Datblygu polisi ffonau symudol canllawiau drafft i ysgolion: asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb
Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar datblygu polisi ffonau symudol canllawiau i ysgolion.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb hwn wedi’i gynnal yn unol â Chynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029 ac Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Yn benodol, mae’n cefnogi Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4, sy’n anelu at greu Cymru sy’n rhydd o wahaniaethu, erledigaeth, aflonyddu, cam-drin, troseddau casineb a (neu) fwlio, yn erbyn pawb. ‘Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029 [HTML]’
Bwriad y canllawiau statudol newydd ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yw cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i ddatblygu a gweithredu polisïau i gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Y canlyniadau arfaethedig yw gwella gallu dysgwyr i ganolbwyntio, cefnogi llesiant, lleihau tarfu ar ddysgu, a lleihau achosion o niwed ar-lein, gan gynnwys seiberfwlio.
Mae’r cynnig yn ceisio:
- Hyrwyddo cyfle cyfartal trwy wella ymgysylltu a chyrhaeddiad pob dysgwr.
- Dileu gwahaniaethu trwy sicrhau bod unrhyw gyfyngiadau yn cael eu cymhwyso mewn ffordd deg a chyson, a bod addasiadau rhesymol yn cael eu cynnig pan fo angen.
- Hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol trwy leihau’r cyfleoedd ar gyfer gwrthdaro, aflonyddu a bwlio ar-lein yn ystod y diwrnod ysgol.
Er bod disgwyl i’r cynnig gael effaith gadarnhaol gyffredinol, pan fo hynny’n briodol rhoddwyd ystyriaeth i ddysgwyr sydd â nodweddion gwarchodedig, hy drwy eithriadau priodol i sicrhau nad yw gweithredu’r polisi yn creu rhwystrau neu anfantais anfwriadol.
Sut y bydd y cynnig yn hyrwyddo cydraddoldeb
Disgwylir i’r canllawiau hyrwyddo cydraddoldeb trwy:
- Greu amgylchedd dysgu sydd o fudd i bob dysgwr, yn enwedig y rhai a allai gael eu heffeithio’n anghymesur gan dynnu sylw, aflonyddu ar-lein neu bwysau cymdeithasol.
- Lleihau’r cyfleoedd ar gyfer seiberfwlio, ymddygiadau gwahaniaethol a rhyngweithio ar-lein niweidiol yn ystod y diwrnod ysgol.
- Cefnogi gwell llesiant i ddysgwyr trwy sicrhau mwy o ryngweithio cymdeithasol wyneb yn wyneb.
- Darparu canllawiau statudol sydd hefyd yn rhoi’r hyblygrwydd i ysgolion ymateb i amgylchiadau dysgwyr unigol.
- Ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ystyried effeithiau ar gydraddoldeb a gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer dysgwyr y mae eu defnydd o ffonau symudol yn gysylltiedig ag anabledd, anghenion meddygol, gofynion cyfathrebu neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Felly disgwylir i’r cynnig gefnogi cyfranogiad cyfartal mewn addysg, gan gydnabod y gallai gwahanol ddysgwyr fod angen trefniadau gwahanol i gael mynediad i’r un cyfleoedd.
Cofnod o Effeithiau yn ôl nodwedd warchodedig
| Grŵp neu nodwedd warchodedig | Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? | Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth) | Sut byddwch yn lleihau’r effeithiau? |
|---|---|---|---|
| Oedran | Effaith gadarnhaol. Mae’r canllawiau yn ymwneud yn bennaf â phlant a phobl ifanc oedran ysgol gorfodol, a’u nod yw cefnogi dysgu, llesiant ac ymgysylltu yn ystod y diwrnod ysgol. Efallai y bydd rhai disgyblion hŷn yn gweld cyfyngiadau fel cyfyngiad ar ymreolaeth. | Mae galw cynyddol gan deuluoedd, ysgolion ac awdurdodau lleol am ddull mwy cyson. Bydd y canllawiau yn gymwys yn gyson ar draws grwpiau oedran, ac yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion wrth eu gweithredu. | Dylai canllawiau annog gweithredu sy’n addas i’r oedran a chyfathrebu clir â dysgwyr a theuluoedd. Efallai y bydd ysgolion yn dymuno ystyried sut mae cyfyngiadau’n cael eu cymhwyso ar draws gwahanol grwpiau oedran. |
| Anabledd | Effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl. Gallai cyfyngu ar ffonau symudol fod o anfantais i rai dysgwyr anabl sy’n defnyddio ffonau ar gyfer nodweddion hygyrchedd, cyfathrebu, monitro meddygol, cymorth llesiant neu dechnoleg gynorthwyol. Gall effeithiau cadarnhaol godi pan fo llai o dynnu sylw yn gwella ymgysylltu i rai dysgwyr. Mae rhai dysgwyr sydd ag ADY yn dibynnu ar ddyfeisiau symudol ar gyfer trefnu, cyfathrebu, rheoleiddio emosiynol neu fynediad at gymorth dysgu. | Nid yw dysgwyr anabl i gyd yr un fath ac efallai y bydd rhai yn dibynnu ar dechnoleg symudol i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan. Heb eithriadau priodol, gallai cyfyngiadau fod o anfantais anuniongyrchol i rai dysgwyr. | Dylai canllawiau wneud yn glir bod yn rhaid i ysgolion ystyried eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys addasiadau rhesymol. Dylai ysgolion allu gwneud eithriadau neu drefniadau amgen pan fo angen i ddiwallu anghenion unigol. Dylai ysgolion ystyried dysgwyr ag ADY wrth lunio a gweithredu polisïau. |
| Ailbennu Rhywedd | Dim effeithiau uniongyrchol wedi’u nodi. Efallai y bydd rhai dysgwyr trawsryweddol yn defnyddio dyfeisiau symudol i gael mynediad at rwydweithiau cymorth neu adnoddau llesiant yn ystod y dydd. | Nid yw’r cynnig yn gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd. Mae unrhyw effeithiau yn debygol o ddeillio o amgylchiadau unigol yn hytrach na’r nodwedd warchodedig ei hun. | Dylai ysgolion sicrhau bod cymorth bugeiliol a llesiant yn parhau i fod yn hygyrch trwy lwybrau amgen, ac ystyried amgylchiadau unigol pan fo hynny’n briodol. |
| Beichiogrwydd a Mamolaeth | Effaith bosibl gyfyngedig. Efallai y bydd dysgwyr beichiog neu famau ifanc yn dymuno cadw cysylltiad â theulu, gofalwyr neu wasanaethau cymorth yn ystod y diwrnod ysgol. | Mae’r cynnig yn gymwys yn gyffredinol ac ni ddisgwylir iddo effeithio ar y grŵp hwn yn anghymesur. Fodd bynnag, gall anghenion unigol godi. | Dylai ysgolion gadw disgresiwn i wneud trefniadau rhesymol pan fo ystyriaethau diogelu, iechyd neu lesiant yn golygu bod angen mynediad at ddyfeisiau cyfathrebu. |
| Hil | Dim effeithiau uniongyrchol wedi’u nodi. Gall effeithiau cadarnhaol godi os yw gwell ymgysylltu yn yr ystafell ddosbarth o fudd i bob dysgwr. | Mae’r canllawiau yn gymwys i’r un graddau ni waeth beth fo hil, ethnigrwydd, cenedligrwydd neu statws mudo’r dysgwr. Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi’i nodi y byddai’r cynnig yn effeithio yn wahanol ar grwpiau ethnig penodol. | Parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid sy’n cynrychioli cymunedau amrywiol a monitro unrhyw dystiolaeth o effeithiau gwahaniaethol. |
| Crefydd, cred a diffyg cred | Dim effeithiau uniongyrchol wedi’u nodi. | Mae’r cynnig yn ymwneud â’r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion ac mae’n gymwys i’r un graddau i bob dysgwr, ni waeth beth fo’u crefydd, eu cred neu ddiffyg cred, gan gynnwys mewn ysgolion ffydd. Does dim effaith uniongyrchol wedi’i nodi. | Nid oes angen unrhyw gamau lliniaru penodol. Dylai ysgolion barhau i gydymffurfio â dyletswyddau cydraddoldeb a darparu ar gyfer anghenion unigol pan fo hynny’n briodol. |
| Rhyw neu Rhywedd | Dim effeithiau uniongyrchol wedi’u nodi. Gallai fod effeithiau cadarnhaol a negyddol mewn perthynas ag aflonyddu ar-lein, pwysau gan gyfoedion neu lesiant. | Mae’r cynnig yn gymwys i’r un graddau i bob rhywedd. Mae unrhyw effeithiau gwahaniaethol yn debygol o fod yn anuniongyrchol ac yn gysylltiedig â phatrymau defnydd ffonau yn hytrach na’r polisi ei hun. | Dylai ysgolion barhau i fynd i’r afael â phryderon diogelu, aflonyddu a llesiant trwy bolisïau a threfniadau cymorth presennol. |
| Cyfeiriadedd Rhywiol | Dim effeithiau uniongyrchol wedi’u nodi. Efallai y bydd rhai dysgwyr yn defnyddio ffonau i gael mynediad at gefnogaeth gan gymheiriaid neu adnoddau llesiant. | Nid yw’r cynnig yn gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Mae unrhyw effeithiau yn debygol o fod ar sail unigol yn hytrach na grŵp. | Sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad at wasanaethau cymorth bugeiliol a ffynonellau cymorth priodol yn ystod y diwrnod ysgol. |
| Priodas a Phartneriaeth Sifil | Dim effaith wedi’i nodi. | Er y gall y nodwedd warchodedig hon fod yn berthnasol i nifer fach o ddysgwyr o oedran ysgol statudol, nid yw’r cynnig yn gwahaniaethu rhwng dysgwyr ar sail priodas neu statws partneriaeth sifil ac nid oes unrhyw effeithiau gwahaniaethol wedi’u nodi. | Nid oes angen camau lliniaru. |
| Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed | Effaith gadarnhaol sylweddol wedi’i bwriadu. Nod y canllawiau yw cefnogi dysgu, lleihau tynnu sylw a hyrwyddo llesiant. Efallai y bydd rhai dysgwyr yn gweld y cyfyngiadau fel rhywbeth negyddol oherwydd bod ganddynt lai o fynediad at ddyfeisiau personol yn ystod y diwrnod ysgol. | Plant a phobl ifanc yw’r prif grŵp yr effeithir arnynt. Mae’r cynnig yn ceisio gwella canlyniadau addysgol a llesiant, wrth helpu ysgolion i sefydlu disgwyliadau clir. Mae Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant wedi’i gwblhau fel rhan o’r cynnig hwn. | Dylai canllawiau bwysleisio ymgysylltiad dysgwyr, cyfathrebu â theuluoedd, a gweithredu cymesur. Dylai ysgolion ystyried hawliau plant a lleisiau dysgwyr wrth ddatblygu polisïau. |
Hawliau Dynol a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig
A fydd y polisi hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar hawliau dynol pobl, yn eich barn chi
| Hawliau Dynol | Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? | Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth) | Sut y byddwch yn lliniaru’r effeithiau negyddol?
|
|---|---|---|---|
Erthygl 2 o Brotocol 1 – Yr Hawl i Gael Addysg
| Ar y cyfan, effaith gadarnhaol. Bwriad y canllawiau yw cefnogi dysgu, llesiant, diogelu ac ymddygiad cadarnhaol mewn ysgolion. Mae posibilrwydd y ceir effaith gyfyngedig ar allu dysgwyr i ddefnyddio ffonau symudol personol yn ystod y diwrnod ysgol ac ar agweddau ar breifatrwydd a rhyddid mynegiant.
| Mae’r canllawiau yn cefnogi hawl dysgwyr i gael addysg drwy helpu i leihau tynnu sylw a tharfu ar ddysgu. Efallai y bydd hefyd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at amddiffyn plant rhag bwlio, niwed ar-lein a chynnwys amhriodol. Er y gall cyfyngiadau ar ddefnyddio ffonau symudol effeithio ar hawliau sy’n ymwneud â phreifatrwydd a rhyddid mynegiant, mae unrhyw ymyrraeth yn debygol o fod yn gymesur, wedi’i gyfiawnhau ac yn dilyn nodau cyfreithlon megis amddiffyn hawliau a llesiant personau eraill a chynnal amgylchedd addysgol effeithiol. Nid yw’r canllawiau yn dileu mynediad dysgwyr i addysg ac maent yn gymwys i bob dysgwr i’r un graddau. | Dylai unrhyw gyfyngiadau fod yn gymesur, a dylid eu cyfathrebu’n glir a’u gweithredu’n gyson. Dylai ysgolion gadw hyblygrwydd i wneud addasiadau rhesymol pan fo angen, gan gynnwys am resymau iechyd, anabledd, llesiant neu ddiogelu. Dylai ysgolion sicrhau bod dysgwyr a rhieni yn deall y rhesymeg dros unrhyw gyfyngiadau a bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn unol â dyletswyddau cyfreithiol a pholisïau ysgol presennol.
|
Hawliau Dinasyddion yr UE/AEE a’r Swistir
A oes unrhyw effeithiau ar hawliau dinasyddion yr UE, yr AEE neu’r Swistir a ddiogelir o dan y Cytundebau ar Hawliau Dinasyddion
Nid oes unrhyw effeithiau wedi’u nodi ar hawliau dinasyddion yr UE, yr AEE neu’r Swistir a ddiogelir o dan y Cytundebau ar Hawliau Dinasyddion. Mae’r canllawiau statudol newydd ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yn ymwneud yn unig â defnyddio dyfeisiau symudol mewn ysgolion, ac nid ydynt yn effeithio ar hawliau preswylio, mynediad at wasanaethau, hawliau cyflogaeth, na darpariaethau mewn perthynas â thriniaeth gyfartal. Felly nid oes angen unrhyw gamau lliniaru ac ni ystyrir bod cyngor cyfreithiol yn angenrheidiol mewn perthynas â’r agwedd hon ar yr asesiad.
