Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Y Gymraeg yw un o gryfderau mwyaf Cymru. Wedi’i gwreiddio yn ein hanes ac yn ganolog i’n dyfodol, mae’n cyfoethogi ein cymunedau, ein diwylliant a’n bywyd cyhoeddus.

Mae hon yn Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol a phellgyrhaeddol sy’n gosod agenda glir i’r llywodraeth gyfan ac i’n partneriaid ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Rydym yn gwybod nad yw mabwysiadu dulliau traddodiadol o lywodraethu yn mynd i gyflawni graddfa’r newid yr hoffem.

Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio’r holl ddulliau posibl sydd gan y llywodraeth i gefnogi ein nod o wella bywydau pobl yng Nghymru.

Llywodraethu’n effeithiol

Rydym yn mabwysiadu dull newydd o lywodraethu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru. Nid yw bwriadau da a strategaethau yn ddigon i gyflawni canlyniadau ystyrlon. Mae angen camau gweithredu i gyd-fynd â nhw. Gan adeiladu ar ein dangosfyrddau digidol rhyngweithiol, byddwn yn parhau i ddatblygu cyfres o ganlyniadau a fydd yn mesur yr effaith yr ydym yn ei chael, gan helpu i sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn cyflawni newidiadau i bobl Cymru.

Rydym hefyd yn cydnabod bod llawer o’r heriau a wynebwn yn rhai ystyfnig sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Dim ond pan fydd yr holl Weinidogion yn gweithio gyda’i gilydd y gallwn fod yn hyderus y byddwn yn cyflawni ein blaenoriaethau ac yn canfod datrysiadau i faterion cymhleth sydd wedi niweidio ein cymunedau yn rhy hir. Rhaid i’n gwaith gael ei ddatblygu a’i gyflawni ar draws y llywodraeth.

Bydd ein holl waith yn cael ei lywio gan yr ethos hwn a bydd sut y gall pob maes gwario gyfrannu at ein hamcanion ehangach yn ystyriaeth graidd. Fodd bynnag, mae rhai meysydd lle rydym yn cydnabod bod angen inni wneud rhagor er mwyn eu cydgysylltu. Byddwn felly yn mabwysiadu dull trawslywodraethol pwrpasol a strwythuredig mewn nifer o feysydd i wneud cynnydd cyflym ar gamau gweithredu allweddol.

Yr argyfwng hinsawdd a natur

Cydnabuwyd ers tro bod lleihau allyriadau carbon ac addasu i hinsawdd sy’n newid yn amcanion a fydd yn llywio gwaith pob adran, gan ei gwneud yn ofynnol inni newid y ffordd yr ydym yn cyflwyno rhaglenni mewn sawl maes.

Byddwn yn cryfhau gwydnwch hinsawdd, yn mynd i’r afael â llygredd ac yn sicrhau bod gweithio tuag at ein huchelgeisiau hinsawdd a natur yn darparu cymunedau iachach, economïau gwledig ac arfordirol cryfach a rhagor o wydnwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn cydnabod y rhyng-gydgysylltiad o ran gweithredu ym meysydd tai, iechyd ataliol, seilwaith ynni, bwyd a ffermio, ynghyd ag effaith hinsawdd sy’n newid a chost ddynol llifogydd, gwres a llygredd.

Byddwn yn:

  • sicrhau bod gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn cael eu blaenoriaethu a’u cydgysylltu’n effeithiol ar draws y llywodraeth, gan ymgorffori datgarboneiddio, cynaliadwyedd a diogelu’r amgylchedd ar draws pob portffolio.
  • cymryd camau beiddgar er mwyn gwella ansawdd aer, lleihau gwastraff a mynd i’r afael â llygredd drwy sicrhau bod deunyddiau yn cael eu defnyddio am gyfnod hirach, a sicrhau mai’r llygrwr sy’n talu wrth inni drosglwyddo i economi gylchol.
  • cymhwyso dull system gyfan, sy’n seiliedig ar ddalgylchoedd er mwyn gwella ansawdd dŵr a chryfhau gwydnwch hinsawdd a natur yng Nghymru. Ein huchelgais yw bod pob corff dŵr yng Nghymru ar lwybr clir tuag at statws da. Gan weithio mewn partneriaeth ar draws sectorau, byddwn yn cyflymu’r gwaith o ddarparu datrysiadau seiliedig ar natur sy’n lleihau llygredd ac yn meithrin gwydnwch rhag pwysau amgylcheddol yn y dyfodol.
  • datblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur trawslywodraethol i Gymru, gyda chefnogaeth Bwrdd Hinsawdd a Natur. Bydd y Cynllun yn cryfhau gwydnwch hinsawdd a natur, yn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol, yn cefnogi pontio teg ac yn nodi camau gweithredu ymarferol tuag at lwybr i sero net erbyn 2040. Fel rhan o’r cynllun, byddwn yn gosod targedau uchelgeisiol i gyflawni adferiad natur sylweddol erbyn 2050.
  • sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, swyddfa gref ac annibynnol a fydd yn dwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif am eu gwaith mewn perthynas â chyrraedd targedau amgylcheddol.

Cymraeg: iaith i bawb

Y Gymraeg yw un o gryfderau mwyaf Cymru. Wedi’i gwreiddio yn ein hanes ac yn ganolog i’n dyfodol, mae’n cyfoethogi ein cymunedau, ein diwylliant a’n bywyd cyhoeddus. Mae ein hymrwymiad i iaith ffyniannus yn sail i bopeth a wnawn, ac mae hyrwyddo ac ymgorffori’r Gymraeg yn gyfrifoldeb i bob un o’r Gweinidogion.

Rydym am i’r Gymraeg fod yn iaith sy’n perthyn i bob un ohonom, gyda chyfleoedd i bobl ei dysgu, ei defnyddio a byw eu bywydau drwyddi – ac mae pobl Cymru am weld hynny hefyd. Mae hyn yn ganolog i’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau yng Nghymru, gyda gwasanaethau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Bydd cefnogi iaith Gymraeg ffyniannus yn helpu i ysgogi ffyniant, grymuso cymunedau, meithrin ymdeimlad o berthyn a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Byddwn yn:

  • cyhoeddi a gweithredu strategaeth newydd ar  gyfer y Gymraeg gyda ffocws o’r newydd ar gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn a mwy erbyn 2050, dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith, a sicrhau bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom yng Nghymru.
  • gweithio i gryfhau gwydnwch y Gymraeg fel iaith gymunedol ac mewn gweithleoedd, gan weithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a gweithio tuag at ddynodi ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol uwch a diogelu enwau lleoedd Cymraeg.
  • gweithio tuag at estyn Safonau’r Gymraeg i gyrff Llywodraeth y DU ac i wasanaethau sy’n gweithredu yng Nghymru, a sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd pob polisi cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, tai, cynllunio, trafnidiaeth, addysg, diwylliant a’r economi.

Atal afiechyd

Mae iechyd da yn rhywbeth sy’n anhepgor ar gyfer bywyd hapus, hir ac egnïol. Mae’n rhyddhau ein gallu i gyrraedd ein potensial ac i chwarae rhan weithredol yn ein cymunedau, ym myd addysg ac yn yr economi. Yn yr un modd, gall creu amgylchedd iachach a darparu gwasanaethau effeithiol – fel tai, addysg a diwylliant – lywio ymddygiadau a gwella ein hiechyd cyffredinol. Y cyfle mwyaf yw atal clefyd cyn iddo ddechrau neu ddatblygu a lleihau’r bylchau eang mewn canlyniadau iechyd rhwng cymunedau.

Rydym yn cymryd camau cydweithredol wedi’u targedu ar draws y llywodraeth i greu poblogaeth iachach a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol afiechyd ac anghydraddoldebau iechyd. Mae gwella iechyd poblogaeth yn sylfaenol i gyflawni’n huchelgeisiau o ran adnewyddu economaidd, rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, deilliannau dysgu, cydraddoldeb, addasu i’r hinsawdd, gwasanaethau cyhoeddus cadarn a gwydnwch cenedlaethol.

Byddwn yn hyrwyddo amgylchedd iachach sy’n cefnogi pobl i wneud dewisiadau iachach ac yn trawsnewid cyfleoedd bywyd i bobl o bob oed. Mae hyn yn cynnwys cefnogi plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd a gwella iechyd a llesiant corfforol a meddyliol i bawb.

Gan fanteisio ar yr holl ddulliau sydd gan y llywodraeth, byddwn yn gweithio tuag at gynyddu’r disgwyliad oes iach ledled Cymru drwy weithredu ar lefelau cenedlaethol a lleol.

Drwy ein Strategaeth Fwyd Genedlaethol, byddwn yn datblygu system fwyd iachach, decach a mwy cynaliadwy sy’n cefnogi cynhyrchwyr Cymru, yn cryfhau diogeledd bwyd ac yn sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar fwyd maethlon a fforddiadwy lle bynnag y maent yn byw.

Mae cael mynediad gwell at ein diwylliant a’n treftadaeth, ac at gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn hanfodol, a byddwn yn adlewyrchu hynny yn ein Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon a’n cynllun Hinsawdd a Natur.

Mae ein hymrwymiadau ar gyfer y system drafnidiaeth yn cydnabod pwysigrwydd teithio llesol i sicrhau bod ymarfer corff yn ddewis dyddiol hawdd. Bydd yr holl gamau hyn yn gwella iechyd y genedl, gan leihau anweithgarwch economaidd, galluogi mwy o bobl i weithio a chyfrannu at ein cenhadaeth genedlaethol ar gynhyrchiant.

Byddwn yn:

  • gwella iechyd a llesiant y cyhoedd, ar lefel poblogaeth, drwy ddatblygu Strategaeth a Fframwaith Iechyd y Cyhoedd newydd a chynhwysfawr i Gymru, yn seiliedig ar adolygiad o’r bôn i’r brig o anghenion iechyd y cyhoedd heddiw ac yn y dyfodol.
  • ymgorffori atal afiechyd yn yr holl waith datblygu polisi ar draws y llywodraeth gan sicrhau bod camau gweithredu’r llywodraeth ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd a llesiant yn cydweddu’n strategol.
  • manteisio ar arbenigedd a chynlluniau i leihau effaith clefydau trosglwyddadwy gan ganolbwyntio ar dargedau dileu erbyn 2030 ar gyfer twbercwlosis a feirysau a gludir yn y gwaed gan gynnwys HIV.
  • gwneud adnewyddu stoc dai Cymru yn genhadaeth genedlaethol, ynghyd â diwygiadau i roi mwy o sicrwydd i rentwyr a chynyddu nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael. Mae tai diogel a digonol yn sylfaen hanfodol i iechyd.
  • mynd i’r afael â digartrefedd drwy ddefnyddio dull Tai yn Gyntaf sy’n ystyriol o drawma ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan sicrhau bod ein deddfwriaeth digartrefedd newydd yn cael ei gweithredu’n effeithiol a’i hadolygu’n barhaus. Bydd ein Strategaeth Tai ac Adfywio yn seiliedig ar yr uchelgais y dylai pawb gael cartref saff a diogel.
  • buddsoddi yn rôl ataliol diwylliant, treftadaeth a chwaraeon i hybu iechyd da i bobl o bob oedran, cefndir a gallu.
  • cyflwyno rhaglen genedlaethol Nofio a Diogelwch Dŵr i Ysgolion, gan roi sylfaen i bob disgybl yng Nghymru ar gyfer bywyd egnïol ac iach, magu eu hyder, a chadw plant yn ddiogel o amgylch dŵr.

Mae’r dull newydd hwn o fyw’n iach yn rhoi cymaint o bwyslais ar atal salwch y mae modd ei osgoi ag y mae’n ei roi ar drin unrhyw achosion o salwch. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod yr arfau ar gyfer byw’n iach o fewn cyrraedd pobl, a darparu gwasanaethau mewn ffordd sy’n helpu i wneud bywydau pobl yn iachach.

Er ein bod yn amlinellu nifer o gamau y byddwn yn eu cymryd, rydym yn gwybod y bydd angen inni wneud rhagor i gyflawni ein huchelgeisiau. Mae hon yn uchelgais sy’n ymestyn ar draws cyfrifoldebau’r Gweinidogion, ac yn faes lle mae angen inni weithio mewn ffordd wahanol i ddyfeisio rhaglenni a all wneud gwahaniaeth. I gefnogi gwaith mewn perthynas â hyn a’n helpu i weithio mewn ffordd wahanol, byddwn yn cynnull gweithgor gweinidogol trawslywodraethol. Bydd hyn yn sicrhau bod camau gweithredu ym meysydd Tai, Diwylliant a Chwaraeon, Trafnidiaeth ac Addysg i gyd yn cyfrannu at atal afiechyd a dileu penderfynyddion cymdeithasol iechyd gwael a disgwyliad oes iach byrrach. Byddwn yn adrodd ar y gwaith hwnnw i’r Senedd.

Cynhyrchiant

Rydym wedi nodi mai cau’r bwlch cynhyrchiant rhyngom a’r DU fydd y peth a fydd yn datgloi potensial Cymru ac yn ysgogi twf economaidd. Mae hon yn agenda sy’n ymwneud â chefnogi busnesau’n uniongyrchol, ond mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod y seilwaith cywir o’u cwmpas i’w helpu i ddatblygu. Rydym yn gwybod bod hyn yn ymwneud â’r cysylltiadau trafnidiaeth, y system gynllunio, y sgiliau sydd gan bobl, yn ogystal â’r ffordd y gall ystod o bolisïau’r llywodraeth ei gwneud hi’n haws, neu’n anoddach, i fusnesau weithredu.

Bydd sefydlu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol newydd yn allweddol i’n cenhadaeth cynhyrchiant, ond rydym hefyd am sicrhau bod pob adran yn chwarae ei rhan o ran creu’r amodau ar gyfer llwyddiant. Mae ein cenhadaeth genedlaethol ar gynhyrchiant yn rym ysgogol ar draws y llywodraeth, gan gydnabod y bydd penderfyniadau a wneir ar draws pob adran yn cael effaith ar ein cynhyrchiant lleol a chenedlaethol. Wrth inni ddatblygu polisi a chyflawni camau gweithredu yn y Rhaglen hon, byddwn yn parhau i ystyried sut y gallant gefnogi’r genhadaeth hon.

Deddfwriaeth

Mae ein rhaglen o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yn chwarae rhan bwysig o ran cyflawni’r agenda hon. Er nad deddfwriaeth yw’r ffordd orau bob amser o gyflawni ein hamcanion, mae rhai meysydd lle bydd rhoi sail statudol i rywbeth yn ein helpu i gyflawni a gwreiddio’r newidiadau yr ydym wedi ymrwymo i’w gwneud. Byddwn yn deddfu pan fo angen er mwyn gwella canlyniadau i bobl Cymru. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn ystyried datrysiadau anneddfwriaethol drwy bolisïau a threfniadau gwaith partneriaeth lle gall hyn fod yn effeithiol.

Drwy gydol tymor y llywodraeth hon, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i gyflawni ein hagenda. Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi cam cyntaf rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth hon ar gyfer y Seithfed Senedd, sy’n cynnwys tai, perchnogaeth gymunedol a phrawfesur gwledig, camau cyntaf pwysig wrth gyflawni’r Rhaglen Lywodraethu hon.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i’r Senedd am ein cynigion deddfwriaethol, ac am gamau dilynol ein rhaglen ddeddfwriaethol, wrth inni drafod manylion cyflawni’r ymrwymiadau a nodir yn y Rhaglen hon. Byddai’n well gennym bob amser i’r Senedd basio deddfwriaeth sy’n llywio bywydau pobl yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd achlysuron pan mai deddfwriaeth y DU yw’r dull mwyaf ymarferol ac effeithiol, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn. Mae hyn adlewyrchu’r egwyddor gyfansoddiadol mai dim ond gyda chytundeb y Senedd y mae Senedd y DU yn deddfu yn y meysydd hyn.

Llywodraethu’n gyfrifol

Mae’r Rhaglen Lywodraethu hon yn nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd i ysgogi newid ar draws yr holl gymunedau yng Nghymru.

Mae llywodraethu Cymru yn ymwneud nid yn unig ag agenda newid, ond hefyd â sicrhau bod sefydlogrwydd wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel. Rydym yn glir ynghylch sut y gallwn wneud y rhain yn well, ond rydym hefyd wedi ymrwymo i gynnal gwasanaethau effeithiol ac effeithlon y mae pobl yn dibynnu arnynt yn eu bywydau bob dydd.

Mae llywodraethu hefyd yn ymwneud â chadw Cymru yn ddiogel, ac mae hwn yn gyfrifoldeb yr ydym yn ei gymryd o ddifrif. Mae hynny’n golygu sicrhau bod gennym wasanaethau y gall pobl ddibynnu arnynt mewn argyfwng, fel tanau gwyllt. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau ein bod yn barod ar gyfer pob posibiliad ac yn ymgymryd â’r trefniadau angenrheidiol o ran gwydnwch a pharatoi ar gyfer argyfyngau, fel y gallwn weithio gyda’r heddlu, y gwasanaethau tân ac achub a phartneriaid eraill i weithredu mewn argyfwng. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddysgu gwersi o’n hymateb i ddigwyddiadau – yn bwysicaf oll, rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn dysgu’r gwersi yn sgil Covid.

Wrth i’n hinsawdd newid, rydym yn gwybod y bydd digwyddiadau tywydd garw yn dod yn fwy cyffredin ac y bydd creu cymunedau sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn arbennig yn dod yn fater mwy dybryd. Er na allwn atal pob achos o lifogydd, bydd angen inni gefnogi cymunedau a busnesau i baratoi i liniaru’r effeithiau economaidd, cymdeithasol ac iechyd meddwl a achosir gan lifogydd pan fyddant yn digwydd.

Byddwn yn:

  • gweithio gyda Fforwm Llifogydd Cymru sydd newydd ei greu i ddod ag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, gwasanaethau brys a sefydliadau cymunedol ynghyd i gydlynu strategaeth genedlaethol ar lifogydd.

Gweithio mewn partneriaeth

Mae llawer o sefydliadau a phobl ledled Cymru sy’n rhannu ein hamcanion ac sy’n gallu ein helpu i gyflawni ein hagenda. Mae cyrff hyd braich ac asiantaethau’r llywodraeth yn asiantau cyflawni pwysig, a byddwn yn rhoi mandad clir iddynt ac yn cydweithio â nhw i gyflawni canlyniadau gwell i bobl Cymru.

Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae’r sector gwirfoddol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â’n hysgolion, ein colegau, ein prifysgolion, ein gwasanaethau iechyd a’r sector cyhoeddus ehangach. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau effeithlonrwydd, gwerth da am arian, rhannu arferion da a gwell cynhyrchiant ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Mae llywodraeth leol yn bartner allweddol yn llawer o’n hymdrechion – sicrhau addysg effeithiol, darparu gofal cymdeithasol a’n helpu i ehangu gofal plant a ariennir. Byddwn yn meithrin partneriaethau effeithiol fel ein bod yn cyflawni ein hamcanion cyffredin gyda’n gilydd.

Byddwn yn:

  • adnewyddu’r Cytundeb Partneriaeth Strategol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan sicrhau eu bod yn ymwneud â chynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, a byddwn yn cefnogi cydweithredu rhanbarthol effeithiol.
  • adolygu’r fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol i adlewyrchu’n well wir gost darparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru, a chyflwyno cyllid gwaelodol i sicrhau nad oes effaith anghymesur ar unrhyw awdurdod lleol.

Caiff gwaith partneriaeth yng Nghymru ei hwyluso gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n rhoi fframwaith i gyrff cyhoeddus i’w helpu i ysgogi’r camau gweithredu sy’n cyfrannu at y nodau llesiant.

Rydym wedi dod â’n Rhaglen Lywodraethu a’n hamcanion llesiant ynghyd o dan un fframwaith gweithredu. 
Mae’r blaenoriaethau a nodir yn y ddogfen hon hefyd yn amcanion llesiant inni. Maent yn adlewyrchu’r blaenoriaethau y cawsom ein hethol arnynt, y canlyniadau hirdymor yr ydym am eu cyflawni i Gymru, a’n hymrwymiad i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol cenedlaethau heddiw ac yfory.

Mae’r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu hon yn cynrychioli’r camau rhesymol y byddwn yn eu cymryd i gyflawni’r amcanion hyn. Gyda’i gilydd, maent yn darparu llinell glir rhwng ein huchelgeisiau hirdymor ar gyfer Cymru a’r camau ymarferol y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni. Bydd y gwaith o gyflawni ein hymrwymiadau yn cael ei ategu gan broses asesu effaith. Mae’r mecanwaith hwn, sy’n gofyn am gyfranogiad ystyrlon, yn rhan hanfodol o lunio achos cynhwysfawr a chytbwys dros opsiynau polisi neu gynigion deddfwriaethol, ac mae’n cwmpasu ystod eang o feysydd, gan gynnwys cydraddoldeb, y Gymraeg, hawliau plant ac effaith amgylcheddol.

Bwriedir i’r Rhaglen hon gwmpasu tymor llawn y Llywodraeth. Fodd bynnag, byddwn yn cynnal adolygiad canol tymor. Bydd hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i’r Llywodraeth ymateb mewn ffordd fwriadol ac ystyriol i newidiadau polisi annisgwyl neu siociau economaidd neu geowleidyddol.

Mae ein Datganiad Llesiant cysylltiedig yn egluro sut y mae’r amcanion hyn yn cyfrannu at y saith nod llesiant, sut y maent wedi’u datblygu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i’w cyflawni, a sut y byddwn yn monitro cynnydd ac yn adrodd arno drwy gydol tymor y Senedd hon.

Ein hamcanion llesiant yw:

  1. Datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol, a thorri rhestrau aros
  2. Helpu aelwydydd â chostau byw
  3. Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda
  4. Codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu
  5. Mynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau’r dyfodol gorau i bob plentyn yng Nghymru
  6. Sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan
  7. Gwell llywodraeth – cyflawni ein blaenoriaethau
Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen