Neidio i'r prif gynnwys

Y nod ar gyfer Cymru iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle mae modd deall dewisiadau ac ymddygiad sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Cynnydd tuag at y nod

Ychydig o gynnydd sydd wedi'i wneud tuag at Gymru iachach, gyda llawer o ddangosyddion cenedlaethol yn dirywio a phandemig y coronafeirws (COVID-19) dal yn effeithio ar dueddiadau.

Mae disgwyliad oes iach adeg geni (yr amser cyfartalog y disgwylir i unigolyn fyw mewn iechyd cyffredinol da neu dda iawn) yn parhau i ostwng i fenywod a dynion. Mae hyn er gwaethaf gwelliannau diweddar i ddisgwyliad oes cyffredinol adeg geni. Mae'r bwlch o ran disgwyliad oes iach adeg geni rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig hefyd yn parhau i dyfu, gyda’r bwlch nawr ar ei fwyaf i ddynion yn y data diweddaraf ar gyfer y cyfnod rhwng 2022 a 2024. Ar gyfartaledd, gall dynion yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ddisgwyl byw 18.1 yn llai o flynyddoedd mewn iechyd da neu dda iawn o’i gymharu â dynion yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mae cyfran y babanod sengl sy'n cael eu geni gyda phwysau geni isel, llai na 2,500g, wedi dangos cynnydd yn ystod y degawd diwethaf, ac roedd yn 6.0% yn y cyfnod diweddaraf.

Mae canran yr oedolion â 2 ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy, fel peidio ag ysmygu, yfed o fewn y canllawiau, bwyta ffrwythau a llysiau, bod yn egnïol yn gorfforol, a chynnal pwysau iach, wedi gostwng rhwng blynyddoedd ariannol 2016 i 2020. Ers 2020 i 2021, mae'n ymddangos bod y duedd wedi gwella ychydig, er bod newidiadau yn y dulliau yn cyfyngu ar y gallu i gymharu ar draws y gyfres amser lawn.

Ymysg pobl ifanc, mae’r ganran â 2 ymddygiad ffordd iach o fyw neu ragor wedi gwella ers 2017.

Roedd sgoriau llesiant meddyliol oedolion a'r bwlch rhwng y mwyaf a'r lleiaf difreintiedig yn sefydlog rhwng blynyddoedd ariannol 2016 i 2019. Ers 2021 i 2022, mae'n ymddangos bod y duedd hefyd wedi aros yn sefydlog, er bod newidiadau yn y dulliau yn cyfyngu ar y gallu i gymharu ar draws y gyfres amser lawn.

Ar gyfer pobl ifanc, gostyngodd y sgoriau llesiant meddyliol cyfartalog ar draws y gyfres amser, gyda'r bwlch rhwng golud teuluol isel ac uchel yn cynyddu.

Mae amodau tai wedi gwella ar draws pob math o dai, gyda 82% o’r holl anheddau heb beryglon difrifol yn 2017 i 2018, i fyny o 71% yn 2008.

Disgwyliad oes

Roedd disgwyliad oes wedi bod yn codi ers yr Ail Ryfel Byd, ond mae wedi arafu dros y degawd diwethaf.

Y prif gyfranwyr at welliannau yn y gorffennol oedd pobl rhwng 60 a 84 oed, er bod y cynnydd yn y grŵp hwn wedi arafu erbyn hyn.

Yn 2022 i 2024, cynyddodd disgwyliad oes adeg geni o'i gymharu â 2021 i 2023, gan godi i 82.2 o flynyddoedd i fenywod a 78.3 o flynyddoedd i ddynion, gan ddychwelyd i lefelau cyn pandemig COVID-19 yn 2017 i 2019.

Gostyngodd disgwyliad oes iach adeg geni yn yr un cyfnod i 58.5 o flynyddoedd i fenywod a 59.2 o flynyddoedd i ddynion, gan ddisgyn am y pedwerydd cyfnod yn olynol i fenywod a dynion.

Ffigur 3.1: disgwyliad oes a disgwyliad oes iach adeg geni, yn ôl rhyw, 2001 i 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 3.1: mae’r siart linell hon yn dangos bod disgwyliad oes adeg geni wedi bod yn cynyddu ond mae wedi stopio yn ddiweddar. Mae disgwyliad oes iach adeg geni wedi gostwng, gyda gostyngiad nodedig ymysg menywod.

Ffynhonnell: Disgwyliad oes a disgwyliad oes iach, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG).

[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.

Achosion marwolaethau

Yn 2025, cynyddodd y nifer dros dro o farwolaethau o’i gymharu â 2024, ond roedd yn dal yn is na’r lefelau a welwyd yn ystod pandemig yCOVID-19.

Mae’r tueddiadau tymor hir yn dangos gostyngiad yn y cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran, sydd wedi’u haddasu ar gyfer maint a strwythur oedran y boblogaeth, gan gyrraedd eu lefelau isaf, dros dro, yn 2025.

Dementia a chlefyd Alzheimer a chlefyd isgemia'r galon oedd prif achosion marwolaeth o hyd, a oedd yn cyfrif am fwy nag 1 o bob 5 marwolaeth.

Ffigur 3.2: cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran fesul 100,000 o bobl, 1994 i 2025 (dros dro)

Image

Disgrifiad o ffigur 3.2: mae’r siart linell hon yn dangos gwelliannau mewn cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran dros y tymor hir.

Ffynhonnell: Marwolaethau sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr, y SYG.

Anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes a marwolaeth

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer disgwyliad oes iach yw cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a lleihau’r bwlch rhwng disgwyliad oes iach yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf a mwyaf o leiaf 15% erbyn 2050.

Mae llawer o anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes a marwolaeth o hyd.

Rhwng 2013 a 2024, fe wnaeth y bwlch mewn disgwyliad oes iach adeg geni rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf gynyddu i fenywod ac i ddynion. Mae’r bwlch bellach ar ei fwyaf erioed i ddynion, sef 18.1 o flynyddoedd.

Ar gyfer menywod a dynion, mae'r bwlch disgwyliad oes adeg geni rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf yn llai na'r bwlch cyfatebol yn y disgwyliad oes iach adeg geni. Fodd bynnag, mae'r ddau fwlch wedi ehangu, sy'n arwydd o anghydraddoldeb cynyddol.

Ffigur 3.3: bwlch absoliwt mewn disgwyliad oes a’r disgwyliad oes iach adeg geni rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf, menywod a dynion, 2011 i 2024

Image

Disgrifiad o ffigur 3.3: mae’r siart linell hon yn dangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes iach adeg geni wedi cynyddu i fenywod a dynion. Mae'r bwlch disgwyliad oes adeg geni yn llai ar gyfer menywod a dynion na’r bwlch cyfatebol ar gyfer disgwyliad oes iach, ond mae wedi bod yn cynyddu i’r ddau.

Ffynhonnell: Disgwyliad oes iach yn ôl amddifadedd ardal genedlaethol, Cymru, y SYG.

Babanod iach

Mae canran y babanod unigol â phwysau geni isel wedi bod yn weddol sefydlog dros amser, rhwng 5% a 6%. Fodd bynnag, mae tuedd ar i fyny ers 2015, ac roedd yn 6.0% yn 2025, gostyngiad bach ers 2024.

Yn 2025, roedd gan 6.6% o fabanod benywaidd a 5.5% o fabanod gwrywaidd bwysau geni isel. Mae hyn yn gyson â phatrymau tymor hir.

Ffigur 3.4: canran y genedigaethau unigol plant gyda phwysau geni o lai na 2,500g, 2005 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 3.4: mae’r siart linell hon yn dangos bod canran y babanod â phwysau geni isel wedi amrywio rhwng 5% a 6%. Gwelwyd tuedd ar i fyny ers 2015, gyda'r gyfradd uchaf a gofnodwyd yn 2024.

Ffynhonnell: Ystadegau mamolaeth a genedigaethau, Llywodraeth Cymru.

Ymddygiadau ffordd iach o fyw

Mae ymddygiadau ffordd iach o fyw yn cynnwys peidio ag ysmygu, yfed o fewn y canllawiau, bwyta ffrwythau a llysiau, bod yn egnïol yn gorfforol, a chynnal pwysau iach. Dyma’r cerrig milltir cenedlaethol ar ymddygiad iach oedolion a phlant o ran ffordd o fyw:

  • cynyddu canran yr oedolion sydd â 2 neu fwy o ymddygiadau iach o ran eu ffordd o fyw i fwy na 97% erbyn 2050
  • cynyddu canran y plant sydd â 2 ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050

Cafodd Arolwg Cenedlaethol Cymru ei addasu oherwydd pandemig COVID-19. Felly, nid oes modd cymharu canlyniadau blwyddyn ariannol 2020 i 2021 â'r blynyddoedd blaenorol. Nid oes data newydd gan Arolwg Cenedlaethol Cymru, sy’n golygu bod y data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol ar ymddygiadau ffordd iach o fyw yn dod o’r cyfnod rhwng 2024 a 2025.

Cyn pandemig COVID-19, rhwng 2016 a 2020, roedd canran yr oedolion â 2 ymddygiad ffordd iach o fyw neu ragor wedi gostwng, ac roedd ychydig yn is na’r garreg filltir genedlaethol. Mae’n ymddangos bod y duedd ers 2020 i 2021 wedi gwella ychydig ond nid yw’n debyg i’r blynyddoedd blaenorol. Mae’n dal i fod yn is na’r garreg filltir genedlaethol.

Yn y cyfnod rhwng 2024 a 2025, fe wnaeth 93.6% o oedolion ddweud eu bod yn dilyn 2 ymddygiad ffordd iach o fyw neu ragor.

Roedd canran yr oedolion â 2 ymddygiad ffordd iach o fyw neu ragor yn llai cyffredin ymysg dynion, oedolion rhwng 45 a 64 oed, a phobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Mae dadansoddiad sy'n canolbwyntio'n benodol ar ysmygu ac yfed alcohol yn awgrymu mai'r ffactorau a oedd yn gysylltiedig ag ysmygu yn 2024 i 2025 oedd:

  • bod yn sengl
  • peidio â bod yn berson crefyddol
  • bod mewn iechyd gwael
  • cael cyflwr iechyd meddwl
  • bod â lefelau is o gymwysterau
  • rhentu eu cartref

Yn yr un modd, y ffactorau a oedd yn gysylltiedig ag yfed alcohol uwchlaw'r canllawiau oedd:

  • bod yn ddyn
  • bod yn hŷn
  • perthyn i'r grŵp ethnig gwyn
  • bod mewn iechyd cyffredinol da
  • cymryd rhan mewn chwaraeon a bod â lefelau uwch o gymwysterau

Ffigur 3.5: canran yr oedolion sydd â 2 ymddygiad ffordd iach o fyw neu ragor, 2016 i 2024 [Nodyn 1], [Nodyn 2], [Nodyn 3], [Nodyn 4]

Image

Disgrifiad o ffigur 3.5: mae’r siart linell hon yn dangos bod canran yr oedolion sydd â 2 ymddygiad ffordd iach o fyw neu ragor wedi gostwng rhwng 2016 a 2020. Mae'n ymddangos bod y duedd ers 2020 i 2021 wedi gwella ychydig.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru.

[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu canlyniadau 2020 i 2021 â'r blynyddoedd blaenorol.

[Nodyn 2] Mae’r canlyniadau o 2020 i 2021 ar gyfer chwarter 4 yn unig ac nid ar gyfer data blynyddol.

[Nodyn 3] Ni chynhaliwyd yr Arolwg Cenedlaethol yn 2023 i 2024 felly nid oes data ar gyfer y flwyddyn honno.

[Nodyn 4] Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.

Ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024, roedd 90.1% o bobl ifanc 11 i 16 oed â 2 ymddygiad ffordd iach o fyw neu ragor, sy'n gynnydd ar y blynyddoedd blaenorol.

Nododd pobl ifanc lefelau isel o ysmygu (2.6%) ac yfed alcohol (35.6%) ond hefyd lefelau isel o fwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd (46.5%) neu fod yn egnïol yn gorfforol am awr neu fwy bob dydd (18.3%). Ers 2017, mae ymddygiadau ysmygu ac alcohol wedi gwella, ond mae deiet a gweithgarwch corfforol wedi aros yr un fath.

Ffigur 3.6: canran y bobl ifanc 11 i 16 oed â 2 ymddygiad ffordd iach o fyw neu ragor, 2017 i 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 3.6: mae’r siart linell hon yn dangos bod canran y bobl ifanc sydd â 2 ymddygiad ffordd iach o fyw neu ragor wedi gwella rhwng 2017 a 2024.

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.

[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.

Iechyd meddwl a llesiant

Y garreg filltir genedlaethol ar lesiant meddyliol yw gwella llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch mewn llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yng Nghymru erbyn 2050.

Yn ystod blwyddyn ariannol 2024 i 2025, y sgôr llesiant meddyliol cyfartalog ymysg oedolion oedd 48.4 ar raddfa llesiant meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWBS), sy'n dangos llesiant canolig, yn debyg i'r sgôr yn 2022 i 2023.

Roedd 33% o sgoriau oedolion yn cyfateb i lesiant meddyliol isel, 52% i lesiant meddyliol canolig a 15% i lesiant meddyliol uchel.

Mae’r bwlch yn sgôr gyfartalog WEMWBS rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf wedi aros yn debyg ers 2022 i 2023.

Ffigur 3.7: sgôr gyfartalog graddfa llesiant meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion, yn ôl amddifadedd, 2016 i 2024 [Nodyn 1], [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o ffigur 3.7: mae’r siart linell hon yn dangos nad yw’r sgôr llesiant meddyliol cyfartalog wedi dangos newid sylweddol cyn 2018 i 2019, nac ers 2021 i 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru.

[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu canlyniadau 2021 i 2022 â'r blynyddoedd blaenorol.

[Nodyn 2] Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.

Gan ddefnyddio graddfa fer llesiant meddyliol Warwick-Caeredin (SWEMWBS), mae’r sgôr llesiant meddyliol cyfartalog ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed wedi gostwng o 24.0 yn 2017-2018 i 23.5 yn 2023-2024, sy’n awgrymu dirywiad mewn llesiant meddyliol.

Mae sgoriau o’r SWEMWBS yn seiliedig ar gyfres fyrrach o gwestiynau na’r WEMWBS oedolion, felly nid oes modd cymharu’r sgoriau’n uniongyrchol.

Mae'r bwlch rhwng grwpiau o olud teuluol isel ac uchel wedi ehangu, o 1.7 rhwng 2017 a 2018, i 2.0 rhwng 2023 a 2024.

Pobl ifanc oedd ddim yn ystyried eu hunain yn ferched nac yn fechgyn oedd â'r lefel llesiant isaf, yna merched, gyda bechgyn yn nodi'r lefel llesiant uchaf. Roedd llesiant meddyliol yn is yn gyffredinol ar gyfer plant hŷn.

Ffigur 3.8: sgôr gyfartalog graddfa fer llesiant meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed, yn ôl golud, rhwng blwyddyn academaidd 2017 i 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 3.8: mae’r siart linell hon yn dangos bod y sgôr llesiant meddyliol gyfartalog ar gyfer pobl ifanc wedi gostwng rhwng 2017 i 2024. Mae'r bwlch rhwng pobl ifanc o olud teuluol isel ac uchel wedi ehangu.

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.

[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.

Tai peryglus

Mae amrywiaeth o ffactorau'n dylanwadu ar iechyd, gan gynnwys cyflogaeth, llygredd aer, a thai. Mae cyflwr tai wedi gwella dros y degawd hyd at flwyddyn ariannol 2017 i 2018, gan leihau risgiau iechyd.

Dangosodd yr Arolwg Cyflwr Tai Cymru diweddaraf yn 2017 i 2018 nad oedd gan 82% o anheddau beryglon difrifol (categori 1), i fyny o 71% yn 2008, gyda gwelliannau ar draws pob math o dai.

Mae tai hefyd yn cael eu hasesu gan ddefnyddio'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai, yn y sector rhentu preifat yn bennaf ac fel arfer mewn ymateb i gwynion. O'r herwydd, nid oes modd cymharu'r ffigurau hyn yn uniongyrchol ag Arolwg Cyflwr Tai Cymru yn ehangach. Yn 2024 i 2025, nid oedd peryglon categori 1 yn bresennol yn 69% o’r asesiadau hyn, sy’n weddol gyson â’r blynyddoedd blaenorol.