Llesiant Cymru 2026 - Cymru gydnerth
Crynodeb o'r cynnydd ar wella ein lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.
Ar y dudalen hon
Cymru gydnerth
Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cefnogi cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, newid yn yr hinsawdd).
Cynnydd tuag at y nod
Mae data ar gyfer rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at nod Cymru gydnerth. Ond mae rhywfaint o’r cynnydd hwn wedi arafu’n ddiweddar, ac mae angen rhagor o welliannau er mwyn cyrraedd y nod a’r cerrig milltir cenedlaethol.
Roedd dangosydd arbrofol ar statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2021 yn dangos bod dosbarthiad is-set o rywogaethau sy’n flaenoriaeth yng Nghymru wedi bod yn sefydlog yn ystod y blynyddoedd diweddar yn dilyn gostyngiad hirdymor. Ond mae adolygiad mwy diweddar o dystiolaeth yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 sy’n seiliedig ar asesiad ehangach o rywogaethau, cynefin a gwydnwch ecosystem, yn awgrymu bod bioamrywiaeth yng Nghymru yn parhau i leihau.
Mae’r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o’r 1970au ymlaen. Mae’r dangosydd cenedlaethol ar garbon mewn pridd ar gyfer 2021 i 2023 yn dangos bod crynodiad y carbon yn ein huwchbridd yn sefydlog ar y cyfan, ar wahân i dir âr a choetir llydanddail lle gwelwyd bod carbon wedi’i golli o’r uwchbridd yn ddiweddar mewn perthynas â’r crynodiadau yn 2013 i 2016.
Mae ansawdd ein dŵr, boed mewn moroedd, afonydd, nentydd neu’r ddaear, wedi gwella’n gyffredinol dros y degawdau diwethaf. Ond, er bod peth cynnydd wedi’i wneud o ran diogelu a gwella ein dyfroedd, mae llawer i’w wneud eto.
Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl a byd natur.
Mae Cymru wedi gweld gostyngiad o ran cynhyrchu gwastraff a gwelliannau sylweddol yn y cyfraddau ailgylchu gwastraff, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.
Mae capasiti trydan wedi ei osod o ynni adnewyddadwy yn parhau i gynyddu ond ar gyfradd gryn arafach na’r blynyddoedd diwethaf. Roedd y gyfradd gosod ar gyfer capasiti ynni adnewyddadwy yn 2024 yr uchaf o’r 6 mlynedd diwethaf, ond roedd yn is na'r brig yn 2015.
Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 (SoNaRR 2025) a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi asesiad cynhwysfawr o gynnydd yn erbyn 4 nod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae’n dod i’r casgliad nad yw Cymru’n cyflawni’r nodau hyn ar hyn o bryd, a bod colli bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a llygredd yn parhau i leihau gwydnwch ecosystemau ac adnoddau naturiol.
Bioamrywiaeth a chynefinoedd
Y garreg filltir genedlaethol ar fioamrywiaeth yw gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy wella statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050.
Yn ôl adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023, mae Cymru yn un o’r gwledydd lle mae byd natur wedi dirywio fwyaf yn y byd, gyda bron i 1 o bob 6 rhywogaeth a aseswyd mewn perygl o ddiflannu’n llwyr.
Dangosodd dangosydd arbrofol ar amrywiaeth biolegol a gyhoeddwyd yn 2021, ac sydd wedi'i gynnwys yn adroddiad Llesiant Cymru 2021, fod dosbarthiad is-set o rywogaethau blaenoriaeth (a adwaenir fel 'Adran 7') wedi sefydlogi yn y blynyddoedd diwethaf ar ôl dirywiad hirdymor. Mae’r dangosydd hwn yn dangos dosbarthiad nifer gyfyngedig o rywogaethau yn hytrach na iechyd cyffredinol amrywiaeth biolegol a systemau ecolegol.
Mae adolygiad mwy diweddar o dystiolaeth yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 sy’n seiliedig ar asesiad ehangach o rywogaethau, cynefin a gwydnwch ecosystem, yn awgrymu bod bioamrywiaeth yng Nghymru yn parhau i leihau ac nad yw ecosystemau Cymru yn wydn ar hyn o bryd er gwaethaf rhai enghreifftiau o adferiad cadarnhaol lleol.
Yn adroddiad Llesiant Cymru 2019, gwnaethom adrodd bod 31% o’n tir yn cael ei ystyried yn lled-naturiol. Defnyddir y dangosydd cenedlaethol hwn i asesu cyfran ein tir sydd â chynefinoedd lled-naturiol, wedi eu haddasu llai gan mai’r rhain sydd fwyaf tebygol o ffurfio ecosystemau iach a chryf. Bydd diweddariad pellach ar y dangosydd hwn ar gael yn fuan yn 2027.
Daw’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 i’r casgliad nad oes gan ecosystemau yng Nghymru wydnwch, gyda llawer o gynefinoedd lled-naturiol yn parhau i ddirywio o ran amrywiaeth, maint, cyflwr a chysylltedd. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig rhywfaint o dystiolaeth o wella gwydnwch ecosystemau ar draws Coetiroedd a Thir Ffermio Caeedig.
Bydd pridd sy’n cael ei reoli’n dda yn diogelu’r bwyd sy’n cael ei gynhyrchu, yn cynnal cynefinoedd, yn helpu i reoli’r perygl o lifogydd ac yn lleihau costau trin dŵr. Mae’r dangosydd cenedlaethol ar garbon mewn pridd ar gyfer 2021 i 2023 wedi dangos bod crynodiad y carbon yn ein huwchbridd yn sefydlog ar y cyfan, ar wahân i dir âr a choetir llydanddail lle gwelwyd bod carbon wedi’i golli o’r uwchbridd yn ddiweddar mewn perthynas â’r crynodiadau yn 2013 i 2016. Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn dod i’r casgliad bod priddoedd yng Nghymru yn sefydlog ar y cyfan ond eu bod yn wynebu pwysau cynyddol yn sgil newid yn yr hinsawdd, colli carbon, gorfaethu a chywasgu, ac mae hynny'n tynnu sylw at yr angen i reoli a monitro pridd yn well er mwyn cefnogi cynnydd tuag at y dangosydd cenedlaethol ar briddoedd iach.
Dŵr a pherygl llifogydd
Mae ansawdd ein dŵr mewn moroedd, afonydd, nentydd neu’r ddaear, yn gwella’n gyffredinol.
Mae dŵr yn un o adnoddau naturiol Cymru rydym yn dibynnu arno’n gyson, gan gynnwys ar gyfer dŵr yfed, yr economi, diwydiant, ynni cynaliadwy, trin carthffosiaeth ac amaethyddiaeth. Yn ystod blwyddyn ariannol 2025-2026, roedd Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy wedi darparu tua 926 megalitr y dydd (Ml/d) o ddŵr i ateb y galw, gyda mwy o alw yn ystod y cyfnodau prysuraf fel yn ystod tywydd sych a phoeth neu fannau poblogaidd ymysg twristiaid. Amcangyfrifir bod cyfanswm y dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat (heb fod ar y prif gyflenwad) yn 13.8 Ml/d.
Roedd data ar gyfer 2024 yn dangos bod 40% o 933 o gyrff dŵr wyneb a dŵr daear mewn cyflwr da neu well. Roedd hyn yn debyg i 2021 a chynnydd o 3 phwynt canran ers 2015. Nid yw 60% o gyrff dŵr yn meddu ar Statws Rheoliadau Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr da. Mae hyn oherwydd addasiadau ffisegol; llygredd o ddŵr gwastraff, trefi, dinasoedd a thrafnidiaeth, ardaloedd gwledig a mwyngloddiau segur; yn ogystal â newidiadau i lif naturiol a lefelau dŵr.
Cyhoeddwyd asesiadau cydymffurfio ag ansawdd dŵr 2024 ar gyfer y 9 afon Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru yn 2025, gan ddefnyddio data monitro yn erbyn targedau ar gyfer ffosfforws a dangosyddion llygredd ehangach. Mae canlyniadau asesiad cydymffurfio ag ansawdd dŵr Afonydd ACA yn dangos bod 50% o afonydd ACA bellach yn cyrraedd targedau llym, o’i gymharu â 39% yn 2021.
Mae dyfroedd ymdrochi o ansawdd da yn bwysig iawn i gymunedau'r arfordir, ymwelwyr a’r economi yng Nghymru. Yn ystod y 9 mlynedd diwethaf, roedd bron pob un o’r dyfroedd ymdrochi yn cyrraedd y safonau a bennwyd gan y Rheoliadau Dŵr Ymdrochi. Roedd ansawdd dŵr ymdrochi yn cael ei fonitro mewn 112 o safleoedd dynodedig ar hyd arfordir Cymru yn 2025. Roedd 110 o ddyfroedd ymdrochi yn cyrraedd y safonau. Dyfarnwyd bod 78 yn rhagorol, 26 wedi cyflawni sgôr dda a 6 wedi cyrraedd y safon sylfaenol, ddigonol. Methodd 2 ddŵr ymdrochi â chyrraedd y safon, ac aseswyd eu bod o safon wael, fel yn 2024. Fel arfer, mae'r dosbarthiadau'n seiliedig ar 4 blynedd o ddata ansawdd dŵr ymdrochi.
Ffigur 2.1: ansawdd dŵr ymdrochi, canran y safleoedd dynodedig, 2017 i 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 2.1: siart linell yn dangos ansawdd dŵr ymdrochi ar gyfer safleoedd dynodedig yng Nghymru rhwng 2017 a 2025. Yn 2025, roedd 70% yn cael eu hystyried yn rhagorol (y ganran isaf ers 2017), 23% yn dda, 5% yn ddigonol a 2% yn wael.
Ffynhonnell: Adroddiad Ansawdd Dŵr Ymdrochi Cyfoeth Naturiol Cymru 2025
Nodyn 1: Fel arfer, mae'r dosbarthiadau'n seiliedig ar 4 blynedd o ddata ansawdd dŵr ymdrochi.
Roedd data a gyhoeddwyd yn 2025 yn dangos bod 1 o bob 7 (275,000) eiddo preswyl ac amhreswyl naill ai mewn perygl isel, canolig neu uchel o lifogydd. O ran y dangosydd cenedlaethol ar gyfer llifogydd, roedd bron i 49,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd o afonydd a mwy na 80,000 o eiddo mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd llanw. O'r rhain, mae bron i 26,000 yn elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd afonydd, bron i 42,000 o amddiffynfeydd rhag llifogydd llanw a bron i 35,000 yn elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd afonydd a'r môr.
Ansawdd aer
Mae ansawdd yr aer wedi gwella’n fawr ers y 1970au, ond mae’n parhau i fod yn risg i iechyd pobl.
Mae’r dangosydd cenedlaethol ar nitrogen deuocsid (NO2) yn dangos bod y lefelau crynodiad cyfartalog y mae pobl yn agored iddynt wedi bod yn gostwng ar y cyfan dros y degawd diwethaf. Ar ôl cyfnod o sefydlogrwydd cymharol rhwng 2017 a 2019 (tua 9 µg/m3), gostyngodd y crynodiad cyfartalog i 7 µg/m3 yn 2020 a 2021, gan godi ychydig i 8 µg/m3 yn 2022 cyn gostwng yn raddol i 6 µg/m3 erbyn 2024. Parhaodd y crynodiadau cyfartalog o ddeunydd gronynnol (PM10) y mae pobl yn agored iddynt i ostwng yn 2024 gyda PM2.5 yn parhau i fod yn weddol debyg.
Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn tynnu sylw at y ffaith bod llygredd nitrogen yn parhau i fod yn uwch na throthwyon critigol ar draws llawer o gynefinoedd sensitif, ac mae hynny'n cyfrannu at golli bioamrywiaeth a dirywiad ecosystemau, tra bod allyriadau o drafnidiaeth, amaethyddiaeth, diwydiant a llosgi domestig yn dal i effeithio ar ansawdd yr aer mewn rhai ardaloedd.
Mae llygredd aer yn cael effaith sylweddol ar iechyd y cyhoedd. Yn 2022, amcangyfrifodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU fod llygredd aer awyr agored hirdymor yn cyfrannu at yr hyn sy'n cyfateb i rhwng 29,000 a 43,000 o farwolaethau (ar oedrannau nodweddiadol) y flwyddyn yn y DU. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi amcangyfrif bod baich dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor hir yn cyfateb i tua 1,000 i 1,400 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Nid yw hyn yn adlewyrchu marwolaethau 'gwirioneddol' o ganlyniad i lygredd aer, ond mae'n amcangyfrif o'r disgwyliad oes is 'gyfatebol', o'i grynhoi, y mae pawb yn ei brofi oherwydd llygredd aer.
Ffigur 2.2: dangosyddion ansawdd aer, 2007 i 2024
Disgrifiad o ffigur 2.2: siart linell yn dangos gwelliant cyffredinol mewn dangosyddion ansawdd aer dros y cyfnod 2007 i 2024.
Ffynhonnell: Dangosyddion Allyriadau Ansawdd Aer
Gwastraff ac ailgylchu
Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran rheoli gwastraff dros y degawd diwethaf drwy gynyddu faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu, a lleihau faint sy’n cael ei waredu. Mae Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu gwastraff cartrefi, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.
Roedd gostyngiad sylweddol yn swm y gwastraff a gynhyrchir, nad yw’n cael ei ailgylchu, y pen, rhwng 2012 a 2019 (o 794kg i 523kg). Mae swm y gwastraff nad yw’n cael ei ailgylchu wedi gostwng ar gyfer pob un o’r tair elfen yn y dangosydd cenedlaethol hwn:
- gwastraff cartrefi
- gwastraff diwydiannol a masnachol
- gwastraff adeiladu a dymchwel
Er bod y cydrannau diwydiannol a masnachol, a gwastraff adeiladu a dymchwel yn cael eu mesur o bryd i’w gilydd drwy arolygon, mae data mwy rheolaidd a chyfredol ar gael ar wastraff cartrefi.
Mae faint o wastraff cartrefi sy’n cael ei gynhyrchu, ond nad yw’n cael ei ailgylchu fesul unigolyn, wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf, heblaw am gynnydd bychan yn ystod y pandemig COVID-19. Yn ystod blwyddyn ariannol 2024 i 2025, ar gyfartaledd ni chafodd 163kg o wastraff cartrefi a gynhyrchwyd ei ailgylchu fesul unigolyn, sef gostyngiad o 168kg o’r flwyddyn flaenorol.
Mae’r gyfradd ailgylchu (h.y. canran y gwastraff trefol awdurdodau lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio) wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, o tua 5% ar ddiwedd y 1990au i dros ddwy ran o dair (68.4%) yn 2024 i 2025.
Ffigur 2.3: canran gwastraff trefol awdurdodau lleol sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio, rhwng blwyddyn ariannol 2013 a 2014 a 2024 a 2025
Disgrifiad o ffigur 2.3: siart linell yn dangos bod canran y gwastraff trefol a gafodd ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio yng Nghymru wedi cynyddu’n gyffredinol o 54.3% yn 2013-2014 i 68.4% yn 2024-2025.
Ffynhonnell: Gwastraff Trefol Awdurdodau Lleol, StatsCymru
Cynhyrchu ynni adnewyddadwy
Roedd dros traean (37%) o'r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru yn dod o ffynonellau adnewyddadwy yn 2024, i fyny o 34% yn 2023, oherwydd bod llai yn cael ei gynhyrchu o nwy ffosil. Yn 2024, amcangyfrifwyd bod cynhyrchu trydan adnewyddadwy yng Nghymru yn cyfateb i 55% o'i defnydd o drydan, gan gynnwys colledion.
Mae’r dangosydd cenedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy yn ymwneud â chapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy (trydan a gwres). Mae hyn wedi cynyddu'n sylweddol dros y degawd diwethaf, er bod y cynnydd wedi arafu dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ddiwedd 2024, roedd y capasiti trydanol a osodwyd ar gyfer ynni adnewyddadwy yn 3,809 megawat (MW), 4% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a mwy na dwywaith y capasiti yn 2012. Ddiwedd 2024, cyfanswm capasiti gwres adnewyddadwy yng Nghymru oedd 956 MW, sef 10% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a bron i 16 gwaith yn fwy na’r capasiti gwres yn 2012. Roedd y gyfradd gosod ar gyfer capasiti ynni adnewyddadwy yn 2024 yr uchaf o’r chwe mlynedd diwethaf, ond roedd yn is na'r brig yn 2015.
Mae Cymru'n parhau i fod yn allforiwr trydan net i weddill y DU, Iwerddon a'r rhwydwaith trydan Ewropeaidd ehangach.
Ffigur 2.4: y gallu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, 2012 i 2024
Disgrifiad o ffigur 2.4: siart linell yn dangos cynnydd sylweddol cyffredinol yn y capasiti trydan a gwres adnewyddadwy yng Nghymru rhwng 2012 a 2024, gyda’r cynnydd yn arafu yn y blynyddoedd diwethaf.
Ffynhonnell: Adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru
Y garreg filltir genedlaethol ar berfformiad ynni anheddau yw y bydd pob cartref yng Nghymru yn cael perfformiad ynni digonol a chost-effeithiol erbyn 2050. Yn ôl Arolwg Cyflwr Tai Cymru, blwyddyn ariannol 2017 i 2018, ystyriwyd bod gan 47% o anheddau preswyl berfformiad ynni digonol (sgôr SAP o 65 neu uwch).
Darllen pellach
Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o’r canlynol:
- llifogydd
- cynefinoedd lled-naturiol
- bioamrywiaeth
- mannau gwyrdd
- ansawdd pridd
- effeithlonrwydd ynni cartrefi
Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 (Cyfoeth Naturiol Cymru) yn rhoi asesiad cynhwysfawr o’r graddau y mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy. Mae’r Porth tystiolaeth Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (Cyfoeth Naturiol Cymru) newydd yn cynnwys y dystiolaeth y tu ôl i'r asesiad gwydnwch ecosystem.
Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Adroddiad Sefyllfa Byd Natur ar gyfer Cymru (Partneriaeth Sefyllfa Byd Natur)
