Cofrestru llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Partneriaethau a chyrff anghorfforedig
Canllawiau manwl ar sut i gofrestru llety ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr sy'n gweithredu yng Nghymru.
Ar y dudalen hon
Partneriaethau
Mae partneriaethau yn golygu:
- partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890
- partneriaeth gyfyngedig sydd wedi'i chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907, neu
- partneriaeth neu endid o gymeriad tebyg a ffurfiwyd o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i'r Deyrnas Unedig
Ar gyfer cofrestru, pan fo rhwymedigaeth i fodloni neu ganiatâd i gyflawni gweithred gan, neu mewn perthynas â, phersonau sy'n cynnal busnes mewn partneriaeth, bydd yn gyfrifoldeb ar bob partner i sicrhau eu bod yn bodloni eu gofynion. Bydd pob cam angenrheidiol angen cael ei gymryd gan, neu mewn perthynas â, phob partner ar yr adeg benodol honno.
Er bod partneriaid yn rhannu cyfrifoldeb dros gyflawni eu rhwymedigaethau, gall un partner ddewis cyflawni’r holl gamau gofynnol neu’r gweithgareddau a ganiateir ar ran yr holl bartneriaid. Hefyd, os yw prif leoliad busnes y bartneriaeth yn yr Alban, gall unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan y bartneriaeth wneud hyn.
Cymdeithasau a chyrff anghorfforedig
Ar gyfer cofrestru, pan fo rhwymedigaeth i fodloni neu ganiatâd i gyflawni gweithred gan, neu mewn perthynas â, phersonau sy'n cynnal busnes mewn corff anghorfforedig, bydd angen i unrhyw gamau gofynnol gael eu cyflawni gan, neu mewn perthynas â, phob person sy'n aelod-reolwr o'r gymdeithas anghorfforedig ar yr adeg benodol honno.
Fodd bynnag, gall unrhyw beth sy'n ofynnol neu a ganiateir ei wneud gan bob aelod rheoli o'r corff gael ei wneud gan unrhyw un ohonynt.
Aelod-reolwyr cymdeithas anghorfforedig yw:
- pob aelod o'r corff anghorfforedig sydd â swydd llywydd, cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd neu unrhyw swydd debyg
- os nad oes swydd o'r fath, pob aelod sy’n aelod o bwyllgor sy’n rheoli materion y corff
- os nad oes swyddfa neu bwyllgor o'r fath, pob aelod o'r corff
Atebolrwydd ar y cyd ac unigol
Mae partneriaid o fewn partneriaeth ac aelod-reolwyr cymdeithas anghorfforedig yn atebol ar y cyd am dalu'r cosbau sy’n ymwneud â chofrestru ac unrhyw log i ACC.
Mae hyn yn golygu, pan fo rhwymedigaeth i dalu swm i ACC o ganlyniad i unrhyw beth a wnaed neu na wnaed gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn codi, mae'r partneriaid neu'r aelod-reolwyr ar yr adeg pan wnaed neu na waned y peth yn atebol am y swm llawn sy'n ddyledus nes ei fod wedi'i dalu.
Newidiadau o ran Aelodaeth
Pan fo darparwr llety ymwelwyr yn ddau neu fwy o bersonau sy'n gweithredu gyda'i gilydd mewn partneriaeth, neu fel cymdeithas anghorfforedig, mae'r rheolau canlynol yn berthnasol.
Os bydd aelodaeth y bartneriaeth neu'r gymdeithas anghorfforedig yn newid, a bod y darparwr llety ymwelwyr wedi'i gofrestru yn ei enw busnes, yna bydd y personau sy'n aelodau ar ôl y newid yn parhau i fod wedi’u cofrestru yn yr enw busnes gyhyd â bod o leiaf un ohonynt yn aelod cyn y newid.
Pan fydd person yn rhoi'r gorau i fod yn aelod o bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, byddant yn parhau i gael eu trin fel aelod nes:
- y diwrnod y darperir hysbysiad i ACC o'r newid mewn aelodaeth, neu
- y diwrnod y bydd ACC yn newid y gofrestr i adlewyrchu'r newid mewn aelodaeth pan na roddwyd hysbysiad i ACC, ac mae wedi arfer ei bŵer i ddiwygio'r gofrestr
Mae parhau i drin person fel aelod yn ddarostyngedig i adran 36(3) o Ddeddf Partneriaeth 1890 (atebolrwydd ystâd ar farwolaeth neu fethdaliad).
