Llesiant Cymru 2026 - Cymru sy'n fwy cyfartal
Crynodeb o'r cynnydd ar wella ein lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.
Ar y dudalen hon
Cymru sy'n Fwy Cyfartal
Cymru sy'n fwy cyfartal: Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).
Mae’r bennod hon wedi’i threfnu yn ôl nodwedd warchodedig, ac mae’n dwyn ynghyd ddadansoddiadau cydraddoldeb ar gyfer amrediad o ddangosyddion cenedlaethol lle mae’r rhain ar gael. Fodd bynnag, mae rhai dadansoddiadau o gydraddoldeb yn cael sylw mewn penodau eraill ac mae maint ac ansawdd y data sydd ar gael yn amrywio yn ôl nodwedd warchodedig.
Mae yna garreg filltir genedlaethol i leihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â rhai nodweddion gwarchodedig (sy’n golygu eu bod fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a’r rhai heb y nodweddion hynny erbyn 2035. Mae data ar dlodi incwm ac amddifadedd materol yn ôl nodweddion gwarchodedig wedi cael eu cynnwys drwy gydol y bennod hon os yw’r ffynonellau data hynny ar gael.
Mae’r data ar amddifadedd materol, llesiant meddyliol a theimladau o ddiogelwch yn dod o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Roedd maint y sampl ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025 (y flwyddyn ddiweddaraf o ddata sydd ar gael) yn llai nag mewn blynyddoedd blaenorol, ac roedd cyfansoddiad y bobl yn y sampl yn llai cynrychioliadol o boblogaeth Cymru nag mewn blynyddoedd blaenorol. Gallai hyn effeithio ar yr amcangyfrifon ar gyfer y dangosyddion hyn. Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Nid oes data newydd ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru eleni, felly mae llai o feysydd lle mae’r data wedi cael ei ddiweddaru.
Cynnydd tuag at y nod
Bu cynnydd cymysg tuag at gyflawni’r nod. Mae rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn dangos gwelliant yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig y gostyngiad yn y bwlch cyflogaeth ar gyfer pobl anabl a’r bwlch cyflog rhwng menywod a dynion. Fodd bynnag, nid yw rhai o'r dangosyddion yn dangos fawr ddim arwydd o welliant neu maent wedi dirywio, fel menywod yn dweud eu bod yn teimlo'n llai diogel yn bersonol a lefelau uchel o dlodi incwm mewn aelwydydd lleiafrifoedd ethnig.
Mae carreg filltir genedlaethol i ddileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Yn gyffredinol, mae'r bwlch cyflog rhywedd ar gyfer cyflogeion amser llawn wedi bod yn lleihau dros y 2 ddegawd diwethaf, ac roedd yn 1.9% ym mis Ebrill 2025 (). Mae'r bwlch cyflog o ran ethnigrwydd ac anabledd yn gyfnewidiol iawn, sy'n golygu na allwn benderfynu a fu newid sylweddol ers 2015.
Mae’r bwlch rhwng y gyfradd cyflogaeth ar gyfer gwahanol grwpiau wedi lleihau'n gyffredinol dros y degawd diwethaf. Rhwng blwyddyn ariannol 2015 i 2016 a 2025 i 2026, mae’r bwlch rhwng cyfradd cyflogaeth unigolion anabl a’r rhai nad ydynt yn anabl wedi gostwng 4.9 pwynt canran. Tra bod y bwlch rhwng unigolion Gwyn ac unigolion o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi gostwng 10.0 pwynt canran.
Mae canran y bobl sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn weddol sefydlog dros y ddau ddegawd diwethaf, gydag oddeutu 1 o bob 5 o bobl yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Plant yw’r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi o hyd. Mae aelwydydd sydd â pherson anabl neu bennaeth aelwyd Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol hefyd yn fwy tebygol o fod mewn tlodi.
Mae llesiant meddyliol hunangofnodedig wedi gostwng o 50.9 ym mlwyddyn ariannol 2016 i 2017 i 48.4 yn 2024 i 2025. Yn gyffredinol, mae pobl hŷn, pobl nad ydynt yn anabl, a phobl o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn adrodd llesiant meddyliol uwch.
Rhwng blwyddyn ariannol 2016 i 2017 a 2024 i 2025, mae canran y dynion a menywod a ddywedodd eu bod yn teimlo’n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol a theithio wedi aros yr un fath fwy neu lai, sef ychydig dros 80% i ddynion a tua 55% i fenywod.
Rhyw
Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth, amddifadedd a llesiant ar draws dynion a menywod. Er bod menywod yn cyflawni canlyniadau addysg gwell, nid yw hyn yn cario drwodd i gyfraddau cyflogaeth a chyflog.
Mae’r bennod hon yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data ar ryw. Bydd gan bob ffynhonnell ddata ddull o gasglu data am ryw neu rywedd sy’n cyd-fynd ag anghenion ei defnyddwyr, sy’n golygu na fydd llawer o gysondeb rhwng y diffiniadau o ryw a rhywedd ar draws y ffynonellau. Mae’r adran ddiweddarach ar hunaniaeth rhywedd yn cynnwys data am y rheini y mae eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni.
Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025 sgoriodd merched 365.7 o bwyntiau ar gyfartaledd yn y dangosydd Capio 9 TGAU (fersiwn mesur dros dro) o’i gymharu â 343.7 o bwyntiau i fechgyn. Mae’r bwlch hwn o 21.9 o bwyntiau wedi lleihau o 22.2 pwynt yn 2023 i 2024, a 32.9 pwynt yn 2018 i 2019.
O ran y boblogaeth oedran gweithio, amcangyfrifir nad oedd gan 7.7% o ddynion unrhyw gymwysterau yn 2025 o’i gymharu â 6.6% o fenywod, ac roedd menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau lefel 4 neu uwch.
Mae cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru yn is ar gyfer menywod nag ar gyfer dynion (69.8% a 74.5% yn y drefn honno ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026). Mae hyn yn berthnasol i’r cyfraddau anweithgarwch economaidd uwch (heb gynnwys myfyrwyr) ar gyfer menywod (24.2%) na dynion (18.5%) dros y cyfnod hwn. Mae’r gwahaniaeth hwn yn cael ei sbarduno, i ryw raddau, gan gyfrifoldebau gofalu (edrych ar ôl teulu/cartref) sy’n cynrychioli cyfran uwch o fenywod a oedd yn economaidd anweithgar na dynion. Fe wnaeth y bwlch yn y gyfradd gyflogaeth leihau yn 2025 i 2026 o gymharu â’r blwyddyn flaenorol, ac mae wedi'i leihau yn sylweddol yn y ddau degawd diwethaf.
Ffigur 4.1: cyfradd cyflogaeth (canran y boblogaeth 16 i 64 oed) yn ôl rhyw a blwyddyn, rhwng blwyddyn ariannol 2005 i 2006 a 2025 i 2026
Disgrifiad o ffigur 4.1: siart linell yn dangos cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yn ôl rhyw rhwng blwyddyn ariannol 2005 i 2006 a 2025 i 2026. Lleihaodd y bwlch yn y gyfradd cyflogaeth yn 2025 i 2026 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, wrth i’r gyfradd cyflogaeth ar gyfer dynion leihau i 74.5% a’r gyfradd cyflogaeth ar gyfer menywod ostwng ychydig i 69.8%.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Roedd y bwlch cyflog rhywedd ar gyfer gweithwyr llawn amser yng Nghymru, ar sail enillion canolrifol yr awr (heb gynnwys goramser), yn 1.9% ym mis Ebrill 2025. Mae hyn yn fras debyg i’r flwyddyn flaenorol. Cymru oedd â'r ail fwlch cyflog lleiaf (gweithwyr amser llawn) rhwng y rhywiau o blith 12 gwlad a rhanbarth y DU.
Ar gyfer gweithwyr rhan-amser yng Nghymru, roedd menywod yn cael eu talu 3.1% yn fwy na dynion ar gyfartaledd (0.3 pwynt canran o ostyngiad o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol).
Wrth ystyried gweithwyr llawnamser a rhan-amser, mae’r bwlch cyflog rhywedd yn dal yn sylweddol uwch ar 9.7% ym mis Ebrill 2025, sef 0.7 pwynt canran o gynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn uwch nag ar gyfer gweithwyr llawnamser a gweithwyr rhan-amser ar wahân, oherwydd mae menywod yn llenwi mwy o swyddi rhan-amser, sydd, o’u cymharu â swyddi llawnamser, â thâl canolrifol is yr awr.
Ar gyfer gweithwyr llawnamser a rhan-amser gyda’i gilydd, mae’r bwlch cyflog rhywedd yn cynyddu gydag oedran. Ym mis Ebrill 2025, roedd menywod rhwng 18 a 21 oed yn ennill 0.8% yn llai na dynion, o’i gymharu â menywod 60 oed a hŷn a oedd yn ennill 12.3% yn llai na dynion.
Ffigur 4.2: canran y gwahaniaeth rhwng enillion canolrifol llawnamser yr awr rhwng dynion a menywod, 1999 i 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 4.2: siart linell yn dangos bod y gwahaniaeth mewn enillion canolrifol llawnamser yr awr rhwng dynion a menywod wedi gostwng yn gyffredinol dros yr 20 mlynedd diwethaf ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi bod yn llai na’r Deyrnas Unedig ers 2013.
[Nodyn 1] Mae gwahaniaeth cyflog sy’n fwy na sero yn golygu bod enillion dynion yn uwch nag enillion menywod.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Cyflwynwyd dangosydd cenedlaethol ar gyfran y gweithwyr y pennir eu cyflog drwy gydfargeinio ym mis Rhagfyr 2021, ar sail data o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE). Yn 2025, roedd cyfradd y menywod â thâl a bennwyd drwy gydfargeinio (59.6%) yn uwch na dynion (46.0%).
Mae’r dangosydd cenedlaethol ar gyfer gwaith teg ac enillion yn ystyried canran y bobl sy’n cael eu cyflogi ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol. Mae’r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyfrifo gan y Living Wage Foundation sy'n pennu’r fethodoleg. Ei nod yw adlewyrchu costau byw.
Yn 2025, roedd cyfran y menywod a ennillodd o leiaf y cyflog byw gwirioneddol (61.1%) yn llawer is nag ar gyfer dynion (70.4%). Mae hyn i raddau helaeth yn adlewyrchu’r ffaith bod menywod yn fwy tebygol o weithio’n rhan amser na dynion, ac mae swyddi rhan amser yn tueddu i fod ar gyflogau is na swyddi llawn amser.
Mae amddifadedd materol yn fesur o safonau byw, a diffinnir bod unigolyn yn byw mewn amddifadedd materol os nad yw’n gallu cael gafael ar nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau. Mae’r data ar amddifadedd materol yn dod o Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 11% o oedolion yn byw mewn aelwydydd mewn amddifadedd materol. Roedd cyfrannau tebyg o fenywod a dynion yn cael eu hystyried yn rhai sy’n wynebu amddifadedd materol (12% a 11% yn y drefn honno). Mewn blynyddoedd arolwg blaenorol, roedd menywod yn gyson yn fwy tebygol o gael eu hystyried mewn amddifadedd materol. Roedd sampl Arolwg Cenedlaethol Cymru yn llai yn 2024 i 2025 nag mewn blynyddoedd blaenorol ac roedd yn cynnwys llai o bobl o ardaloedd incwm isel. Gallai hyn fod wedi effeithio ar yr amcangyfrifon ar gyfer amddifadedd materol.
Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd llesiant meddyliol yr oedd pobl yn ei gofnodi (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion) fymryn yn uwch i ddynion na menywod, gyda dynion yn cael sgôr gymedrig o 49.0 a menywod yn cael sgôr gymedrig o 47.8. Roedd lefelau unigrwydd hunangofnodedig yn debyg i ddynion a menywod yn y data diweddaraf sydd ar gael (2022 i 2023).
Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd menywod yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel gartref, yn eu hardal leol ac wrth deithio (56%) o’i gymharu â dynion (82%).
Oedran
Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn llesiant ac amddifadedd ar draws gwahanol grwpiau oedran. Mae plant yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi ac mae gan bobl hŷn llesiant meddyliol uwch.
Mae llesiant y mae pobl yn ei gofnodi yn tueddu i fod yn uwch mewn grwpiau oedran hŷn, gydag unigrwydd hefyd yn is mewn oedolion hŷn. Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd llesiant meddyliol yr oedd pobl yn ei gofnodi (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion) yn 47.5 ar gyfer y rhai rhwng 16 a 44 oed o'i gymharu â 49.7 ar gyfer y rhai 65 oed a hŷn.
Pobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yw’r rhai sy’n byw mewn aelwyd lle mae cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm cyfartalog aelwydydd y Deyrnas Unedig (fel sy’n cael ei roi gan y canolrif).
Mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer y cyfnod o dair blynedd rhwng blwyddyn ariannol 2022 i 2023 a 2024 i 2025.
Mae gwelliannau wedi cael eu gwneud i ystadegau tlodi incwm cymharol o’r cyfnod o dair blynedd o’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021 i 2023, yn sgil cyflwyno data gweinyddol integredig ar fudd-daliadau na ddefnyddiwyd o’r blaen. Nid oes modd cymharu data o’r cyfnod hwn ymlaen â'r blynyddoedd blaenorol. Mae mwy o welliannau wedi’u cynllunio ar gyfer y blynyddoedd nesaf, ac mae ystadegau tlodi incwm cymharol bellach yn cael eu dosbarthu fel Ystadegau Swyddogol o dan Ddatblygiad yn hytrach nag Ystadegau Swyddogol Achrededig.
Mae’r data diweddaraf yn dangos bod 22% o bobl yng Nghymru’n byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae’r gyfran hon wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru am y ddau ddegawd diwethaf. Gwelir yn gyson mai plant yw’r grŵp poblogaeth sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol. Roedd y ffigurau diweddaraf yn dangos bod 32% o blant yng Nghymru mewn tlodi cymharol o’i gymharu â 21% o oedolion o oedran gweithio ac 11% o bensiynwyr. Ers dechrau’r 2000au, mae cyfran uwch o’r boblogaeth o oedran gweithio wedi bod mewn tlodi incwm cymharol na phensiynwyr.
Ffigur 4.3: canran o bob grŵp oedran yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol, yn ôl cyfartaleddau tair blynedd ariannol, 1997-99 hyd at 2023-25 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o ffigur 4.3: siart linell yn dangos pobl yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai) o 1997 ymlaen. Plant yw’r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol yn gyson, a phensiynwyr yw’r grŵp oedran sydd lleiaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol.
[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu data o’r cyfnod sy'n cynnwys y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021 i 2023 â’r cyfnodau blaenorol yn sgil cyflwyno data gweinyddol integredig ar fudd-daliadau na ddefnyddiwyd o’r blaen. Darperir rhagor o wybodaeth yn y datganiad ystadegol tlodi incwm cymharol diweddaraf ac mae dolen ato yn yr adran Deunydd Darllen Pellach ar ddiwedd y bennod hon.
[Nodyn 2] Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy’n cwmpasu 2020 i 2021 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod 2020 i 2021 yn y cyfrifiadau. Mae amcangyfrifon 2020 i 2021 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan effeithiodd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ddifrifol ar brosesau casglu data.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o set ddata Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog
Wrth edrych ar gyfran y boblogaeth oedolion sy’n byw mewn amddifadedd materol yn 2024 i 2025, y rhai rhwng 25 a 44 oed oedd yn fwyaf tebygol o fod yn byw mewn amddifadedd materol (16%) a’r rhai rhwng 65 a 74 oedd yn lleiaf tebygol (5%).
Ffigur 4.4: Amddifadedd Materol yn ôl grŵp oedran a blwyddyn, rhwng blwyddyn ariannol 2016 i 2017 a 2024 i 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 4.4: siart linell yn dangos canran y gwahanol grwpiau oedran mewn amddifadedd materol rhwng blwyddyn ariannol 2016 i 2017 a 2024 i 2025. Mae amddifadedd materol wedi bod ar ei uchaf ar gyfer y grŵp oedran 25-44 ac ar ei isaf ar gyfer y grwpiau oedran 65 i 74 a 75 oed a hŷn dros y cyfnod hwn. Oherwydd ansicrwydd yn yr amcangyfrifon, nid yw’r newidiadau o fewn grwpiau oedran yn arwyddocaol ar y cyfan, yn wahanol i’r gwahaniaethau rhwng grwpiau oedran.
[Nodyn 1] Nid oes data ar gyfer blynyddoedd 2020 i 2021 a 2023 i 2024.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru
Ethnigrwydd
Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd y Llywodraeth Cymru blaenorol ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ARWAP) sy’n cynnwys canllawiau ar iaith wrth-hiliol. Mae’r adran a’r bennod hon yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data sy’n categoreiddio grwpiau ethnig yn wahanol. Yn gyffredinol, rydym yn adlewyrchu iaith casgliad data’r ffynhonnell nad yw o bosibl yn cyd-fynd â chanllawiau ARWAP. Fodd bynnag, rydym wedi defnyddio iaith wrth-hiliol yn y bennod hon lle bo hynny’n bosibl.
Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth, amddifadedd a llesiant ar draws dynion a menywod. Yn gyffredinol, roedd gan bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ganlyniadau addysg mwy positif. Fodd bynnag, nid yw’r tuedd yma yn parhau i ganlyniadau yn ymwneud â chyflogaeth, cyflog a thlodi.
Mae canlyniadau TGAU ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025 yn dangos bod disgyblion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi sgorio 384.9 ar gyfartaledd yn y dangosydd Capio 9 TGAU (fersiwn mesur dros dro) o'i gymharu â 362.3 ar gyfer disgyblion Gwyn. Dyma fwlch o 22.6 pwynt, i fyny o 19.9 pwynt yn 2023 i 2024, ac i fyny o'r bwlch o 17.0 pwynt yn 2018 i 2019.
Ffigur 4.5: Dangosydd capio 9 TGAU (fersiwn mesur dros dro) yn ôl grŵp ethnig, blwyddyn academaidd 2024 i 2025
Disgrifiad o ffigur 4.5: siart far yn dangos y dangosydd capio 9 TGAU (fersiwn mesur dros dro) yn ôl grŵp ethnig ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025. Y rheini sy’n ystyried eu hunain yn Sipsiwn, Teithwyr a Roma yw’r unig grwpiau ethnig o dan 250 o bwyntiau; mae grwpiau ethnig eraill yn amrywio o 330 o bwyntiau i 450 o bwyntiau.
Ffynhonnell: Canlyniadau Arholiadau, Llywodraeth Cymru
Yn 2025, roedd 69.0% o oedolion o oedran gweithio o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (ac eithrio’r rheini o gefndir Sipsiwn, Teithwyr neu Roma) yn meddu ar gymwysterau ar lefelau 4 ac uwch o’i gymharu â 46.6% o oedolion Gwyn (gan gynnwys y rheini o gefndir Sipsiwn, Teithwyr Gwyddelig neu Roma) o oedran gweithio. Roedd oedolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o oedran gweithio hefyd yn llai tebygol o beidio â meddu ar unrhyw gymwysterau (4.6%) nag oedolion Gwyn o oedran gweithio (7.6%).
Mae’r cyfraddau cyflogaeth ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026 ymysg poblogaeth Cymru rhwng 16 a 64 oed yn uwch ymysg unigolion o gefndir ethnig Gwyn (72.2%) nag unigolion o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (70.6%). Mae’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth wedi lleihau o 10.2 pwynt canran yn 2024 i 2025 i 1.6 pwynt canran yn 2025 i 2026. Dros y degawd diwethaf, mae’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth ar sail ethnigrwydd wedi lleihau’n gyffredinol.
Ffigur 4.6: cyfradd cyflogaeth (canran y boblogaeth 16 i 64 oed) yn ôl ethnigrwydd a blwyddyn, rhwng blwyddyn ariannol 2011 i 2012 a 2025 i 2026
Disgrifiad o ffigur 4.6: siart linell yn dangos cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yn ôl ethnigrwydd rhwng 2011 i 2012 a 2025 i 2026. Mae’r rhai o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn parhau i fod â chyfradd cyflogaeth is nag unigolion gwyn, ond mae’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth wedi lleihau’n gyffredinol dros y degawd diwethaf. Mae’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth wedi lleihau o 10.2 pwynt canran yn 2024 i 2025 i 1.6 pwynt canran yn 2025 i 2026.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae gwahaniaethau cyflog ar sail ethnigrwydd yn seiliedig ar enillion canolrifol yr awr ar gyfer pob gweithiwr 16 oed a hŷn. Roedd gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ennill £1.32 (8.4%) yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn yn 2025. Mae hyn yn cymharu â gwahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd o £0.54 (neu 3.6%) yn 2024. Fodd bynnag, mae anwadalrwydd uchel yn y data gwahaniaeth cyflog ar sail ethnigrwydd sy'n golygu nad yw'n bosibl penderfynu a fu newid sylweddol ers 2015. Mae enillion canolrifol fesul awr gweithwyr Gwyn wedi cynyddu 38.7% ers 2019, ac mae’r enillion cyfartalog fesul awr ar gyfer gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi cynyddu 28.9%.
Mae bod yn rhan o grwpiau Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol yn gysylltiedig â bod yn fwy tebygol o ddioddef tlodi incwm cymharol. Ar gyfer y cyfnod o flwyddyn ariannol 2020 i 2021 i flwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 48% o debygolrwydd y byddai pobl lle mae’r penteulu yn ystyried ei hun yn Ddu, Asiaidd neu’n rhan o grŵp Ethnig Leiafrifol yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae hyn yn cymharu â thebygolrwydd o 19% ar gyfer aelwydydd lle mae’r penteulu yn ystyried ei hun yn Wyn.
Roedd mwy o bobl sy’n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd neu’n rhan o grŵp Ethnig Leiafrifol yn dweud eu bod yn unig yn 2022 i 2023, sef 24% o’i gymharu â 12% ar gyfer y rheini sy’n nodi eu bod yn Wyn. Fodd bynnag, roedd llesiant meddyliol yr oedd pobl yn ei gofnodi (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion) yn uwch yn 2024 i 2025 ar gyfer y rhai a nododd eu bod yn Ddu, Asiaidd, neu'n rhan o grŵp Ethnig Leiafrifol (50.9) neu Gwyn (Gwyddelig, Sipsi, Teithiwr Gwyddelig neu unrhyw gefndir gwyn arall) (51.5) na Gwyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon) (48.1).
Crefydd
Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth, llesiant a theimlad o ddiogelwch ar draws grwpiau crefyddol. Roedd gan bobl crefyddol llesiant meddyliol uwch na bobl anghrefyddol. Roedd pobl Cristnogol a phobl anghrefyddol yn llai tebygol o fod yn unig.
Yng Nghyfrifiad 2021, pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn Fwslimiaid, yn Sikhiaid neu'n Gristnogion oedd â'r lefel uchaf o unigolion heb unrhyw gymwysterau. Y rheini a oedd yn ystyried eu hunain yn Hindŵiaid neu'n grefydd 'arall' oedd â'r lefel isaf o unigolion heb unrhyw gymwysterau.
Yng Nghyfrifiad 2021, pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn Hindŵiaid neu nad oedd ganddynt grefydd oedd y mwyaf tebygol o fod mewn gwaith. Y rhai a oedd yn ystyried eu hunain yn Iddewon, Mwslemiaid neu Gristnogion oedd y lleiaf tebygol o fod mewn gwaith.
Roedd y rhai a nododd eu bod yn Gristnogion neu heb grefydd yn cofnodi lefelau tebyg o unigrwydd ym mlwyddyn ariannol 2022 i 2023, sef 10% a 13% yn y drefn honno. Roedd hyn yn cymharu â 29% ar gyfer y rheini a oedd yn nodi ymlyniad crefyddol arall. Fodd bynnag, yn 2024 i 2025, roedd llesiant meddyliol yr oedd pobl yn ei gofnodi (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion) yn uwch ar gyfer Cristnogion (49.3) a’r rheini oedd ag ymlyniad crefyddol arall (50.8) na’r rheini oedd heb grefydd (47.4).
Yn 2024 i 2025, roedd y rheini heb grefydd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel gartref, yn eu hardal leol ac wrth deithio (70%) o’i gymharu â Christnogion (66%).
Cyfeiriadedd rhywiol
Mae’r data sydd ar gael yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth, amddifadedd, llesiant a theimlad o ddiogelwch rhwng cyfeiriadedd rhywiol.
Yng Nghyfrifiad 2021, dywedodd 8.4% o bobl LHD+ nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau ffurfiol, o’i gymharu â 19.5% o bobl a nododd eu bod yn Syth/Heterorywiol. Roedd canran y bobl heb gymwysterau yn is ar gyfer pobl LHD+ ar draws pob grŵp oedran.
Yng Nghyfrifiad 2021, pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd”, a phobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Heterorywiol/Strêt” oedd y mwyaf tebygol o fod mewn gwaith (69.9% a 69.8% yn y drefn honno). Roedd pobl a oedd yn ystyried eu hunain yn “Ddeurywiol/Bi” a phobl a oedd yn ystyried bod ganddynt gyfeiriadedd rhywiol arall yn llai tebygol (52.5% a 49.9% yn y drefn honno).
Ar gyfer y cyfnod o flwyddyn ariannol 2022 i 2023 i flwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 23% o bobl mewn aelwydydd lle roedd pennaeth yr aelwyd yn ystyried ei hun yn Syth/Heterorywiol mewn tlodi incwm cymharol o'i gymharu â 25% o bobl mewn aelwydydd lle roedd pennaeth yr aelwyd yn ystyried ei hun yn LHD+.
Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022 i 2023 yn dangos bod pobl sy’n ystyried eu hunain yn Lesbiaidd, yn Hoyw neu’n Ddeurywiol tua dwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig nag eraill.
Roedd y rheini a nododd eu bod yn Syth/Heterorywiol yn arolwg cenedlaethol 2024 i 2025 yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n ddiogel gartref, yn eu hardal leol ac wrth deithio (69%) o'i gymharu â'r rheini a nododd eu bod yn Lesbiaidd, Hoyw neu Ddeurywiol (52%).
Hunaniaeth rhywedd
Gofynnwyd cwestiwn gwirfoddol am hunaniaeth rhywedd am y tro cyntaf yng Nghyfrifiad 2021. Gofynnwyd i ymatebwyr 16 oed a hŷn “A yw’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd ar adeg eich geni?” ac roedd ganddynt yr opsiwn o ddewis naill ai “Ydy” neu ddewis “Nac ydy” a nodi eu hunaniaeth rhywedd. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r canlyniadau hyn oherwydd yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o hunaniaeth rhywedd. Dylai defnyddwyr gyfeirio at y cyngor penodol yn amcangyfrifon o hunaniaeth rhywedd Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr, y canllawiau ychwanegol ar ansicrwydd, a’r erthygl ystadegol defnydd priodol a gyhoeddwyd gan SYG i gael arweiniad ar hyder mewn newidynnau gwahanol wedi'u dadansoddi yn ôl hunaniaeth rhywedd.
Canfu Cyfrifiad 2021 hefyd fod 41.2% o bobl 16 oed a hŷn yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni, yn dweud eu bod mewn gwaith, o’i gymharu â 54.5% o bobl yr oedd eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’u rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni.
Mae arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn casglu data ar lesiant meddyliol ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed. Ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024, nododd y rhai a ddewisodd 'nid yw'r naill air na'r llall yn fy nisgrifio i' ar gyfer eu rhywedd lesiant meddyliol is a lefelau uwch o unigrwydd na'r rhai a ddewisodd y rhywedd 'bachgen' neu 'merch'.
Mae arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion hefyd yn casglu data ynghylch ymddygiadau ffordd iach o fyw ar gyfer disgyblion rhwng 11 a 16 oed. Ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024, roedd disgyblion a ddewisodd ‘nid yw’r naill air na’r llall yn fy nisgrifio i’ ar gyfer eu rhywedd yn llai tebygol na bechgyn neu ferched o ddweud bod ganddynt ddau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy.
Anabledd
Yn 2002, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y model cymdeithasol o anabledd. Yn hytrach na diffinio pobl fel pobl anabl yn ôl eu hamhariad (y model meddygol o anabledd), ystyrir bod pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd hirdymor yn anabl oherwydd rhwystrau corfforol, agweddol a sefydliadol sy’n cael eu creu gan gymdeithas. Mae llawer o’r ffynonellau data yn y bennod hon yn defnyddio diffiniadau model meddygol o anabledd yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn y Ddeddf Cydraddoldeb mae “anabledd” yn golygu cyflwr corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, rydym wedi defnyddio iaith y model cymdeithasol yn yr adran a'r bennod hon lle bo hynny’n bosibl.
Mae’r dangosyddion yn dangos gwahaniaethau mewn addysg, cyflogaeth, amddifadedd, llesiant a theimladau o ddiogelwch rhwng unigolion anabl ac unigolion nad ydynt yn anabl. Roedd gan bobl anabl cyfradd cyflogaeth is ac yn ennill llai o gyflog na phobl nad ydynt yn anabl. Roedd pobl anabl hefyd yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi, roedd ganddynt llesiant meddyliol yn is na phobl nad ydynt yn anabl, ac hefyd roeddent yn llai debygol o deimlo’n ddiogel gartref, yn eu hardal leol ac wrth deithio.
Ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025, sgoriodd disgyblion ag anghenion addysgol arbennig 250.6 ar gyfartaledd yn y dangosydd Capio 9 TGAU (fersiwn mesur dros dro), sy’n ostyngiad o 263.9 o bwyntiau yn 2023 i 2024 a 282.0 o bwyntiau yn 2018 i 2019.
O’r boblogaeth oedran gweithio yn 2025, roedd pobl anabl yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau (13.2%) na phobl nad ydynt yn anabl (4.6%) ac yn llai tebygol o fod â chymwysterau ar lefel 4 neu uwch. O’i gymharu â 2024, gostyngodd cyfran yr oedolion anabl o oedran gweithio heb gymwysterau 1.6 pwynt canran.
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026, y gyfradd cyflogaeth ymysg pobl anabl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 50.3%, a'r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl oedd 80.8%. Mae’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn 2025 i 2026, sef 30.5 pwynt canran, wedi gostwng o 35.4 pwynt canran yn 2015 i 2016.
Ffigur 4.7: cyfraddau cyflogaeth (canran y boblogaeth 16 i 64 oed) pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn ôl blwyddyn ariannol, 2013-14 i 2025-26 (cyfraddau ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ym mis Mawrth)
Disgrifiad o ffigur 4.7: siart linell yn dangos cyfraddau cyflogaeth ar gyfer unigolion anabl ac unigolion nad ydynt yn anabl rhwng 16 a 64 oed rhwng blwyddyn ariannol 2013 i 2014 a 2025 i 2026. Mae’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth wedi lleihau yn gyffredinol dros amser, er bod gan bobl anabl gyfradd cyflogaeth sy’n dal i fod 30.5 pwynt canran yn is na phobl nad ydynt yn anabl yn 2025 i 2026.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae gwahaniaethau cyflog ar sail anabledd yn seiliedig ar enillion canolrifol yr awr ar gyfer pob gweithiwr rhwng 16 a 64 oed. Roedd y gwahaniaeth cyflog rhwng pobl anabl a phobl heb anabledd yng Nghymru yn £1.06 (6.6%) yn 2025. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill £1.06 yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Mae hyn yn ostyngiad ar y flwyddyn flaenorol pan oedd y bwlch cyflog yn £1.18 (7.8%). Fodd bynnag, mae anwadalrwydd uchel yn y data gwahaniaeth cyflog ar sail anabledd sy'n golygu nad yw'n bosibl penderfynu a fu newid sylweddol ers 2015.
Yn y cyfnod diweddaraf (blwyddyn ariannol 2022 i 2023 hyd at flwyddyn ariannol 2024 i 2025), ar gyfer oedolion o oedran gweithio, roedd 25% o unigolion a oedd yn byw mewn teulu lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 19% mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl. Dros yr un cyfnod, roedd 35% o blant a oedd yn byw mewn teulu lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 31% mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl.
Ffigur 4.8: canran yr oedolion o oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol mewn aelwydydd â phobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn ôl blynyddoedd ariannol cyfun, 2015-17 i 2023-25 (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth) [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o ffigur 4.8: siart linell yn dangos canran yr oedolion o oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol mewn aelwydydd â phobl anabl a phobl sydd ddim yn anabl. Mae oedolion o oedran gweithio sy’n byw mewn teulu lle mae rhywun yn anabl yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â’r rhai mewn teuluoedd lle nad oes neb yn anabl.
[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu data o’r cyfnod sy'n cynnwys y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021 i 2023 â’r cyfnodau blaenorol yn sgil cyflwyno data gweinyddol integredig ar fudd-daliadau na ddefnyddiwyd o’r blaen. Darperir rhagor o wybodaeth yn y datganiad ystadegol tlodi incwm cymharol diweddaraf ac mae dolen ato yn yr adran Deunydd Darllen Pellach ar ddiwedd y bennod hon.
[Nodyn 2] Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy’n cwmpasu 2020 i 2021 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod 2020 i 2021 yn y cyfrifiadau. Mae amcangyfrifon 2020 i 2021 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan effeithiodd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ddifrifol ar brosesau casglu data.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o set ddata Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog
Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd 1 o bob 7 o bobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirdymor (14%) yn byw mewn aelwyd sydd mewn amddifadedd materol o’i gymharu â 10% o bobl nad ydynt yn anabl. Mewn blynyddoedd arolwg blaenorol, roedd tua un o bob pedwar neu bump o bobl anabl neu bobl â salwch hirdymor cyfyngol yn byw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol. Roedd sampl Arolwg Cenedlaethol Cymru yn llai yn 2024 i 2025 nag mewn blynyddoedd blaenorol ac roedd yn cynnwys llai o bobl o ardaloedd incwm isel. Gallai hyn fod wedi effeithio ar yr amcangyfrifon ar gyfer amddifadedd materol.
Yn 2024 i 2025, roedd llesiant meddyliol oedolion anabl neu'r rheini â salwch cyfyngus hirdymor yn is (43.6) o'i gymharu ag unigolion nad ydynt yn anabl (50.8) ac yn 2022 i 2023 roedd unigolion anabl yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n unig.
Yn 2024 i 2025, roedd oedolion anabl yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel gartref, yn eu hardal leol ac wrth deithio (60%) na phobl nad ydynt yn anabl (73%).
Statws priodasol
Ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, roedd gan bobl briod well llesiant meddyliol na’r rheini a oedd yn sengl. Roedd gan bobl briod sgôr llesiant meddyliol cyfartalog o 49.7, o’i gymharu â 47.1 ar gyfer pobl sengl.
Yn 2022 i 2023, y rhai a oedd yn briod oedd y lleiaf tebygol o ddweud eu bod yn unig (8%), a’r rhai a oedd wedi gwahanu ond yn briod yn gyfreithiol oedd y mwyaf tebygol (21%). Roedd y rheini a oedd yn sengl, wedi ysgaru, neu’n weddw hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na’r rheini a oedd yn briod (17%, 17% a 14% yn y drefn honno).
Darllen pellach
Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd (Llywodraeth Cymru)
Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru: mesur ei effaith ar fywydau pobl (Llywodraeth Cymru)
Dangosfwrdd rhyngweithiol Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: 2026 (Llywodraeth Cymru)
A yw Cymru’n decach? (2023) (Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol)
Canolfan Cydraddoldeb a Chynhwysiant (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Adnodd Llywiwr Data Cydraddoldeb GSS (Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth)
