Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ffotograffau ar gyfer pasiau diogelwch Llywodraeth Cymru.
Cynnwys
Cefndir
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pàs diogelwch newydd i staff. Fel rhan o’r broses hon, byddwn yn casglu lluniau diweddar o pob defnyddiwr adeilad er mwyn cynhyrchu pass Diogelwch newydd. Fel rhan o’r broses hon, drwy GOV.UK Forms byddwn yn casglu lluniau ohonoch i allu cynhyrchu eich pàs.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â’r gweithgaredd hon.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd ar gyfer GOV.UK Forms yn casglu gwybodaeth ar ein rhan gallwch gael mynediad ar GOV.UK Forms.
Pwy mae’r hysbysiad hwn yn berthnasol
Mae’r hysbysiad hwn yn berthnasol i holl unigolion sydd angen pàs diogelwch adeilad Llywodraeth Cymru.
Pa wybodaeth rydym yn ei gasglu
Byddwn yn casglu ac yn prosesu lluniau digidol ohonoch, eich enw a statws adeilad y defnyddiwr e.e staff, contractwr, tenantiaid
Pam rydym angen yr wybodaeth hon
Rydym angen y wybodaeth hon i greu eich pàs diogelwch, cefnogi y system rheoli mynediad a sicrhau diogelwch defnyddwyr yr adeilad.
Sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth
Dim ond ar gyfer cynhyrchu eich pàs diogelwch a dibenion diogelwch cysylltiedig y bydd y wybodaeth yn cael ei ddefnyddio.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth
Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu gyntaf gan GOV.UK Forms gyda’r pwrpas o gasglu ac anfon i Lywodraeth Cymru. Bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu gyda Esotec Ltd, a fydd yn ei ddefnyddio i gynhyrchu eich pàs yn unig.
Am ba hyd rydym yn cadw eich gwybodaeth
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei ddileu gan Esotec a GOV.UK Forms unwaith bydd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn y pàs diogelwch. Mae y wybodaeth prosesu parhaus ar gyfer pàs diogelwch wedi ei gynnwys yn y hysbysiad preifatrwydd staff.
Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu
Mae’r prosesu’n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd ac at ddibenion cyflogaeth.
Eich hawliau
Mae gennych hawliau gan gynnwys mynediad, cywiro, gwrthwynebu, dileu mewn rhai amgylchiadau, a gwneud cwyn i’r ICO.
Gwneud cwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru.
Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.
Cyswllt
Tîm ceisiadau am bas diogelwch
E-bost: SecurityPassRequests@gov.wales
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Swyddog Diogelu Data
E-bost: data.protectionofficer@gov.wales
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
