Neidio i'r prif gynnwys

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Gwlad sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud rhywbeth o’r fath wneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang. Mae’r nod hwn yn cydnabod, mewn byd rhyng-gysylltiedig, gall yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod Cymru’n genedl gynaliadwy gael effeithiau cadarnhaol y tu allan i Gymru.

Cynnydd tuag at y nod

Mae cynnydd tuag at nod Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang wedi bod yn raddol ond yn barhaus gyda’r data diweddaraf yn dangos gostyngiadau pellach mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae carreg filltir genedlaethol ar gyfer nwyon tŷ gwydr, sef y bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050. Yn 2024, amcangyfrifwyd bod allyriadau nwyon tŷ gwydr a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru yn dod i gyfanswm o 30.1 miliwn o dunelli o garbon deuocsid cyfatebol (MtCO2e), gostyngiad o 9% ers 2023, a gostyngiad o 44% ers y flwyddyn sylfaen.

Amcangyfrifwyd bod yr allyriadau sy’n gysylltiedig â nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir gan aelwydydd yng Nghymru yn 34.0 MtCO2e yn 2023, 15% o ostyngiad o 2001.

Mae yna hefyd garreg filltir genedlaethol sy'n ymwneud ag ôl troed byd-eang, sef mai dim ond cyfran deg o adnoddau’r ddaear y bydd Cymru yn ei defnyddio erbyn 2050. Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos, er bod yr ôl troed byd-eang y pen yng Nghymru wedi gostwng bron i draean rhwng 2004 a 2018, ei fod dal dros ddwywaith yr amcangyfrif o'r biogapasiti yng Nghymru. Pe bai holl boblogaeth y byd yn byw fel dinasyddion Cymru, byddai angen tir cyfwerth â 2.08 Daear ar ddynoliaeth.

Ym mlwyddyn academaidd 2025 i 26, roedd 19,074 o ymgeiswyr ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yng Nghyfnod Allweddol 4. Cafwyd 13,318 o geisiadau ar gyfer y prosiect cymuned fyd-eang uwch newydd.

Cyd-destun byd-eang: Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Ar 1 Ionawr 2016, dechreuodd y byd roi Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 ar waith, sef y cynllun gweithredu trawsnewidiol sy’n seiliedig ar 17 Nod Datblygu Cynaliadwy i fynd i’r afael â heriau mawr y byd dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn pwysleisio agenda gyffredinol sy’n mynnu bod holl aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig - y rhai cyfoethog a rhai tlawd fel ei gilydd – yn cymryd camau i gefnogi datblygu cynaliadwy.

Mae llawer o ffactorau sy’n pennu a yw Cymru’n dod yn wlad sy’n fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda’i nodau llesiant penodol i Gymru, yn darparu fframwaith ar gyfer cyfraniad Cymru at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Ar y cyfan, mae’r 6 adroddiad naratif arall, drwy eu hasesiad o’n cynnydd tuag at y nodau llesiant cenedlaethol, yn dangos ein cyfraniad cyffredinol fel cenedl at yr agenda datblygu cynaliadwy ryngwladol. Er enghraifft, rydym yn adrodd mewn mannau eraill ar dueddiadau fel tlodi, anghydraddoldebau a gwaith teg. Mae’r naratif hwn ar y nod Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang yn canolbwyntio ar feysydd sydd fwyaf perthnasol i’r agenda fyd-eang.

Mae’r 50 o ddangosyddion cenedlaethol ar gyfer Cymru hefyd wedi cael eu mapio at ddibenion dangosol yn erbyn y 17 Nod Datblygu Cynaliadwy i’ch helpu chi i lywio rhwng cynnydd yma yng Nghymru a’r berthynas â phob un o’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Dangosyddion Cenedlaethol: mapio i’r Nodau Llesiant a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (offeryn rhyngweithiol)

Er bod rhywfaint o’r naratif yn seiliedig ar ddangosyddion cenedlaethol ac ystadegau swyddogol, mae rhywfaint o’r data a gyflwynir yn yr adran hon yn gyd-destunol ac yn defnyddio data neu ddatganiadau ffeithiol sy’n ymwneud â pholisïau neu raglenni, lle rydym wedi ystyried ei fod yn berthnasol i’r naratif cyffredinol. Nid yw’r data hyn yn cael eu casglu drwy ffynonellau ystadegau swyddogol, ac er eu bod yn cael eu cynnwys yma ar gyfer cyd-destun, ni allwn ddarparu sicrwydd llawn ynghylch ansawdd data. Fodd bynnag, lle bo modd, mae rhagor o wybodaeth am y data ar gael yn yr wybodaeth ansawdd ar gyfer adroddiad Llesiant Cymru.

Newid yn yr hinsawdd

Nod 13 o Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yw “gweithredu ar frys i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau”.

Mae pobl yng Nghymru yn poeni am newid yn yr hinsawdd.

Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023 yn dangos bod y mwyafrif helaeth (97%) o bobl yng Nghymru o'r farn bod hinsawdd y byd yn newid. Roedd oddeutu tri chwarter (74%) o oedolion yn eithaf pryderus neu’n bryderus iawn am newid yn yr hinsawdd, sy’n debyg i’r blynyddoedd diweddar, ac roedd y mwyafrif (94%) yn credu bod gweithgarwch dynol yn cyfrannu i ryw raddau at y newid yn hinsawdd y byd.

Allyriadau nwyon tŷ gwydr

Mae carreg filltir genedlaethol ar gyfer nwyon tŷ gwydr, sef y bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050.

Yn 2024, amcangyfrifwyd bod cyfanswm yr allyriadau a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru (a elwir yn allyriadau gwladol) yn cyfateb i 30.1 miliwn o dunelli o garbon deuocsid (MtCO2e). Mae hyn yn 9% o ostyngiad ers 2023 ac yn parhau â’r duedd ddiweddar o ostyngiadau mwy sylweddol.

Y gostyngiad yn y defnydd o nwy a glo yn y sectorau diwydiant a chyflenwi trydan a achosodd y gostyngiadau mwyaf mewn allyriadau yn 2024. Gostyngodd allyriadau’r sector diwydiant 25%, yn bennaf yn sgil cau ffwrneisi chwyth yn y diwydiant haearn a dur a llai o ddefnydd o lo ar draws y sector. Gostyngodd allyriadau’r sector cyflenwi trydan 9%, yn bennaf o ganlyniad i fewnforio mwy o drydan, mwy o gynhyrchu adnewyddadwy, a chau gorsaf bŵer glo olaf y DU ym mis Medi 2024.

Ffigur 7.1: amcangyfrif o allyriadau gwladol Cymru o nwyon tŷ gwydr (Mt CO2e), 1990 i 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 7.1: mae'r siart linell yn dangos cyfaint yr allyriadau nwyon tŷ gwydr (megatunnell) yng Nghymru rhwng 1990 a 2024. Mae allyriadau yng Nghymru wedi gostwng 44% ers y flwyddyn sylfaen. Gostyngodd allyriadau 9% rhwng 2023 a 2024.

Ffynhonnell: Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol

[Nodyn 1]: mae’r ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer yr holl flynyddoedd hyd ar 2023 wedi cael eu diwygio a’u marcio â (r). Ni chyhoeddir unrhyw ddata ar gyfer 1991 i 1994, 1996 a 1997.

Bu gostyngiad o 44% ers allyriadau’r flwyddyn sylfaen. Mae’r duedd hirdymor i leihau allyriadau ers y flwyddyn sylfaen yn bennaf oherwydd:

  • arbedion effeithlonrwydd cynhyrchu ynni a gwresogi’r sector busnes (adeiladau ac ar gyfer prosesau)
  • defnyddio nwy naturiol yn lle glo a rhai tanwyddau eraill yn ogystal â lleihad mewn rhai diwydiannau cemegol
  • gostyngiadau mewn allyriadau o reoli gwastraff anerobig
  • amrywiadau mewn allbwn gweithgynhyrchu (er enghraifft mewn haearn a dur, cynhyrchu cemegion)

Y sector a oedd yn gyfrifol am yr allyriadau mwyaf yn 2024 oedd diwydiant, a oedd yn cynhyrchu 22% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Mae hylosgi tanwydd yn y broses cynhyrchu haearn a dur yn cael lle blaenllaw yn y sector hwn, fel ffwrneisiau chwyth, cynhyrchu golosg, ffaglu a chynhyrchu sinter.

Y sector trafnidiaeth ddomestig yw’r ail sector mwyaf sy’n cyfrif am bron i 19% o allyriadau Cymru. Dilynir hyn gan y sector amaethyddiaeth (17%), y sector cyflenwi trydan (15%), y sector adeiladau a defnyddio cynnyrch (13%), y sector cyflenwi tanwydd (11%), gyda sectorau eraill yn gwneud cyfraniadau llai o 4% neu lai.

Mae’r ffigurau hyn ar allyriadau nwyon tŷ gwydr gwladol yn ystyried allyriadau yng Nghymru yn unig. Nid yw hyn yn cynnwys allyriadau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau y tu allan i Gymru hyd yn oed os yw’r rhain yn cael eu mewnforio i Gymru. Yn yr un modd, mae allyriadau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu cyfrif fel allyriadau Cymru hyd yn oed os yw’r rhain yn cael eu hallforio i’w defnyddio mewn mannau eraill.

Allyriadau nwyon tŷ gwydr a briodolir i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau byd-eang yng Nghymru

Mae allyriadau defnydd wedi gostwng yn gyffredinol ers 2001. Gostyngodd o 40MtCO2e yn 2001 i 34MtCO2e yn 2023, gostyngiad o 15%.

Daeth y rhan fwyaf o allyriadau (82%) o’r nwyddau a’r gwasanaethau y mae pobl yn eu defnyddio. Daeth dros hanner yr holl allyriadau (53%) o nwyddau a gwasanaethau wedi’u mewnforio. Daeth 28% arall o nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchwyd yn y DU.

Daeth y 18% arall o weithgareddau fel llosgi tanwydd ar gyfer gwresogi a thrafnidiaeth.

Ffigur 7.2: amcangyfrif o ôl troed allyriadau defnydd Cymru (Mt CO2e), 2001 i 2023

Image

Disgrifiad o ffigur 7.2: mae’r siart linell yn dangos bod cyfaint yr allyriadau defnydd amcangyfrifedig (megatunelli) yng Nghymru yn dangos tuedd gyffredinol ar i lawr ers 2001. Rhwng 2001 a 2023, mae ôl troed allyriadau defnydd amcangyfrifedig Cymru wedi gostwng 15%, o 40 MtCO2e i 34 MtCO2e.

Ffynhonnell: Ôl Troed Allyriadau Defnydd, Cymru, 2001 i 2020 (MtCO2e), amcangyfrif o allyriadau ar sail defnydd, Prifysgol Leeds.

Dulliau teithio

Mae rhai mathau o deithio, gan gynnwys traffig ffyrdd, yn cyfrannu’n sylweddol at allyriadau carbon. Mae cynyddu cyfran y teithiau a wneir drwy gerdded, olwyno, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn rhan bwysig o leihau allyriadau trafnidiaeth a chefnogi canlyniadau llesiant ehangach.

Cafodd dangosydd cenedlaethol ar ganran y siwrneiau sy'n cael eu gwneud ar droed, ar gefn beic neu drafnidiaeth gyhoeddus ei ychwanegu at y set o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021. Yn 2026, daeth data ar gael am y tro cyntaf o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru, arolwg newydd ar raddfa fawr o ymddygiad teithio yng Nghymru.

Mae canlyniadau dros dro 6 mis cyntaf yr arolwg (Mawrth i Awst 2025) yn amcangyfrif bod 17.7% o deithiau’n cael eu gwneud ar droed neu ar olwynion a 2.0% ar feic. Gyda’i gilydd, roedd dulliau teithio llesol yn cyfrif am 19.6% o deithiau yng Nghymru.

Mae Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yn arolwg newydd ac mae’r rhain yn ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu ar sail y 6 mis cyntaf o gasglu data. Mae’r amcangyfrifon yn deillio o ddyddiadur teithio 2 ddiwrnod a gwblhawyd gan tua 3,100 o ymatebwyr ac maent yn cynnwys tua 9,000 o deithiau a gofnodwyd rhwng mis Mawrth a mis Awst 2025. Gall patrymau teithio fod yn wahanol ar adegau eraill o’r flwyddyn, ac mae gwahaniaethau methodolegol yn golygu nad oes modd cymharu’r canlyniadau’n uniongyrchol ag arolygon teithio blaenorol neu ffynonellau data trafnidiaeth eraill.

Disgwylir i ganlyniadau blwyddyn lawn Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru gael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2026 a byddant yn darparu’r llinell sylfaen flynyddol gyntaf ar gyfer monitro’r dangosydd cenedlaethol hwn dros amser.

Cyn cyflwyno Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru, roedd yr wybodaeth am ymddygiad teithio yng Nghymru yn gyfyngedig. Roedd data o’r Arolwg o’r Llafurlu yn dangos mai trafnidiaeth ffyrdd breifat oedd y prif ddull o deithio i’r gwaith o hyd, gydag 81% o gymudwyr yng Nghymru fel arfer yn teithio i’r gwaith mewn car yn 2023. Nid oedd llawer o newid yng nghyfran y bobl sy’n defnyddio gwahanol ddulliau trafnidiaeth i deithio i’r gwaith dros y degawd blaenorol.

Ffigur 7.3: cyfran o deithiau fesul person y flwyddyn yn ôl prif ddull teithio, 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 7.3: mae'r siart bar yn dangos cyfran y teithiau a gwnaed yng Nghymru yn ôl eu prif ddull teithio. Gwnaed 73.6% o deithiau mewn car, naill ai fel gyrrwr neu deithiwr. Gwnaed 17.7% o deithiau drwy gerdded neu olwyno a defnyddiwyd dulliau eraill yn llai aml.

[Nodyn 1] mae’r canrannau wedi’i cyfrifo gan eithrio ymatebwyr a ddewisodd "Ddim yn gwybod" neu " Mae'n well gennyf beidio â dweud" wrth ateb pa ddull teithio a ddefnyddiwyd ganddynt.

Ffynhonnell: Prif ganlyniadau Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru: canlyniadau rhagarweiniol wedi chwe mis (TrC)

Ôl Troed byd-eang

Ein hôl troed byd-eang yw cyfanswm y baich amgylcheddol y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned. Yn fyd-eang, rydym yn defnyddio mwy o adnoddau naturiol nag y gall y byd eu disodli.

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd hwn yw y bydd Cymru ond yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau’r byd erbyn 2050.

Mae’r amcangyfrifon diweddaraf, sy’n seiliedig ar y Fethodoleg Ôl troed Ecolegol yn dangos bod ôl troed byd-eang Cymru wedi gostwng o tua 17.0 miliwn hectar byd-eang (gha) yn 2004 i 12.3 miliwn gha yn 2018. Mae’r ôl troed byd-eang fesul unigolyn wedi gostwng bron i draean dros y cyfnod amser hwn, ac roedd yn 3.9 gha y pen yn 2018. Mae’r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu pe bai pawb yn y byd yn byw fel mae pobl Cymru yn ei wneud, byddai angen 2.08 Daear ar ddynoliaeth.

Ffigur 7.4: ôl troed byd-eang, hectarau global (gha) y pen, 2004 i 2018

Image

Disgrifiad o ffigur 7.4: siart linell yn dangos yr ôl troed byd-eang (gha) y pen yng Nghymru, bob tair/pedair blynedd rhwng 2004 a 2018. Mae’r ôl troed byd-eang fesul unigolyn wedi gostwng yn raddol dros y cyfnod.

Ffynhonnell: Deall Ôl Troed Amgylcheddol Byd-eang ac Effeithiau Defnydd Cymru, JNCC

Mae mesur arall o Ôl Troed Ecolegol Cymru yn defnyddio data mewnbwn o ansawdd ychydig yn uwch, ond nid yw’n galluogi cymharu dros amser. Roedd yr ôl troed hwn tua 10.7 miliwn gha yn 2019, sy’n cyfateb i tua 3.4 ha fesul unigolyn.

Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol

Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn gofyn i bobl pa weithgareddau maent wedi eu gwneud i helpu gyda materion rhyngwladol fel tlodi, hawliau dynol, rhyfel, ffoaduriaid, neu newid yn yr hinsawdd. Mae'r ymatebion ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 yn cyd-fynd yn fras â'r rhai o'r tro diwethaf y cafodd y cwestiynau hyn eu cynnwys yn 2021 i 2022.

Mae 13% o’r rhai a holwyd wedi cymryd 3 cham neu fwy i helpu gyda materion byd-eang. Dywedodd hanner y bobl (50%) eu bod wedi newid yr hyn maen nhw’n ei brynu oherwydd materion byd-eang, ac mae 33% o bobl yn dweud eu bod wedi rhoi arian neu wedi helpu i godi arian.

Caethwasiaeth fodern

Mae nifer y dioddefwyr posibl o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru sy’n cael eu hatgyfeirio yn parhau i gynyddu’n raddol.

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys targed ar gyfer ‘Rhoi terfyn ar gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl’. Caethwasiaeth fodern yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi ei ddiffinio yn Neddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae’r ddeddf yn categoreiddio troseddau o gaethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol neu drwy rym a masnachu pobl.

Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae nifer yr achosion o ddioddefwyr posibl caethwasiaeth sy’n cael eu hadrodd i’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol neu drwy broses y Ddyletswydd i Hysbysu yn parhau i gynyddu bob blwyddyn yng Nghymru.

Yn 2025, cafodd 578 o bobl eu hatgyfeirio fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern i heddluoedd yng Nghymru, cynnydd bach o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol (563).

Ffigur 7.5: atgyfeiriadau NRM a anfonwyd at heddluoedd yng Nghymru ar gyfer ymchwiliad, 2018 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 7.5: siart linell yn dangos nifer yr atgyfeiriadau i’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer heddluoedd yng Nghymru rhwng 2018 a 2025. Mae nifer yr atgyfeiriadau wedi cynyddu dros y cyfnod.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol, y Swyddfa Gartref

Yn 2025 roedd 136 o’r atgyfeiriadau ar gyfer menywod (24%) ac roedd 442 ar gyfer dynion (76%).

Cafodd 200 (35%) o unigolion eu cyfeirio ar gyfer categorïau camfanteisio ar oedolion ac fe gafodd 378 (65%) eu cyfeirio ar gyfer camfanteisio yn unigolyn ifanc dan oed.

Y math mwyaf cyffredin o gamfanteisio ar gyfer oedolion oedd camfanteisio ar ‘lafur’ a’r math mwyaf cyffredin ar gyfer plant dan oed oedd ‘troseddol’. Ar gyfer merched (yn oedolion a phlant dan oed) y camfanteisio mwyaf cyffredin oedd ‘camfanteisio rhywiol’.

Priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod

Mae priodasau dan orfod neu achosion posibl o anffurfio organau cenhedlu benywod wedi cael eu nodi yng Nghymru. Mae nod 5 y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys targed i ‘gael gwared ar yr holl arferion niweidiol, fel gorfodi plentyn i briodi neu briodi’n gynnar ac anffurfio organau cenhedlu benywod’.

Mae data gan yr Uned Priodasau Dan Orfod (FMU) yn dangos bod nifer yr achosion lle darparwyd cyngor neu gymorth yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol ers cyrraedd uchafbwynt o 37 achos yn 2019. Ers hynny, mae nifer yr achosion wedi gostwng yn gyffredinol, gyda’r ffigurau ar gyfer y blynyddoedd diweddaraf yn dal yn is na 5 ac felly wedi’u hatal er mwyn diogelu cyfrinachedd.

Oherwydd y nifer fach o achosion yng Nghymru, gall ffigurau o flwyddyn i flwyddyn fod yn gyfnewidiol. Efallai fod newidiadau mewn patrymau adrodd yn ystod pandemig COVID-19, yn ogystal â newidiadau mewn arferion cofnodi, hefyd wedi effeithio ar dueddiadau dros amser.

Ffigur 7.6: nifer yr achosion a gafodd gyngor neu gymorth gan yr Uned Priodasau dan Orfod yng Nghymru, 2015 i 2025 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
BlwyddynAchosion
201525
201614
201717
201828
201937
202015
20218
20226
2023[c]
2024[c]
2025[c]

Disgrifiad o ffigur 7.6: tabl o nifer yr achosion lle mae’r Uned Priodasau Dan Orfod (FMU) wedi rhoi cyngor neu gymorth yng Nghymru mewn perthynas â phriodas bosibl dan orfod a/neu achos bosibl o anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yng Nghymru. Oherwydd y niferoedd isel o’i gymharu â rhai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae’r duedd ar gyfer Cymru wedi bod yn anwadal ers 2015.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, Ystadegau’r Uned Priodasau dan Orfod 2025

[Nodyn 1] Oherwydd y newidiadau mewn arferion cofnodi, nid oes modd cymharu’r data o 2020 yn uniongyrchol â data’r blynyddoedd blaenorol.

[Nodyn 2] Defnyddir llaw-fer yn y tabl hwn, [c]= llai na 5.

Addysg dinasyddiaeth fyd-eang

Mae Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, sef ‘Addysg o Safon’, yn cydnabod pwysigrwydd cael addysg o ansawdd a bod yr holl ddysgwyr yn meddu ar yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy, gan gynnwys ffyrdd cynaliadwy o fyw, hawliau dynol, cydraddoldeb rhywiol a dinasyddiaeth fyd-eang.

Ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026, roedd 19,704 o ymgeiswyr ar gyfer yr her dinasyddiaeth fyd-eang yng Nghyfnod Allweddol 4. Cafwyd 13,318 o geisiadau ar gyfer y prosiect cymuned fyd-eang uwch newydd. Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4, mae data dros dro yn dangos bod 99.2% o'r ceisiadau wedi pasio lefel 1 neu uwch. Ar gyfer y prosiect cymuned fyd-eang bagloriaeth sgiliau uwch newydd, mae data dros dro yn dangos bod 74.5% wedi cael gradd C neu uwch, a bod 97.7% wedi cael gradd E neu uwch.

Tlodi bwyd

Mae rhai oedolion yng Nghymru yn wynebu tlodi bwyd ac yn poeni am fforddio bwyd.

Un o nodau’r Cenhedloedd Unedig, sef ‘Dim Newyn’ yw rhoi diwedd ar newyn, sicrhau diogelwch bwyd a gwella maeth.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 4% o aelwydydd wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf gyda 2% arall yn dweud nad oeddent wedi cael bwyd ond eu bod wedi dymuno cael hynny.

Ceiswyr lloches

Mae nifer y ceiswyr lloches sy’n derbyn cymorth wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ers dechrau’r degawd.

Nod Datblygu Cynaliadwy rhif 16 y Cenhedloedd Unedig yw ‘hyrwyddo cymdeithasau heddychlon a chynhwysol ar gyfer datblygu cynaliadwy, darparu mynediad at gyfiawnder i bawb a chreu sefydliadau effeithiol, atebol a chynhwysol ar bob lefel’.

Nid yw ffigurau cyflawn ar gyfer nifer y ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n cael eu hadsefydlu yng Nghymru ar gael. Fodd bynnag, cyhoeddir ffigurau sy’n ymwneud â nifer y ffoaduriaid sy’n adsefydlu o dan Gynllun Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (a’r Cynllun Adsefydlu pobl agored i niwed gynt), a nifer y rhai sy’n derbyn cymorth lloches ar hyn o bryd.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2026, roedd cyfanswm o 1,567 o ffoaduriaid wedi cael eu hadsefydlu yng Nghymru o dan y Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed a’r Cynllun Adsefydlu Plant Agored i Niwed (2016 i 2022) a Chynllun Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (2021 ymlaen).

Mae Adran 95 yn darparu cymorth i geiswyr lloches sydd â chais am loches neu apêl heb ei ddatrys a cheiswyr lloches aflwyddiannus a oedd â phlant yn eu cartref pan ddefnyddiwyd yr holl hawliau apelio a oedd yn bosibl, ac mae’n cynnwys y rhai sy’n derbyn:

  • llety gwasgaru: y rhai sy’n derbyn llety yn unig, neu lety a chynhaliaeth
  • cynhaliaeth yn unig: lle mae’r ymgeisydd yn derbyn arian i gynnal ei hun ond wedi dod o hyd i’w lety ei hun

Ar ddiwedd mis Mawrth 2026, roedd dros 3,100 o geiswyr lloches yn cael cymorth yng Nghymru, nifer tebyg i’r flwyddyn flaenorol. Cynyddodd y nifer yn sylweddol rhwng 2012 a 2016, ond mae wedi aros yn sefydlog ar y cyfan ers hynny, gyda gostyngiad yn 2022 a 2023.

Ffigur 7.7: nifer y ceiswyr lloches sy’n derbyn cymorth Adran 95, rhwng blwyddyn ariannol 2005 i 2006 a 2025 i 2026

Image

Disgrifiad o ffigur 7.7: mae’r siart linell yn dangos bod nifer y ceiswyr lloches sy’n cael cymorth wedi aros yn gyson yn ystod blwyddyn ariannol 2015 i 2016 hyd at flwyddyn ariannol 2019 i 2020, ac yna mae wedi gostwng tan 2021 i 2022, gyda chynnydd rhwng 2022 a 2023 a rhwng 2023 a 2024, ac mae wedi aros yn debyg yn 2025 i 2026.

Ffynhonnell: Ystadegau Mewnfudo’r Swyddfa Gartref, blwyddyn ariannol 2025 i 2026

Darpariaeth brechu

Mae nifer y plant ifanc sy’n cael brechiadau yn parhau i fod yn uchel ond mae wedi gostwng yn gyffredinol ers ei lefelau uchaf ym mlwyddyn ariannol 2013 i 2014, ar gyfer y brechlyn ‘6 mewn 1’ DTaP/IPV/Hib/HepB1 ar gyfer y rheini sy’n nesáu at flwydd oed, a’r nifer sy’n cymryd y dos cyntaf o MMR erbyn iddynt fod yn 2 oed.

Mae Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, sef ‘Iechyd a llesiant da’, yn nodi pwysigrwydd darparu mynediad at feddyginiaethau a brechlynnau fforddiadwy a hanfodol. Mae gan Sefydliad Iechyd y Byd weledigaeth ar gyfer byd heb y frech goch, rwbela a syndrom rwbela cynhenid.

Y nifer a gymerodd y dos cyntaf o MMR erbyn roeddent yn 2 oed oedd 92.5% yn 2025 i 2026, i lawr o 93.0% yn y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn parhau i fod yn is na’r lefel o 95% sydd ei hangen yn gyffredinol i atal achosion o’r frech goch.

Roedd y nifer yn cael diweddaru brechlyn ‘6 mewn 1’ DTaP/IPV/Hib/HepB1(y 3 dos) ymysg plant sy’n cyrraedd eu pen-blwydd cyntaf yn 93.1%, i lawr o 94.1% yn y flwyddyn flaenorol.

Ffigur 7.8: canran y plant sy’n cael eu himiwneiddiadau yng Nghymru, blwyddyn ariannol 2008-09 hyd at 2025-26 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 7.8: mae’r siart linell yn dangos canran y rhai a gafodd y brechlyn MMR a’r brechlyn 6 mewn 1 rhwng blwyddyn ariannol 2008 i 2009 hyd at flwyddyn ariannol 2025 i 2026. Mae’r nifer sy’n cymryd y brechlyn ‘6 mewn 1’ a’r MMR wedi gostwng ers iddynt gyrraedd eu lefelau uchaf yn 2013 i 2014. Roedd 92.5% wedi cael MMR yn 2025 i 2026, a 93.1% wedi cael y ‘6 mewn 1’.

Ffynhonnell: Data cenedlaethol ar y nifer sy’n manteisio ar imiwneiddio, Iechyd Cyhoeddus Cymru

[Nodyn 1] Nid yw echelin y siart yn cychwyn ar sero.

[Nodyn 2] Mae’r brechlyn ‘6 mewn 1’ yn amddiffyn yn erbyn difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio, hib a haint hepatitis B. Byddai’r rhan fwyaf o’r plant blwydd oed y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn yn gymwys ar gyfer y brechlyn ‘6 mewn 1’, gan ddisodli’r brechlyn ‘5 mewn 1’ sydd i fod i gael ei roi i fabanod pan fyddant yn 4, 8 a 12 mis oed.

[Nodyn 3] Mae MMR yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela. Mae’r data’n dangos y nifer sy’n cymryd y dos cyntaf yn 2 oed.

Darllen pellach

Mae adroddiadau Llesiant blaenorol Cymru wedi cynnwys dadansoddiad pellach ar y canlynol:

  • eco-ysgolion
  • cosbi plant yn gorfforol
  • safleoedd treftadaeth y byd

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, ac felly dim ond mesurau cynnydd lefel uchel y mae modd eu hystyried yn yr adroddiad hwn. Mae rhagor o ddeunydd darllen ar gael isod.

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen