Trosolwg o Mesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Mesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chynnwys y gymuned mewn penderfyniadau gan awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch a ddylid gwaredu caeau chwarae. Mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a fyddai’n caniatáu i awdurdodau lleol gynnwys cymunedau mewn penderfyniadau ynghylch y ffordd y maent yn gwaredu tir sy’n gae chwarae neu’n ffurfio rhan o gae chwarae. Caiff cae chwarae ei ddiffinio fel man agored sydd wedi ei farcio neu ei neilltuo ar gyfer chwaraeon neu weithgaredd hamdden tebyg, ar unrhyw adeg.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth y Mesur i rym ar 15 Rhagfyr 2010, sef y diwrnod cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol, yn unol ag adran 5(2):
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur
| Enw | Rhif | Dyddiad gwnaed | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
| Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk | 2015 Rhif 1403 (Cy. 139) | 22 Mehefin 2015 | 1 Hydref 2015 | 2015 Rhif 1403 (Cy. 139): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Mesur ar 18 Gorffennaf 2008 gan Dai Lloyd AC. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 6 Hydref 2010.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (ar adeg cyflwyno’r Mesur):
Cafodd y Mesur Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Rhagfyr 2010.
