Rhaglen lywodraethu 2026 i 2030: Uchelgais newydd i Gymru - Pennod 6: Sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan
Cynlluniau gweithredu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru dros y 4 blynedd nesaf.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Rydym yn credu yn ein pobl a byddwn yn cymryd pob cam posibl i ddatgloi eu potensial ac i adeiladu Cymru decach, gryfach a mwy gwydn.
Fel Llywodraeth, ni fyddwn yn ymddiheuro am y weledigaeth uchelgeisiol sydd gennym ar gyfer Cymru. Mae’r weledigaeth hon yn amlwg ym mhob pennod o’r Rhaglen Lywodraethu hon. Rydym yn credu yn ein pobl a byddwn yn cymryd pob cam posibl i ddatgloi eu potensial ac i adeiladu Cymru decach, gryfach a mwy gwydn.
Rydym wedi cymryd camau cynnar i ailosod y berthynas â Llywodraeth y DU, gan ddadlau’r achos i Gymru gael ei thrin â thegwch a pharch ar bob cyfle. Byddwn hefyd yn parhau i weithio’n agos gyda’n cymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban, yn unol â’r ymrwymiadau a wnaed yng Nghytundeb Caerdydd, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar feysydd o ddiddordeb cyffredin.
Mynnu tegwch gan San Steffan
Mae gormod o benderfyniadau sy’n effeithio ar fywyd bob dydd ein dinasyddion yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU.
Byddwn yn mynd ati’n barhaus i archwilio’r setliad cyfansoddiadol presennol, gan ei herio pan na fo’n bodloni ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau’r pwerau, y dulliau a’r setliadau ariannol sydd eu hangen arnom i lywodraethu’n effeithiol ac mewn ffordd gydlynol i wella bywydau pobl.
Cyllid teg
Yn rhy aml yn y gorffennol, nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu ei chyfran deg o gyllid i Gymru a byddwn yn defnyddio pob cyfle posibl i unioni’r cam hwn.
Byddwn yn:
- mynd ar drywydd diwygio cyllidol, gan gynnwys tegwch yn y ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu, gweithrediad Fformiwla Barnett, mwy o hyblygrwydd cyllidol, ariannu pwerau datganoledig mewn ffordd deg, a chyfrifoldebau pellach i’r Senedd dros drethi yng Nghymru.
- brwydro dros y cyllid rheilffyrdd sy’n ddyledus inni ac y mae ei angen arnom i fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru – gan gynnwys cyllid canlyniadol o HS2 – ac i’r rheilffyrdd gael eu datganoli.
- cyflwyno rhaglen genedlaethol i ddiogelu ac adfer tomenni nas defnyddir, gan sicrhau bod pob tomen yn cael ei monitro, ei chynnal a’i rheoli’n briodol. Byddwn yn parhau i fynnu bod Llywodraeth y DU yn ariannu’r gwaith hwn yn briodol ac yn llawn.
- sefydlu strategaeth Cymru gyfan ar gyweirio tir halogedig i fapio, blaenoriaethu ac adfer yn gynyddol dir ôl-ddiwydiannol fel nad yw cymunedau bellach yn dod i gysylltiad â safleoedd diffaith, priddoedd gwenwynig, a dyfrffyrdd llygredig. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ariannu’r gwaith adfer hwn.
- mynd ar drywydd datganoli toll teithwyr awyr.
- archwilio ffurfiau newydd ac arloesol o ariannu.
Pwerau at ddiben
Bydd datganoli pellach yn gwella bywydau pobl Cymru, gan roi’r arfau cyllidol a chyfansoddiadol inni i symud ein cenedl yn ei blaen. Bydd mwy o reolaeth dros feysydd megis trafnidiaeth, cyfiawnder, plismona, adnoddau naturiol, ynni ac Ystad y Goron yn helpu Cymru i ddatblygu a gweithredu polisïau sy’n diwallu anghenion ac amgylchiadau lleol yn well.
Bydd sicrhau pwerau ychwanegol hefyd yn galluogi Cymru i fabwysiadu dull mwy integredig o fynd i’r afael â heriau sy’n cael effaith ar fywydau pobl a’u profiad o wasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, gall penderfyniadau ynghylch plismona, llysoedd, y gwasanaeth prawf a gwasanaethau cymorth gael effaith ehangach, gan effeithio nid yn unig ar ddiogelwch cymunedol ond hefyd ar iechyd a llesiant, cyrhaeddiad addysgol, a chyfleoedd cyflogaeth ac economaidd.
Dylai pob dinesydd gael llais yn y ddadl ar ddyfodol eu cenedl. Mae ein hymrwymiad canolog yn dibynnu ar sefydlu Comisiwn i fwrw ymlaen â’r ddadl hon, ac i wneud yn siŵr bod y pwerau gennym i ganiatáu i Gymru wneud yr holl benderfyniadau sy’n bwysig.
Byddwn yn:
- sefydlu Comisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru i ddarparu cyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan adeiladu ar waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Bydd y Comisiwn yn cefnogi sgwrs genedlaethol gynhwysol ar sail gwybodaeth, yn adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer trafod a gwneud penderfyniadau, ac yn rhoi cyngor ar flaenoriaethau datganoli a diwygio cyfansoddiadol ehangach.
- gofyn yn ffurfiol am ddatganoli’r hawl i benderfynu ar yr amserlen, y cwestiwn a’r broses ar gyfer refferendwm annibyniaeth.
- mynd ar drywydd datganoli cyfiawnder a phlismona yn llwyr i Gymru gyda’r brys y mae hyn yn ei haeddu.
- gofyn yn ffurfiol am ddatganoli’r pŵer dros ddŵr yn llawn yng Nghymru.
- gweithio i sicrhau datganoli pwerau i’r Senedd i ddeddfu i sefydlu corff cynllunio a rheoleiddiwr economaidd newydd i Gymru, fel bod pob penderfyniad am ddŵr yn cael ei wneud yng Nghymru ar gyfer Cymru.
- blaenoriaethu sicrhau datganoli Ystad y Goron.
- gweithio tuag at ddatganoli pwerau dros ddarlledu, gan gynnwys pwerau i reoleiddio, goruchwylio a sicrhau atebolrwydd am ddarlledu a chyfathrebu yng Nghymru. Byddwn yn dechrau drwy sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru er mwyn gwarchod a chryfhau platfformau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol.
- mynd ar drywydd datganoli pwerau lles yn llawn.
- mynd ar drywydd datganoli pwerau pellach ar reoleiddio a phrisio ynni.
- mynd ar drywydd datganoli rheoleiddio porthladdoedd yn llawn.
Cryfhau Cymru drwy ddiwylliant, treftadaeth a chwaraeon
Mae diwylliant, ein diwydiannau creadigol, treftadaeth, chwaraeon a’r Gymraeg yn rhannau annatod o bwy ydym ni fel cenedl.
Rydym yn cydnabod eu pŵer unigryw i ddatgloi potensial economaidd Cymru, cynnal cymunedau bywiog a chydlynol, a hyrwyddo llesiant ein pobl.
Gyda gweledigaeth strategol newydd, y buddsoddiad cywir, ac arweinyddiaeth gref ar gyfer diwylliant a chwaraeon Cymru, byddwn yn cryfhau safle Cymru fel pwerdy diwylliannol, gyda gwreiddiau dwfn yn amrywiaeth ein hunaniaeth Gymreig unigryw.
Byddwn yn blaenoriaethu mynediad cyfartal i bobl o bob oedran, cefndir a gallu, ac yn ysgogi canlyniadau cenedlaethol gan gynnwys gwella iechyd y cyhoedd, twf economaidd a chydlyniant cymunedol. Byddwn yn manteisio ar gyfleoedd diwylliannol a chwaraeon i hyrwyddo defnydd bob dydd o’r Gymraeg.
Byddwn yn adeiladu sylfeini cadarn drwy sicrhau mwy o gyfranogiad, gwell cyfleusterau ar lawr gwlad, cryfhau sefydliadau cenedlaethol a chael mwy o effaith ryngwladol fel cenedl greadigol a hyderus. Byddwn yn cryfhau ein seilwaith diwylliannol a chwaraeon, ac yn cefnogi gweithlu medrus, gan adeiladu sector cynaliadwy ac amrywiol ar gyfer y dyfodol.
Byddwn yn:
- gweithio gyda’r sector, gan gynnwys ein diwydiannu creadigol, i ddatblygu a chyflwyno Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon wedi’i thargedu er mwyn creu Cymru iachach, gyfoethocach a mwy gwydn.
- blaenoriaethu mynediad cyfartal at y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth a chwaraeon i bobl o bob oedran, cefndir a gallu, gan ystyried sut y gall ein polisïau mynediad gefnogi hyn.
Cymru yn y byd
Gyda threftadaeth gyfoethog, diwylliant ffyniannus a photensial enfawr na fanteisiwyd arno, credwn yng ngallu Cymru i fynnu ei lle yn y byd.
Mae ein hymrwymiad i Gynllun Hinsawdd a Natur yn dangos ein bod ni o ddifrif ynghylch ein cyfrifoldebau byd-eang a’n hymrwymiad i adeiladu perthnasoedd rhyngwladol cryf gyda gwledydd sy’n rhannu ein gwerthoedd.
Bydd yr agwedd ryngwladol hon yn rhan o’n holl ymrwymiadau lle byddwn yn ceisio dysgu o arferion da ledled y byd. Un o’r prif gryfderau wrth fwrw ymlaen â hyn fydd y nifer mawr o Gymry sydd wedi’u gwasgaru ledled y byd.
Byddwn yn:
- cyflwyno Strategaeth Ewropeaidd a fydd yn cynnwys ein penderfyniad i fod yn gyson â safonau Ewropeaidd blaenllaw ym meysydd diogelu’r amgylchedd, iechyd y cyhoedd a bwyd.
- esblygu a datblygu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cydweithredu dwyochrog ag Iwerddon i gryfhau cysylltiadau diwylliannol a masnachol.
- datblygu a gweithredu Strategaeth Ddiaspora gynhwysfawr er mwyn hyrwyddo Cymru fel gwlad i’n hentrepreneuriaid ar wasgar fuddsoddi ynddi, ac annog a chymell ymfudwyr diweddar i ddychwelyd.
Mae cynnal digwyddiadau rhyngwladol
Rhai a ddatblygwyd yng Nghymru a chyfleoedd i fod yn rhan o ddigwyddiadau byd-eang – yn ein galluogi ni i arddangos Cymru a’r hyn sydd gennym i’w gynnig.
Byddwn yn:
- rhoi cymorth strategol a hirdymor i gyrff llywodraethu cenedlaethol i ddenu a chynnal digwyddiadau rhyngwladol yng Nghymru.
- creu gwaddol parhaol yn sgil dyfodiad digwyddiadau y Tour de France 2027 a thwrnamaint pêl-droed dynion Euro 2028 i Gymru.
Adeiladu Cymru well
Allwn ni ddim sefyll dros Gymru a chyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol oni bai ein bod ni’n wlad gadarn a hyderus. Byddwn yn cefnogi ein holl gymunedau i fod yn uchelgeisiol ac i greu fframwaith lle mae pob un o’n hasiantaethau cyhoeddus yn cydweithio tuag at amcanion cyffredin.
Er mwyn adlewyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym wedi ymrwymo fel llywodraeth i ddileu’r ffiniau rhwng gwahanol feysydd polisi, ffiniau sydd yn rhy aml yn y gorffennol wedi ein hatal rhag gweithio’n ddi-dor er budd Cymru.
Byddwn yn:
- adeiladu gwasanaeth cyhoeddus effeithiol a chydlynol yng Nghymru sy’n agored, yn gydweithredol ac yn canolbwyntio ar wella bywydau pobl.
- bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer Ysgol Lywodraethu Genedlaethol i Gymru.
- adnewyddu’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol, gan sicrhau eu bod nhw’n bartneriaid llawn yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
- sefydlu dull gweithredu cenedlaethol i gydlynu’r gwaith o atal a dargyfeirio troseddau ar draws heddluoedd, GIG Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion a phartneriaid yn y trydydd sector – gan rannu’r arferion gorau a mynd i’r afael â’r pethau sylfaenol sy’n achosi troseddu.
- cynnal cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng nghyd-destun trafodaethau ar ddatganoli plismona.
- cyflwyno Bil Tribiwnlysoedd Cymru yn gynnar yn nhymor y Senedd er mwyn creu system dribiwnlysoedd gliriach, fwy cydlynol a mwy annibynnol – gyda gweithdrefnau modern, atebolrwydd cryfach, a ffocws mwy amlwg ar wella profiad defnyddwyr gwasanaethau.
- adolygu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chydweithio â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i sicrhau ei bod yn cyflawni newid mesuradwy.
