Llesiant Cymru 2026 - Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
Crynodeb o'r cynnydd ar wella ein lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.
Ar y dudalen hon
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu: Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Cynnydd tuag at y nod
Mae'r cynnydd tuag at y nod hwn yn gymysg. Mae rhai meysydd wedi gwella dros yr hirdymor, gan gynnwys cyfranogiad oedolion mewn chwaraeon, achredu amgueddfeydd ac archifau a chyflwr adeiladau rhestredig. Ond bu llai o gynnydd mewn meysydd eraill. Mae ymgysylltu â’r celfyddydau wedi aros yn weddol sefydlog i oedolion tra bo wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf i blant. Mae cyflwr henebion rhestredig wedi gwaethygu’n raddol ac mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng. Mae gwahaniaethau ar draws grwpiau yn parhau ar gyfer llawer o fesurau.
Nid yw'r dangosydd cenedlaethol ar y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi newid llawer dros y 3 blynedd y cafodd ei gasglu. Canfu'r data diweddaraf o flwyddyn ariannol 2022 i 2023 fod 72% o oedolion yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn o leiaf 3 gwaith y flwyddyn.
Cynyddodd presenoldeb plant yn y celfyddydau i 87% yn 2025, gan ddychwelyd i’r lefel a welwyd yn 2019 cyn pandemig COVID-19. Roedd cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol yn 84% yn 2025. Er bod cyfranogiad wedi gostwng yn gyffredinol ers 2015, mae wedi bod yn weddol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae mwy o amgueddfeydd a gwasanaethau archifau yn cyrraedd y safonau achrededig. Rhwng 2017 a 2026, mae canran y gwasanaethau archifau sy’n cyrraedd safonau achrededig wedi cynyddu o 39% i 73% a chanran yr amgueddfeydd o 59% i 62%.
Gostyngodd cyfranogiad rheolaidd mewn chwaraeon ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, gyda 35% o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon 3 gwaith yr wythnos neu ragor. Ond dros yr hirdymor mae canran yr oedolion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd wedi bod yn cynyddu. Mae dynion, pobl sy’n byw mewn ardaloedd llai difreintiedig, y rheini sydd mewn iechyd da a siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd.
Roedd nifer y disgyblion ysgol oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon wedi cynyddu o’r blaen ond yn 2022, sef y flwyddyn ddiweddaraf o ddata, gostyngodd i lefelau tebyg i’r hyn welwyd yn 2013.
Gostyngodd nifer a chanran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021, gyda’r ganran bellach yr isaf i'w chofnodi erioed mewn cyfrifiad. Mae carreg filltir genedlaethol i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ôl y cyfrifiad, roedd 538,000 o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, i lawr o bron i filiwn yn 1911.
Mae data arolwg yn awgrymu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl yn yr hirdymor. Mae canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio’r iaith bob dydd wedi bod yn weddol sefydlog, ac ar hyn o bryd mae’n 11%.
Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi gwella ychydig ers 2015, ac mae cyflwr henebion rhestredig wedi gwaethygu ond maent wedi sefydlogi dros y blynyddoedd diwethaf.
Nid oes data newydd gan Arolwg Cenedlaethol Cymru eleni, mae hyn yn golygu nad oes diweddariad ar ddangosyddion cenedlaethol sy’n ymwneud â’r celfyddydau i oedolion nac ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon yn 2026.
Celfyddydau, diwylliant a threftadaeth
Mae'r data diweddaraf ar gyfer y dangosydd cenedlaethol ar y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yn dangos presenoldeb a chyfranogiad cymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf. Ym mlwyddyn ariannol 2022 i 2023, roedd 72% o oedolion yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn o leiaf 3 gwaith y flwyddyn, yn debyg i flynyddoedd blaenorol. Mae oedolion iau, pobl â chymwysterau uwch a phobl sy’n byw mewn ardaloedd llai difreintiedig yn fwy tebygol o fynychu neu gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn.
Ffigur 6.1: oedolion sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth 3 gwaith y flwyddyn neu fwy, rhwng blwyddyn ariannol 2017 i 2018, a 2022 i 2023
Disgrifiad o ffigur 6.1: siart far yn dangos 3 blynedd o ddata ar gyfer y dangosydd cenedlaethol ar fynychu neu gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth yn rheolaidd. Nid oes unrhyw wahaniaethau sylweddol rhwng blwyddyn ariannol 2022 i 2023 a’r blynyddoedd blaenorol y cafodd y dangosydd hwn ei fesur.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Gostyngodd presenoldeb ymysg plant rhwng 2018 a 2023 ond mae wedi cynyddu dros y 2 flynedd diwethaf i fod yn 87% yn 2025. Mae hyn yr un lefel ag yn 2019, cyn pandemig COVID-19. Mae cyfranogiad ymysg plant wedi bod yn gostwng yn raddol ers 2015 ac mae wedi bod yn weddol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2025, cymerodd 84% o blant ran mewn o leiaf un ffurf ar gelfyddyd.
Roedd presenoldeb a chyfranogiad yn y celfyddydau yn dal yn uwch ymysg merched a phlant o raddau cymdeithasol uwch.. Ehangodd y bwlch rhwng bechgyn a merched, a rhwng plant o wahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol, ar gyfer presenoldeb a chyfranogiad yn 2025.
Plant 7 i 10 oed sy’n parhau i fod â’r cyfraddau presenoldeb a chyfranogiad uchaf. Fodd bynnag, fe wnaeth y bwlch rhwng grwpiau leihau yn 2025 oherwydd cynnydd mewn presenoldeb a chyfranogiad ymysg pobl ifanc 16 i 18 oed.
Ffigur 6.2: plant sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau o leiaf unwaith y flwyddyn, 2013 i 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 6.2: siart linell yn dangos bod presenoldeb yn y celfyddydau ymysg plant wedi cynyddu ers 2023 ar ôl gostwng o uchafbwynt yn 2018. Mae cyfranogiad wedi gostwng yn raddol ers 2015, gan aros yn weddol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.
Ffynhonnell: Cyngor Celfyddydau Cymru
[Nodyn 1]: Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.
Amgueddfeydd ac archifau
Yn ôl y data diweddaraf, roedd 99 o amgueddfeydd yn cyrraedd safonau achredu yn 2026, sydd yr un fath â’r flwyddyn flaenorol. Mae cyfanswm a chyfran yr amgueddfeydd achrededig wedi aros yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf, gyda 62% bellach wedi'u hachredu o'i gymharu â 59% yn 2017.
Yn 2026, roedd 16 o wasanaethau archifau yn cyrraedd y safon achredu, un yn fwy nag yn 2025. Mae nifer a chanran y gwasanaethau archifau achrededig wedi cynyddu dros amser, gyda 73% bellach wedi'u hachredu, i fyny o 39% yn 2017.
Diwygio data’r archifau
Mae ffigurau hanesyddol ar achredu archifau wedi cael eu diwygio i sicrhau bod diffiniad y dangosydd yn cael ei gymhwyso’n gyson ar draws pob blwyddyn. Mae rhagor o fanylion yn yr adroddiad ansawdd.
Mae canran y gwasanaethau archifau achrededig ar gyfer 2025 wedi cael ei ddiwygio o 88% i 68%. Mae nifer y gwasanaethau archifau yn 2025 yn dal yr un fath, sef 15.
Cymryd rhan mewn chwaraeon
Dangosodd y data diweddaraf o flwyddyn ariannol 2024 i 2025 fod 35% o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon 3 gwaith yr wythnos neu ragor. Mae hyn yn is nag yn 2022 i 2023 pan oedd y ganran yn 39%, ond mae cyfranogiad wedi cynyddu dros y tymor hwy. Yn 2016 i 2017, roedd y gyfradd yn 29%.
Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd yn gostwng gydag oedran. Amcangyfrifir bod 52% o bobl rhwng 16-24 oed yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, o’i gymharu â 12% o bobl 75 oed a hŷn.
Mae dynion yn fwy tebygol na menywod o gymryd rhan mewn chwaraeon 3 gwaith yr wythnos neu ragor, sef 40% o’i gymharu â 32%. Mae oedolion sy’n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf yn llai tebygol o gymryd rhan yn rheolaidd na’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf.
Mae oedolion sydd â salwch cyfyngus hirdymor yn llai na hanner mor debygol o gymryd rhan yn rheolaidd na’r rhai heb salwch o’r fath, sef 21% o’i gymharu â 44%. O’i gymharu â blwyddyn arolwg 2022 i 2023, roedd 6 phwynt canran o ostyngiad mewn cyfranogiad rheolaidd ymysg oedolion sydd â salwch cyfyngus hirdymor tra bod cyfran y rhai heb salwch o’r fath wedi aros fwy neu lai’r un fath.
Mae canran y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd yn uwch ymysg oedolion sy’n siarad Cymraeg bob dydd, sef 40%, o’i gymharu â 35% o’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd.
Nid yw 41% o oedolion yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon, ffigur sydd wedi aros fwy neu lai’r un fath dros flynyddoedd lawer. Fodd bynnag, dywedodd 35% o bobl eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol, sydd wedi codi o 27% yn 2022 i 2023.
Ffigur 6.3: canran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon 3 gwaith yr wythnos neu fwy, rhwng blwyddyn ariannol 2016 i 2017, a 2024 i 2025
Disgrifiad o ffigur 6.3: siart linell yn dangos canran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon 3 gwaith yr wythnos neu fwy, sydd wedi cynyddu yn yr hirdymor.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae cyfranogiad plant mewn chwaraeon wedi'u trefnu y tu allan i'r cwricwlwm wedi gostwng, gyda dim ond 39% o ddisgyblion yn cymryd rhan 3 gwaith yr wythnos neu fwy yn 2022, i lawr o 48% yn 2018. Dyma'r ffigur isaf a gofnodwyd erioed gan yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol. Er gwaethaf y gostyngiad hwn, mynegodd 93% o ddisgyblion awydd i wneud mwy o chwaraeon.
Ffigur 6.4: canran y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon 3 gwaith yr wythnos neu fwy, 2013 i 2022
Disgrifiad o ffigur 6.4: siart llinell yn dangos canran y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd. Mae cyfranogiad wedi gostwng i lefel debyg a welwyd yn 2013.
Ffynhonnell: Arolwg Chwaraeon Ysgolion
Siaradwyr Cymraeg
Rydym yn ystyried mai’r cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 17.8% o bobl 3 oed neu hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn wedi gostwng o 19.0% yn 2011 a dyma’r ganran isaf erioed a gofnodwyd mewn cyfrifiad.
Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y Gymraeg yw miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dros yr hirdymor, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn gostwng o bron i filiwn o bobl yn 1911 i 538,000 erbyn hyn. Roedd y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn 2021 yn bennaf oherwydd bod llai o blant a phobl ifanc yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Roedd Cyfrifiad 2021, a gynhaliwyd yn ystod pandemig COVID-19, yn dilyn cyfyngiadau symud a dysgu o bell a allai fod wedi dylanwadu ar allu pobl yn y Gymraeg.
Ffigur 6.5: pobl 3 oed a hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, 1911 i 2021 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 6.5: siart linell yn dangos nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ers 1911. Gostyngodd y niferoedd yn sylweddol yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, gyda newidiadau llai ers hynny.
[Nodyn 1] Ni chynhaliwyd cyfrifiad yn 1941.
Ffynhonnell: Cyfrifiad poblogaeth
Ers 2011, mae amcangyfrifon Arolwg Cenedlaethol Cymru o bobl sydd â mwy na rhywfaint o allu i siarad Cymraeg wedi aros yn sefydlog ar tua 19%, ond mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n dweud bod ganddynt rywfaint o allu i siarad Cymraeg.
Defnydd o’r Gymraeg
Mae’r arolwg diweddaraf o ddefnydd o’r Gymraeg yn dangos mai ychydig o newid a fu o ran pa mor aml mae pobl yn siarad Cymraeg.
Rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mawrth 2020, roedd 10% o bobl 3 oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg. Nid yw hyn wedi newid ers yr arolwg blaenorol ym mis Ebrill 2013 i fis Mawrth 2015. Mae data mwy diweddar o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer pobl 16 oed neu hŷn hefyd yn awgrymu mai prin fu’r newid cyffredinol yng nghyfradd y bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd.
Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, nid yw canran y bobl 16 oed neu hŷn sy’n rhugl yn y Gymraeg wedi newid rhyw lawer dros y 10 mlynedd diwethaf, mae wedi aros ar tua 10 i 11%. Fodd bynnag, yn yr hirdymor, bu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl. Mae siaradwyr Cymraeg rhugl yn siarad yr iaith yn amlach na’r rhai nad ydynt yn rhugl.
Adeiladau hanesyddol a henebion
Bob blwyddyn, mae Cadw yn asesu cyflwr sampl o adeiladau rhestredig a henebion rhestredig yng Nghymru. Adeiladau rhestredig yw’r rhai o ddiddordeb arbennig neu bensaernïol yng Nghymru, ond mae henebion rhestredig yn safleoedd archaeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi gwella ychydig ers 2015, ac mae cyflwr henebion rhestredig wedi gwaethygu’n raddol.
Mae ychydig dros 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru, mae 76% mewn cyflwr sefydlog neu’n gwella yn 2026, i fyny ychydig o 74% yn 2015. Mae 9% o adeiladau rhestredig yn cael eu dosbarthu mewn perygl.
Mae sampl o henebion cofrestredig yn cael ei asesu bob blwyddyn fel rhan o raglen dreigl 10 mlynedd. Mae hwn yn dangos bod cyflwr y 4,200 o henebion yng Nghymru wedi dirywio ers 2016 i 2017 ond ei fod wedi sefydlogi dros y blynyddoedd diwethaf. Gostyngodd cyfran yr henebion sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella o 66% yn 2016 i 2017 i 58% yn 2023 i 2024 ac mae wedi aros ar y lefel honno ers hynny. Ystyrir bod oddeutu 15% mewn perygl, yn bennaf oherwydd hindreuliad, llystyfiant, ymyriad ac erydiad.
Ffigur 6.6: canran yr henebion cofrestredig sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella, blynyddoedd ariannol yn dod i ben rhwng 2012 a 2026
Disgrifiad o ffigur 6.6: siart linell yn dangos cyfran yr henebion cofrestredig sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella. Mae’r ganran wedi gostwng yn raddol ers 2016 i 2017 ond mae wedi sefydlogi dros y blynyddoedd diwethaf.
Ffynhonnell: Cadw
Darllen pellach
Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o’r canlynol:
- gwirfoddoli neu gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol neu chwaraeon
- rhwystrau o ran cymryd rhan yn y celfyddydau a gwahaniaethau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol a phoblogaeth o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon
- y mathau o weithgareddau celfyddydol y mae pobl wedi cymryd rhan ynddynt
- defnydd o'r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc, a’r defnydd o'r Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol a gwaith
- cysylltiadau rhwng y Gymraeg a digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol
- ethnigrwydd a’r celfyddydau, diwylliant, chwaraeon a’r iaith Gymraeg
- ymweliadau ag amgueddfeydd ac archifau
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru yn cynhyrchu adroddiadau manwl rheolaidd ar y celfyddydau a chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys Arolwg Omnibws y Plant ac Arolwg Chwaraeon Ysgolion.
Mae amrywiaeth o ddadansoddiadau o’r Gymraeg ar gael hefyd o Gyfrifiad 2021, ac yn adroddiadau’r Arolwg ar y Defnydd o’r Gymraeg ar gyfer blwyddyn ariannol 2019 i 2020.
