Canllawiau anstatudol ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus a byrddau partneriaeth rhanbarthol: Asesiadau, data a thystiolaeth - 6. Atodiadau
Mae’r canllawiau hyn yn cefnogi byrddau gwasanaethau cyhoeddus a byrddau partneriaeth phanbarthol wrth iddyn nhw baratoi eu hasesiadau statudol o dan ddwy Ddeddf ar wahân.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Y bwriad yw datblygu’r atodiadau hyn a byddan nhw’n cael eu siapio drwy ymgysylltu pellach â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a thimau dadansoddi rhanbarthol. Gall rhanbarthau addasu neu ychwanegu at yr atodiadau hyn yn ôl yr angen.
- Atodiad A: Rhestrau Gwirio Gofynion Statudol Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
- Atodiad B: Rhestr Wirio Gofynion Statudol Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
- Atodiad C: Data, llenyddiaeth lwyd a gwybodaeth ansoddol
- Atodiad D: Catalog Data Rhanbarthol
- Atodiad E: Rhestr o Dermau Allweddol
Atodiad A: Rhestrau Gwirio Gofynion Statudol Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Paratoi asesiad o Lesiant Lleol
Mae’r atodiad hwn yn nodi’r gofynion statudol y mae’n rhaid i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus eu bodloni wrth baratoi ac ymgynghori ar ei asesiad o lesiant lleol o dan Ran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a chyhoeddi’r asesiad hwnnw.
Y bwriad yw cefnogi byrddau i sicrhau bod yr holl ddyletswyddau cyfreithiol yn cael eu cyflawni mewn ffordd glir, gyson ac amlwg, gan ganiatáu hyblygrwydd priodol o ran sut mae’r asesiad yn cael ei ddatblygu a’i gyflwyno.
Sut mae defnyddio’r atodiad hwn
Pwrpas
Mae’r atodiad hwn yn darparu rhestr wirio ymarferol o ofynion statudol i gefnogi:
- gwaith cynllunio a drafftio
- sicrwydd mewnol
- prosesau llywodraethu a chraffu
Rhaid bodloni’r holl ofynion isod oni nodir yn wahanol.
Crynodeb o’r Gofynion Statudol
| Maes | Gofyniad Allweddol |
|---|---|
| Dyletswydd ac amseru | Rhaid paratoi a chyhoeddi asesiad o fewn amserlenni statudol |
| Diffinio’r ardal | Rhaid nodi cymunedau yn ardal y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus |
| Dadansoddiad o lesiant | Rhaid dadansoddi llesiant ar draws cymunedau a’r ardal gyfan |
| Pobl ac anghydraddoldebau | Rhaid asesu llesiant pobl, gan gynnwys gwahanol grwpiau |
| Ffocws ar y dyfodol | Rhaid cynnwys tueddiadau’r dyfodol ac ystyriaethau hirdymor |
| Fframwaith cenedlaethol | Rhaid cyfeirio at ddangosyddion cenedlaethol |
| Defnydd o dystiolaeth | Rhaid defnyddio sylfaen dystiolaeth eang a chadarn |
| Integreiddio | Rhaid ystyried asesiadau statudol penodol |
| Datblygu cynaliadwy | Rhaid defnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy |
| Ymgynghori | Rhaid ymgynghori â phobl benodol ynghylch asesiad drafft |
| Cyhoeddi | Rhaid cyhoeddi a rhannu’r asesiad â chyrff gofynnol |
| Llywodraethu | Rhaid i aelodau statudol gytuno ar hyn ar y cyd; ni ellir ei ddirprwyo |
Dehongli a dangos y gofynion
Mae’r term ‘rhaid’ yn adlewyrchu dyletswydd statudol. Nid yw’r atodiad hwn yn disodli’r canllawiau statudol a dylid ei ddarllen ochr yn ochr â nhw.
Mae’r rhestr wirio’n ailddatgan gofynion statudol yn hytrach na dyfynnu’n uniongyrchol, er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb, a hwylustod. Dylai byrddau sicrhau bod bwriad pob dyletswydd statudol yn cael ei gyflawni’n llawn.
Dylai byrddau allu dangos sut mae pob gofyniad wedi cael ei fodloni, sut mae tystiolaeth wedi cyfrannu at y dadansoddiad, a sut y daethpwyd i’r canfyddiadau a’r casgliadau. Bydd hyn yn helpu gyda phrosesau craffu effeithiol, atebolrwydd, a hyder yng nghadernid yr asesiad.
Rhestr Wirio Statudol
1. Dyletswydd i Gynhyrchu ac Amseru
☐ Rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o lesiant lleol.
☐ Rhaid cyhoeddi’r asesiad o leiaf flwyddyn cyn cyhoeddi’r cynllun llesiant lleol.
☐ Rhaid cyhoeddi’r asesiad o fewn y 12 mis cyn etholiad llywodraeth leol cyffredin.
2. Gofynion Cynnwys Craidd
2.1 Diffinio’r Ardal
☐ Rhaid i’r asesiad nodi ac enwi’r cymunedau sy’n rhan o ardal y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Dylai ardaloedd cymunedol adlewyrchu ardaloedd daearyddol lleol ac amrywiadau yn yr ardal mewn modd ystyrlon, yn hytrach na dibynnu ar ffiniau gweinyddol yn unig.
2.2 Dadansoddiad o Lesiant
Rhaid i’r asesiad ddadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, a diwylliannol:
☐ ar gyfer pob cymuned, ac
☐ ar gyfer yr ardal gyfan
☐ Rhaid i’r asesiad ddadansoddi llesiant y bobl sy’n byw yn yr ardal.
Dylai lefel y manylder fod yn ddigon i gefnogi casgliadau cadarn, yn hytrach na chynnwys popeth.
2.3 Gofynion Dadansoddi Ychwanegol
☐ Rhaid i’r asesiad gynnwys unrhyw ddadansoddiad pellach sy’n cael ei wneud gan y bwrdd.
☐ Rhaid i’r asesiad gynnwys unrhyw ddata a gwybodaeth berthnasol arall y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol.
Mater i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus benderfynu arno yw strwythur a fformat yr asesiad, ar yr amod bod gofynion statudol yn cael eu bodloni.
3. Ffocws ar y dyfodol
☐ Rhaid i’r asesiad gynnwys rhagfynegiadau o’r tueddiadau tebygol mewn llesiant yn y dyfodol ar draws y pedwar dimensiwn.
☐ Rhaid i’r asesiad roi sylw i Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol Gweinidogion Cymru (lle y bo’n berthnasol).
4. Cysoni â’r Fframwaith Cenedlaethol
☐ Rhaid i’r asesiad gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol.
5. Defnydd o Dystiolaeth
☐ Rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddefnyddio amrywiaeth eang o dystiolaeth a dadansoddiadau fel sail i’r asesiad.
☐ Rhaid i’r sylfaen dystiolaeth gynnwys ffynonellau meintiol ac ansoddol, lle y bo hynny’n briodol.
Nid oes angen i’r asesiad atgynhyrchu’r holl ddata sylfaenol. Gellir crynhoi’r data, neu gyfeirio at ddata, neu gyfeirio’r darllenwyr at ddata lle mae hyn yn helpu gydag eglurder a hygyrchedd.
Dylai’r dull o drin tystiolaeth fod yn gymesur, gan ganolbwyntio ar faterion perthnasol sy’n effeithio ar lesiant yn yr ardal.
6. Integreiddio Asesiadau Statudol Eraill
Rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried adolygiadau ac asesiadau statudol perthnasol, gan gynnwys:
☐ asesiadau risg newid hinsawdd
☐ asesiadau o ddigonolrwydd mewn meithrinfeydd a gofal plant
☐ asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae
☐ asesiadau o anghenion y boblogaeth
☐ asesiadau strategol o droseddu, anhrefn, camddefnyddio sylweddau, ac aildroseddu
☐ datganiadau ardal amgylcheddol perthnasol
Nid oes angen i’r asesiad ddyblygu’r asesiadau hyn ond dylai eu defnyddio a chyfeirio atyn nhw’n briodol.
7. Ystyried Pobl ac Anghydraddoldebau
☐ Rhaid i’r asesiad ystyried llesiant y bobl yn yr ardal.
Wrth wneud hynny, rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus roi sylw i anghenion gwahanol grwpiau, gan gynnwys:
☐ pobl agored i niwed neu bobl dan anfantais
☐ pobl â nodweddion gwarchodedig
☐ plant a phobl ifanc
☐ pobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw, a gofalwyr*
* Mae’r gofyniad hwn yn ymwneud â deall llesiant ar lefel y boblogaeth. Dylai’r asesiad ddefnyddio tystiolaeth sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys asesiadau o anghenion y boblogaeth, ac nid yw’n gofyn am ddyblygu dadansoddiad manwl o anghenion gofal a chymorth a wneir drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
8. Yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy
☐ Rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddefnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth baratoi’r asesiad.
Mae hyn yn cynnwys:
☐ defnyddio dull hirdymor
☐ ystyried sut mae atal
☐ cynnwys pobl a chymunedau perthnasol
9. Gofynion Ymgynghori
Cyn cyhoeddi
Rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ymgynghori â phobl benodol, gan gynnwys:
☐ Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
☐ cyfranogwyr sydd wedi’u gwahodd
☐ partneriaid eraill
☐ pwyllgor craffu’r awdurdod lleol
☐ cyrff a mudiadau gwirfoddol perthnasol
☐ cynrychiolwyr preswylwyr a busnesau
☐ undebau llafur
☐ pobl eraill sydd â diddordeb mewn llesiant
☐ Rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddarparu asesiad drafft i ymgyngoreion.
☐ Rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ganiatáu digon o amser ar gyfer ystyriaeth ac adborth ystyrlon.
10. Cyhoeddi a Dosbarthu
Ar ôl cyhoeddi’r asesiad, rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ei anfon at y canlynol:
☐ Gweinidogion Cymru
☐ Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
☐ Archwilydd Cyffredinol Cymru
☐ pwyllgor craffu’r awdurdod lleol
11. Llywodraethu a Chyfrifoldeb
☐ Rhaid i holl aelodau statudol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gytuno ar yr asesiad a’i gyhoeddi ar y cyd.
☐ Ni ddylid dirprwyo’r swyddogaeth o baratoi a chyhoeddi’r asesiad i is-grwpiau.
Atodiad B: Rhestr Wirio Gofynion Statudol Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
Paratoi Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
Mae’r atodiad hwn yn nodi’r gofynion statudol yn Adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a (Llesiant) (Cymru) 2014.
Y bwriad yw cefnogi byrddau i sicrhau bod yr holl ddyletswyddau cyfreithiol yn cael eu cyflawni mewn ffordd glir, gyson ac amlwg, gan ganiatáu hyblygrwydd priodol o ran sut mae’r asesiad yn cael ei ddatblygu a’i gyflwyno.
Sut mae defnyddio’r atodiad hwn
Pwrpas
Mae’r atodiad hwn yn darparu rhestr wirio ymarferol o ofynion statudol i gefnogi:
- gwaith cynllunio a drafftio
- sicrwydd mewnol
- prosesau llywodraethu a chraffu
Rhaid bodloni’r holl ofynion isod oni nodir yn wahanol, hynny yw, canllaw yn unig yw’r datganiadau dylai.
Crynodeb o’r Gofynion Statudol
Categorïau a gymerwyd o Godau Ymarfer o Adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a (Llesiant) Cymru 2014.
| Maes | Gofyniad Allweddol |
|---|---|
| Adroddiad | Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gynhyrchu un adroddiad asesiad o anghenion y boblogaeth fesul cylch etholiadau llywodraeth leol |
| Asesiad | Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd asesu’r canlynol ar y cyd:
i ba raddau y mae yna bobl nad yw eu hanghenion o ran gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, eu hanghenion o ran cymorth) yn cael eu diwallu. |
| Tueddiadau’r Dyfodol | Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd sicrhau bod eu hasesiad o anghenion y boblogaeth yn adlewyrchu’r anghenion presennol, tueddiadau’r dyfodol a’r heriau cysylltiedig a ddaw gyda pholisïau aml-genhedlaeth. |
| Themâu Craidd | Rhaid i ran gyntaf adroddiad asesiad o anghenion y boblogaeth nodi sut mae’r awdurdodau lleol a’r bwrdd iechyd wedi ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau wrth gynhyrchu’r adroddiad a chynnwys themâu craidd penodol sy’n delio â’r canlynol:
*Ar gyfer yr asesiad nesaf, gofynnir am ffocws ar blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). |
| Asesiad o’r ystâd ddiogel | Rhaid i asesiadau o anghenion y boblogaeth ystyried hefyd anghenion gofal a chymorth poblogaethau yn yr ystâd ddiogel |
| Ystod a lefel y gwasanaethau gan gynnwys y Gymraeg | Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd asesu’r canlynol ar y cyd: · ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu anghenion gofal a chymorth y boblogaeth ac anghenion gofalwyr o ran cymorth · ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i atal anghenion rhag codi neu waethygu · y camau sydd angen eu cymryd i ddarparu’r gwasanaethau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg. |
| Hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr, a’r trydydd sector. | Gan ystyried sut y bydd anghenion yn cael eu diwallu, rhaid i awdurdodau lleol adeiladu ar eu dyletswydd i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr, a’r trydydd sector. |
| Dulliau atal | Wrth ystyried dulliau atal, dylai awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda byrddau iechyd sicrhau eu bod yn nodi’r hyn sy’n bwysig i bobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw a gofalwyr y mae angen cymorth arnyn nhw. Hefyd, dylai'r awdurdodau lleol sicrhau bod gan bobl a chymunedau ddealltwriaeth glir o’r adnoddau sydd ar gael. |
| Data | Dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddarparu amrywiaeth eang o wybodaeth ystadegol mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorth. Dylai’r rhain fod yn arloesol o ran nodi ffynonellau data lleol, ymchwil ac ystadegau a allai gyfrannu at asesiad, gan gynnwys defnyddio technoleg. |
| Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb | Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gynnal Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, sy’n gorfod cynnwys asesiadau effaith ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol |
Asesiad o Anghenion y Boblogaeth - Rhestr Wirio Statudol - “Rhaid”
1. Dyletswydd Graidd (Adran 14)
☐ Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gynnal asesiad ar y cyd o’r canlynol:
- pobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw
- gofalwyr y mae angen cymorth arnyn nhw
☐ Rhaid i’r asesiad nodi:
- anghenion heb eu diwallu
- ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen
- ystod a lefel y gwasanaethau ataliol sydd eu hangen
- sut y bydd gwasanaethau’n cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg
2. Trefniadau Partneriaeth
☐ Rhaid i awdurdodau lleol ffurfio trefniant partneriaeth gyda’r bwrdd iechyd ar gyfer yr asesiad
☐ Rhaid i drefniadau partneriaeth penodol fod ar waith i gynnal yr asesiad
☐ Rhaid cynhyrchu un adroddiad cyfun o asesiad o anghenion y boblogaeth ar gyfer pob ardal bwrdd iechyd
3. Llunio’r Adroddiad
☐ Rhaid cynhyrchu adroddiad ar yr asesiad o anghenion y boblogaeth
☐ Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gymeradwyo’r adroddiad yn ffurfiol
☐ Rhaid cyhoeddi’r adroddiad ar wefannau partneriaid
☐ Rhaid anfon copi at Weinidogion Cymru pan gaiff ei gyhoeddi
4. Cynnwys yr Asesiad (Adran 1 – Anghenion)
☐ Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd asesu ar y cyd:
- faint o bobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw ac i ba raddau
- faint o ofalwyr y mae angen cymorth arnyn nhw ac i ba raddau
- nifer yr anghenion heb eu diwallu ac i ba raddau
☐ Rhaid i’r adroddiad gynnwys asesiadau o grwpiau poblogaeth sy’n flaenoriaeth (fel y nodir yn y Cod)
☐ Rhaid i’r asesiad adlewyrchu:
- yr anghenion presennol
- tueddiadau’r dyfodol a heriau hirdymor
5. Cynnwys yr Asesiad (Adran 2 – Gwasanaethau)
☐ Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd asesu ar y cyd:
- ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen
- ystod a lefel y gwasanaethau ataliol sydd eu hangen
- y camau sydd angen eu cymryd i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg
☐ Rhaid i Adran 2 gynnwys asesiad o’r gwasanaethau ataliol sydd eu hangen yn unol ag adran 15
6. Dyletswyddau Cyfreithiol a Chydraddoldeb
☐ Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gynnal Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, sy’n cwmpasu’r holl nodweddion gwarchodedig
7. Disgwyliadau o ran ymgysylltu
☐ Rhaid i ystod eang o unigolion a sefydliadau fod yn rhan o’r broses asesu
☐ Rhaid i brosesau ymgysylltu gynnwys:
- dinasyddion (gan gynnwys plant a grwpiau nad ydynt yn cael eu clywed yn aml)
- gofalwyr
- darparwyr yn y trydydd sector a’r sector preifat
☐ Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd sefydlu a rhoi cyhoeddusrwydd i weithdrefn ar gyfer cael barn pobl (o’r testun craidd)
☐ Rhaid i’r adroddiad nodi sut mae ymgysylltu wedi digwydd (dinasyddion a darparwyr)
8. Amseru a Chylch
☐ Rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gynhyrchu un adroddiad fesul cylch etholiadau llywodraeth leol
9. Adolygu a Diweddaru
☐ Rhaid i’r trefniant partneriaeth barhau i adolygu’r adroddiad
☐ Rhaid adolygu’r adroddiad o leiaf hanner ffordd drwy’r cylch
☐ Os bydd newid sylweddol yn digwydd, rhaid cynhyrchu, cyhoeddi ac anfon atodiad at Weinidogion Cymru (o’r rhwymedigaethau testun craidd a’r crynodeb)
10. Dyletswydd o ran y Gymraeg
☐ Rhaid i’r asesiad nodi:
- yr angen am wasanaethau yn y Gymraeg
- ystod a lefel y ddarpariaeth Gymraeg sydd ei hangen
- bylchau yn y ddarpariaeth
☐ Rhaid i adran 2 nodi’r camau y mae angen eu cymryd i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg
11. Llywodraethu a Darparu
☐ Rhaid i gyrff partneriaeth gynhyrchu un adroddiad cyfun sy’n ymdrin â’r canlynol:
- ardal pob awdurdod lleol
- ardal gyfan y bwrdd iechyd
☐ Rhaid i bartneriaid gymryd rhan yn y broses asesu (drwy drefniadau llywodraethu’r bartneriaeth)
☐ Rhaid i bartneriaid rannu’r wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer yr asesiad
Atodiad C: Data, llenyddiaeth lwyd a gwybodaeth ansoddol
Mae’r atodiad hwn yn nodi dull lefel uchel o ddefnyddio data, tystiolaeth a gwybodaeth mewn ffordd sy’n gymesur, yn bwrpasol ac yn gyson ar draws Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Ni fwriedir iddo ychwanegu baich na rhagnodi gofynion technegol manwl. Yn hytrach, mae’n cynnig hawliau a disgwyliadau ymarferol i gefnogi proses asesu symlach, sy’n canolbwyntio ar y cyd-flaenoriaethau y gall partneriaethau ddylanwadu’n ystyrlon arnyn nhw.
Asesiad cymesur a phwrpasol
Rydym yn annog partneriaethau i fabwysiadu dull cymesur o ymdrin â thystiolaeth a dadansoddiad. Nid cynhyrchu adroddiad hollgynhwysfawr yw pwrpas yr asesiad. Yn hytrach, dylai ddarparu naratif clir sy’n:
- disgrifio beth mae’r dystiolaeth yn ei ddangos
- nodi rhagdybiaethau allweddol, cyfyngiadau a bylchau yn y dystiolaeth, gan gynnwys a oes dyddiad ar gyfer y data, neu ddata anghyflawn neu ddim ar gael, a beth mae hyn yn ei olygu o ran dehongli.
- tynnu sylw at yr hyn sydd bwysicaf
- esbonio pam mae rhai materion penodol yn dod i’r amlwg fel blaenoriaethau
- dangos pam mae angen gweithredu ar draws y bartneriaeth
Dylai partneriaethau nodi pa dystiolaeth maen nhw wedi’i defnyddio, er enghraifft, rhestr o setiau data allweddol, ffynonellau, ymchwil a gwybodaeth am gymunedau. Dylai darllenwyr allu nodi’r dystiolaeth sy’n sail i’r prif honiadau, casgliadau a blaenoriaethau, a bod unrhyw gyfyngiadau neu fylchau yn cael eu cydnabod yn glir. Gellir cynnwys hyn yn yr asesiad, ei gyhoeddi fel catalog data, atodiad technegol, neu ei gadw drwy adnodd digidol hygyrch. Un o’r prif ddisgwyliadau yw bod yr asesiad yn adrodd stori glir am sut mae’r dystiolaeth wedi llywio’r canfyddiadau a bod y dystiolaeth berthnasol ar gael yn glir.
Hawliau ymarferol ar gyfer gweithio gyda thystiolaeth
Efallai y bydd partneriaethau am ddefnyddio’r hawliau canlynol i wneud y broses asesu’n haws ei rheoli:
- Fformatau hyblyg: Gall partneriaethau ddefnyddio unrhyw fformat neu dechnoleg, fel llwyfannau ar-lein, dangosfyrddau rhyngweithiol, fideos, ffeithluniau, neu adroddiadau ysgrifenedig traddodiadol, ar yr amod bod allbynnau’n hygyrch, yn dryloyw ac yn hawdd i’r cyhoedd eu deall. Pan fo dangosfyrddau rhyngweithiol neu offer data byw yn cael eu defnyddio, dylai partneriaethau sicrhau bod dehongli yn hytrach na swmp y data yn parhau i fod yn ganolog. Dylai dangosfyrddau helpu i sicrhau tryloywder a dealltwriaeth, nid disodli barn ddadansoddol neu esboniad naratif.
- Mae bylchau’n dderbyniol: Os yw data’n gyfyngedig, yn aneglur neu’n esblygu, gallwch nodi hyn yn hytrach na cheisio llenwi pob bwlch.
- Cynnyrch tystiolaeth sy’n gyffredin: Efallai y byddwch yn dewis datblygu catalogau data rhanbarthol, proffiliau thematig neu ddangosfyrddau a rennir i gefnogi asesiadau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
Nodi a chasglu data a thystiolaeth ar gyfer eich asesiad
Bydd dealltwriaeth glir o’r hyn y bwriedir i’r asesiad ei gyflawni yn helpu i gyfeirio eich proses casglu tystiolaeth ar y materion sydd bwysicaf i’ch ardal. Mae esbonio eich diben yn glir o’r cychwyn cyntaf yn helpu i lunio strwythur yr asesiad, yn nodi lle mae angen archwilio’n ddyfnach, ac yn rhoi golwg glir ar y blaenoriaethau a fydd yn dilyn yn eich asesiadau Llesiant neu Gynlluniau Anghenion y Boblogaeth.
Mae’n debygol y bydd llawer o’r data sydd ei angen arnoch yn bodoli’n barod. Un o’r tasgau cynnar allweddol yw nodi ffynonellau perthnasol a deall beth all pob un ei gyfrannu. Efallai y bydd ffynonellau defnyddiol yn cynnwys:
- Ystadegau swyddogol - fel data a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru neu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r rhain yn darparu data cadarn y gellir ei gymharu dros amser ac ar draws ardaloedd, er yn aml nid oes llawer o fanylder ar lefel gymunedol.
- Data gweinyddol - gwybodaeth a gesglir drwy ddarparu gwasanaethau. Gall hyn gynnig cipolwg ar y galw a’r defnydd o wasanaethau amser real, ond gall amrywio o ran ansawdd neu o ran bod yn ddata cyflawn.
- Gwybodaeth leol a chymunedol - gwybodaeth a gynhyrchir drwy ymgynghoriadau, adroddiadau partneriaid neu ymgysylltu lleol, sy’n gallu datgelu materion nad ydynt i’w gweld mewn setiau data cenedlaethol.
- Llenyddiaeth lwyd - gwerthusiadau, crynodebau ymchwil ac adroddiadau rhanddeiliaid sy’n rhoi gwybodaeth gyd-destunol neu thematig. Gall y rhain amrywio o ran ansawdd a dylid eu dehongli’n ofalus.
- Gwybodaeth ansoddol a thystiolaeth gymunedol - fel cyfweliadau, gweithdai neu weithgareddau cyd-gynhyrchu, sy’n rhoi dyfnder ac esboniad ond efallai nad yw’n cynrychioli pob grŵp yn gyfartal.
- Ffynonellau tystiolaeth amgylcheddol – gan gynnwys yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n rhoi gwybodaeth ranbarthol am gyfleoedd, pwysau, a risgiau amgylcheddol
Nid oes dim un ffynhonnell unigol yn rhoi darlun cyflawn. Gall defnyddio sawl math o dystiolaeth gyda’i gilydd helpu i ategu canfyddiadau, tynnu sylw at yr hyn sy’n croesddweud ei gilydd, a meithrin dealltwriaeth fwy cyflawn o lesiant ac angen.
Wrth ystyried y mathau uchod o dystiolaeth, dylai partneriaethau ddechrau drwy ystyried ffynonellau tystiolaeth cydnabyddedig a dibynadwy, gan gynnwys ystadegau swyddogol, fframweithiau dangosyddion cenedlaethol, setiau data gweinyddol, ac ymchwil sydd wedi ennill ei phlwyf. Mae defnyddio’r ffynonellau hyn yn hyrwyddo cymharedd, cysondeb a hyder mewn canfyddiadau ledled Cymru. Gellir defnyddio ffynonellau eraill wedyn i gasglu gwybodaeth a data ychwanegol a all ategu’r data hwn drwy wybodaeth fwy lleol.
Wrth ystyried y defnydd o ddata sy’n bodoli’n barod, gan gynnwys gwybodaeth ansoddol gan ddinasyddion a gasglwyd drwy sianeli ymgysylltu sydd eisoes yn bodoli neu ar waith, dylai partneriaethau fynd ati’n feirniadol i ystyried pa mor gadarn a chynrychioladol yw’r dystiolaeth a’i goblygiadau o ran canfyddiadau. Yn benodol, dylech ystyried:
- a oes amrywiaeth o grwpiau demograffig yn cael eu cynrychioli
- a yw amrywiadau daearyddol ar draws y rhanbarth yn cael eu hadlewyrchu
- a yw’r dystiolaeth yn ymdrin â’r themâu allweddol sy’n debygol o ddylanwadu ar lesiant a/neu anghenion gofal a chymorth
- a yw safbwyntiau pobl sydd â phrofiad uniongyrchol wedi cael eu cynnwys yn ystyrlon
Casglu data newydd
Pan fo bylchau yn cael eu nodi yn y dystiolaeth, efallai y bydd partneriaethau am gasglu data cymesur a phenodol i gryfhau’r asesiad. Nid oes disgwyl i neb gynnal gweithgarwch newydd helaeth i fynd i’r afael â phob bwlch yn y dystiolaeth, ond yn hytrach i gael sylfaen dystiolaeth gytbwys sy’n sail gredadwy i’ch canfyddiadau.
Mae canfod bylchau’n gynnar yn caniatáu i bartneriaethau gynllunio eu dull gweithredu a gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael. Mae ymarfer syml i fapio data yn gallu helpu i egluro pa wybodaeth sydd eisoes yn bodoli, ymhle mae’r bylchau, a pha fylchau sydd bwysicaf i fynd i’r afael â nhw.
Mae’r capasiti ar gyfer casglu data sylfaenol yn amrywio ledled Cymru. Efallai y bydd gan rai ardaloedd ddigon o gapasiti mewnol ar gyfer dadansoddi, tra bydd angen i eraill ddefnyddio ymchwilwyr allanol neu bartneriaid academaidd. Dylai penderfyniadau ynghylch sut mae casglu tystiolaeth newydd ystyried sgiliau lleol, adnoddau a phwysigrwydd cymharol eich angen am dystiolaeth.
Pan fo angen casglu data newydd, dylai partneriaethau ystyried pwy i’w cynnwys, pa ddulliau sy’n briodol, ac a oes angen cymryd camau i sicrhau bod grwpiau nad ydynt yn cael eu clywed yn aml yn cael eu cynnwys yn ystyrlon. Lle y bo’n bosibl, efallai y byddai’n briodol integreiddio data ychwanegol sy’n cael ei gasglu i weithgareddau ymgysylltu sydd wedi’u cynllunio ac sydd eisoes yn bodoli yn hytrach na chreu ymarferion cwbl newydd.
Dadansoddi a dehongli eich data
Ar ôl i chi gasglu eich data a’ch tystiolaeth, y cam nesaf yw dadansoddi a dehongli’r hyn maen nhw’n ei ddangos gyda’i gilydd am anghenion pobl, y ffactorau sy’n eu siapio, a’r goblygiadau ar gyfer y dyfodol. Nod y cam hwn yw egluro beth mae’r dystiolaeth yn ei olygu a pham ei bod yn bwysig, nid cyflwyno pob dadansoddiad yn llawn nac atgynhyrchu pob set ddata. Dylai eich asesiad amlinellu’r dull dadansoddi a sut rydych chi wedi dod i’ch casgliad, wedi’i lywio gan y cwestiynau craidd a osodwyd ar ddechrau’r asesiad. Dylai’r rhain lywio eich dehongliad a helpu i weld beth yw’r negeseuon pwysicaf.
Fel rhan o’r dehongliad hwn, efallai y byddai’n ddefnyddiol i bartneriaethau ystyried eu penderfyniadau ynghylch ffiniau – y dewisiadau a wnaed ynghylch yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn y dadansoddiad, yr hyn sydd wedi’i hepgor, a pham. Mae bod yn glir am y ffiniau hyn yn helpu i osgoi bylchau cudd neu dybiaethau ffug. Efallai y bydd partneriaethau am ofyn:
- Pa grwpiau, lleoedd, ffynonellau data neu themâu rydym wedi’u cynnwys – a beth sydd y tu allan i’r ffin?
- A oes unrhyw safbwyntiau, profiadau neu ffactorau dylanwadol pwysig ar goll o’n tystiolaeth?
- Pe byddem yn ehangu neu’n culhau’r ffin ychydig, a fyddai’r mater yn edrych yn wahanol?
- Sut gallai ein dewisiadau o ffiniau effeithio ar ein dealltwriaeth o anghydraddoldebau neu amrywiadau lleol?
Dadansoddi sefyllfa a dadansoddi ymateb
Mae’n debygol y bydd eich dadansoddiad yn cynnwys y ddau isod:
- Dadansoddiad o sefyllfa: deall yr amodau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, a diwylliannol yn eich ardal, neu anghenion grwpiau penodol o’r boblogaeth.
- Dadansoddiad o’r ymatebion: ystyried beth mae’r dystiolaeth yn ei awgrymu ynghylch pa faterion y dylid eu blaenoriaethu, y mathau o ymyriadau a allai helpu, a’r hyn sy’n hysbys am yr hyn sy’n gweithio neu ddim yn gweithio.
Adnabod patrymau, anghydraddoldebau a thueddiadau
Dylai’r dadansoddiad edrych ar y prif batrymau a thueddiadau yn eich ardal, sut maen nhw’n amrywio rhwng grwpiau neu leoedd, a sut maen nhw’n cymharu ag ardaloedd eraill neu feincnodau cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys nodi anghydraddoldebau, ystyried a ydyn nhw’n mynd yn fwy neu’n mynd yn llai, a phwyso a mesur sut mae amodau wedi newid ers yr asesiad diwethaf.
Defnyddio dull meddwl trwy systemau wrth ddehongli
Wrth ddadansoddi tystiolaeth, efallai y bydd partneriaethau am ystyried sut mae materion yn gysylltiedig â’i gilydd, sut mae camau gweithredu neu bwysau mewn un rhan o’r system yn effeithio ar rannau eraill, a sut mae sbardunau cyffredin yn dylanwadu ar gyfrifoldebau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Gall defnyddio dull meddwl trwy systemau helpu i nodi dynameg sylfaenol nad yw efallai’n weladwy wrth edrych ar ffynonellau data unigol. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i bartneriaethau ofyn:
- Beth sy’n achosi neu’n atgyfnerthu’r patrwm rydym yn ei weld?
- A yw gwasanaethau, mathau o ymddygiad, amgylcheddau, neu bolisïau’n rhyngweithio mewn ffyrdd annisgwyl?
- Pa ganlyniadau anfwriadol a allai ddeillio o benderfyniadau neu bwysau presennol?
- Ymhle y gallai camau ataliol gael yr effaith fwyaf?
Mae’r dull hwn yn annog dehongliad mwy cyfannol ac ataliol ac yn helpu i osgoi tybiaethau cul neu gyfyng.
Deall yr hyn sy’n sbarduno ac yn achosi
Dylai’r dehongli fynd y tu hwnt i ddisgrifio patrymau, gan edrych ar y ffactorau sylfaenol sy’n sbarduno a’r ffactorau sy’n gallu achosi. Gall y rhain adlewyrchu newidiadau i wasanaethau lleol, datblygiadau polisi ehangach, newidiadau demograffig neu ddigwyddiadau allanol. Mae deall pam mae tueddiadau’n digwydd yn gallu helpu i lywio’r math o gamau gweithredu a allai fod yn ofynnol a lle gallai ymyrraeth gynnar ac ataliol gael yr effaith fwyaf.
Defnyddio nifer o ffynonellau
Mae defnyddio nifer o ffynonellau gyda’i gilydd yn caniatáu i bartneriaethau gryfhau eu dadansoddiad. Gall ffynonellau tystiolaeth ategu ei gilydd, tynnu sylw at bethau sy’n croesddweud ei gilydd neu ddatgelu gwahanol safbwyntiau. Pan fo ffynonellau’n cynnig gwybodaeth wahanol – er enghraifft, rhwng barn y cyhoedd a data gweinyddol – gall edrych ar y rhesymau dros y gwahaniaethau hyn gynnig cipolwg gwerthfawr.
Cysylltu tystiolaeth â chasgliadau
Dylai partneriaethau allu dangos sut mae tystiolaeth wedi llywio canfyddiadau, casgliadau a blaenoriaethau allweddol. Dylai dadansoddiad wahaniaethu’n glir rhwng tystiolaeth, dehongliad, a barn. Pan fo barn broffesiynol neu farn rhanddeiliaid yn dylanwadu ar gasgliadau, dylid gwneud hyn yn glir ochr yn ochr â’r dystiolaeth ategol.
Bod yn dryloyw ynghylch rhagdybiaethau a chyfyngiadau
Mae’n arferol i fylchau mewn tystiolaeth, ansicrwydd a chyfyngiadau fodoli. Mae cydnabod y rhain yn amlwg yn cryfhau eich dadansoddiad ac yn helpu i lywio meysydd ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Mae’n arfer da hefyd bod yn dryloyw ynghylch unrhyw dybiaethau sydd wedi’u gwneud yn ystod y dadansoddiad, a pham roedd angen y tybiaethau hyn. Mae hyn yn helpu i ddeall y canfyddiadau ac yn meithrin hyder yn y dehongliad.
Beth sydd angen ei gynnwys (elfennau naratif sylfaenol)
Yn ogystal â’r pwyntiau hyn am y dull dadansoddi a thystiolaeth, dylai partneriaethau fod yn ymwybodol o gynnyrch terfynol eu hasesiadau. Dylai pob asesiad gynnwys naratif cryno sy’n ymdrin â’r canlynol:
- Yr hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddangos: y prif ganfyddiadau o ddata, ymchwil a phrofiad bywyd, gan gynnwys cyfeiriadau clir at y prif ffynonellau tystiolaeth a ddefnyddiwyd
- Yr hyn mae’r asesiad yn ei gynnwys a ddim yn ei gynnwys: esboniad byr o unrhyw gyfyngiadau, ansicrwydd neu ffiniau allweddol yn y dystiolaeth, gan gynnwys lle dylid bod yn ofalus wrth drin casgliadau.
- Pam mae hyn yn bwysig: y goblygiadau i lesiant neu i anghenion gofal a chymorth
- Beth sy’n newid: y prif dueddiadau, pwysau, a chryfderau sy’n dod i’r amlwg ar draws y rhanbarth
- Pam mae hyn yn flaenoriaeth ar gyfer Cynlluniau Llesiant a Chynlluniau Ardal: pam mae hyn yn flaenoriaeth ar gyfer gweithredu.
- Pan fo’r bartneriaeth yn ychwanegu gwerth: materion lle mae angen gweithredu ar y cyd, ac ni all sefydliadau unigol gyflawni newid ar eu pen eu hunain
Dylai’r naratif hwn fynd ati’n uniongyrchol i lywio'r gwaith o nodi nifer lai o flaenoriaethau, gan adlewyrchu eich bwriad i asesiadau fod yn fwy dethol a strategol.
Dadansoddiad fesul ardal gymunedol yn yr Asesiad (Llesiant)
Ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn mynnu bod asesiadau’n “nodi’r cymunedau sy’n rhan o’r ardal” ac yn dadansoddi cyflwr llesiant ym mhob cymuned a’r ardal gyfan. Mae gan bartneriaethau hyblygrwydd o ran sut y cyflwynir hyn. Nid yw’n ofynnol cynhyrchu penodau unigol neu atodiadau ar gyfer pob ardal gymunedol, oni bai fod hyn yn cael ei ffafrio’n lleol.
Gellir integreiddio dadansoddiad o ardal gymunedol yn y prif naratif, ar yr amod bod yr asesiad yn tynnu sylw’n glir at le mae llesiant yn amrywio rhwng cymunedau ac yn nodi unrhyw anghydraddoldebau, amrywiadau neu batrymau lleol nodedig. Pan fydd atodiad unigol neu ddeunydd atodol yn fwy ymarferol, mae hyn hefyd yn dderbyniol. Yr hyn sy’n bwysig yw bod yr asesiad yn dangos dealltwriaeth glir o amrywiadau ar lefel gymunedol ac yn adlewyrchu’r ddealltwriaeth hon yn y dadansoddiad cyffredinol.
Cynllunio ar gyfer senarios ac ar gyfer y dyfodol
Er mwyn helpu i sicrhau gwell penderfyniadau, efallai y bydd partneriaethau am gynnwys golwg gryno a chymesur sy’n edrych i’r dyfodol. Nid oes angen gwaith modelu cymhleth ar gyfer hyn. Yn hytrach, mae modd defnyddio dulliau syml ac ymarferol, megis:
- Trafodaethau “beth os” gyda phartneriaid
- Brasluniau o senarios byr (er enghraifft, optimistaidd, llinell sylfaen, heriol)
- Llinellau tuedd a ddaw o ddangosyddion cenedlaethol, rhagolygon demograffig neu wybodaeth leol
- Ystyried pa newidiadau sydd fwyaf tebygol o siapio’r 5-10 mlynedd nesaf
Nid rhagweld y dyfodol yw’r diben, ond helpu partneriaethau i ystyried sut gallai blaenoriaethau esblygu a lle bydd angen gweithredu ar y cyd fwyaf. Bydd y cipolwg hwn i’r dyfodol yn cefnogi’r broses flaenoriaethu a ddisgrifir yn Adran 5.
Atodiad D: Catalog Data Rhanbarthol
Bwriad yr atodiad hwn yw cefnogi partneriaethau drwy gyfeirio at ffynonellau data cenedlaethol, rhanbarthol a thematig cydnabyddedig. Wrth i gynnyrch data, dangosfyrddau ac adnoddau tystiolaeth barhau i esblygu, bydd yr atodiad hwn yn cael ei drin fel adnodd byw a’i adolygu o bryd i’w gilydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Data Cymru a darparwyr data cenedlaethol eraill, i gefnogi mynediad at ffynonellau data cydnabyddedig sydd â sicrwydd ansawdd a hyrwyddo mwy o gysondeb yn y dystiolaeth a ddefnyddir ledled Cymru. Dylai partneriaethau sicrhau eu bod yn defnyddio’r setiau data a’r adnoddau dadansoddol diweddaraf sydd ar gael adeg cynnal yr asesiadau.
Isod, ceir rhestr o ffynonellau data a phrif gysylltiadau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu asesiadau strategol o anghenion. Nid yw’r rhestr yn cynnwys popeth, a bydd disgwyl i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ddod o hyd i ddata lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i benderfynu beth yw’r angen yn eu hardaloedd a’u rhanbarthau. Mae’r dolenni isod yn cyfeirio at ffynonellau data sefydledig i gefnogi byrddau ac i gynyddu capasiti, a dylai partneriaethau ddechrau drwy ystyried y ffynonellau cenedlaethol cydnabyddedig a restrir isod cyn datblygu dangosyddion lleol neu fesurau amgen. Nid oes disgwyl i’r data hwn gael ei gyflwyno mewn asesiadau lleol a rhanbarthol. Bydd dehongli data yn bwysicach na dim ond dangos y data mewn adroddiadau asesu, ac mae modd cynnwys hyperddolenni.
Ffynhonnell data/cyswllt
- Llesiant Cymru: 2025 - Mae’r adroddiad yn ystyried cynnydd yn erbyn y 50 dangosydd cenedlaethol, a osodwyd gan Weinidogion Cymru yn 2016, ochr yn ochr ag amrywiaeth o fathau eraill o ddata perthnasol.
- Dangosfwrdd Clystyrau Gofal Sylfaenol - Data canlyniadau iechyd y boblogaeth ac iechyd y cyhoedd ar lefel Cymru, Bwrdd Iechyd a Chlystyrau Gofal Sylfaenol.
- Crynodeb Clystyrau Gofal Sylfaenol - Crynodeb ar ffurf tabl o fetrigau allweddol.
- Adnodd adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd - Oddeutu 50 o ddangosyddion iechyd y cyhoedd yn ymwneud â ffactorau risg, yr elfennau ehangach sy’n penderfynu ar iechyd a chanlyniadau iechyd gydol oes. Data cyfredol a data tueddiadau ar lefel Cymru, Bwrdd Iechyd ac Awdurdod Lleol ynghyd â dadansoddiadau fel oedran, rhyw, ac amddifadedd ar lefel ardal.
- Dangosfwrdd Iechyd a Llesiant Plant Ysgolion Uwchradd - Data o 2017-2023 (bob dwy flynedd) sy’n ymdrin ag ystod eang o bynciau sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant plant 11-16 oed. Data pwerus gan ddefnyddio arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. Roedd yr arolwg diweddaraf yn cynnwys tua 120,000 o blant. Data ar lefel Cymru, Bwrdd Iechyd ac Awdurdod Lleol.
- Adnodd adrodd canser Cymru - Ystadegau swyddogol ar achosion o ganser, goroesi a marwolaethau. Dadansoddiadau yn ôl Awdurdod Lleol, Bwrdd Iechyd ac amddifadedd ar lefel ardal.
- Dangosfwrdd Rhaglen Mesur Plant - Ystadegau swyddogol ar fesur gordewdra a gorbwyso ymysg plant 4-5 oed. Dadansoddiadau yn ôl Awdurdod Lleol, Bwrdd Iechyd, Clystyrau Gofal Sylfaenol, ethnigrwydd ac amddifadedd ar lefel ardal.
- Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru - Data Gwasanaethau Cymdeithasol Cenedlaethol
- Dangosfyrddau - Data Cymru - Dangosfyrddau Data Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 - Asesiadau Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a bioamrywiaeth - Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 / Datganiad Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru.
- ArmedForces@gov.wales / Peter.Kellam@gov.wales - Anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog (Llywodraeth Cymru)
- NHSPI.NationalPEoLCProgramme@wales.nhs.uk - Rhaglen Genedlaethol Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes (Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru)
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol - Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi amrywiaeth o ddata sy’n ymwneud ag asesiadau, gan gynnwys data sy’n ymwneud â phoblogaeth, demograffeg, a gweithgarwch economaidd.
- StatsCymru - Data ac ystadegau ar gyfer Cymru ar amrywiaeth o bynciau.
- Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru: 2025 - Cymharu amddifadedd cymharol ar draws ardaloedd.
- Arolwg Cenedlaethol Cymru - Data o arolwg cenedlaethol Cymru sy’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau, gydag ymatebwyr ledled Cymru.
Atodiad E: Rhestr o Dermau Allweddol
Mae’r rhestr termau hon yn rhoi diffiniadau o’r termau allweddol a ddefnyddir drwy gydol y canllawiau hyn a’r atodiadau cysylltiedig. Y bwriad yw cefnogi cyd-ddealltwriaeth gyson ar draws Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a’u partneriaid.
Mae diffiniadau’n cael eu rhoi at ddiben eglurder a defnyddioldeb yn y canllawiau hyn ac nid ydynt yn disodli diffiniadau statudol lle mae’r rhain yn bodoli.
A
Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol
Adroddiad cenedlaethol sy’n cael ei gyhoeddi gan Weinidogion Cymru sy’n darparu dadansoddiad o dueddiadau hirdymor sy’n effeithio ar lesiant yng Nghymru.
Anghydraddoldebau
Gwahaniaethau mewn canlyniadau rhwng grwpiau neu leoedd, sy’n aml yn adlewyrchu dosbarthiad anwastad adnoddau, cyfleoedd, neu amodau.
Asesiad (cyffredinol)
Proses strwythuredig o gasglu, dadansoddi a dehongli tystiolaeth i ddeall llesiant neu angen.
Asesiad cyfun
Un ddogfen integredig sy’n bodloni gofynion asesiad llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac Asesiad o Anghenion y Boblogaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, pan fo partneriaethau’n dewis mabwysiadu’r dull hwn.
Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
Yr asesiad statudol sy’n cael ei gynnal gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan ganolbwyntio ar anghenion gofal a chymorth, anghenion gofalwyr, a darparu gwasanaethau.
Asesiad o lesiant lleol (asesiad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus)
Yr asesiad statudol sy’n cael ei baratoi gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n dadansoddi llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, a diwylliannol ar draws ardal a’i chymunedau.
Atal
Cymryd camau i atal problemau rhag digwydd neu waethygu, yn hytrach nag ymateb ar ôl iddyn nhw godi.
B
Blaenoriaethau (yn y canllawiau hyn)
Nifer fach o faterion allweddol sydd wedi’u nodi drwy’r asesiad y mae angen rhoi sylw iddyn nhw mewn partneriaeth. Nid yw’r rhain yn amcanion statudol ond maen nhw’n sail i gamau cynllunio diweddarach.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Y bartneriaeth statudol sydd wedi’i sefydlu ym mhob ardal awdurdod lleol sy’n gyfrifol am wella llesiant drwy gydweithio.
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Partneriaeth statudol sy’n gyfrifol am asesu a chynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth ar draws rhanbarth.
C
Canllawiau statudol
Canllawiau sy’n cael eu cyhoeddi o dan ddeddfwriaeth ac mae’n rhaid eu hystyried wrth arfer swyddogaethau statudol.
Catalog data
Rhestr strwythuredig o setiau data, ymchwil a ffynonellau tystiolaeth a ddefnyddir mewn asesiad. Gellir cyhoeddi hwn fel atodiad neu ei gadw fel adnodd ar wahân.
Cydgynhyrchu
Dull o weithio gyda phobl a chymunedau fel partneriaid cyfartal wrth lunio tystiolaeth, dadansoddiad, neu wasanaethau.
Cymesur (dull)
Dull gweithredu sy’n briodol i raddfa, arwyddocâd a phwrpas y gwaith, gan osgoi cymhlethdod, baich, neu ddyblygu diangen.
Cymunedau (ardaloedd cymunedol)
Ardaloedd daearyddol mewn ardal Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a ddefnyddir i ddadansoddi amrywiadau lleol mewn llesiant. Dylai’r rhain adlewyrchu amrywiad a hunaniaeth leol ystyrlon yn hytrach na ffiniau gweinyddol yn unig.
Cynllun Ardal (Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol)
Y cynllun statudol sy’n cael ei gynhyrchu gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol sy’n nodi sut bydd anghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu, ar sail yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth.
Cynllun Llesiant (cynllun llesiant lleol)
Y cynllun statudol sydd wedi’i lunio gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n nodi amcanion lleol a chamau i wella llesiant ar sail yr asesiad.
Cynllunio ar gyfer senarios ac ar gyfer y dyfodol
Technegau a ddefnyddir i ystyried sut y gall amodau neu anghenion newid dros amser, gan gefnogi meddwl yn y tymor hir a blaenoriaethu.
D
Dadansoddiad o’r sefyllfa
Dadansoddiad sy’n disgrifio’r sefyllfa bresennol o ran llesiant neu angen, gan gynnwys patrymau, tueddiadau, ac anghydraddoldebau.
Dadansoddiad o’r ymatebion
Dadansoddiad sy’n ystyried yr hyn y mae’r dystiolaeth yn awgrymu y dylid ei wneud, gan gynnwys nodi blaenoriaethau, ymyriadau, neu gamau gweithredu.
Dangosfyrddau (dangosfyrddau data)
Adnoddau rhyngweithiol neu ddigidol sy’n cael eu defnyddio i gyflwyno ac archwilio data’n weledol. Gallai’r rhain gefnogi’r asesiad ond nid oes angen iddyn nhw fod wedi’u gosod ynddo.
Dangosyddion cenedlaethol
Mesurau a gaiff eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru i olrhain cynnydd tuag at y nodau llesiant cenedlaethol.
E
Egwyddor datblygu cynaliadwy
Y gofyniad i weithredu mewn ffordd sy’n diwallu anghenion presennol heb danseilio gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Ll
Llenyddiaeth lwyd
Deunydd nad yw wedi’i gyhoeddi’n ffurfiol fel gwerthusiadau, adroddiadau mewnol, papurau briffio a chrynodebau ymchwil, a allai ddarparu tystiolaeth gyd-destunol ddefnyddiol.
Llesiant
Amodau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, a diwylliannol ardal a’i phobl, o’u hystyried gyda’i gilydd.
Llesiant amgylcheddol
Cyflwr yr amgylchedd naturiol, gan gynnwys gwydnwch ecosystemau, adnoddau naturiol a’u cyfraniad at lesiant.
I
Integreiddio (ffyrdd o weithio)
Ystyried sut mae amcanion, polisïau neu sefydliadau gwahanol yn rhyngweithio ac yn effeithio ar ei gilydd.
N
Nodau llesiant
Y saith nod cenedlaethol sy’n disgrifio’r math o Gymru y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ceisio ei chyflawni.
P
Profiad bywyd
Gwybodaeth a chipolwg a geir drwy brofiad personol uniongyrchol, a ddefnyddir yn aml i ategu data meintiol.
S
Sylfaen dystiolaeth gyffredin
Set sydd wedi’i datblygu ar y cyd o ddata, gwybodaeth a dadansoddiadau y gall Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol eu defnyddio fel sail i’w hasesiadau.
T
Tystiolaeth
Gwybodaeth a ddefnyddir i lywio asesiad, gan gynnwys data meintiol, gwybodaeth ansoddol, ymchwil, data gweinyddol, a phrofiad bywyd.
Y
Ymgynghori
Y broses ffurfiol a ddefnyddir gan bartneriaethau i geisio barn am asesiadau neu gynlluniau drafft gan unigolion a sefydliadau penodol, gan ganiatáu digon o amser ar gyfer adborth sy’n seiliedig ar wybodaeth.
Ymgysylltu
Proses ehangach o gynnwys pobl, cymunedau a rhanddeiliaid yn y gwaith o lunio tystiolaeth a deall anghenion neu lesiant.
Esboniadau Allweddol Traws-System
Gofal a chymorth (yn y canllawiau hyn)
Mae’n cyfeirio at ystyried llesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw, a gofalwyr, ar lefel y boblogaeth mewn asesiadau. Nid yw hyn yn ymestyn i gynllunio gwasanaethau’n fanwl, y mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gyfrifol amdano.
Cysoni (gwaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol)
Cydlynu tystiolaeth, prosesau ymgysylltu, dadansoddi neu brosesau rhwng Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i wella effeithlonrwydd a chydlyniaeth, gan gynnal cyfrifoldebau statudol penodol ar yr un pryd.
Dyblygu (i’w osgoi)
Ailadrodd prosesau casglu data, dadansoddi neu ymgysylltu yn ddiangen ar draws partneriaethau. Mae’r canllawiau hyn yn annog rhannu dulliau i leihau unrhyw ddyblygu.
Cyfeirio (at ddata a thystiolaeth)
Dyfynnu neu gyfeirio at ffynonellau tystiolaeth yn hytrach nag atgynhyrchu setiau data neu ddadansoddiad llawn yn yr asesiad.
