Neidio i'r prif gynnwys

Cymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith teg.

Cynnydd tuag at y nod

Mae’r cynnydd tymor hir tuag at y nod hon wedi bod yn gymysg. Mae canlyniadau cyffredinol y farchnad lafur wedi gwella o'i gymharu â'r cyfnod cyn datganoli yn 1999. Mae'r cynnydd wedi bod yn llai amlwg o ran mynd i'r afael â thlodi, cynhyrchiant isel, cyflogau a lefelau incwm. Er bod cynnydd wedi’i wneud o ran datgarboneiddio, bydd angen newid yn gyflymach yn y dyfodol er mwyn cyrraedd targedau.

Mae perfformiad economaidd wedi bod yn gymysg dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae data economaidd yn parhau i awgrymu bod yr economi yng Nghymru yn perfformio mewn ffordd debyg i economi ehangach y DU.

Mae'r farchnad lafur wedi gwanhau gyda cholledion swyddi wedi'i ganoli mewn diwydiannau sector preifat.

Mae perfformiad economaidd Cymru yn parhau i fod yn wannach na’r Deyrnas Unedig drwyddi draw o ran cynnyrch economaidd (gwerth ychwanegol gros) ac incwm aelwydydd (incwm gwario gros aelwydydd ac incwm canolrifol aelwydydd) y pen, ond mae’n eithaf tebyg i rai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig sydd â nodweddion a phriodweddau tebyg.

Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru yn llawer agosach at gyfartaledd y Deyrnas Unedig na’r gwerth ychwanegol gros (GVA) y pen. Mae gwahaniaethau yn dibynnu ar y mesur a ddefnyddiwyd a chyda’r bwlch lleiaf pan ddefnyddir y cartref canolrifol sy’n cael ei ystyried yn gartref nodweddiadol ar gyfer cymariaethau.

Mae’r bylchau hanesyddol mewn cyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch rhwng Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi lleihau ers troad y ganrif, gyda Chymru’n perfformio’n well na rhai rhanbarthau yn Lloegr dros y tymor canolig. Mae hyn yn newid sylweddol ers y cyfnod cyn datganoli yn y 1980au a’r 1990au.

Mae yna ganran uwch o bobl sy’n ennill llai na’r cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Yn ogystal, mae’r dystiolaeth ar agweddau eraill ar ansawdd gwaith a bylchau cyflog yn awgrymu darlun cymysg yng Nghymru.

Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2024 yn dangos bod cyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed a oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (86.3%) yn nesáu at y garreg filltir genedlaethol o 90%, i fyny o tua 80% yn y cyfnod 2010 i 2012.

Mae proffil cymwysterau poblogaeth oedran gweithio Cymru wedi bod yn gwella dros amser, gan nesáu at y cerrig milltir perthnasol, gyda chynnydd yng nghyfran yr oedolion o oedran gweithio sydd â chymwysterau lefel 3 (sy'n cyfateb i Safon Uwch) a lefel 4 (sy'n cyfateb i lefel gradd) yn ystod y degawd diwethaf tra bod y gyfran heb gymwysterau wedi gostwng.

Cynyddodd cyrhaeddiad mewn ysgolion uwchradd yn y blynyddoedd cyn y pandemig. Mae data ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025, 2 flynedd ar ôl dychwelyd yn llawn i drefniadau arholiadau cyn y pandemig, yn dangos gostyngiad bach yn y prif fesur (dangosydd Capio 9) ers 2023 i 2024 ac ers y flwyddyn cyn y pandemig (2018 i 2019). Mae canlyniadau plant o gefndiroedd o amddifadedd yn dal i fod yn waeth.

Ers dirwasgiad 2008, mae buddsoddi yn arloesedd cwmnïau yng Nghymru wedi amrywio. Cofnodwyd bod pethau wedi gwella rhywfaint cyn y pandemig o ran bod busnesau’n arloesi.

Perfformiad economaidd

Ers Argyfwng Ariannol Byd-eang 2008, mae twf economaidd ledled y DU, gan gynnwys Cymru, wedi bod yn fwy gwan nag yn y degawd blaenorol, gan adlewyrchu twf gwael mewn cynhyrchiant yn bennaf. Mae cynhyrchiant hefyd wedi tyfu’n arafach yn y DU nag mewn llawer o economïau datblygedig eraill y G7, fel y trafodwyd yn Adroddiad Economaidd a Chyllidol Cymru 2025. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod cynhyrchiant cryfach yn galluogi economi i gynhyrchu mwy o allbwn o’r un lefel o fewnbwn, gan gefnogi safonau byw uwch.

Dros y cyfnod hwn, mae Cymru wedi cadw’n weddol gyson â thwf y DU. Fodd bynnag, mae’r bwlch cynhyrchiant llafur sy’n cael ei fesur gan Werth Ychwanegol Gros yr awr rhwng Cymru a’r DU wedi aros ar oddeutu 15%. Yn 2023, cofnododd Cymru’r lefel isaf o gynhyrchiant llafur ymysg gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Mae hynny’n adlewyrchu’r heriau strwythurol hirsefydlog y bydd angen mynd i’r afael â nhw os bwriedir lleihau’r bwlch. Felly, mae’n flaenoriaeth allweddol i leihau’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU. Yn y cyd-destun hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod uchelgais yn ddiweddar i haneru’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU o fewn 10 mlynedd.

Ffigur 1.1: gwerth ychwanegol gros yr awr a weithir, rhanbarthau Cymru o’i gymharu â’r DU (y DU = 100), 2004 i 2023 [Nodyn 1], [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o ffigur 1.1: siartiau llinell yn dangos Gwerth Ychwanegol Gros yr awr a weithir yng Nghymru a’i rhanbarthau economaidd o’i gymharu â'r DU (mynegai cyfredol y DU = 100). Ar gyfer Cymru yn gyffredinol, mae wedi bod yn gymharol sefydlog ers 2004, gyda chynhyrchiant Cymru yn parhau i fod yn is na chyfartaledd y DU.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o gynhyrchiant llafur is-ranbarthol, y DU, 2004 i 2023, SYG
[Nodyn 1] Nid yw echelin y siart yn cychwyn ar sero.

[Nodyn 2] Mae amcangyfrifon cynhyrchiant a ddarperir yn defnyddio data wedi’i lyfnhau i gyfrif am yr ansefydlogrwydd cynyddol a all ddigwydd mewn ardaloedd daearyddol llai.

Mae cynhyrchiant llafur yn amrywio’n sylweddol ledled Cymru. Mae cynhyrchiant wedi bod ar ei uchaf yn gyson yn Ne-ddwyrain Cymru ac ar ei isaf yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru, tra bo Gogledd Cymru wedi dangos rhai arwyddion o gau’r bwlch gyda De-ddwyrain Cymru a chyfartaledd y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Trafodir y patrymau cynhyrchiant rhanbarthol yng Nghymru ymhellach yn Dadansoddiad Economaidd-gymdeithasol Cymru, Adroddiad 2026. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nifer o ffactorau posibl sy’n gysylltiedig â’r bwlch cynhyrchiant, gan gynnwys nifer y cwmnïau llai a llai cynhyrchiol, cyfran is o gwmnïau twf uchel, lefelau isel o wariant ymchwil a datblygu, cyfran is o fusnesau arloesedd gweithredol, a chyfran uwch o’r gweithlu sydd â lefelau cymwysterau is o’i gymharu â chyfartaledd y DU. Mae’r dadansoddiad hefyd yn ystyried amrywiaeth o fesurau a allai gefnogi twf cynhyrchiant, gan gynnwys cefnogi busnesau newydd a chwmnïau deillio sydd â photensial uchel, gwella mynediad cwmnïau at gyllid, cynyddu ymchwil, datblygu ac arloesi, cryfhau sgiliau, a chynyddu cyfranogiad yn y farchnad lafur, gan gynnwys drwy leihau anweithgarwch economaidd ar draws grwpiau rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd.

Arloesi mewn busnesau

Un o’r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol sy’n ymwneud â thwf cynhyrchiant yw cyfran y busnesau arloesedd gweithredol. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf o arolwg arloesedd y DU (sy’n cael ei gyhoeddi bob dwy flynedd gyda’r data diweddaraf ar gyfer 2022 i 2024) yn dangos bod 28% o fusnesau yng Nghymru yn arloesedd gweithredol (yn seiliedig ar ddiffiniad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)). Mae hyn yn golygu eu bod yn gwneud gweithgareddau fel cyflwyno cynnyrch, gwasanaethau, prosesau neu arferion neu strwythurau busnes newydd neu well; neu’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu neu hyfforddiant.

Cymru oedd â’r gyfran isaf o gwmnïau arloesi o holl wledydd y Deyrnas Unedig a rhanbarthau Lloegr yn ystod 2022 i 2024. Mae hyn yn defnyddio lleoliad daearyddol yn seiliedig ar leoliad prif swyddfa’r busnesau. Nid yw’n glir faint o effaith y gallai hyn ei chael ar fesur arloesi yng Nghymru.

Ers dirwasgiad 2008, mae buddsoddiad mewn arloesedd busnes wedi amrywio yng Nghymru a’r DU. Mae cyfran y busnesau arloesedd gweithredol wedi gostwng ers COVID-19 (2020 i 2022) ar draws y rhan fwyaf o ranbarthau’r DU, ac eithrio Dwyrain Canolbarth Lloegr.

Ffigur 1.2: busnesau arloesedd gweithredol yng Nghymru a’r DU, 2008 i 2010 a 2022 i 2024

Image

Disgrifiad o ffigur 1.2: siart linell yn dangos bod cyfran y busnesau arloesedd gweithredol yng Nghymru wedi dilyn tuedd y Deyrnas Unedig yn agos, gyda’r ddau yn dangos gostyngiad ar gyfer cyfnod diweddaraf yr arolwg (2022 i 2024).

Ffynhonnell: Arolwg Arloesedd y DU, Yr Adran Busnes a Masnach.

Safonau byw

Mae incwm aelwydydd yn ddangosydd gwell o ffyniant a llesiant materol pobl na mesurau cynnyrch economaidd. Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru yn llawer agosach at gyfartaledd y DU na’r Gwerth Ychwanegol Gros y pen. Mae’r dangosydd incwm cenedlaethol yn seiliedig ar incwm gwario gros aelwydydd (GDHI), sy’n mesur yr incwm sydd ar gael i aelwydydd ar ôl didynnu trethi, cyfraniadau yswiriant cymdeithasol a threuliau eraill. Y garreg filltir genedlaethol gysylltiedig yw gwella GDHI y pen (incwm y preswylydd) erbyn 2035. Yn ôl y data diweddaraf ar gyfer 2024, mae GDHI y pen yng Nghymru wedi cynyddu 22% mewn enw ers 2020, ond mae wedi gostwng mewn termau real ar ôl cyfrif am chwyddiant.

Ffigur 1.3: incwm gwario gros aelwydydd y pen, Cymru a’r Deyrnas Unedig, 2004 i 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1.3: mae GHDI y pen wedi cynyddu’n gyffredinol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ers 2004, gyda’r gwerth i Gymru yn parhau’n is na’r Deyrnas Unedig ar draws y cyfnod amser. Ar ben hynny, mae’r bwlch rhwng Cymru a’r DU wedi bod yn cynyddu.

Ffynhonnell: Incwm Gwario Gros Aelwydydd Rhanbarthol, SYG

[Nodyn 1] Nid yw echelin y siart yn cychwyn ar sero.

Mae dadansoddiad cymharol â’r DU yn rhoi sail ddefnyddiol ar gyfer asesu safonau byw cymharol.  Mae GDHI y pen yng Nghymru yn parhau i fod yn 83% o lefel y DU, sy'n is na’i lefel uchaf o 87% yn 2004. Cymru sydd â’r ail incwm gwario gros aelwydydd isaf y pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, ond mae’n cymharu’n fras ag ardaloedd yn y DU sydd â nodweddion tebyg. Yn 2024, 85% o lefel y DU oedd GDHI y pen yng Ngogledd Cymru, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru, ac roedd yn 81% yng Nghanolbarth a De-ddwyrain Cymru, sy'n is na chyfartaledd Cymru.

Mae’n bosibl bod dirywiad cymharol Cymru yn adlewyrchu twf arafach mewn cynhyrchiant a maint elw cymharol is ymysg busnesau hunangyflogedig a chwmnïau llai, sy’n fwy cyffredin yng Nghymru. Mae gan Gymru hefyd gyfran gymharol lai o bobl sy’n ennill incwm uchel na chyfartaledd y DU. Bydd hynny hefyd yn effeithio ar y mesur hwn. Trafodir y materion hyn ymhellach yn Adroddiad Economaidd a Chyllidol Cymru 2025.

Y farchnad lafur

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer cyflogaeth yw dileu’r bwlch rhwng y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig erbyn 2050. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn rhoi amcangyfrifon o ganlyniadau’r farchnad lafur ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o’r boblogaeth, a dyma’r ffynhonnell a ddefnyddir ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol cysylltiedig. Gan fod y rhan fwyaf o ddata’r farchnad lafur yn seiliedig ar arolwg ac yn anwadal, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau tymor byr.

Yn ôl yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 72.1% yn y flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2026, o’i gymharu â 75.4% ar gyfer y Deyrnas Unedig. Ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2005, mae’r gyfradd cyflogaeth wedi cynyddu 2.7 pwynt canran yng Nghymru a 2.9 pwynt canran yn y Deyrnas Unedig. Mae’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth rhwng Cymru a’r DU (a ddangosir yn Ffigur 1.4) wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd 1.5 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022 a 2.0 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025, cyn cynyddu eto i 3.3 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2026.

Ffigur 1.4: bwlch yn y gyfradd cyflogaeth (pobl rhwng 16 a 64 oed) rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2005 i fis Mawrth 2026

Image

Disgrifiad o ffigur 1.4: siart linell sy’n dangos bod y bwlch yn y gyfradd cyflogaeth rhwng Cymru a’r DU wedi amrywio ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2005, gyda’r bwlch yn ehangu yn y cyfnod diweddaraf (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2026) yn dilyn cyfnod o gulhau yn y blynyddoedd blaenorol.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Mae adroddiad Economaidd a Chyllidol Cymru 2025 yn cynnwys gwybodaeth a dadansoddiad cyd-destunol ehangach ar berfformiad y farchnad lafur, gan ganolbwyntio'n benodol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd ar lefel Cymru gyfan. Nid yw'r prif ddangosyddion hyn yn gerrig milltir cenedlaethol.

Cyfranogiad mewn addysg a’r farchnad lafur

Sefydlwyd carreg filltir genedlaethol ar gymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur yn 2021, sef y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.

Mae’r amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2024 yn dangos bod 86.3% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, gan ddisgyn o 86.8% yn 2023. Mae’r gostyngiad oherwydd cynnydd mewn anweithgarwch economaidd ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed.

Gan ddefnyddio'r prif fesur o bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, bu gostyngiad yng nghyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (o 90.8% yn 2023 i 88.3% yn 2024) a chynnydd yng nghyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed (o 84.9% yn 2023 i 85.3% 2024).

Gan ddefnyddio data mwy amserol ond sydd yn ystadegol llai cryf o’r arolwg blynyddol o’r boblogaeth, roedd y gyfran o bobl ifanc rhwng oedran 16 i 24 yng Nghymru oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 83.0% yn y flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2025, gostyngiad o 5.5 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae amcangyfrifon yr arolwg blynyddol o’r boblogaeth o NEET yng Nghymru wedi dod yn fwyfwy hedegog mewn blynyddoedd diweddar ac yn ystadegol llai cryf na’r adroddiad ystadegol ar y mater, sy’n cyfuno’r arolwg blynyddol o’r boblogaeth â ffynonellau eraill ar ddysgu seiliedig ar waith ac addysg. Mae’r tueddiad yng nghyfran  pobl 16 i 24 blwydd oed yng Nghymru oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi cynyddu yn gyffredinol ers 2021 er gwaetha anweddolrwydd yn y data.

Ffigur 1.5: canran y bobl ifanc yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, 2004 i 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1.5: siart linell sy’n dangos bod canran y bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi aros yn gymharol gyson ers 2005, tra bod canran y rheini rhwng 19 a 24 oed wedi disgyn yn is na 80% rhwng 2009 a 2014. Ers hynny mae wedi gwella i 85.3% yn 2024.

Ffynhonnell: Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Nid yw echelin y siart yn cychwyn ar sero.

(p): Mae’r ffigurau ar gyfer 2024 yn rhai dros dro.

Gwaith teg ac enillion

Cyflwynwyd dangosydd cenedlaethol ar gyfran y gweithwyr y pennir eu cyflog drwy gydfargeinio ym mis Rhagfyr 2021, ar sail data o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE). Roedd tua 53% o swyddi gweithwyr yn dod o dan drefniadau cydfargeinio yn 2025, lle mae cyflog ac amodau’n cael eu negodi rhwng cyflogwr ac undeb llafur. Mae hyn wedi aros yn gyson ers 2022 ond mae’n is nag mewn llawer o flynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, mae’n uwch o lawer nag ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd eraill y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhanbarthau Lloegr, ac mae’n adlewyrchu’r gyfran gymharol uwch o weithwyr yng Nghymru sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus ac ym maes gweithgynhyrchu.

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar gyfer gwaith teg ac enillion yn ystyried canran y bobl sy’n cael eu cyflogi ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol. Mae’r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyfrifo gan y Living Wage Foundation sy'n pennu’r fethodoleg. Ei nod yw adlewyrchu costau byw.

Yn 2025, roedd 66% o bobl sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) yn ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol, gostyngiad o 67% yn 2024. Mae hyn yn seiliedig ar y cyflog byw gwirioneddol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026 fel y’i cyhoeddwyd ym mis Hydref 2025.

Ffigur 1.6: canran y bobl sy’n cael eu cyflogi, ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol, 2012 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 1.6: siart linell yn dangos bod nifer y bobl mewn cyflogaeth sy’n ennill y cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru o leiaf wedi gostwng dros y flwyddyn i 66% yn 2025.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Mae carreg filltir genedlaethol wedi cael ei gosod er mwyn dileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Dros yr hirdymor, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau (ar sail canolrif enillion amser llawn yr awr a heb gynnwys goramser) wedi lleihau. Ym mis Ebrill 2025, 1.9% oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (llawnamser), sydd fymryn yn uwch o 1.8% yn y flwyddyn flaenorol. Fe wnaeth y bwlch leihau rhywfaint yn y DU i 6.9%.

Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer yr holl weithwyr yn parhau i fod yn llawer iawn uwch, sef 9.7%. Mae hyn oherwydd bod menywod yn llenwi mwy o swyddi rhan-amser sydd, o’u cymharu â swyddi llawnamser, â thâl canolrifol is yr awr.

Nid yw’r bylchau hyn yn ystyried gwahaniaethau mewn lefelau addysg a phrofiad, sy’n amrywio ar draws y rhywiau ac yn effeithio ar lefelau enillion.

Ffigur 1.7: canran y gwahaniaeth rhwng enillion canolrifol llawnamser yr awr rhwng dynion a menywod, 1999 i 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1.7: siart linell yn dangos bod y gwahaniaeth mewn enillion canolrifol llawnamser yr awr rhwng dynion a menywod wedi gostwng dros yr 20 mlynedd diwethaf ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi bod yn llai na’r Deyrnas Unedig ers 2013.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, SYG

[Nodyn 1] Mae gwahaniaeth cyflog sy’n fwy na sero yn golygu bod enillion dynion yn uwch nag enillion menywod.

Yn 2025, roedd y gwahaniaeth cyflog rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru yn £1.06 yr awr (6.6%). Mae hyn yn golygu bod gweithwyr anabl yng Nghymru yn ennill £1.06 yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Mae hyn yn gynnydd ar y flwyddyn flaenorol pan oedd y bwlch cyflog yn £1.18 (7.8%). Fodd bynnag, mae anwadalrwydd uchel yn y data gwahaniaeth cyflog ar sail anabledd sy'n golygu nad ydym yn gallu penderfynu a fu newid sylweddol ers 2015.

Yn 2025, roedd gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru yn ennill £1.32 (8.4%) yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn. Mae hyn yn cymharu â gwahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd o £0.54 (neu 3.6%) yn 2024. Fodd bynnag, yn debyg iawn i’r bwlch cyflog anabledd, mae anwadalrwydd uchel yn y data gwahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd sy'n golygu nad ydym yn gallu penderfynu a fu newid sylweddol ers 2015.

Mae gwahaniaethau cyflog ar sail anabledd yn seiliedig ar enillion canolrifol yr awr ar gyfer pob gweithiwr rhwng 16 a 64 oed. Mae gwahaniaethau cyflog ar sail ethnigrwydd yn seiliedig ar enillion canolrifol yr awr ar gyfer pob gweithiwr 16 oed a hŷn.

Oherwydd bod y data ar gyfer y bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd yng Nghymru yn anwadal iawn, dylid ystyried newidiadau tymor byr ochr yn ochr â thueddiadau hirdymor lle bo hynny’n bosibl. Ers 2019, mae’r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd wedi gweld cynnydd cyffredinol lle mae enillion cyfartalog fesul awr gweithwyr Gwyn wedi cynyddu 38.7% ac mae’r enillion cyfartalog fesul awr ar gyfer gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi cynyddu 28.9%. Mae gwahaniaethau mewn cyfraddau cyflog a chyflogaeth ar draws rhyw, ethnigrwydd ac anabledd yn cael eu trafod hefyd yn y bennod Cymru Sy’n Fwy Cyfartal.

Costau byw

Incwm a wariwyd ar gostau tai

Mae’r dangosydd cenedlaethol ar ganran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai yn seiliedig ar ddata o Arolwg Adnoddau Teulu yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Ar gyfer y cyfnod diweddaraf (blwyddyn ariannol 2021 i 2022 hyd at flwyddyn ariannol 2023 i 2024), roedd 15% o aelwydydd yn gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai, ond mae hyn yn amrywio o ran deiliadaeth.

Mae 3% o aelwydydd sy’n berchen ar eu cartref eu hunain yn llwyr a 8% o’r rhai sy’n berchen ar gartref gyda morgais yn gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai. Mae'r canrannau'n uwch ar gyfer deiliadaethau eraill, gyda 37% o'r rhai mewn tai rhent preifat a 36% o'r rhai mewn tai rhent cymdeithasol yn gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai.

Er ei bod yn ymddangos bod canran yr aelwydydd sy'n gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai wedi gostwng yn ddiweddar (roedd y ffigurau ar gyfer y cyfnod 2011 i 2012 hyd at 2013 i 2014 oddeutu 19%) mae'n bwysig nodi bod y ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau'r Arolwg o Adnoddau Teulu (FRS) sydd â sampl fach ar gyfer Cymru, ac mae'n annhebygol bod y newidiadau o un flwyddyn i'r llall yn ystadegol arwyddocaol. Felly, rydym yn eich cynghori i fod yn ofalus wrth edrych ar y newidiadau dros amser. Fodd bynnag, sylwch fod elfen incwm y dangosydd yn ystod y cyfnodau diweddaraf yn cynnwys cynnydd yng nghefnogaeth y wladwriaeth (er enghraifft taliadau’r cymorth tanwydd, taliadau’r cynllun cymorth Costau Byw) yn ogystal â thaliadau llog uwch ar gynilion o ganlyniad i’r cyfraddau llog uwch. Ar ben hynny, efallai nad yw'r cynnydd a welwyd yng nghyfraddau llog morgeisi yn dilyn y cynnydd yng nghyfradd sylfaenol Banc Lloegr o hydref 2022 ymlaen wedi effeithio ar lawer o aelwydydd ar forgeisi cyfradd sefydlog yn ystod y cyfnod, os nad yw eu morgeisi cyfradd sefydlog wedi dod i ben eto.

Sylwch nad yw'r dangosydd hwn yn cynnwys costau ynni aelwydydd, sydd wedi bod yn codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, na chostau nad ydynt yn gysylltiedig â thai y mae aelwydydd yn eu hwynebu (e.e. bwyd) a fydd wedi cael effaith ehangach ar aelwydydd.

Tlodi tanwydd

Mae costau ynni aelwydydd wedi bod yn gyfnewidiol ers dechrau 2022 pan gododd prisiau ynni'n sydyn, gan gyrraedd uchafbwynt yn niwedd 2022. Maent wedi gostwng ers hynny ond maent yn dal yn llawer uwch na'r prisiau cyn 2022.

Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, amcangyfrifwyd bod bil ynni cartref cyfartalog (ar sail defnydd safonol o ynni) yn £1,850, sydd 37% yn uwch nag yn 2021 i 2022. Mae cynnydd o’r fath mewn prisiau wedi effeithio ar nifer yr aelwydydd yr amcangyfrifir eu bod mewn tlodi tanwydd, gan eu bod yn debygol o fod yn gynnydd mwy na newidiadau i incwm.

Ystyrir bod aelwyd mewn tlodi tanwydd os nad yw’n gallu cadw’r cartref yn gynnes am gost resymol. Yng Nghymru, mae hyn yn cael ei fesur fel unrhyw aelwyd a fyddai’n gorfod gwario dros 10% o’i incwm ar gynnal safon gwresogi boddhaol. Diffinnir unrhyw aelwyd sy’n gorfod gwario mwy nag 20% fel un sydd mewn tlodi tanwydd difrifol.

Mae’r amcangyfrifon diweddaraf sydd wedi’u modelu ar gyfer mis Hydref 2024 yn dangos yr amcangyfrifwyd bod 340,000 o aelwydydd yng Nghymru (1 o bob 4 aelwyd) mewn tlodi tanwydd. Mae hyn wedi codi o oddeutu 1 o bob 7 aelwyd ym mis Hydref 2021. Amcangyfrifwyd bod 63,000 o aelwydydd yng Nghymru (1 o bob 20 aelwyd) mewn tlodi tanwydd difrifol yn 2024.

Cymwysterau

Mae proffil cymwysterau poblogaeth oedran gweithio Cymru wedi bod yn gwella dros amser, er bod toriad yn y gyfres rhwng 2021 a 2022 oherwydd newidiadau i’r cwestiynau ar gymwysterau yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sydd nawr yn adlewyrchu’r fframwaith cymwysterau presennol.

Sgiliau a chymwysterau yw'r un dylanwad mwyaf ar incwm pobl ac ar eu siawns o fod mewn gwaith.

Yn 2025, roedd 46.7% o oedolion o oedran gweithio (18 i 64 oed) wedi cymhwyso i lefel addysg uwch o leiaf (lefel 4), i fyny o 45.9% yn 2024. Mae cyfran y boblogaeth oedran gweithio sydd ag o leiaf gymwysterau addysg uwch wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y 15 mlynedd diwethaf; gan godi 12 pwynt canran yn y cyfnod rhwng 2009 a 2021, gan barhau i godi ers hynny.

Un o’r cerrig milltir cenedlaethol ar gymwysterau yw y bydd 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Yn 2025, roedd 69.7% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru wedi cymhwyso i lefel 3 neu uwch.

Rhwng 2008 a 2021, roedd gostyngiadau mawr yng nghyfran yr oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau. 7.2% oedd y gyfran hon yn 2025. Roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd wedi cymhwyso i lefel 2 o leiaf (sy’n cyfateb i 5 neu fwy TGAU gradd A* i C) yn 88.9% yn 2025.

Mae oedolion hŷn yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau nag oedolion iau.

Yn y boblogaeth oedran gweithio, nid oedd gwahaniaeth sylweddol yng nghyfran y dynion a'r menywod oedd heb unrhyw gymwysterau. Ond, mae menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau lefel 4 neu uwch.

Ffigur 1.8: lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oedran gweithio, 2008 i 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1.8: mae lefelau cymwysterau yng Nghymru wedi cynyddu’n raddol ers 2008, er bod toriad yn y gyfres rhwng 2021 a 2022 oherwydd materion yn ymwneud â chymharu.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, SYG

[Nodyn 1] Ni ellir cymharu amcangyfrifon ar gyfer 2022 ymlaen â blynyddoedd blaenorol yn dilyn newidiadau i’r cwestiynau ar gymwysterau Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Y garreg filltir genedlaethol arall ar gymwysterau yw y bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050. Yn 2025, roedd gan 8 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru 5% neu lai o oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau: Sir Fynwy (1.9%), Powys (2.5%), Gwynedd (3.9%), Bro Morgannwg (4.1%), Sir Gaerfyrddin (4.2%), Ceredigion (4.3%), Sir Benfro (4.4%), Caerdydd (4.4%). . Roedd y gyfran uchaf o oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau ym Merthyr Tudful (14.6%) a Blaenau Gwent (14.5%).

Ffigur 1.9: cyfran y boblogaeth oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn ôl awdurdod lleol, 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 1.9: siart far yn dangos cyfran y boblogaeth oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau ym mhob awdurdod lleol yn 2025. Mae’r gyfran yn llai na 5% yn Sir Fynwy, Powys, Gwynedd, Bro Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Chaerdydd, ond mae dros 14% ym Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, SYG

Cyrhaeddiad mewn ysgolion

Cynyddodd cyrhaeddiad mewn ysgolion yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig, ond amharwyd ar arholiadau cyhoeddus (fel TGAU a Safon Uwch), yn enwedig yn 2020 a 2021 oherwydd pandemig COVID-19. Yn y blynyddoedd hynny cafodd yr holl raddau a fyddai wedi cael eu dyfarnu ar ôl arholiad eu disodli gan raddau a aseswyd neu a bennwyd gan ganolfan. Roedd blwyddyn academaidd 2021 i 2022 yn flwyddyn o drawsnewid lle’r oedd disgyblion yn sefyll arholiadau ysgrifenedig gyda rhai addasiadau, ac ym mlwyddyn ysgol 2022 i 2023 roedd newid pellach yn ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig (gan gadw rhywfaint o gymorth i ddysgwyr). Yn ystod blwyddyn ysgol 2023 i 2024 bu adferiad llawn o'r trefniadau arholiadau cyn y pandemig. Mae rhagor o fanylion am y trefniadau hyn ar gael yn ein cyhoeddiad Canlyniadau Arholiadau blynyddol.

Y sgôr ‘capio 9’ yw’r dangosydd cenedlaethol ar berfformiad ysgolion uwchradd sy’n canolbwyntio ar 9 canlyniad gorau disgyblion blwyddyn 11 ar lefel TGAU, gan gynnwys rhai gofynion penodol i bwnc.

Yn 2024 i 2025 cyfartaledd y dangosydd capio 9 (fersiwn mesurau dros dro) oedd 354.3 pwynt, cynnydd bach o 352.1 pwynt yn 2023 i 2024. Mae canlyniadau plant o gefndiroedd o amddifadedd yn dal i fod yn waeth.

Yn 2024 i 2025, sgoriodd disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim 300.8 pwynt, a sgoriodd disgyblion nad oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim 379.4 pwynt ar gyfartaledd yn y dangosydd capio 9 (fersiwn mesurau dros dro). Mae hyn yn golygu bod disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi sgorio 78.6 pwynt yn fwy na disgyblion sy’n gymwys.

Ffigur 1.10: dangosydd Capio 9 (fersiwn mesur dros dro) yn ôl cymhwysedd Prydau Ysgol am Ddim, blynyddoedd academaidd 2018 i 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1.10: siart far yn dangos y dangosydd Capio 9 cyfartalog ar gyfer myfyrwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r myfyrwyr nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ym mlynyddoedd academaidd 2018 i 2019, 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025. Cafodd disgyblion oedd ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim sgôr uwch ym mhob un o'r blynyddoedd a ddangosir.

Ffynhonnell: Canlyniadau Arholiadau, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Ni adroddwyd ar y dangosydd Capio 9 rhwng 2019 i 2020 a 2021 i 2022 oherwydd y tarfu a achoswyd gan bandemig COVID-19.

Darllen pellach

Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o’r canlynol.

Asesiadau o gyfnod datblygu disgyblion 4 oed mewn mathemateg, iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn ymwneud â Fframwaith y Cyfnod Sylfaen. Nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu bellach oherwydd bod y Cwricwlwm newydd i Gymru wedi cael ei roi ar waith fesul cam o fis Medi 2022.

Mae trosolwg o’r farchnad lafur, yn rhoi diweddariad ar y farchnad lafur yng Nghymru bob mis.

Mae dangosfwrdd economi Cymru mewn rhifau yn dangos tueddiadau yn y prif ganlyniadau economaidd i Gymru, o’i gymharu â’r DU.

Mae sawl astudiaeth sy'n ymwneud â chynhyrchiant ac incwm gwirioneddol, er enghraifft, gweler Stagnation nation: the Inquiry gan y Resolution Foundation a The UK Productivity puzzle in an international comparative perspective (Llyfrgell Ar-lein Wiley).

Mae rhagor o wybodaeth am incwm rhanbarthol ar gael gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Living standards, poverty and inequality in the UK.

Mae data ar y lefelau cymhwyster uchaf hefyd ar gael o’r Cyfrifiad Poblogaeth. Mae Cyfrifiad Addysg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021) yn darparu crynodeb o ddata Cymru. Nid oes modd cymharu’r ystadegau sydd ar gael o’r Cyfrifiad yn uniongyrchol â’r rhai a gyflwynir yn yr adroddiad hwn ar Lesiant Cymru. Yn ogystal â’r gwahanol ddulliau casglu data, mae’r ystadegau hyn yn seiliedig ar oedolion o oedran gweithio (18 i 64 oed), ac mae’r rhai o’r Cyfrifiad yn seiliedig ar yr holl breswylwyr arferol 16 oed a hŷn.

Mae gwybodaeth am ddyfarnu graddau ar gyfer cymwysterau ysgol a choleg (TGAU, Safon Uwch, UG, Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru) yn y blynyddoedd y mae COVID-19 yn effeithio arnynt ar gael yn y datganiadau isod.