Trosolwg o Ddeddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (‘Deddf 2013’) yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (‘y Comisiwn’) ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei gyfansoddiad a’i swyddogaethau.
Mae Deddf 2013 yn rhoi swyddogaethau gweinyddu etholiadol i’r Comisiwn ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddogaethau gael eu harfer gan fwrdd a sefydlir gan y Comisiwn o’r enw y Bwrdd Rheoli Etholiadol.
Mae Deddf 2013 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch y canlynol:
- dyletswyddau’r Comisiwn i fonitro’r trefniadau ar gyfer llywodraeth leol ac i gynnal adolygiadau lle bo hynny’n briodol
- dyletswyddau prif gynghorau i fonitro’r trefniadau ar gyfer y cymunedau yn eu hardal ac i gynnal adolygiadau lle bo hynny’n briodol
- y weithdrefn ar gyfer adolygiadau a rhoi’r argymhellion ar waith
- adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd a gynhelir gan y Comisiwn
- adolygu aelodaeth cyrff cyhoeddus penodol
- materion eraill sy’n ymwneud â chynnal llywodraeth leol yng Nghymru
- swyddogaethau’r Comisiwn wrth benderfynu ar y taliadau a’r pensiynau sy’n daladwy i aelodau a chyn-aelodau awdurdodau penodol (gan gynnwys awdurdodau lleol)
Mae sylwebaeth fanwl ar ddarpariaethau amrywiol y Ddeddf fel y’i pasiwyd ar gael yn y Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf.
Gweler Deddf Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 ar legislation.gov.uk.
Cafodd enw byr Deddf 2013 (ei henw byr yn flaenorol oedd Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013) ei ddiwygio gan adran 11(1) o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (‘Deddf 2024’).
Dod i rym
Mae adran 75 o Ddeddf 2013 yn gwneud darpariaeth ynghylch dod â’r Ddeddf i rym.
Gweler adran 75 o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 ar legislation.gov.uk.
Daeth adrannau 1, 70 i 72 (ac Atodlen 3), a 75 a 76 i rym ar 30 Gorffennaf 2013, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 75(1).
Daeth Rhannau 2, 3 a 4, adrannau 51 i 54, 59 i 62, 64 i 67, 73 (ac Atodlenni 1 a 2) ac adran 74 i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis yn dilyn y Cydsyniad Brenhinol.
Daw gweddill darpariaethau Deddf 2013 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.
Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil ar 26 Tachwedd 2012 gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y pryd. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Mawrth 2013, awdurdododd y Prif Weinidog Lesley Griffiths AS, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, i fod yr Aelod newydd sy’n gyfrifol am y Bil o 18 Mawrth 2013 ymlaen.
Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 18 Mehefin 2013.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 30 Gorffennaf 2013.
