffocws ar angen Gofal Lliniarol Diwedd Oes (hynny yw, Dechrau’n dda, Byw’n dda, Heneiddio’n dda, Diweddu’n dda)
4.3 Pam mae cyd-ddealltwriaeth yn bwysig
Mae’r set hon o gyd-ddisgwyliadau yn helpu i greu dull gweithredu cliriach a mwy cydlynol ar draws y ddwy ddyletswydd. Mae’n rhoi hyder ynghylch yr hyn y bydd cyrff cenedlaethol yn ei gefnogi, ac eglurder ynghylch sut y gall partneriaethau fynd i’r afael â’u cyfrifoldebau mewn ffordd effeithiol y gellir ei chyflawni. Mae’n helpu i ddehongli tystiolaeth yn fwy cyson, yn lleihau unrhyw ddyblygu, ac yn cryfhau’r cysylltiad rhwng asesiadau a’r cynlluniau sy’n dilyn.
Nid yw’r disgwyliadau hyn yn statudol, ond maen nhw’n adlewyrchu arfer da a nodwyd ledled Cymru. Gall disgwyliadau ar y cyd helpu i greu safonau cyson a helpu i sicrhau eglurder i’r rheini sy’n cyfrannu at yr asesiadau. Mae’r disgwyliadau hyn yn cefnogi asesiadau cymesur a chytbwys sy’n defnyddio sawl math o dystiolaeth.
Mae’n bwysig bod asesiadau’n seiliedig ar ddefnydd cymesur, cytbwys a thryloyw o dystiolaeth, ac mae gan gyrff cenedlaethol a phartneriaethau lleol rôl i’w chwarae o ran hwyluso hyn. Dylai partneriaethau ddefnyddio amrywiaeth eang o dystiolaeth, gan gynnwys ystadegau swyddogol, data gweinyddol, ymchwil, dealltwriaeth o gymunedau, profiad uniongyrchol a thystiolaeth amgylcheddol, i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o anghenion llesiant a gofal a chymorth lleol. Dylai partneriaethau flaenoriaethu’r defnydd o ffynonellau tystiolaeth dibynadwy a chydnabyddedig sydd â sicrwydd ansawdd, lle y bo hynny’n bosibl. Gall defnyddio setiau data, dangosyddion a diffiniadau cyffredin helpu i wella cysondeb ledled Cymru a chefnogi prosesau cymharu rhwng lleoedd. Pan fo tystiolaeth amgen neu dystiolaeth a gynhyrchir yn lleol yn cael ei defnyddio, dylai partneriaethau fod yn dryloyw ynghylch y dulliau a ddefnyddir ac unrhyw gyfyngiadau. Mae Atodiad C yn cynnwys rhagor o ganllawiau ar wahanol ffynonellau data a thystiolaeth, eu cryfderau a’u cyfyngiadau.
Dylai asesiadau ganolbwyntio ar ddehongli tystiolaeth yn hytrach nag atgynhyrchu llawer iawn o ddata. Dylai’r pwyslais fod ar egluro beth mae’r dystiolaeth yn ei ddangos, pam mae’n bwysig yn lleol, a sut mae’n helpu i nodi cryfderau, heriau, anghydraddoldebau a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg. Dylai partneriaethau sicrhau bod modd olrhain y canfyddiadau, y casgliadau a’r blaenoriaethau sydd wedi’u cynnwys gyda’r asesiadau yn ôl i’r data, yr ymchwil a’r dystiolaeth a gasglwyd ac a ddadansoddwyd. Yn ogystal, dylai asesiadau amlinellu’r dull a ddefnyddir i gasglu a dadansoddi data, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau neu ystyriaethau a allai effeithio ar sut mae modd dehongli’r dystiolaeth.
Er mwyn helpu i fod yn dryloyw, efallai y bydd partneriaethau am gadw catalog data ategol neu adnodd tebyg i gofnodi setiau data, ymchwil a gwybodaeth allweddol a ddefnyddir yn yr asesiad. Mae hyn yn golygu bod modd i asesiadau ganolbwyntio ar ddehongli strategol a blaenoriaethau ar y cyd, gan sicrhau tryloywder y sylfaen dystiolaeth hefyd. Mae dull clir o gasglu, dadansoddi a chyflwyno tystiolaeth yn helpu i gryfhau cysondeb ar draws partneriaethau, lleihau unrhyw ddyblygu, nodi bylchau mewn tystiolaeth a helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus sy’n canolbwyntio ar y dyfodol. I helpu gyda hyn, mae Atodiad C yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ddulliau gweithredu yng nghyswllt data a thystiolaeth fel rhan o’r broses asesu.
