Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio beth i'w ddisgwyl wrth ymateb i'r Adolygiad Cyflym o Gynnydd o ran Symleiddio Budd-daliadau Cymru.
Cynnwys
Y cefndir
Pan fyddwch yn ymateb i'r arolwg, byddwn yn ymdrin â'ch data personol yn unol â'n hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru, a byddwn yn ei gadw mewn amgylchedd diogel. Cyfyngir ar fynediad iddo i'r sawl sydd angen ei weld yn unig.
Y math o wybodaeth bersonol a brosesir
Byddwn yn casglu'r wybodaeth ganlynol drwy Smart Survey:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
- Sefydliad
Pam mae angen yr wybodaeth hon arnom?
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â CLlLC a phartneriaid ar raglen Symleiddio Budd-daliadau Cymru. Nod yr arolwg hwn yw darganfod beth mae pob awdurdod lleol unigol yn ei wneud i fwrw ymlaen â'r gwaith o Symleiddio Budd-daliadau Cymru yn dilyn argymhellion adroddiad cynnydd Cam Un.
Bydd canlyniadau'r arolwg yn dystiolaeth o ba awdurdodau lleol sydd wedi gweithredu'r strategaeth o ofyn am y stori unwaith, a gellir eu defnyddio fel modelau arfer gorau ac i ddangos pa awdurdodau lleol sydd efallai angen mwy o gefnogaeth ac arweiniad i gyflawni hyn yn llwyddiannus. Gallai'r adolygiad hefyd nodi rhwystrau o fewn awdurdodau lleol unigol sy'n wahanol i'r rhai a nodwyd yn ystod Cam Un.
Efallai y byddwn yn defnyddio eich manylion cyswllt i ymateb i sylwadau a threfnu cyfarfodydd i drafod rhwystrau penodol.
Pwy sy'n ei chadw?
Llywodraeth Cymru fydd yn cadw eich gwybodaeth bersonol. Os byddwn am ddefnyddio eich data personol am unrhyw reswm arall heblaw mewn ymateb i'r gwaith ar Symleiddio Budd-daliadau Cymru, byddwn yn gofyn am eich caniatâd.
A fyddwn yn defnyddio'r wybodaeth at unrhyw ddiben arall?
Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i drefnu trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n arwain rhaglen Symleiddio Budd-daliadau Cymru ynghylch y cynnydd a wneir.
Am ba hyd y byddwn yn cadw'r wybodaeth hon?
Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am fwy na blwyddyn ar ôl yr arolwg.
Os bydd angen inni gadw gwybodaeth am gyfnodau hirach am unrhyw reswm, byddwn yn rhoi gwybod ichi. Gallwch ofyn am i'ch gwybodaeth gael ei dileu ar unrhyw adeg, drwy gysylltu â trechutlodiachefnogiteuluoedd@llyw.cymru.
Dylech fod yn ymwybodol hefyd o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.
Hawliau'r unigolyn
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol yn gysylltiedig â'r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu fel rhan o'r arolwg hwn:
- gweld copi o'ch data eich hun
- gofyn inni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (o dan amgylchiadau penodol)
- gofyn am i'ch data gael ei 'ddileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer / Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: https://cy.ico.org.uk/
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data a roddir fel rhan o'r astudiaeth hon, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, cysylltwch â:
Enw: Jody Mellor, Cyfeiriad e-bost: jody.mellor@llyw.cymru a rhif ffôn: 0300 0353 105
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
