Cofrestru llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Cosbau am fethu â chofrestru neu hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau
Canllawiau manwl ar sut i gofrestru llety ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr sy'n gweithredu yng Nghymru.
Ar y dudalen hon
Cosbau am fethu â chofrestru
Cosbau cychwynnol
Bydd cosbau ar gyfer cofrestru yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027.
Gall cosb am fethu â chofrestru fod yn berthnasol os yw person wedi methu â chofrestru lleoliad yng Nghymru lle maent yn darparu, neu'n cynnig darparu, llety ymwelwyr.
Bydd swm y gosb yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio'r fformiwla ganlynol:
£100 × A
A yw'r nifer o leoliadau a ddylai fod wedi’u cofrestru ond nad ydynt wedi’u cofrestru.
Pan fo cosb yn cael ei rhoi, bydd yr hysbysiad o gosb yn cynnwys gwybodaeth am y lleoliad dan sylw.
Rhaid talu'r gosb o fewn 30 diwrnod o’r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad o'r gosb, oni fydd y trethdalwr yn gofyn am adolygiad neu'n apelio i'r tribiwnlys yn erbyn y gosb.
Enghraifft o fethu â chofrestru
Mae Gwersylla Cymru Cyf yn ddarparwr llety ymwelwyr sy'n cynnig lleiniau i bebyll a charafannau ar safle yng Ngogledd Cymru. Mae’r busnes wedi bodoli ers dros 5 mlynedd, ac nid ydynt yn cofrestru cyn 31 Mawrth 2027 ac felly gallant gael eu cosbi. Bydd y ddirwy yn £100 gan fod Gwersylla Cymru Cyf yn gweithredu un lleoliad, felly y cyfrifiad yw £100 x 1, sy’n 100.
Enghraifft o fethu â chofrestru mwy nag un lleoliad
Mae Bythynnod Cymru Cyf yn ddarparwr llety ymwelwyr sy'n darparu llety ymwelwyr mewn 17 o fythynnod ledled Cymru. Nid ydynt yn cofrestru’n brydlon ac felly fe allent gael eu cosbi. Mae'r gosb, sy'n cael ei chyfrifo drwy luosi £100 â 17 (nifer y bythynnod nad ydynt wedi'u cofrestru pan ddylent fod wedi gwneud hynny), yn £1700.
Enghraifft o fethu â chofrestru safle sy'n cynnig llety cymysg
Mae Gwersyll a Gwyliau Cymru Cyf yn ddarparwr llety ymwelwyr sy'n gweithredu dau safle yng Nghymru. Mae’r ddau safle yn cynnig lleiniau ar gyfer pebyll, lleiniau ar gyfer cartrefi symudol, a chabanau i westeion. Sefydlwyd y busnes yn 2024, felly dylent fod wedi cofrestru erbyn 31 Mawrth 2027. Methodd y busnes â gwneud hynny, felly gallant gael eu cosbi. Bydd y ddirwy yn £200 am eu bod yn gweithredu dau leoliad lle darperir llety i ymwelwyr, felly y cyfrifiad yw £100 x 2, sy’n £200.
Enghraifft o fethu â chofrestru eiddo ychwanegol
Mae Aled eisoes wedi cofrestru â 3 safle lle mae'n darparu llety ymwelwyr. Mae'n prynu eiddo newydd ac yn dechrau ei gynnig ar ei wefan yn syth ar ôl cwblhau’r pryniant. Gan nad yw wedi cofrestru'r eiddo cyn iddo ddechrau cynnig darparu llety ymwelwyr yn y safle newydd, gallai gael dirwy o £100. Cyfrifir hyn drwy luosi £100 â 1 (nifer y lleoliadau newydd nad ydynt wedi’u cofrestru).
Cosbau pellach
Os bydd ACC yn cyhoeddi hysbysiad o gosb cychwynnol am fethu â chofrestru, ac nad yw'r lleoliad yn cael ei gofrestru wedyn, yna gellir cyhoeddi cosbau pellach.
Rhaid i'r darparwr llety ymwelwyr gofrestru'r lleoliad sy’n gysylltiedig â’r hysbysiad o gosb cychwynnol o fewn 30 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad. Enw’r cyfnod hwn yw’r "cyfnod cosb cychwynnol".
Os na fydd yr holl leoliadau wedi’u cofrestru ar ddiwedd y cyfnod cosb cychwynnol, bydd y darparwr llety ymwelwyr yn atebol i:
- gosb am bob diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol, am hyd at 30 diwrnod, a
- cosb ar y 31ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol
Bydd swm y gosb yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio'r fformiwla ganlynol: £X × P
X yw:
- £10 o gosb y dydd hyd at a chan gynnwys 30 diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol, a
- £1000 am gosb sy'n berthnasol ar y 31ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol
P yw'r nifer o leoliadau y mae’r hysbysiad o gosb yn berthnasol iddynt:
- pan fo'r darparwr llety ymwelwyr yn cynnig darparu, neu yn darparu, llety ymwelwyr ar ddiwrnod pan fo’r gosb ddyddiol yn berthnasol, a
- sydd dal heb eu cofrestru ar y diwrnod pan fo’r gosb ddyddiol yn berthnasol
Mae hyn yn golygu y gall cosbau pellach o hyd at £1300 fesul safle heb ei gofrestru fod yn berthnasol.
Os yw'r gosb gychwynnol yn destun adolygiad neu apêl, bydd y cyfnod cosb cychwynnol yn cael ei ymestyn nes bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau neu nes bydd yr apêl wedi'i phenderfynu neu ei thynnu'n ôl.
Enghraifft o’r cosbau dyddiol pan fo person yn cofrestru ar y 15 diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol
Mae Cabanau Campus Cymru Cyf yn berchen ar 7 caban ledled Cymru. Ni wnaeth y cwmni gofrestru’n brydlon, a chawsant gosb gychwynnol o £700 am fethu â chofrestru. Mae Cabanau Campus Cymru Cyf yn cofrestru pob un o'u 7 caban ar y 15fed diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol. Nid oedd y cabanau wedi'u cofrestru o fewn y cyfnod cosb cychwynnol o 30 diwrnod, felly bydd cosbau dyddiol yn berthnasol.
Dyma sut y cyfrifir y cosbau dyddiol:
£10 × 7 = £70
Dyma’r gosb dyddiol wedi'i luosi â'r 7 caban nad oeddent wedi’u cofrestru. Mae hyn yn rhoi cyfanswm y swm cosb ddyddiol o:
£70 × 14 = £980
Dyma gyfanswm swm y gosb dyddiol wedi'i luosi â nifer y diwrnodau pan nad oedd y cabanau wedi’u cofrestru.
Cyfanswm y cosbau y mae'n rhaid i Cabanau Campus Cymru eu talu yw: £700 am y gosb gychwynnol, ynghyd â £980 mewn cosbau dyddiol, sy'n gyfanswm o £1680.
Enghraifft o’r cosbau dyddiol pan fo person yn cofrestru mwy na 31 diwrnod ar ôl yr hysbysiad o gosb cychwynnol
Mae gan Joel 2 dŷ gwyliau mewn gwahanol ardaloedd. Mae'n darparu llety ymwelwyr ac nid yw’n cofrestru'r cartrefi gwyliau’n brydlon. Mae’n atebol am gosb gychwynnol o £200 am fethu â chofrestru ei 2 gartref gwyliau gyda ACC. Nid yw Joel yn cofrestru'r tai gwyliau ar ôl iddo gael yr hysbysiad o gosb cychwynnol, ac mae mwy na 31 diwrnod yn mynd heibio cyn iddo gofrestru. Bydd cosbau dyddiol yn berthnasol.
Dyma sut y cyfrifir y cosbau dyddiol:
£10 × 2 = £20
Dyma’r gosb dyddiol wedi'i luosi â'r 2 dŷ gwyliau nad oeddent wedi’u cofrestru. Mae hyn yn rhoi cyfanswm y swm cosb ddyddiol o:
£20 × 30 diwrnod = £600
Dyma gyfanswm swm y gosb dyddiol wedi'i luosi â nifer y diwrnodau pan nad oedd y tai gwyliau wedi’u cofrestru. Mae'r holl 30 diwrnod o gosbau dyddiol yn berthnasol.
Gan na chofrestrwyd y lleoliadau o fewn y 30 diwrnod, mae'r gosb ddyddiol derfynol yn berthnasol:
£1000 × 2 = £2000
Dyma'r 31 gosb ddyddiol o £1000, y gosb olaf, wedi'i luosi â'r 2 dŷ gwyliau sydd dal heb gael eu cofrestru.
Mae Joel yn atebol i dalu cyfanswm o £2800 mewn cosbau: £200 am y gosb gychwynnol, ac yna £600 o gosbau dyddiol ar £10 y dydd fesul lleoliad, ac yna cosb derfynol o £2,000 (£1,000 fesul lleoliad).
Rhoi’r gorau i fod yn ddarparwr llety ymwelwyr
Pan fydd person yn rhoi'r gorau i fod yn ddarparwr llety ymwelwyr, ond eu bod yn atebol i dalu gosb am fethu â chofrestru pan oeddent yn darparu llety ymwelwyr, byddant yn parhau i fod yn atebol i dalu'r gosb honno.
Cofrestriadau gan ACC
Os bydd ACC yn gwneud cofnod yn y gofrestr gan nad yw person wedi'i gofrestru, ac nad ydynt wedi gwneud cais i gofrestru, bydd y cosbau am fethu â chofrestru yn dal i fod yn berthnasol.
Mae methu â chofrestru a dibynnu ar ACC i wneud y cofnod yn y gofrestr yn gyfystyr â diffyg cydymffurfiaeth ac felly bydd yr un cosbau yn berthnasol waeth pa gam y bydd ACC yn ei gymryd.
Ni fydd cosbau yn berthnasol o'r dyddiad y bydd person yn rhoi hysbysiad i ACC sydd:
- yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol er mwyn gwneud eu cofnod yn y gofrestr yn gyflawn a chywir, neu
- yn cadarnhau bod y cofnod yn gyflawn ac yn gywir ac nad oes angen rhagor o wybodaeth ar ACC
Ni fydd cosbau yn berthnasol o'r dyddiad y bydd person yn rhoi hysbysiad i ACC i ddweud ei fod yn dymuno cael ei dynnu oddi ar y gofrestr.
Methu â hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau
Cosbau cychwynnol
Pan fydd ACC yn cyhoeddi hysbysiad o gosb oherwydd bod cofnod anghywir yn y gofrestr, rhaid i'r hysbysiad amlinellu pa wybodaeth y mae ACC yn ei ystyried yn anghywir.
Anghywirdeb yn y gofrestr
Gallai darparwr llety ymwelwyr wynebu cosb o £100 os nad ydynt yn hysbysu ACC o gamgymeriad yn eu cofnod ar y gofrestr o fewn 30 diwrnod, gan ddechrau o'r diwrnod pan fyddant yn dysgu am yr anghywirdeb am y tro cyntaf, neu’r dyddiad pan ddylent fod wedi gwybod am yr anghywirdeb.
Newid mewn amgylchiadau
Gallai darparwr llety ymwelwyr wynebu cosb o £100 os nad ydynt yn hysbysu ACC o newid yn eu hamgylchiadau o fewn 30 diwrnod, gan ddechrau o ddyddiad y newid sy'n peri i'w cofnod yn y gofrestr fod yn anghywir.
Cosbau pellach
Mae gan ddarparwr llety ymwelwyr 30 diwrnod, gan ddechrau o'r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad o gosb, i roi'r wybodaeth y mae ar ACC ei hangen i sicrhau bod y cofnod yn y gofrestr yn cael ei gywiro. Enw’r cyfnod hwn yw’r cyfnod cosb cychwynnol.
Os rhoddir cosb i ddarparwr llety ymwelwyr am fethu â hysbysu ACC o'r anghywirdeb, neu'r newid mewn amgylchiadau, ac nad ydynt yn darparu hysbysiad i ACC sy'n cynnwys yr wybodaeth sydd ei hangen i gywiro'r cofnod yn y gofrestr erbyn diwedd y cyfnod cosb cychwynnol, gallant wynebu cosbau pellach.
Rhoddir cosbau dyddiol o £10 am bob diwrnod nad yw'r darparwr llety ymwelwyr yn darparu'r hysbysiad i ACC, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol.
Os na fydd y person yn rhoi hysbysiad i ACC wedyn, bydd cosb o £1000 yn berthnasol ar y 31ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol. Ar ôl i'r gosb o £1000 gael ei chymhwyso, ni fydd unrhyw gosbau pellach yn cronni mewn perthynas â'r anghywirdeb neu’r newid amgylchiadau dan sylw a arweiniodd at anghywirdeb.
Os yw'r gosb gychwynnol yn destun adolygiad neu apêl, bydd y cyfnod cosb cychwynnol yn cael ei ymestyn nes bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau neu nes bydd yr apêl wedi'i phenderfynu neu ei thynnu'n ôl.
Rhyngweithio â chosbau eraill
Os yw'r wybodaeth anghywir yn golygu y gallai’r person wynebu cosb am fethu â chofrestru, neu am fethu â gwneud cais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr, ni all y person hefyd wynebu cosb am fethu â hysbysu ACC o'r newid neu'r anghywirdeb.
Cosbau am fethu â gwneud cais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr
Cosb gychwynnol
Os nad yw person yn gwneud cais i ACC i gael ei dynnu o'r gofrestr, ond y dylent fod wedi gwneud un, gallant wynebu cosb gychwynnol o £100.
Cosbau pellach
Pan fo cosb gychwynnol wedi'i rhoi am fethu â gwneud cais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr, bydd cosbau pellach yn cael eu rhoi os bydd person:
- yn methu â gwneud cais i ACC i ddileu eu cofnod oddi ar y gofrestr o fewn 30 diwrnod, gan ddechrau gyda'r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad o gosb cychwynnol (gelwir hyn yn gyfnod cosb cychwynnol), a
- heb ddarparu, nac wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw leoliad yng Nghymru yn ystod y cyfnod cosb cychwynnol hwnnw
Bydd y gosb yn £10 am bob diwrnod, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol, y mae'r person yn methu â gwneud cais i dynnu ei gofnod oddi ar y gofrestr ac nad yw'n darparu, nac yn cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw leoliad yng Nghymru.
Os na wneir cais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr wedyn, ac nad yw'r person yn darparu, neu'n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw leoliad, mae cosb arall o £1000 yn berthnasol ar y 31ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol. Ar ôl i'r gosb o £1000 gael ei rhoi, ni fydd unrhyw gosbau pellach yn cronni mewn perthynas â methu â gwneud cais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr.
Wrth gyfrifo'r cyfnod cosb cychwynnol, ni fydd unrhyw ddiwrnodau lle mae'r gosb gychwynnol yn destun adolygiad neu dan apêl yn cael eu cyfrif.
Cosbau am fethu â chydymffurfio â hysbysiad sy'n gofyn am wybodaeth
Cosb gychwynnol
Pan fo ACC wedi cyhoeddi hysbysiad yn gofyn am wybodaeth neu ddogfennau (neu'r ddau), a phan nad yw’r person wedi cydymffurfio, bydd y person yn wynebu cosb gychwynnol o £100.
Os yw person sydd wedi cael cosb gychwynnol yn methu â darparu'r wybodaeth neu'r dogfennau y mae ACC wedi’i geisio ganddynt o fewn 30 diwrnod, gan ddechrau gyda'r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad o gosb cychwynnol (gelwir hyn yn gyfnod cosb cychwynnol), gallant wynebu cosbau pellach.
Cosbau pellach
Rhoddir cosbau dyddiol o £10 am bob diwrnod nad yw'r person yn darparu'r wybodaeth neu'r dogfennau i ACC, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol.
Os bydd y person yn parhau i beidio â darparu'r wybodaeth neu'r dogfennau i ACC, bydd cosb arall o £1000 yn berthnasol ar y 31ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol. Ar ôl i'r gosb o £1000 gael ei rhoi, ni fydd unrhyw gosbau pellach yn cronni mewn perthynas â'r hysbysiad dan sylw sy'n gofyn am wybodaeth neu ddogfennau.
Wrth gyfrifo'r cyfnod cosb cychwynnol, ni fydd unrhyw ddiwrnodau lle mae'r gosb gychwynnol yn destun adolygiad neu dan apêl yn cael eu cyfrif.
Esgus Rhesymol
Ni fydd person yn cael eu cosbi os byddant yn bodloni ACC, neu'r Tribiwnlys Haen Gyntaf ar apêl, bod ganddynt esgus rhesymol dros y methiant a arweiniodd at gael eu cosbi.
Esgus rhesymol yw rhywbeth sydd wedi atal person rhag cyflawni rhwymedigaethau y maent wedi cymryd gofal rhesymol i'w gyflawni.
Nid oes diffiniad statudol o esgus rhesymol: bydd amgylchiadau penodol yr achos dan sylw’n cael eu hystyried. Bydd yr hyn sy'n rhesymol yn amrywio o berson i berson, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau a'u galluoedd penodol.
Mae'r categorïau canlynol yn enghreifftiau o bethau y gallai ACC eu hystyried yn esgus rhesymol am gyfnod o amser, ond bydd yn dibynnu yn y pen draw ar amgylchiadau unigol pob achos, sy'n debygol o ofyn am ystyried llawer o ffactorau eraill:
- profedigaeth – marwolaeth perthynas agos neu bartner domestig o gwmpas adeg y methiant neu'r rhwystr
- salwch difrifol – os yw hyn yn effeithio ar y person neu berthynas agos neu bartner domestig tua'r adeg y methiant neu'r rhwystr
- arhosiad annisgwyl yn yr ysbyty a oedd yn atal y person rhag delio â'u materion treth
- colli cofnodion oherwydd tân, llifogydd neu ladrad
- colli staff allweddol yn annisgwyl
- methiant cyfrifiadurol neu feddalwedd ychydig cyn neu tra’r oedd y person yn paratoi ei ffurflen gofrestru
- tarfiad annisgwyl ar wasanaethau ar-lein y ACC
- oediadau post na allai'r person fod wedi'u rhagweld
- oedi sy'n gysylltiedig ag anabledd person
Nid yw’r canlynol yn esgusodion derbyniol:
- dibyniaeth ar berson arall (oni fydd y person wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi'r methiant neu'r rhwystr)
- person wedi gwneud camgymeriad yn y ffurflen gofrestru
Hefyd, ar y cyfan ni fydd ACC yn ystyried bod y canlynol yn esgusodion rhesymol:
- bod y ffurflen gofrestru yn rhy anodd i'w chwblhau
- pwysau gwaith
- diffyg gwybodaeth
- nid oedd ACC wedi atgoffa'r person am rywbeth
- anwybodaeth o'r gyfraith, neu
- gyfuniad o unrhyw rai o'r uchod
Y person dan sylw sy’n gyfrifol am fodloni ACC bod ganddynt esgus rhesymol ar adeg y methiant neu'r rhwystr (pa un bynnag sy'n berthnasol). Mae'n bwysig gwerthfawrogi nad yw esgus rhesymol yn berthnasol pan fo'r methiant neu'r rhwystr yn fwriadol.
Rhaid i'r person gydymffurfio â'i rwymedigaethau cyn gynted â phosibl ar ôl i'w esgus rhesymol gael ei ddatrys. Os nad ydynt yn cywiro'r weithred neu'r diffyg gweithredu heb oedi afresymol ar ôl i'r esgus honno ddod i ben, gallent barhau i gael eu cosbi.
Bydd ACC yn ystyried yn ofalus ar ba bwynt y bydd esgus rhesymol yn dod i ben a pha gamau a gymerodd y person ar ôl wedi hynny i unioni'r weithred neu'r diffyg gweithredu, neu i unioni'r methiant mewn ffordd arall. Rhaid ymdrin â phob achos yn unigol.
O ran oedi afresymol, nid oes diffiniad statudol o 'afresymol'. Unwaith eto, rhaid barnu pob achos yn unigol, gan ystyried galluoedd ac amgylchiadau'r person.
Os bydd ACC yn penderfynu nad yw esgus y person yn rhesymol nac yn dderbyniol, ac yn gosod cosb, gallai’r person ofyn am adolygiad neu apêl mewn perthynas â phenderfyniad ACC.
Amgylchiadau arbennig
Gall ACC leihau cosb (gan gynnwys unrhyw log sy’n gysylltiedig â'r gosb) os yw'n credu mai dyna’r peth iawn i’w wneud oherwydd amgylchiadau arbennig.
Gall ACC hefyd benderfynu, oherwydd amgylchiadau arbennig, cymryd unrhyw un o'r camau canlynol mewn perthynas â chosb (gan gynnwys unrhyw log sy’n gysylltiedig â'r gosb):
- dileu’r gosb yn gyfan gwbl
- gohirio’r gosb, a
- chytuno ar gyfaddawd gyda'r trethdalwr mewn perthynas â'r achos dros gosbi
Nid yw amgylchiadau arbennig yn cynnwys gallu person i dalu.
Er mwyn cael eu hystyried fel amgylchiadau arbennig, rhaid i'r amgylchiadau dan sylw fod yn berthnasol i'r person ac ni ddylent fod yn amgylchiadau cyffredinol sy'n berthnasol i lawer o bobl eraill o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth ar gyfer cosbi.
Mae amgylchiadau arbennig yn rhywbeth nad oes darpariaeth ddeddfwriaethol ar ei gyfer. Felly, er enghraifft, ni allant gynnwys materion sy'n gyfystyr ag esgus rhesymol neu ofal rhesymol.
Mae amgylchiadau arbennig yn amgylchiadau sydd yn amlwg yn anghyffredin neu eithriadol, ac maent yn gwbl ar wahân i'r ystyriaethau eraill a grybwyllir uchod.
Darpariaethau cosb atodol
Talu cosbau
Rhaid talu pob cosb o fewn 30 diwrnod o’r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad o gosb, oni fydd y trethdalwr yn gofyn am adolygiad neu'n apelio i'r tribiwnlys yn erbyn y gosb.
Asesu cosbau
Pan fydd person yn wynebu cosb, rhaid i ACC wneud asesiad o'r gosb honno a hysbysu'r person o'u hatebolrwydd.
Pan fo'r person dan sylw wedi marw, gellir asesu'r gosb ar gynrychiolydd personol y person hwnnw a’i thalu o ystâd yr ymadawedig.
Ar gyfer y cosbau canlynol, rhaid i ACC wneud asesiad o'r gosb cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 12 mis, gan ddechrau gyda'r diwrnod y mae ACC yn ystyried am y tro cyntaf bod darparwr llety ymwelwyr wedi dod yn atebol i dalu:
- cosb am fethu â chofrestru
- cosb am fethu â hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau
- cosb am fethu â chydymffurfio â hysbysiad am wybodaeth neu ddogfennau
- cosb am fethu â dadgofrestru / gwneud cais i gael eu tynnu oddi ar y gofrestr
Ar gyfer y cosbau canlynol, rhaid i ACC wneud asesiad o'r gosb cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 12 mis, gan ddechrau gyda'r diwrnod y mae'r gosb yn ymwneud â:
- chosbau pellach am fethu â chofrestru
- cosbau pellach am fethu â chofrestru neu hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau
- cosbau pellach am fethu â chydymffurfio â hysbysiad sy'n gofyn am wybodaeth neu ddogfennau
- cosbau pellach am fethu â dadgofrestru / gwneud cais i gael eu tynnu oddi ar y gofrestr
Ffurf yr hysbysiad
Rhaid i’r hysbysiad a gyhoeddir gan ACC mewn perthynas â chosb gynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- y rhesymau neu'r rheswm pam rhoddwyd y gosb
- dyddiad talu'r gosb
- unrhyw sylwadau y gellir eu gwneud mewn perthynas â chael esgus rhesymol neu amgylchiadau arbennig
- yr hawliau i adolygu neu apelio yn erbyn y gosb
Gwahardd cosbi ddwywaith
Nid all person wynebu cosb os yw eisoes wedi cael collfarnu o drosedd sy'n deillio o'r un ymddygiad. Gelwir hyn yn rheol 'gwahardd cosbi ddwywaith'.
