Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nod blaenoriaethu yw troi’r dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o’r asesiadau yn set glir a hawdd ei thrin o faterion y gall y bartneriaeth weithredu arnyn nhw ar y cyd. Yn hytrach na llunio rhestrau hir neu benodau thematig helaeth, efallai y bydd partneriaethau am ganolbwyntio ar nodi nifer fach o flaenoriaethau lle bydd ymdrech ar y cyd yn cael yr effaith fwyaf. Mae hyn yn adlewyrchu newid o ran dull gweithredu: o ddisgrifio popeth sy’n bwysig, i ganolbwyntio ar y materion sy’n gofyn am weithredu strategol, cydlynol ar draws y bartneriaeth.

Os ydych yn canolbwyntio ar nifer lai o flaenoriaethau yn y cam asesu, nid yw hyn yn dileu’r disgwyliad y bydd tystiolaeth ehangach wedi cael ei hystyried. Gall partneriaethau gynnal dadansoddiad eang yn fewnol a dewis cyhoeddi naratif mwy dethol, sy’n sicrhau nad yw materion pwysig yn cael eu hanwybyddu hyd yn oed pan nad ydynt yn dod i’r amlwg fel blaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar y cyd yn y cam hwn.

5.1 Yr hyn a olygwn wrth ‘blaenoriaethau’ yn y canllawiau hyn

Yn y canllawiau hyn, mae cyfeirio at “blaenoriaethau” yn disgrifio’r nifer fach o faterion allweddol sy’n deillio o’r asesiad y mae angen i’r bartneriaeth roi sylw iddyn nhw. Nid yw’r rhain yn flaenoriaethau nac yn amcanion statudol ffurfiol Llywodraeth Cymru ond yr hyn a nodwyd drwy ymarfer asesiad o anghenion.

Ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, mae amcanion llesiant statudol yn cael eu gosod yn nes ymlaen fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Llesiant, yn dilyn etholiadau llywodraeth leol ac o bosibl yn cynnwys aelodau gwahanol o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, cytunir ar ymrwymiadau ffurfiol drwy’r Cynllun Ardal a’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad.

Rydym yn annog partneriaethau i nodi set benodol o flaenoriaethau yn ystod y cam asesu, gan fod hyn yn cefnogi cynllunio cliriach a mwy strategol yn nes ymlaen. Mae nifer fach o flaenoriaethau, lle mae gweithredu ar y cyd yn hanfodol ac na all un sefydliad penodol gyflawni newid ar ei ben ei hun, yn darparu sail gryfach ar gyfer datblygu Amcanion Llesiant, blaenoriaethau Cynllun Ardal ac ymrwymiadau cydgysylltiedig y partneriaethau.

Dylai’r blaenoriaethau hyn gael eu llywio gan ystod eang a chynrychioladol o leisiau, gan gynnwys cymunedau a grwpiau y mae eu profiadau’n cael eu hadlewyrchu’n llai aml mewn prosesau ymgysylltu ffurfiol.

5.2 Blaenoriaethu sy’n pwyso a mesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth

Wrth flaenoriaethu, dylai hyn ddwyn ynghyd yr ystod lawn o wybodaeth sydd ar gael – data meintiol, tystiolaeth ansoddol gan gynnwys llais y gymuned, profiad bywyd a barn broffesiynol – a throsi hyn yn gyd-ddealltwriaeth o’r hyn sydd bwysicaf. Yn y cam hwn, gall fod yn arbennig o fuddiol ystyried sut y gallai pob mater ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf, gan ddefnyddio technegau syml o ran cynllunio ar gyfer senarios a chynllunio ar gyfer y dyfodol i edrych ar gyfleoedd, risgiau, neu bwysau sy’n dod i’r amlwg er enghraifft, Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol. Efallai y bydd partneriaethau am ddefnyddio cymorth gan sefydliadau fel Hwb Dyfodol sy’n gallu cynnig cymorth i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus o ran meddwl am y dyfodol a meddwl yn y tymor hir, a/neu Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer dulliau meddwl drwy systemau.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i bartneriaethau strwythuro’r cam hwn o amgylch nifer fach o gwestiynau:

  1. Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddangos yn gyson?
    Dylech ystyried blaenoriaethau sy’n ymddangos ar draws data meintiol, gwybodaeth ansoddol, a llais cymunedau.
  2. Pam mae hyn yn bwysig o ran llesiant neu o ran gofal a chymorth yn eich ardal?
    Mae angen pwyso a mesur y goblygiadau i bobl, i gymunedau, neu i wasanaethau.
  3. Beth sydd wrth wraidd y flaenoriaeth hon?
    Efallai y bydd partneriaethau am edrych ar y ffactorau, yr ymddygiad, y pwysau, neu’r amodau sy’n creu neu’n atgyfnerthu’r flaenoriaeth, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn sydd fwyaf gweladwy yn unig. Gall deall yr hyn sydd wrth wraidd hyn helpu i nodi lle gall ymyrraeth gynnar a chamau ataliol fod yn effeithiol.
  4. Sut mae profiad bywyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd y flaenoriaeth hon?
    Rhowch sylw arbennig i grwpiau nad yw eu lleisiau’n cael eu cynrychioli mor aml. 
  5. Ble mae’r bartneriaeth yn ychwanegu gwerth?
    Canolbwyntiwch ar flaenoriaethau na all unrhyw un sefydliad penodol fynd i’r afael â nhw’n effeithiol ar ei ben ei hun.
  6. Beth sydd o fewn gallu’r bartneriaeth i newid neu ddylanwadu?
    Gall hyn helpu i wahaniaethu rhwng blaenoriaethau sy’n addas ar gyfer gweithredu ar y cyd a’r materion hynny sy’n cael eu sbarduno gan ffactorau y tu hwnt i reolaeth leol.
  7. Sut gallai’r flaenoriaeth hon newid dros amser?
    Defnyddiwch syniadau ar gyfer y dyfodol i edrych ar beth allai ddigwydd dros y pump i ddeng mlynedd nesaf.
  8. A yw gweithredu ar y cyd yn ymarferol ac yn gymesur?
    Byddwch yn realistig ynghylch dylanwad, adnoddau, ac amseru.

Nid fframwaith sgorio yw bwriad yr awgrymiadau hyn. Yn syml, maen nhw’n ffordd o gefnogi trafodaeth sy’n pwyso a mesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’r enghraifft ganlynol yn dangos sut mae un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi mynd ati i flaenoriaethu gan ddefnyddio tystiolaeth a dylanwad ar y cyd:

Defnyddiodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot gyfuniad o ddata meintiol a phrofiad bywyd i symud o asesiad eang o lesiant i set benodol o flaenoriaethau. Datblygodd partneriaid sylfaen dystiolaeth ar y cyd, gan ddefnyddio data economaidd-gymdeithasol a data iechyd ochr yn ochr ag ymgysylltu penodol â thrigolion a sefydliadau cymunedol.

I helpu i flaenoriaethu, trefnodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus weithdai strwythuredig lle’r oedd partneriaid yn adolygu tystiolaeth yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnyn nhw, gan gynnwys maint yr angen, yr effaith ar lesiant, cysoni â nodau llesiant cenedlaethol, ac i ba raddau y gallai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda’i gilydd, ddylanwadu ar fater neu weithredu arno. Roedd hyn yn cynnwys ymarferion ymarferol a hyfforddiant ar gylchoedd rheolaeth a dylanwad, gan helpu partneriaid i wahaniaethu rhwng materion y mae’n well i sefydliadau unigol fynd i’r afael â nhw a’r rheini lle mae angen ymateb cydgysylltiedig gan bartneriaethau.

Gan ddefnyddio’r dull hwn, llwyddodd partneriaid i herio rhestrau hir o faterion a chanolbwyntio ar feysydd lle gallai gweithredu ar y cyd gael yr effaith fwyaf. O ganlyniad, sefydlodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus set o flaenoriaethau mwy penodol y gellir eu cyflawni, gan ddarparu sylfaen gref ar gyfer ei Gynllun Llesiant a chefnogi camau ataliol mwy cydgysylltiedig ar draws partneriaid.

Dylai allbwn y cam hwn fod yn naratif byr sy’n egluro’r blaenoriaethau a ddewiswyd a’r rhesymeg y tu ôl iddyn nhw. Nid oes angen i’r naratif hwn fod yn hir. Yn syml, mae angen iddo wneud y canlynol:

  • disgrifio’r nifer fach o flaenoriaethau a nodwyd
  • crynhoi’r dystiolaeth a’r wybodaeth a arweiniodd at y blaenoriaethau
  • esbonio pam mae angen gweithredu ar draws y bartneriaeth
  • myfyrio’n gryno ar sut y gallai’r flaenoriaeth newid yn y dyfodol
  • gosod y cyfeiriad ar gyfer archwilio manylach yn ystod gwaith cynllunio

Nid oes angen gwreiddio data ategol, dadansoddiadau a gwybodaeth am gymunedau yn yr asesiad er y dylai’r rhesymeg dros bob blaenoriaeth fod yn dryloyw. Dylai’r darllenwyr allu gweld y brif dystiolaeth, y ffynonellau data, canfyddiadau ymchwil, a’r prosesau ymgysylltu sy’n cefnogi pob casgliad a blaenoriaeth allweddol. Mae gan bartneriaethau yr hyblygrwydd o ran sut maen nhw’n dewis gwneud hyn. Efallai y bydd partneriaethau am wneud hyn drwy ddefnyddio dangosfyrddau, atodiadau neu gatalog data byw neu yng nghorff yr asesiad, os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny. Dylai partneriaethau ddarparu rhestr glir o’r ffynonellau tystiolaeth allweddol a gafodd eu hystyried, yn hytrach nag atgynhyrchu allbwn dadansoddiadau manwl. Mae hyn yn rhoi eglurder i ddarllenwyr heb fynnu bod pob set ddata, siart neu ddadansoddiad manwl yn cael ei gyhoeddi.

Catalogau data a deunyddiau ategol

Dylai partneriaethau gadw cofnod o’r prif setiau data, yr ymchwil a’r wybodaeth a ddefnyddir wrth ddatblygu’r asesiad. Dylid ymgorffori hyn yn yr asesiad, ei gyhoeddi fel catalog data, atodiad technegol, neu ei gadw drwy adnodd digidol hygyrch. Fel rhan o’r asesiadau, mae’n bwysig bod y fethodoleg a’r dull a ddefnyddiwyd i lywio’r asesiad yn glir, a bod unrhyw gyfyngiadau ar y fethodoleg yn cael eu nodi’n glir. Er mwyn sicrhau bod ffocws i’r asesiadau, cydnabyddir y gallai crynodeb o’r fethodoleg fod yn briodol yn yr asesiad ei hun, ac y gellir darparu trosolwg manylach o’r dull gweithredu fel atodiad technegol.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol hefyd i bartneriaethau gytuno i gadw’r broses asesu’n gymesur. Gall hyn gynnwys canolbwyntio ar ddyfnder yn hytrach nag ehangder, gan osgoi manylion technegol diangen, a chydnabod na fydd pob mater a nodir yn y dystiolaeth yn dod yn flaenoriaeth.

5.3 Cyhoeddi a hygyrchedd

Rhaid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol gyhoeddi asesiadau yn unol â gofynion statudol. Gall partneriaethau ddewis fformatau cyhoeddi gwahanol, gan gynnwys fformatau gwefan yn gyntaf, cynnwys digidol rhyngweithiol, neu adroddiadau traddodiadol, cyn belled â bod yr allbynnau’n hygyrch, yn ddwyieithog ac yn dryloyw.

Dylai’r cyhoeddiad egluro sut mae tystiolaeth, prosesau ymgysylltu a gwybodaeth ar gyfer y dyfodol wedi llywio canfyddiadau, casgliadau a blaenoriaethau sydd yn yr asesiad. Dylai darllenwyr allu deall pa dystiolaeth a ddefnyddiwyd, o ble y daeth, a sut y cyfrannodd at gasgliadau’r asesiad. Dylai’r hyn a gyhoeddir ganolbwyntio ar y naratif, y rhesymeg y tu ôl i’r blaenoriaethau a ddewiswyd, a rhestr syml o ffynonellau tystiolaeth allweddol, yn hytrach na’r cynnwys dadansoddol llawn. Nid oes angen atgynhyrchu data manwl, dadansoddiadau a chrynodebau ymgysylltu yn yr asesiad ei hun. Fodd bynnag, dylai partneriaethau sicrhau bod y dystiolaeth ategol allweddol ar gael drwy atodiadau cysylltiedig, catalogau data, dangosfyrddau, neu adnoddau ategol eraill.

5.4 Crynodeb o allbynnau mewnol ac allbynnau sydd wedi’u cyhoeddi

Mae’r diagram isod yn crynhoi’r gwahaniaeth rhwng:

  • y gwaith a gafodd ei wneud yn ystod yr asesiad
  • yr allbynnau y mae angen eu cyhoeddi

Y bwriad yw cefnogi dull gweithredu cymesur, lle mae partneriaethau’n gwneud gwaith dadansoddi ac ymgysylltu da, ond dim ond yn cyhoeddi’r hyn sydd ei angen i gyfiawnhau ac egluro eu blaenoriaethau y cytunwyd arnyn nhw.

Image

Mae'r ffeithlun hwn yn crynhoi'r dull o asesu a chyhoeddi a nodir yn y canllawiau ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh). Mae'n dangos sut y dylai partneriaethau adeiladu ar dystiolaeth, data, ymchwil, ymgysylltu a phrofiad bywyd sy'n bodoli eisoes i ddeall llesiant, anghenion ac anghydraddoldebau, nodi nifer fach o flaenoriaethau, a dangos sut mae tystiolaeth wedi llywio casgliadau. Mae hefyd yn crynhoi'r wybodaeth y disgwylir ei chyhoeddi mewn asesiadau, gan gynnwys prif ganfyddiadau, tueddiadau'r dyfodol, blaenoriaethau, ffynonellau tystiolaeth ac adnoddau ategol. Mae'r ffeithlun yn pwysleisio y dylai asesiadau fod yn gymesur, yn hygyrch, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar weithredu ar y cyd.

Dylai’r asesiad ddangos llwybr clir rhwng tystiolaeth, dadansoddiad, canfyddiadau, blaenoriaethau, a chynlluniau dilynol. Gellir defnyddio deunyddiau ategol, fel catalogau data, methodolegau, dangosfyrddau, ac atodiadau technegol, i helpu i fod yn dryloyw a chaniatáu i’r asesiad ei hun ganolbwyntio o hyd ar ddehongli, blaenoriaethau, a gweithredu ar y cyd.

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen