Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Cofrestru darparwr unigol

Gallwch weld sut i gofrestru fel darparwr unigol ar ein sianel Youtube.   

1. Ychwanegu manylion personol

Cofrestru eich hun

Gallwch ailddefnyddio eich manylion personol. 

Ond bydd angen i chi roi’r canlynol hefyd:

  • dyddiad geni 
  • cyfeiriad cyswllt

Cofrestru rhywun arall

Os ydych yn cofrestru rhywun arall, bydd angen i chi roi eu:

  • henw llawn
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn
  • dewis iaith (Cymraeg, Saesneg, neu'r ddwy)
  • dyddiad geni 
  • cyfeiriad cyswllt

2. Ychwanegu enw masnachu

Nodwch a oes gennych enw rydych yn ei ddefnyddio hysbysebu eich llety. 

Er enghraifft, Llety Sŵn y Don neu Dai Gwyliau Siân. 

Os oes gennych fwy nag un enw masnachu

Gallwch ychwanegu mwy nag un enw masnachu os ydych:

  • yn defnyddio fersiynau Cymraeg a Saesneg o'ch enw masnachu 
  • yn hysbysebu eich llety dan fwy nag un enw

Os nad oes gennych enw masnachu

Atebwch na ac ewch yn eich blaen. 

3. Dewis sut yr hoffech i ni gysylltu â chi

Gallwn anfon diweddariadau am eich cofrestriad ar e-bost neu trwy’r post.

4. Gwirio’r manylion a chadw’r wybodaeth

Gwiriwch fod y manylion yn gywir, cadwch y wybodaeth ac ewch ymlaen i ychwanegu manylion y llety.

Cofrestru cwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LLP)

1. Rhoi rhif eich cwmni

Rhowch rif eich cwmni a byddwn yn llenwi gweddill manylion y cwmni i chi. 

Gallwch edrych i weld a oes gennych rif cwmni neu ddim (ar gael yn Saesneg yn unig).

2. Ychwanegu enw masnachu

Dewiswch hwn os ydych un hysbysebu eich llety dan enw gwahanol. 

Er enghraifft, efallai mai Saunders PLC yw enw’r cwmni, ond eich bod yn ei hysbysebu fel 'Llety Gwyliau Sŵn y Don'. 

Os oes gennych fwy nag un enw masnachu

Gallwch ychwanegu mwy nag un enw masnachu os ydych:

  • yn defnyddio fersiynau Cymraeg a Saesneg o'ch enw masnachu 
  • yn hysbysebu eich llety dan fwy nag un enw

Rydych yn gwneud hyn trwy ychwanegu pob enw yn yr un blwch gyda coma rhyngddyn nhw. Er enghraifft, ‘Sunny Bay Holiday Lets, Llety Gwyliau Sŵn y Don’.

Os nad oes gennych enw masnachu

Atebwch na ac ewch yn eich blaen. 

3. Ychwanegu manylion cyswllt 

Byddwn yn gofyn i chi ychwanegu’r manylion canlynol am eich cwmni:

  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn

Byddwn hefyd yn gofyn i chi:

  • sut rydych chi am i ni gysylltu â chi: e-bost neu’r post
  • pa iaith y dylem ei defnyddio (Cymraeg, Saesneg, neu'r ddwy)

4. Gwirio’r manylion a chadw’r wybodaeth

Gwiriwch fod y manylion yn gywir, cadwch y wybodaeth ac ewch ymlaen i ychwanegu manylion y llety.

Cofrestru os ydych yn rhannu’r cyfrifoldeb neu mewn partneriaeth

1. Dewis y math o bartner

Rhaid i chi ddewis pa fath o ddarparwr ydych chi a'ch partner, fel:

  • darparwr unigol 
  • cwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LLP) 
  • elusen 
  • math arall o ddarparwr

Gallwch wirio pa fath o ddarparwr yw’ch partner os nad ydych yn siŵr.

Ychwanegu mwy nag un partner

Byddwch yn gallu ychwanegu cynifer o bartneriaid ag sydd angen.

2. Ychwanegu manylion cyswllt partner 

Byddwn yn gofyn i chi ychwanegu manylion canlynol eich partner:

  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn

Byddwn hefyd yn gofyn i chi:

  • sut maen nhw eisiau i ni gysylltu â nhw: e-bost neu’r post
  • pa iaith y dylem ei defnyddio (Cymraeg, Saesneg, neu'r ddwy)

3. Ychwanegu enw'r bartneriaeth

Dewiswch hwn os oes gan eich partneriaeth enw. Er enghraifft:

  • Llety Gwyliau Sŵn y Don 
  • Sarah a Phil Evans

Os oes gennych fwy nag un enw

Gallwch ychwanegu mwy nag un enw os ydych:

  • yn defnyddio fersiynau Cymraeg a Saesneg o'ch enw 
  • yn hysbysebu eich llety dan fwy nag un enw

Os nad oes gennych enw

Atebwch na ac ewch yn eich blaen. 

4. Ychwanegu manylion cyswllt y bartneriaeth 

Byddwn yn gofyn i chi ychwanegu manylion canlynol eich partneriaeth:

  • cyfeiriad
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn

Byddwn hefyd yn gofyn i chi:

  • sut maen nhw eisiau i ni gysylltu â nhw: e-bost neu’r post
  • pa iaith y dylem ei defnyddio (Cymraeg, Saesneg, neu'r ddwy)

5. Gwirio’r manylion a chadw’r wybodaeth

Gwiriwch fod y manylion yn gywir, cadwch y wybodaeth ac ewch ymlaen i ychwanegu manylion y llety.

Cofrestru elusen

Gallwch weld sut i gofrestru fel elusen ar ein sianel Youtube.

1. Gwirio a oes gennych rif elusen neu ddim

Ychwanegwch eich rhif elusen os oes gennych un. 

Gallwch edrych i weld a oes gennych rif elusen neu ddim (ar gael yn Saesneg yn unig).

Os nad oes gennych rif elusen

Atebwch na ac ewch yn eich blaen. 

2. Gwirio a oes gennych rif cwmni

Ychwanegwch rif eich cwmni os oes gennych un.

Gallwch edrych i weld a oes gennych rif cwmni neu ddim (ar gael yn Saesneg yn unig).

Os nad oes gennych rif cwmni

Atebwch na ac ewch yn eich blaen.

3. Ychwanegu enw masnachu

Dewiswch a ydych yn hysbysebu eich llety dan enw gwahanol i enw eich elusen. Er enghraifft, os mai Gobaith yw enw’r elusen, ond eich bod yn hysbysebu dan enw 'Llety Sŵn y Don'. 

Os oes gennych fwy nag un enw masnachu

Gallwch ychwanegu mwy nag un enw masnachu os ydych:

  • yn defnyddio fersiynau Cymraeg a Saesneg o'ch enw masnachu 
  • yn hysbysebu eich llety dan fwy nag un enw

Os nad oes gennych enw masnachu

Atebwch na ac ewch yn eich blaen. 

4. Ychwanegu manylion cyswllt 

Byddwn yn gofyn i chi ychwanegu manylion canlynol eich elusen:

  • cyfeiriad
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn

Byddwn hefyd yn gofyn i chi:

  • sut rydych chi am i ni gysylltu â chi: e-bost neu’r post
  • pa iaith y dylem ei defnyddio (Cymraeg, Saesneg, neu'r ddwy)

5. Gwirio’r manylion a chadw’r wybodaeth

Gwiriwch fod y manylion yn gywir, cadwch y wybodaeth ac ewch ymlaen i ychwanegu manylion y llety.

Clwb chwaraeon, grŵp gwirfoddol neu grŵp cymunedol

1. Ychwanegu enw eich clwb, grŵp gwirfoddol neu grŵp cymunedol

Dewiswch hwn os oes gennych enw rydych yn ei ddefnyddio i hysbysebu eich clwb, grŵp gwirfoddol neu grŵp cymunedol. Er enghraifft, Clwb Chwaraeon Brynmawr. 

Os oes gennych fwy nag un enw

Gallwch ychwanegu mwy nag un enw os ydych:

  • yn defnyddio fersiynau Cymraeg a Saesneg o'ch enw 
  • yn hysbysebu eich llety dan fwy nag un enw

Os nad oes gennych enw

Atebwch na ac ewch yn eich blaen. 

2. Ychwanegu manylion personol ei aelod reolwyr

Cofrestru eich hun

Gallwch ailddefnyddio eich manylion personol. 

Cofrestru rhywun arall

Os ydych yn cofrestru rhywun arall, bydd angen i chi roi eu:

  • henw llawn
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn
  • dewis iaith (Cymraeg, Saesneg, neu'r ddwy)
  • dyddiad geni 
  • cyfeiriad cyswllt

3. Ychwanegu manylion cyswllt eich clwb, grŵp gwirfoddol neu grŵp cymunedol

Byddwn yn gofyn i chi ychwanegu cyfeiriad eich clwb neu grŵp. Byddwn yn defnyddio hwn i gysylltu â chi ynglŷn â'ch cofrestriad. 

4. Gwirio’r manylion a chadw’r wybodaeth

Gwiriwch fod y manylion yn gywir, cadwch y wybodaeth ac ewch ymlaen i ychwanegu manylion y llety.

Cofrestru math arall o ddarparwr

1. Ychwanegu enw'r darparwr 

Dewiswch hwn os oes gan eich darparwr enw. Er enghraifft, Ymddiriedolaeth Gymunedol y Dderwen.

Os oes gennych fwy nag un enw

Gallwch ychwanegu mwy nag un enw os ydych:

  • yn defnyddio fersiynau Cymraeg a Saesneg o'ch enw 
  • yn hysbysebu eich llety dan fwy nag un enw

Os nad oes gennych enw

Atebwch na ac ewch yn eich blaen.

2. Gwirio a oes gan eich darparwr rif

Gwiriwch a ydych chi wedi'ch cofrestru gydag unrhyw adrannau eraill o’r llywodraeth. Edrychwch i weld a ydyn nhw wedi rhoi unrhyw rif y gallwn ei ddefnyddio i ganfod eich darparwr. 

Os nad oes gennych rif

Atebwch na ac ewch yn eich blaen. 

3. Ychwanegu enw masnachu

Dewiswch hwn os ydych yn hysbysebu eich llety dan enw gwahanol i’ch enw darparwr. Er enghraifft, eich enw darparwr yw Ymddiriedolaeth Gymunedol y Dderwen, ond rydych yn hysbysebu dan enw Llety Gwyliau Sŵn y Don. 

Os oes gennych fwy nag un enw masnachu

Gallwch ychwanegu mwy nag un enw masnachu os ydych:

  • yn defnyddio fersiynau Cymraeg a Saesneg o'ch enw masnachu 
  • yn hysbysebu eich llety dan fwy nag un enw

Os nad oes gennych enw masnachu

Atebwch na ac ewch yn eich blaen.

3. Ychwanegu manylion cyswllt 

Byddwn yn gofyn i chi ychwanegu manylion canlynol eich darparwr: