Trosolwg o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, ei daith drwy'r Senedd a deddfwriaeth israddol.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yn gwneud darpariaeth ynghylch:
- cyfrannu at ddileu tlodi plant;
- gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant;
- trefniadau ar gyfer cyfranogiad plant mewn penderfyniadau awdurdodau lleol a allai effeithio arnynt;
- gwarchod plant a gofal dydd i blant;
- sefydlu timau a byrddau integredig cymorth i deuluoedd;
- gwella safonau mewn gwaith cymdeithasol i blant a phobl sy’n gofalu amdanynt;
- asesu anghenion plant lle mae eu rhieni angen gwasanaethau gofal cymunedol neu os oes ganddynt gyflyrau iechyd sy’n effeithio ar anghenion y plant.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.
Darllenwch y Mesur llawn:
Dod i rym
Daeth adrannau 1 i 3 a 74 i 76 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 10 Ebrill 2010), yn unol ag adran 75(1).
Daeth paragraffau 19 i 20 o Atodlen 1 i rym ar 10 Chwefror 2010, sef y diwrnod y cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol, yn unol ag adran 75(2).
Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 75(3).
Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
- Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 10) 2025 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 8) 2014 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 7) 2013 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 6) 2013 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 5) 2012 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Arbedion) 2010 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2010 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010 ar legislation.gov.uk
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Mesur ar 2 Mawrth 2009 gan Brian Gibbons AC, sef y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 10 Tachwedd 2009.
Mae rhagor o wybodaeth am y Mesur a'i daith drwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (i adlewyrchu’r Mesur fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 o’r ystyriaeth):
Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Chwefror 2010.
