Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Os yw cofnod yn y gofrestr yn anghywir neu'n dod yn anghywir o ganlyniad i newid, rhaid i'r darparwr llety ymwelwyr ddweud wrth ACC am yr anghywirdeb hwnnw.

Mae angen i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth y bydd ar ACC ei hangen i gywiro'r cofnod yn y gofrestr. Bydd angen i'r hysbysiad hefyd fod ar ffurf benodol a rhaid darparu unrhyw ddogfennaeth a nodwyd gan ACC.

Bydd anghywirdebau yn cynnwys achosion pan nad yw manylion y cofrestriad yn gywir mwyach, megis:

  • pan fo darparwr llety ymwelwyr yn gwerthu rhywfaint o'u eiddo
  • unrhyw newid yn enw masnachu, neu enw'r darparwr llety ymwelwyr
  • unrhyw newid yng nghyfeiriad cofrestredig y darparwr llety ymwelwyr
  • Mae'r math o lety ymwelwyr yn y lleoliad wedi newid

Pan fo'r gofrestr yn anghywir, bydd gan ddarparwr llety ymwelwyr 30 diwrnod i hysbysu ACC am y newid, gan ddechrau ar y diwrnod pan ddaethant i wybod am yr anghywirdeb, neu’r dyddiad pan ddylent fod wedi dysgu am yr anghywirdeb.

Pan fo'r anghywirdeb yn ganlyniad i newid mewn amgylchiadau, mae gan ddarparwr llety ymwelwyr 30 diwrnod i hysbysu ACC, gan ddechrau ar y diwrnod y digwyddodd y newid.

Gall methu â hysbysu ACC arwain at gosbau.

Enghraifft o newid enw darparwr

Mae Bythynnod Cymru Cyf yn berchen ar nifer o adeiladau yng Nghymru lle maent yn darparu llety ymwelwyr. Mae'r cwmni'n newid ei enw i Bythynnod Bendigedig ar 01 Hydref. 

Mae hyn yn golygu nad yw eu cofrestriad bellach yn gywir, gan fod enw'r darparwr llety ymwelwyr wedi newid, ac mae ganddynt 30 diwrnod, gan ddechrau ar 01 Hydref, i ddiweddaru eu manylion cofrestru. 

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt ddiweddaru eu manylion cofrestru erbyn diwedd y dydd ar 30 Hydref.

Enghraifft o newid uchafswm nifer ymwelwyr o ganlyniad i gau llety

Yn dilyn yr enghraifft flaenorol, mae Bythynnod Bendigedig Cyf yn cau hanner eu hadeiladau ar gyfer gwaith adnewyddu, ac yn disgwyl iddynt fod ar gau am 6 mis. Fel rhan o'r gwaith adnewyddu, byddant yn cynyddu'r nifer o bobl all aros ym mhob eiddo. 

Mae dau newid amgylchiadau yma. Y cyntaf yw bod hanner eu hadeiladau ar gau ac felly nid yw'r llety ymwelwyr yn cael ei ddefnyddio na'i hysbysebu ar gyfer archebion tra bydd y gwaith adnewyddu yn cael ei wneud. Bydd angen iddynt ddweud wrth ACC am hyn o fewn 30 diwrnod o gau’r lleoliadau ar gyfer gwaith adnewyddu.

Pan fydd y gwaith adnewyddu wedi'i gwblhau, bydd angen iddynt ddweud wrth ACC bod pob safle yn cael ei ddefnyddio a'i hysbysebu fel llety ymwelwyr eto, gan gynnwys y newid o ran uchafswm ymwelwyr pob safle. Rhaid iddynt wneud hyn o fewn 30 diwrnod, gan ddechrau gyda dyddiad y newid ar gyfer pob eiddo.

Cywiro'r gofrestr neu wrthod hysbysiad

Cywiro'r gofrestr

Pan fydd darparwr llety ymwelwyr yn rhoi hysbysiad i ACC i sôn am anghywirdeb, rhaid i ACC gywiro'r gofrestr a rhoi hysbysiad i'r darparwr sy'n amlinellu'r cywiriadau a wnaed i'r cofnod dan sylw.

Ni fydd ACC yn cyhoeddi hysbysiad i'r darparwr llety ymwelwyr i amlinellu'r cywiriadau os ydynt yn credu bod y cofnod yn anghywir ac eisoes wedi anfon hysbysiad i'r darparwr gyda'u newidiadau arfaethedig.

Gwrthod hysbysiad

Os bydd darparwr llety ymwelwyr yn rhoi hysbysiad i ACC ynglŷn ag anghywirdeb, ac os bydd ACC yn penderfynu peidio â gwneud unrhyw newidiadau i'r cofnod yn y gofrestr, yna rhoddir hysbysiad i'r darparwr i egluro pam na newidiwyd y cofnod yn y gofrestr ac i egluro hawliau’r person i adolygu ac apelio ynghylch yr hysbysiad.

ACC yn newid y gofrestr

Os bydd ACC yn credu bod cofnod ar y gofrestr yn anghywir, a hwythau heb gael hysbysiad gan y darparwr llety ymwelwyr dan sylw, gall ACC newid y cofnod ar y gofrestr.

Cyn i ACC newid y cofnod ar y gofrestr, rhoddir hysbysiad i'r darparwr llety ymwelwyr a fydd yn datgan:

  • pa ran o'r cofnod sy’n anghywir ym marn ACC
  • a fydd ACC yn hepgor yr wybodaeth a allai fod yn anghywir neu ddim, neu’r newidiadau y maent yn bwriadu eu gwneud i'r cofnod ar y gofrestr
  • y dyddiad y bydd y gofrestr yn cael ei newid, a fydd o leiaf 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad
  • sut i ofyn am adolygiad neu apêl mewn perthynas â'r hysbysiad

Ni fydd ACC yn gwneud y newid a amlinellir yn yr hysbysiad os gwna’r darparwr llety ymwelwyr dan sylw’r canlynol cyn y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad:

  • hysbysu ACC am newid mewn amgylchiadau neu anghywirdeb, ac wedi darparu'r wybodaeth y mae ar ACC ei hangen i newid y cofnod ar y gofrestr, neu
  • mae ACC yn fodlon nad oes angen newid y cofnod ar y gofrestr

Er enghraifft, os bydd darparwr llety ymwelwyr yn cadarnhau bod y cofnod gwreiddiol yn gywir ac yn darparu digon o dystiolaeth i fodloni ACC nad oes angen ei newid, ni fydd ACC yn newid y cofnod ar y gofrestr.

Pan fo ACC wedi gwneud newidiadau i gofnod darparwr ar y gofrestr, bydd y cofnod yn nodi bod ACC wedi gwneud newidiadau a pha wybodaeth a newidiwyd. Ni fydd y dangosydd hwn yn cael ei ddangos os bydd y darparwr llety ymwelwyr yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i ACC yn nes ymlaen, gan fodloni ACC bod y cofnod yn gyflawn ac yn gywir.

Os mai ACC sy’n newid y cofnod ar y gofrestr, yna gall cosbau fod yn berthnasol tan y dyddiad y mae'r person:

  • yn rhoi hysbysiad i ACC i ddweud bod y newid yn anghywir ac yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gywiro'r cofnod, neu
  • yn cadarnhau bod y cofnod yn gywir
Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen