Neidio i'r prif gynnwys

Prif bwyntiau

Crynodeb o'r prif bwyntiau o adroddiad Llesiant Cymru 2026.

Cymru lewyrchus

  • Mae economi Cymru wedi tyfu dros yr hirdymor, ond mae cynhyrchiant yn dal yn is na chyfartaledd y DU.
  • Mae cyflogaeth yn dal yn uchel ac mae diweithdra’n dal yn gymharol isel.
  • Mae enillion wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er bod llawer o bobl yn dal i brofi tlodi.
  • Mae plant ac oedolion o oedran gweithio yn dal yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi na phensiynwyr.
  • Mae mwy o bobl yn ennill cymwysterau nag yn y gorffennol.
  • Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant nag yr oeddent ddegawd yn ôl.
  • Mae deilliannau addysgol wedi gwella’n gyffredinol dros yr hirdymor, er bod anghydraddoldebau’n parhau.

Cymru gydnerth

  • Mae rhai dangosyddion yn dangos cynnydd, ond mae angen gwelliant pellach i gyrraedd cerrig milltir cenedlaethol.
  • Mae bioamrywiaeth yn parhau i ddirywio ac mae Cymru’n parhau i fod yn un o’r gwledydd lle mae byd natur wedi dirywio fwyaf yn y byd.
  • Mae ansawdd dŵr wedi gwella’n gyffredinol, er nad yw llawer o afonydd a chyrff dŵr yn cyrraedd safonau amgylcheddol o hyd.
  • Mae ansawdd aer wedi gwella’n sylweddol ers y 1970au ond mae’n parhau i effeithio ar iechyd a byd natur.
  • Mae Cymru’n dal i arwain y byd o ran ailgylchu ac mae wedi lleihau gwastraff nad yw’n cael ei ailgylchu.
  • Mae Cymru’n parhau i ddefnyddio adnoddau naturiol yn gyflymach nag y gellir eu hailgyflenwi.
  • Mae capasiti ynni adnewyddadwy wedi cynyddu’n sylweddol dros yr hirdymor, er bod twf wedi arafu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
  • Daw Cyfoeth Naturiol Cymru i’r casgliad bod colli bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a llygredd yn parhau i leihau gwydnwch ecosystemau.

Cymru iachach

  • Mae’r cynnydd tuag at Gymru iachach yn parhau i fod yn gyfyngedig, gyda nifer o ddangosyddion yn gwaethygu.
  • Mae disgwyliad oes wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig.
  • Mae disgwyliad oes iach yn parhau i ostwng ac mae anghydraddoldebau wedi ehangu.
  • Mae’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf yn parhau i gynyddu.
  • Mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni gyda phwysau geni isel ar ei lefel uchaf a gofnodwyd.
  • Mae ymddygiad iach ymysg oedolion wedi gwella ychydig yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond mae’n dal yn is na’r uchelgeisiau cenedlaethol.
  • Mae ymddygiad iach ymysg pobl ifanc wedi gwella ers 2017.
  • Mae llesiant meddyliol oedolion wedi aros yn weddol sefydlog.
  • Mae llesiant meddyliol ymysg pobl ifanc wedi dirywio ac mae anghydraddoldebau wedi ehangu.
  • Mae cyflwr tai wedi gwella dros yr hirdymor.

Cymru sy'n fwy cyfartal

  • Mae’r cynnydd yn gymysg, gyda gwelliannau mewn rhai meysydd ond anghydraddoldebau parhaus ar draws llawer o fesurau.
  • Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau’n sylweddol dros yr hirdymor, er bod menywod yn dal i ennill llai na dynion ar gyfartaledd.
  • Mae bylchau cyflog rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, a rhwng grwpiau ethnig, yn parhau i fod yn anwadal, sy’n ei wneud yn anodd i asesu tueddiadau tymor hir.
  • Mae tua 1 person o bob 5 yn parhau i fyw mewn tlodi incwm cymharol.
  • Plant yw’r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fyw mewn tlodi o hyd.
  • Mae pobl mewn aelwydydd sy’n cynnwys person anabl a phobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn fwy tebygol o brofi tlodi.
  • Yn gyffredinol, mae pobl hŷn yn adrodd am lefelau llesiant uwch ac unigrwydd is na phobl iau.
  • Mae pobl anabl yn llai tebygol o gael eu cyflogi, yn fwy tebygol o brofi tlodi, ac yn dweud bod eu llesiant yn is.
  • Mae menywod yn dal i ddweud eu bod yn teimlo’n llai diogel na dynion.

Cymru o gymunedau cydlynus

  • Mae cydlyniant cymunedol yn dal yn uwch nag yr oedd cyn y pandemig ond mae wedi gostwng o’r lefel uchaf a welwyd yn ystod ac yn syth ar ôl pandemig y coronafeirws (COVID-19).
  • Mae bodlonrwydd ag ardaloedd lleol a theimladau o ddylanwad dros benderfyniadau lleol wedi dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig.
  • Mae tua dwy ran o dair o bobl yn teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu, gyda dynion yn dweud eu bod yn fwy diogel na menywod.
  • Mae gwirfoddoli wedi cynyddu ac yn parhau i ragori ar y garreg filltir genedlaethol.
  • Mae lefelau unigrwydd wedi aros yn weddol sefydlog.
  • Mae’r rhan fwyaf o bobl yn fodlon ar fynediad at wasanaethau lleol, er bod bodlonrwydd yn is mewn ardaloedd gwledig.
  • Llwyddwyd i atal mwy o aelwydydd rhag bod yn ddigartref nag yn y flwyddyn flaenorol.
  • Mae llai o bobl yn byw mewn llety dros dro, a bu lleihad yn nifer y bobl sy’n cysgu allan.
  • Mae nifer yr achosion o erlid troseddau wedi parhau i ostwng ac mae nifer y troseddau a gofnodwyd wedi gostwng yn gyffredinol.
  • Mae llawer o bobl yn credu bod troseddu wedi cynyddu’n genedlaethol er gwaethaf cyfraddau erledigaeth sy’n gostwng.
  • Cynyddodd nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

  • Mae’r cynnydd yn gymysg ar draws diwylliant, treftadaeth, chwaraeon a’r Gymraeg.
  • Mae ymgysylltiad oedolion â’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yn dal yn uchel ac yn weddol sefydlog.
  • Mae presenoldeb plant mewn digwyddiadau celfyddydol wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig.
  • Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol ymysg plant wedi bod yn weddol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.
  • Mae mwy o amgueddfeydd a gwasanaethau archifau yn cyrraedd y safonau achrededig.
  • Mae cymryd rhan mewn chwaraeon ymysg oedolion wedi cynyddu dros yr hirdymor, er gwaethaf gostyngiad diweddar.
  • Mae cymryd rhan mewn chwaraeon ymysg plant yn dal yn is na’r lefelau blaenorol.
  • Mae nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yn y Cyfrifiad wedi gostwng ac mae’n dal yn is na thrywydd y garreg filltir genedlaethol.
  • Mae canran y bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd wedi aros yn weddol sefydlog.
  • Mae cyflwr adeiladau rhestredig wedi gwella ychydig.
  • Mae cyflwr henebion cofrestredig wedi dirywio dros yr hirdymor, er ei fod wedi sefydlogi dros y blynyddoedd diwethaf.

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

  • Mae’r cynnydd tuag at Gymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang wedi bod yn raddol ond yn barhaus.
  • Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yn parhau i ostwng ac mae gan Gymru garreg filltir genedlaethol i gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050.
  • Gostyngodd allyriadau nwyon tŷ gwydr tiriogaethol 9% yn 2024 ac maent bellach 44% yn is na’r flwyddyn sylfaen.
  • Mae allyriadau sy’n gysylltiedig â’r nwyddau a’r gwasanaethau a ddefnyddir yng Nghymru hefyd wedi gostwng dros yr hirdymor.
  • Mae ôl troed byd-eang Cymru wedi lleihau dros amser ond mae’n dal yn uwch na lefel gynaliadwy.
  • Mae nifer fawr o ddysgwyr yn parhau i gymryd rhan mewn prosiectau a chymwysterau dinasyddiaeth fyd-eang.