Neidio i'r prif gynnwys

Cofrestru eich llety ymwelwyr

Mae'r gofrestr yn gyhoeddus ac mae'n darparu gwybodaeth am ddarparwyr llety ymwelwyr, ac am y llety ei hun, yng Nghymru. Bydd y gofrestr yn agor ar 1 Hydref 2026.

Yn gyffredinol, rhaid i ddarparwr llety ymwelwyr fod ar y gofrestr pan fyddant yn darparu, neu'n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn lleoliad yng Nghymru, yn amodol ar y canlynol:

  • bydd angen ar y rhai sydd, ar hyn o bryd, yn darparu llety ymwelwyr gofrestru erbyn 31 Mawrth 2027 
  • bydd angen ar ddarparwyr llety ymwelwyr a fydd yn darparu, neu'n cynnig darparu, llety ymwelwyr ar ôl 1 Hydref 2026 ond cyn 31 Mawrth 2027 gofrestru erbyn 31 Mawrth 2027
  • os daw person yn ddarparwr llety ymwelwyr ar ôl 31 Mawrth 2027, bydd arnynt angen cofrestru pan fyddant yn dechrau darparu, neu'n dechrau cynnig darparu, llety ymwelwyr yng Nghymru, a gallant gofrestru hyd at 30 diwrnod cyn iddynt ddechrau gwneud hynny

Enghreifftiau o adegau pan fydd rhaid i chi gofrestru 

Mae Glen wedi bod yn rhedeg ei fusnes bythynnod gwyliau yng Nghymru ers 2012. Pan fydd y gofrestr yn agor, bydd arno angen cofrestru rhwng 1 Hydref 2026 a 31 Mawrth 2027.

Mae Bryn wedi prynu bwthyn yng Ngogledd Cymru, a bydd yn ei hysbysebu fel llety gwyliau hunanarlwyo i ymwelwyr. Mae'n adnewyddu'r bwthyn ac yn bwriadu dechrau ei hysbysebu i ymwelwyr dros nos o 1 Awst 2028. Bydd angen i Bryn gofrestru ei hun fel darparwr llety ymwelwyr a chofrestru’r bwthyn fel llety ymwelwyr pan fydd yn dechrau ei hysbysebu a chymryd archebion, sef ar 1 Awst 2028. Gall Bryn gofrestru hyd at 30 diwrnod cyn 1 Awst 2028 hefyd.

Bydd manylion bwthyn Bryn yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus. Ond gan mai unigolyn yw Bryn, ni fydd ei enw yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus.

Peidio â chofrestru

Os na fydd darparwr llety ymwelwyr yn cofrestru’n brydlon, gallant wynebu un neu fwy o gosbau.

Rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr gofrestru eu hunain, a phob un o'r lleoliadau yng Nghymru lle maent yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr. Nid oes cost am gofrestru, ond mae’n rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr wneud hynny.

Rhaid i ACC gyhoeddi gwybodaeth benodol am ddarparwyr llety ymwelwyr a'r lleoliadau sydd wedi'u cynnwys yn y gofrestr. Gall ACC gyhoeddi gwybodaeth arall hefyd y mae’n credu y byddai’n briodol ei chael ar y gofrestr gyhoeddus.

Gwybodaeth a gyhoeddir ar y gofrestr

Gwybodaeth am ddarparwyr llety ymwelwyr

Bydd y wybodaeth ganlynol am ddarparwr llety ymwelwyr yn cael ei chyhoeddi ar y gofrestr gyhoeddus:

  • enw'r darparwr llety ymwelwyr
  • unrhyw enw busnes neu enw masnachol a ddefnyddia’r darparwr llety ymwelwyr
  • cyfeiriad busnes y darparwr llety ymwelwyr
  • y math o ddarparwr llety ymwelwyr sydd dan sylw, megis unigolyn, partneriaeth, cwmni, neu gymdeithas anghorfforedig 

Cyfeiriad busnes partneriaeth, cwmni neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu'i brif swyddfa. 

Pan fo'r darparwr llety ymwelwyr wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau

  • fel cwmni, bydd rhif y cwmni yn cael ei gyhoeddi
  • fel endid tramor, bydd ID yr endid tramor yn cael ei gyhoeddi

Pan fo'r darparwr llety ymwelwyr yn elusen ac wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Elusennau 2011, bydd y gofrestr yn dangos bod y darparwr yn elusen a bydd ei rif elusen yn cael ei gyhoeddi, oni fydd yr elusen wedi’i heithrio o dan Ddeddf Elusennau 2011.

Bydd angen darparu'r holl fanylion uchod i gofnod gael ei greu ar y gofrestr. 

Pan fydd partneriaeth yn cael ei chofrestru, bydd angen cofrestru enwau pob partner yn y bartneriaeth. Mae'r un egwyddor yn berthnasol i gymdeithasau anghorfforedig. 

Enghraifft o’r manylion y mae'n rhaid i gwmni ac elusen gofrestredig eu darparu

Mae Bythynnod Elusennol Cymru Cyf yn gwmni ac yn elusen gofrestredig. Mae'n darparu llety ymwelwyr, ac wrth gofrestru bydd angen iddo ddarparu ei rif cwmni a'i rif elusen.

Gwybodaeth am leoliadau llety ymwelwyr

Bydd y manylion canlynol yn cael eu cyhoeddi am y lleoliad lle mae’r darparwr llety ymwelwyr yn darparu neu gynnig llety ymwelwyr:

  • enw'r lleoliad, os oes un
  • enw'r llety ymwelwyr a ddarperir yn y lleoliad, os oes un. Dim ond i’r mathau canlynol o lety ymwelwyr y mae hyn yn berthnasol: hunanarlwyo, glampio a charafannau statig
  • cyfeiriad y lleoliad yng Nghymru, gan gynnwys y sir neu'r fwrdeistref sirol
  • y math o lety ymwelwyr sydd ar gael yn y lleoliad
  • uchafswm y bobl a gaiff aros yn y lleoliad 
  • nifer yr unedau y gellir eu harchebu yn y lleoliad
  • argaeledd y llety 

Enghraifft o ba fanylion y maen rhaid i chi eu darparu am eich lleoliad

Mae Giovanni yn unigolyn sy'n rhedeg safle gwyliau bach yng Nghymru, ac enw'r safle yw Lle Gwyliau Giovanni. Mae ganddo 3 tŷ gwyliau yn y lleoliad, a phob un wedi'i enwi ar ôl lle yng Nghymru, sef Bwthyn Bangor, Caban Caerffili a Thŷ Tregaron. 

Pan fydd Giovanni’n cofrestru, bydd angen iddo ddarparu’r canlynol:

  • enw'r lleoliad, sef Lle Gwyliau Giovanni, a
  • enwau'r llety ymwelwyr, sef Bwthyn Bangor, Caban Caerffili a Thŷ Tregaron. 

Gwybodaeth am bartneriaethau a chyrff anghorfforedig

Pan fo'r darparwr llety ymwelwyr yn bartneriaeth neu'n gorff anghorfforedig, bydd y gofrestr yn cynnwys:

  • enw pob aelod o'r bartneriaeth, neu bob aelod-reolwr o'r corff anghorfforedig, a
  • cyfeiriad pob aelod o'r bartneriaeth, neu bob aelod-reolwr o'r corff anghorfforedig

Er hyn, mae enwau a chyfeiriadau partneriaid neu aelod-reolwyr yn ddarostyngedig i'r cyfyngiad a amlinellir yn 'Gwybodaeth nad yw’n cael ei chyhoeddi ar y gofrestr'. Felly, er y bydd unrhyw enw busnes a chyfeiriad busnes y bartneriaeth neu'r corff anghorfforedig yn cael eu cyhoeddi, ni fydd enwau na chyfeiriadau'r partneriaid neu'r aelodau unigol yn cael eu cyhoeddi oni bai:

  • eu bod yn cydsynio i'w cyhoeddi, neu
  • bod eu henw yn rhan o'r enw busnes, a/neu
  • eu bod yn rhannu cyfeiriad â’r lleoliad lle darperir y llety ymwelwyr

Enghraifft o ba fanylion y mae'n rhaid i bartneriaethau a chyrff anghorfforedig eu darparu

Mae Glyn, Harry ac Ian yn bartneriaid mewn partneriaeth gyfyngedig, o'r enw Tai Gwyliau HIGHIG. Maent yn rhedeg sawl cartref gwyliau ledled y DU gyda'i gilydd, ac mae pob un ohonynt yn byw yn yr Alban. Maent yn darparu llety ymwelwyr a bydd angen iddynt gofrestru eu lleoliadau llety ymwelwyr yng Nghymru. Wrth wneud hynny, bydd angen darparu enwau a chyfeiriadau unigol Glyn, Harry ac Ian i'w cofnodi i'r gofrestr, ond ni fyddant yn cael eu cyhoeddi.

Gwybodaeth nad yw’n cael ei gyhoeddi ar y gofrestr

Enwau unigolion

Ni fydd ACC yn cyhoeddi enw unigolyn sy’n darparu llety ymwelwyr, oni bai bod:

  • yr unigolyn yn cydsynio i gyhoeddi ei enw, neu
  • enw a chyfenw’r unigolyn yn rhan o enw busnes y darparwr llety ymwelwyr

Enghraifft o beidio â dangos enw darparwr

Mae Llinos yn byw mewn tŷ yng Nghaerdydd ac mae'n hysbysebu ei hystafell sbâr i ymwelwyr ar benwythnosau, gan ddefnyddio platfform teithio ar-lein. Mae Llinos yn byw yn y tŷ a dyma ei hunig eiddo. Gan fod Llinos yn darparu llety ymwelwyr yn ystafell sbâr ei thŷ, pan fydd Llinos yn cofrestru bydd angen iddi ddarparu ei henw, eu chyfeiriad a manylion eraill, ond ni fydd ei henw yn cael ei ychwanegu at y gofrestr gyhoeddus gan nad yw wedi cydsynio iddo fod yno.

Cyfeiriad unig neu brif breswylfa

Ni fydd ACC yn cyhoeddi cyfeiriad unig neu brif breswylfa unigolyn, oni fydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae'r unigolyn, sef y darparwr llety ymwelwyr, wedi cydsynio i gyhoeddi ei gyfeiriad, neu
  • cyfeiriad y lleoliad lle darperir, neu lle cynigir, llety ymwelwyr yw prif breswylfa neu unig breswylfa’r unigolyn

Enghraifft o beidio â dangos y prif gyfeiriad preswyl

Yn dilyn yr enghraifft uchod, bydd cyfeiriad Llinos ar y gofrestr gyhoeddus gan ei bod yn darparu llety ymwelwyr yno. Tra bydd Llinos yn byw yn y tŷ, mae'r rheolau'n golygu bod yn rhaid cynnwys y cyfeiriad ar y gofrestr. 

Gwybodaeth anghyflawn neu anghywir

Os nad yw darparwr llety ymwelwyr yn darparu'r wybodaeth ofynnol i ACC ar gyfer y gofrestr, gall ACC gyhoeddi hysbysiad yn ei gwneud yn angenrheidiol i berson ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau a’u cosbi am beidio â chydymffurfio.

Os caiff ACC wybodaeth ar gyfer y gofrestr gyhoeddus, ond eu bod:

  • yn gwybod bod y wybodaeth yn anghywir, neu
  • yn tybio bod y wybodaeth yn debygol o fod yn anghywir

ni fydd yn cael ei gyhoeddi ar y gofrestr.

Os bydd ACC yn penderfynu cyhoeddi'r wybodaeth, gallant ychwanegu marc ar y cofnod i ddangos eu bod yn credu bod y wybodaeth yn anghywir neu'n debygol o fod yn anghywir.

Gall anghywirdebau ymwneud â:

  • y math o lety ymwelwyr a gynigir, neu uchafswm yr ymwelwyr
  • cyfeiriad y llety ymwelwyr
  • enw masnachu y darparwr llety ymwelwyr

Nid yw'r rhestr uchod yn hollgynhwysfawr. 

Enghraifft o wybodaeth anghywir

Mae Rhydian yn darparu llety ymwelwyr ac yn berchen ar dŷ gwyliau yng Ngorllewin Cymru. Wrth gofrestru, mae'n nodi y gall hyd at 55 o bobl aros yno, yn hytrach na 5. Pan fydd Rhydian yn cyflwyno ei fanylion cofrestru, mae ACC yn gweld ei fod wedi nodi mai 55 yw’r uchafswm a all aros yno, ac maent yn tybio fod hyn yn ormod; maent yn ychwanegu marc i’r cofnod ar y gofrestr sy'n nodi efallai nad yw’r uchafswm defnyddwyr yn gywir.

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen