Llesiant Cymru 2026 - Cynnydd tuag at gerrig milltir cenedlaethol
Crynodeb o'r cynnydd ar wella ein lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.
Ar y dudalen hon
Cerrig milltir cenedlaethol
Mae’r cerrig milltir yn dargedau cenhedlaeth sy’n disgrifio cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y 7 nod llesiant. Mae cyfanswm o 17 o gerrig milltir cenedlaethol, sy’n cynnwys 16 o ddangosyddion cenedlaethol.
Nod y bennod hon yw asesu cynnydd y cerrig milltir cenedlaethol. Asesir y newid ers 2015, (blwyddyn sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol) er nad oedd y cerrig milltir eu hunain wedi’u gosod tan yn ddiweddarach. Os nad oedd data ar gael ar gyfer 2015, defnyddiwyd y flwyddyn agosaf bosibl.
Mae’r asesiad yn y bennod hon yn ein helpu i ddeall a chyfleu cynnydd tuag at y nodau a’r cerrig milltir. Ni ddylid ei ddefnyddio o reidrwydd i werthuso effaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan y bydd nifer o ffactorau eraill yn dylanwadu ar gyfeiriad rhai dangosyddion. Mae hefyd yn bwysig ystyried dangosyddion a cherrig milltir yng nghyd-destun tueddiadau tymor hirach cyn 2015, sy’n cael eu cyflwyno ym mhenodau eraill yr adroddiad hwn.
Rydym yn nodi bod pob mesur naill ai wedi gwella, wedi dirywio, heb newid neu heb ei asesu. Lle bo’n bosibl, rydym wedi defnyddio mesurau fel arwyddocâd ystadegol i wneud yr asesiad hwn. Yn ein hasesiad, nid ydym wedi ystyried a yw’r cerrig milltir ar y trywydd iawn i gael eu cyflawni, dim ond asesu cyfeiriad y newid.
Cynnydd tuag at y cerrig milltir
Mae sawl rhan i rai o’r 17 o gerrig milltir, felly fe wnaethom ni asesu cyfanswm o 20 cynnydd i gyd. Aseswyd bod 10 o’r rhain wedi gwella ers 2015 (neu’r flwyddyn agosaf bosibl), sy’n awgrymu bod Cymru’n mynd i’r cyfeiriad iawn tuag at y garreg filltir. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, er y gallai’r duedd fod yn symud i’r cyfeiriad cywir, bydd angen i ni symud yn gyflymach i gyrraedd y targed erbyn 2050. Roedd 5 carreg filltir yn dangos dirywiad ac nid oedd 5 arall yn dangos fawr ddim newid, os o gwbl.
Ar gyfer un garreg filltir (perfformiad ynni cartrefi) nid oes modd asesu cynnydd oherwydd mai dim ond gwerth blwyddyn o ddata sydd ar gael.
Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd y cerrig milltir yn parhau i ddilyn tuedd tymor hirach a sefydlwyd cyn 2015. Mae tueddiadau tymor hirach, a dadansoddiad manylach o’r cerrig milltir, wedi’u cynnwys yn y penodau perthnasol drwy gydol adroddiad Llesiant Cymru.
Mae adrannau canlynol y bennod hon yn nodi’r asesiad cynnydd ar gyfer pob carreg filltir.
Disgwyliad oes iach
Cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a lleihau'r bwlch rhwng disgwyliad oes iach yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf a mwyaf o leiaf 15% erbyn 2050.
Wedi dirywio
- Disgwyliad oes iach oedolion rhwng 2015 a 2017, a rhwng 2022 a 2024.
- Wedi dirywio: y bwlch mewn disgwyliad oes iach oedolion rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig rhwng 2015 a 2017, a rhwng 2022 a 2024.
Ffigur 1: bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf, dynion a menywod, rhwng 2015 a 2017, a rhwng 2022 a 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 1: siart linell yn dangos bod disgwyliad oes iach adeg geni wedi gostwng i fenywod o 62.0 o flynyddoedd yn 2015 i 2017, i 58.5 o flynyddoedd yn 2022 i 2024, a dynion o 61.2 o flynyddoedd yn 2015 i 2017, i 59.2 o flynyddoedd yn 2022 i 2024. Mae'r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf wedi dirywio i fenywod yn ystod y cyfnod hwn (o 17.5 yn 2015 i 2017, i 19.0 o flynyddoedd yn 2022 i 2024). Mae’r bwlch mewn disgwyliad oes iach i ddynion rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf hefyd wedi dirywio yn ystod y cyfnod hwn (o 17.0 yn 2015 i 2017, i 18.1 o flynyddoedd yn 2022 i 2024.
Ffynhonnell: disgwyliad oes iach, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.
Ymddygiadau iach o ran ffordd o fyw
Cynyddu’r ganran o oedolion sydd â 2 neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw i fwy na 97% erbyn 2050.
Wedi gwella
Rhwng blwyddyn ariannol 2020 a 2021, a 2024 i 2025.
Ffigur 2: canran yr oedolion sydd â 2 neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw, 2016-17 i 2024-25 [Nodyn 1], [Nodyn 2], [Nodyn 3], [Nodyn 4]
Disgrifiad o ffigur 2: siart linell yn dangos bod canran yr oedolion sydd â 2 ymddygiad iach neu fwy wedi dirywio o 2016 i 2017, i 2019 i 2020. Mae'n ymddangos bod y duedd ers 2020 i 2021 wedi gwella i tua’r un lefelau a welwyd yn 2016 i 2017 ond nid oes modd cymharu'n uniongyrchol, oherwydd newid yn y dull adrodd.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru.
[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu canlyniadau 2020 i 2021 â blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau yn yr arolwg.
[Nodyn 2] Mae’r canlyniadau o 2020 i 2021 ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth yn unig ac nid ar gyfer data blynyddol.
[Nodyn 3] Ni chynhaliwyd yr Arolwg Cenedlaethol yn 2023 i 2024 felly nid oes data ar gyfer y flwyddyn honno.
[Nodyn 4] Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.
Ymddygiadau iach o ran ffordd o fyw mewn plant
Cynyddu canran y plant sydd â 2 ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050.
Wedi gwella
Rhwng blwyddyn academaidd 2017 i 2018, a 2023 i 2024.
Ffigur 3: canran y bobl ifanc 11-16 oed gyda dau neu ragor o ymddygiadau iach, 2017 i 2018 (blwyddyn academaidd) a 2023 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 3: siart linell yn dangos bod canran y bobl ifanc 11-16 oed â 2 ymddygiad iach neu fwy wedi gwella o 88.5% yn 2017 i 90.7% ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024.
Ffynhonnell: arolwg iechyd a llesiant myfyrwyr y rhwydwaith ymchwil Iechyd mewn ysgolion.
[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.
Oedolion o oedran gweithio gyda chymwysterau lefel 3
Bydd gan 75% o'r oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymhwyster lefel 3 neu uwch erbyn 2050.
Wedi gwella
Rhwng 2015 a 2025.
Ffigur 4: canran yr oedolion o oedran gweithio (18 i 64 oed) sydd â chymhwyster lefel 3 neu uwch, 2015 i 2025
Disgrifiad o ffigur 4: siart linell yn dangos bod 69.7% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru, yn ôl yr amcangyfrifon, wedi cymhwyso i lefel 3 neu uwch yn 2025.Diweddarwyd cwestiwn yr arolwg yn 2022 i adlewyrchu y fframwaith cymwysterau newydd, sydd wedi effeithio cymaroldeb o’i gymharu a blynyddoedd blaenorol Yn 2015 amcangyfrifwyd bod 56.6% o oedolion o oedran gweithio wedi cymhwyso i lefel 3 neu uwch yn unol â’r fframwaith cymwysterau a oedd ar waith bryd hynny.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
[Nodyn 1] Ni ellir cymharu amcangyfrifon ar gyfer 2022 ymlaen â blynyddoedd blaenorol yn dilyn newidiadau i’r cwestiynau ar gymwysterau Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
Oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau
Canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau fydd 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050.
Wedi gwella
Rhwng 2015 a 2025.
Ffigur 5: cyfran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn ôl awdurdod lleol, 2025
Disgrifiad o ffigur 5: siart far yn dangos bod 8 awdurdod lleol ar hyn o bryd lle mae canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn is na 5%: Sir Fynwy, Powys, Gwynedd, Bro Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Chaerdydd. Nid oedd un yn 2015.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Incwm gwario gros aelwydydd
Gwella incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) y pen yng Nghymru erbyn 2035 ac ymrwymo i osod targed twf ymestynnol ar gyfer 2050.
Wedi gwella
Rhwng 2015 a 2024.
Ffigur 6: GDHI y pen yng Nghymru, £ a mynegai (y DU = 100), 2015 i 2024
Disgrifiad o ffigur 6: dwy siart linell yn dangos GDHI y pen a mynegai GDHI, o'i gymharu â'r DU. Mae GDHI y pen yng Nghymru wedi cynyddu mewn gwerth arian parod dros y cyfnod 2015 i 2024, o £15,600 yn 2015 i £21,500 yn 2024; cynnydd o 37.5%. Nid yw hyn yn ystyried chwyddiant dros y cyfnod. Fodd bynnag, mae GDHI y pen o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig (fel y dangosir gan y mynegai), sydd yn ystyried chwyddiant drwy edrych ar y newid cymharol, hefyd wedi cynyddu ychydig dros y cyfnod 2015 i 2024 o 82.1% i 82.7%.
Ffynhonnell: GDHI rhanbarthol, cyfrifon rhanbarthol, SYG
Ôl troed byd-eang
Dim ond ei chyfran deg o adnoddau’r ddaear y bydd Cymru yn ei defnyddio erbyn 2050.
Wedi gwella
Rhwng 2014 a 2018.
Ffigur 7: ôl troed byd-eang (gha) y pen, 2014 i 2018
Disgrifiad o ffigur 7: siart linell yn dangos bod ôl troed byd-eang y pen wedi gostwng 11% rhwng 2014 a 2018. Roedd yr ôl troed byd-eang y pen yn 3.9 gha y pen yn 2018, o'i gymharu â 4.4 gha y pen yn 2014.
Ffynhonnell: deall ôl troed amgylcheddol byd-eang ac effeithiau defnydd Cymru, JNCC
Cydraddoldeb cyflog
Dileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac sy’n gysylltiedig ag anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050.
Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Wedi gwella rhwng 2015 a 2025
Bwlch cyflog anabledd
Dim newid rhwng 2015 a 2025.
Bwlch cyflog ethnigrwydd
Dim newid rhwng 2015 a 2025.
Ffigur 8: y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru (canolrif enillion yr awr ar gyfer gweithwyr llawn-amser, heb gynnwys goramser), mis Ebrill 2015 i fis Ebrill 2025
Disgrifiad o ffigur 8: siart linell y dangos ers mis Ebrill 2015, bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar sail llawnamser canolrifol fesul awr (ac eithrio goramser) wedi lleihau, o 7.4% i 1.9% ym mis Ebrill 2025.
Ffynhonnell: dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r arolwg blynyddol o oriau ac enillion.
Ffigur 9: gwahaniaethau cyflog ethnigrwydd ac anabledd yng Nghymru (canolrif enillion fesul awr, pob gweithiwr), y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2015 i fis Rhagfyr 2025
Disgrifiad o ffigur 9: siart linell yn dangos bod y bylchau cyflog ethnigrwydd ac anabledd wedi bod yn anwadal dros y cyfnod ers 2015. Gostyngodd y bwlch cyflog ethnigrwydd o 12.0% yn 2015 i 1.4% yn 2019, ond yna cynyddodd i 16.4% yn 2022, ers hynny mae wedi gostwng i 8.4% yn 2025. Cynyddodd y bwlch cyflog anabledd o 12.2% yn 2015 i uchafbwynt o 15.1% yn 2019 ond mae wedi gostwng i 6.6% yn 2025. Nid yw'r newid rhwng 2015 a 2025 yn arwyddocaol yn ystadegol ar gyfer ethnigrwydd nac anabledd.
Ffynhonnell: dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.
Mae amcangyfrifon o wahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd yn cynnwys pobl 16 oed a hŷn, tra bod amcangyfrifon o wahaniaeth cyflog ar sail anabledd yn cynnwys pobl rhwng 16 a 64 oed.
Tlodi
Lleihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â rhai nodweddion allweddol a gwarchodedig (sy’n golygu eu bod fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a’r rhai heb y nodweddion hynny erbyn 2035. Ymrwymo i osod targed ymestynnol ar gyfer 2050.
Nid yw’r nodweddion sydd wedi’u cynnwys yng nghwmpas y garreg filltir hon wedi cael eu cytuno eto. Yn y cyfamser, mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar wahaniaethau rhwng grwpiau oedran eang.
Dim newid
Rhwng y cyfnodau ariannol 3 blynedd a ddaeth i ben yn 2015 a 2025.
Ffigur 10: canran o bob grŵp oedran eang sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), cyfartaleddau 3 blynedd ariannol, rhwng 2013 i 2015 a 2023 i 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 10: siart linell yn dangos mai plant yw’r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol yn gyson. Roedd 32% o blant mewn tlodi incwm cymharol yn y cyfnod o dair blynedd hyd at fis Mawrth 2025. Deg pwynt canran oedd y bwlch rhwng canran y plant mewn tlodi a’r boblogaeth gyfan yn y cyfnod o 3 blynedd hyd at fis Mawrth 2025, o’i gymharu â 9 pwynt canran yn y cyfnod hyd at fis Mawrth 2023
[Nodyn 1] Mae rhai mesurau incwm isel ar ôl 2021 i 2023 wedi newid, gan greu toriad yn y gyfres ddata o 2022.
O’r herwydd, ni ddylai defnyddwyr wneud cymariaethau uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol.
Ffynhonnell: tlodi incwm cymharol
Cyflogaeth
Dileu’r bwlch rhwng y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu cyfranogiad yn y farchnad lafur ymysg grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Wedi dirywio
Rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2016 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2026.
Ffigur 11: cyfradd cyflogaeth pobl rhwng 16 a 64 oed, y Deyrnas Unedig a Chymru, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2016 i fis Mawrth 2026
Disgrifiad o ffigur 11: siart linell yn dangos bod y bwlch mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi amrywio ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2016, ond mae’r bwlch wedi cynyddu’n gyffredinol.
Mae’r bwlch mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi amrywio rhwng y blynyddoedd a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2016 a mis Mawrth 2026, ond mae wedi cynyddu yn gyffredinol o 2.5 i 3.3 pwynt canran dros y cyfnod hwn.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
Pobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
Bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.
Wedi gwella
Rhwng 2015 a 2024.
Ffigur 12: cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, yn ôl grŵp oedran, Cymru, 2015 i 2024
Disgrifiad o ffigur 12: siart linell yn dangos bod cyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed sydd mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant wedi amrywio rhwng 2015 a 2024, ond mae wedi gwella ar y cyfan.
Mae’r amcangyfrifon dros dro yn dangos bod 86.3% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2024, i fyny o 83.9% yn 2015. Mae cyfran y bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi gostwng ar gyfer y grŵp oedran 16 i 18 (o 89.8% i 88.3%) ond mae wedi cynyddu ar gyfer y grŵp oedran 19 i 24 (o 81.4% i 85.3%).
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, y Brifysgol Agored a CCAUC.
[Nodyn 1]: mae’r ffigurau ar gyfer 2024 yn rhai dros dro.
Gwirfoddoli
Cynyddu canran y bobl sy’n gwirfoddoli 10% erbyn 2050, gan ddangos statws Cymru fel cenedl sy'n gwirfoddoli.
Wedi gwella
Rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025.
Ffigur 13: canran y bobl sy’n gwirfoddoli, rhwng blwyddyn ariannol 2016 i 2017, a 2024 i 2025
Disgrifiad o ffigur 13: siart linell sy’n dangos bod canran y bobl sy’n dweud eu bod wedi gwirfoddoli wedi cynyddu yn gyffredinol, o 28% yn 2016 i 2017, i 32% yn 2024 i 2025, er gwaethaf gostyngiad bach yn 2019 i 2020. Cyrhaeddwyd y garreg filltir genedlaethol.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru.
Llesiant meddyliol
Gwella llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch mewn llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf yng Nghymru erbyn 2050.
Dim newid
I oedolion rhwng blwyddyn ariannol 2016 i 2017, a 2018 i 2019, na rhwng 2021 i 2022, a 2024 i 2025.
Wedi dirywio
I blant rhwng 2017 a 2023.
Ffigur 14: sgôr gyfartalog graddfa llesiant meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion, yn ôl amddifadedd, rhwng blwyddyn ariannol 2016 i 2017, a 2024 i 2025 [Nodyn 1], [Nodyn 2]
Disgrifiad o ffigur 14: siart linell yn dangos nad oedd sgôr gyfartalog graddfa llesiant meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWBS) ar gyfer oedolion yn dangos unrhyw newid sylweddol rhwng blwyddyn ariannol 2016 i 2017 a 2018 i 2019 nac ers 2021 i 2022. Mae’n ymddangos bod y bwlch yn sgôr gyfartalog WEMWBS rhwng oedolion o’r ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf wedi ehangu ers 2021 i 2022.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru.
[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu canlyniadau 2020 i 2021 â blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau yn yr arolwg.
[Nodyn 2] Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.
Ffigur 15: sgôr gyfartalog graddfa fer llesiant meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed, yn ôl golud, 2017 i 2018 (blwyddyn academaidd) hyd at 2023 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 15: siart linell yn dangos bod sgôr gyfartalog graddfa fer llesiant meddyliol Warwick-Caeredin (SWEMWBS) ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed wedi gostwng o 24.0 ym mlwyddyn academaidd 2017 i 2018 i 23.5 yn 2023 i 2024. Mae'r bwlch yn sgôr gyfartalog SWEMWBS rhwng pobl ifanc o olud teuluol isel ac uchel wedi ehangu o 1.7 yn 2017 i 2018, i 2.0 yn 2023 i 2024.
Ffynhonnell: arolwg iechyd a llesiant myfyrwyr y rhwydwaith ymchwil iechyd mewn ysgolion.
[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.
Perfformiad ynni cartrefi
Bydd perfformiad ynni pob cartref yng Nghymru yn ddigonol a chost-effeithiol erbyn 2050.
Newid heb ei asesu
Yn ôl Arolwg Cyflwr Tai Cymru, blwyddyn ariannol 2017 i 2018, ystyriwyd bod gan 47% o anheddau preswyl berfformiad ynni digonol (sgôr SAP o 65 neu uwch). Nid oes data mwy diweddar ar gael.
Siaradwyr Cymraeg
Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050.
Wedi dirywio
Rhwng 2011 a 2021.
Ffigur 16: nifer y bobl tair oed a hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, 2011 i 2021
Disgrifiad o ffigur 16: siart golofn yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 562,000 yn 2011 i 538,000 yn 2021. Dros yr hirdymor, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn gostwng, i lawr o bron i filiwn o bobl yn 1911 i 538,000 yn y cyfrifiad diweddaraf.
Ffynhonnell: cyfrifiad poblogaeth
Allyriadau nwyon tŷ gwydr
Bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050.
Wedi gwella
Rhwng 2015 a 2024.
Ffigur 17: allyriadau nwyon tŷ gwydr, 2015 i 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 17: siart linell yn dangos yn 2024, bod yr allyriadau a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru a elwir yn allyriadau tiriogaethol yn dod i gyfanswm o 30.1 miliwn o dunelli o garbon deuocsid cyfatebol. Roedd yn 46.1 yn 2015. Bu gostyngiad o 35% rhwng 2015 a 2024.
Ffynhonnell: Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol
[Nodyn 1]: mae’r ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol wedi cael eu diwygio a’u marcio â (r)
Bioamrywiaeth
Gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy wella statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050.
Dim newid
Rhwng 2011 a 2016.
Ffynhonnell: statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru (ERAMMP)
Dros gyfnod hirdymor (1970 i 2016), roedd y newid mewn mynegai dosbarthiad ar gyfer rhywogaethau blaenoriaeth adran 7 yng Nghymru wedi gostwng i 87% o’i werth sylfaenol yn 1970. Dros y cyfnod byr (2011 i 2016), cynyddodd gwerth y dangosydd o 85 i 87 ac aseswyd ei fod yn sefydlog.
