Trwydded gyffredinol ar gyfer symud a thaenu sarn dofednod, tail dofednod a slyri dofednod o eiddo mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban (EXD353(HPAI)(GB))
Trwydded gyffredinol ar gyfer symud a thaenu sarn dofednod a ddefnyddiwyd, tail dofednod a slyri dofednod.
Ar y dudalen hon
Mae’r drwydded hon, yn amodol ar gydymffurfio â’r amodau a nodir yn y drwydded hon, yn caniatáu:
- Symud sarn dofednod, tail dofednod a slyri dofednod o safle mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban; a
- Taenu sarn dofednod, tail dofednod a slyri dofednod o’r fath mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban.
Mae'r drwydded hon ond yn caniatáu symudiadau sydd fel arall wedi'u gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o H5NX, er enghraifft H5N1, H5N5. Nid yw’n caniatáu symudiadau sydd wedi’u gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o unrhyw straen arall o HPAI.
Mae’r drwydded hon yn ddilys o 09.48 ar 06/10/2026 hyd nes y caiff ei hatal neu ei dirymu’n ysgrifenedig ac mae’n dirymu ac yn disodli trwydded EXD353(HPAI)(GB) a ddaeth i rym am 13:45 ar 03/10/2026.
Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Llywodraeth yr Alban, ac mae'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban.
Llofnod: ALBA BARRECHEGUREN GUTIERREZ, Arolygydd Milfeddygol
Dyddiad: 06/10/206 Amser: 09:48
Penodwyd yr Arolygydd Milfeddygol gan Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion yr Alban.
Deddfwriaeth
Cyhoeddir y drwydded gyffredinol hon yn unol â’r canlynol:
- paragraff 11 o Atodlen 4 a pharagraff 8 o Atodlen 5 i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
- paragraffau 11 o Atodlen 4 a pharagraff 8 o Atodlen 5 i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
- paragraff 11 o Atodlen 4 a pharagraff 4 a pharagraff 9 8A o Atodlen 5 i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
Amodau’r drwydded
- Nid yw’r drwydded hon yn berthnasol i unrhyw safle sy’n destun i gyfyngiadau gan hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Gorchymyn.
Amodau symud
- Dim ond at y dibenion canlynol y gellir symud sarn dofednod, tail dofednod neu slyri dofednod o safle o dan y drwydded hon:
a) Triniaeth yn unol â pharagraff 11 isod;
b) Taenu ar ôl triniaeth o’r fath; neu
c) Gwaredu drwy losgi, hylosgi neu rendro mewn gwaith a gymeradwywyd o dan Erthygl 24 o Reoliad (CE) 1069/2009 a gymathwyd.
- Rhaid i unrhyw symudiad o dan y drwydded hon ddigwydd yn uniongyrchol i safle lle mae un neu ragor o’r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(a) i (c) uchod i ddigwydd.
- Yn union cyn symud sarn, tail neu slyri dofednod, wedi eu trin ai peidio, o dan y drwydded hon, rhaid i’r trwyddedai archwilio unrhyw ddofednod ar y safle gwreiddiol i gadarnhau nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion clinigol a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar.
- Cyn gadael y safle gwreiddiol:
a) Rhaid i du allan y cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y symudiadau fod yn rhydd o unrhyw halogiad gweledol gan laid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu dofednod, sarn, plisgyn wy neu unrhyw ddeunydd tebyg arall.
b) rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion ar ôl llwytho a chyn gadael y safle. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio gael ei wneud mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi gan blu, carthion, sarn, neu blisgyn wyau dofednod, neu unrhyw ddeunydd tebyg.
- Rhaid i’r cerbyd neu’r cynhwysydd sy’n cludo’r deunyddiau fod yn un sy’n atal gollyngiadau. Rhaid hefyd fod pecyn gollyngiadau ar gael yn y cerbyd rhag ofn y bydd gollyngiad yn digwydd ar y ffordd.
Ar ôl dadlwytho yn safle’r cyrchfan:
a) rhaid glanhau a diheintio’r rhannau o’r cerbyd ac unrhyw offer a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw beth a allai fod wedi’i halogi gan laid, slyri, tail dofednod, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall, a hynny ar y safle.
b) rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion y cerbyd ar ôl dadlwytho a chyn gadael safle’r cyrchfan.
- Rhaid darparu copi o’r drwydded hon i weithredwr y safle wrth gyrraedd safle’r cyrchfan.
- Rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson/personau sy’n ymwneud â’r gwaith symud hwn yn gwneud y canlynol:
a) peidio â mynd i mewn i unrhyw safle dofednod neu adar caeth, neu adael unrhyw safle o’r fath, os yw/ydynt yn gwisgo dillad neu esgidiau sy’n amlwg wedi’u baeddu gan laid, ysgarthion dofednod neu adar, neu unrhyw ddeunydd tebyg
b) yn glanhau ac yn diheintio ei esgidiau/eu hesgidiau cyn mynd i mewn neu adael unrhyw safle neu fan lle’r oedd dofednod neu adar caeth yn bresennol
c) yn tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth a pheidio â’u hailddefnyddio ar safle arall
d) yn sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth
e) yn cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd dofednod ac adar caeth.
- Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio gydymffurfio ag:
- Erthygl 66 o’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr
- erthygl 65 o'r Gorchymyn yn yr Alban.
Amodau taenu
- Dim ond os yw wedi bod yn destun un o’r triniaethau canlynol yn gyntaf y caniateir taenu sarn dofednod, tail dofednod neu slyri dofednod o dan y drwydded:
- Sarn neu dail dofednod: wedi'i drin â stêm i dymheredd o 70°C fan leiaf;
- Sarn neu dail dofednod: wedi’i chwistrellu â diheintydd a’i orchuddio, cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol, â gorchudd anhydraidd i rwystro adar gwyllt ac anifeiliaid eraill rhag cael ato. Rhaid ei stacio a’i storio am o leiaf 42 diwrnod wedi i’r deunydd olaf gael ei ychwanegu i’r safle;
- Sarn neu dail dofednod: wedi’i gladdu ar y safle gwreiddiol, yn ddigon dwfn i rwystro adar ac anifeiliaid gwyllt rhag cael ato;
- Slyri: wedi’i storio am o leiaf 60 diwrnod wedi i’r deunydd olaf gael ei ychwanegu;
- Sarn neu dail dofednod: wedi’i drin mewn safle a gymeradwywyd o dan Erthygl 24 o Reoliad (CE) 1069/2009 trwy losgi, hylosgi neu rendro yn unig, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
- Pan fydd sarn dofednod sydd wedi'i ddefnyddio, tail dofednod sydd wedi'i ddefnyddio neu slyri dofednod sydd wedi'i drin o dan amod 11 yn cael ei daenu ar dir, rhaid gofalu na chaiff anifeiliaid domestig fynd ar y rhan benodol honno o'r tir y cafodd y deunydd ei daenu drosti am o leiaf 21 diwrnod.
Nodiadau Esboniadol
- Y "Gorchymyn": Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yn Lloegr, Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yng Nghymru, neu Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Yr Alban) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yn yr Alban.
- Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol.
- Rhaid i ddeiliad y safle gwreiddiol gadw cofnod o symudiadau, gan gynnwys rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad, a dylid cadw’r cofnod am o leiaf chwe wythnos ar ôl cwblhau’r symudiad, yn unol â gofyniad Erthygl 74 o’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr neu Erthygl 73 o'r Gorchymyn yn yr Alban.
- Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon sicrhau bod ganddo nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys:
- faint o ddeunyddiau sy’n cael eu symud
- dyddiad y symudiad
- enw’r traddodwr
- cyfeiriad y safle lle symudwyd y deunyddiau ohono
- rhif cofrestru’r cerbyd sy’n casglu
- enw’r traddodai
- cyfeiriad y safle gwaredu
- Cyn cael eu gwaredu a lle mae llwch sylweddol yn debygol o gael ei gynhyrchu yn ystod y gwaith, dylid gwlychu deunyddiau gyda diheintyddion feirwsleiddiol addas.
- Pan fydd angen defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid defnyddio’r crynodiad cywir, caniatáu amser cyswllt digonol, a rhaid iddo fod wedi ei gymeradwyo o dan y canlynol:
- Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru
- Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Lloegr) 2007 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr
- Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (yr Alban) 2008 (fel y’i diwygiwyd) yn yr Alban
- Pan fo deunydd i’w bentyrru neu ei storio ar y safle, dylai hyn ddigwydd yn unol â:
- canllawiau perthnasol:
- Diogelu ein dŵr, ein pridd a’n haer (GOV.UK) [Storio, pentyrru a thrin sarn, gwellt, tail a slyri sy’n deillio o achosion o glefyd egsotig hysbysadwy mewn anifeiliaid]
- Rheoliadau Awdurdodiadau Amgylcheddol (Yr Alban) 2018 – Water GBR 18 a chanllawiau a chodau ymarfer perthnasol: Know the Rules Factsheet 1 (Farming and Water Scotland) a PEPFAA Code (Farming and Water Scotland) yn yr Alban.
- a’r rheolau ar barthau perygl nitradau:
- canllawiau perthnasol:
- Dylid dilyn y gofynion perthnasol ar gyfer taenu tail dofednod ar dir hefyd:
- Sut i ddefnyddio, storio neu symud tail, giwana a chynnwys y llwybr treulio: Sut i ddefnyddio, storio neu symud tail, giwana a chynnwys y llwybr treulio (GOV.UK)
- Rheoliadau Awdurdodiadau Amgylcheddol (Yr Alban) 2018 – Water GBR 18 a chanllawiau perthnasol: Factsheet 8 (Farming and Water Scotland), Factsheet 9 (Farming and Water Scotland), PEPFAA Code (Farming and Water Scotland) yn yr Alban
- Nid oes angen trwydded i symud dŵr golchi gwastraff, sef dŵr a ddefnyddir ar gyfer rinsio a gwaredu glanedyddion fel rhan o broses lanhau. Fodd bynnag, dylai gwaredu dŵr gwastraff fod yn unol ag:
- Achosion o glefydau anifeiliaid: atal llygredd o waith golchi a diheintio (GOV.UK)
- rheolau’r parth perygl nitradau (gweler nodyn 7 uchod)
- rhaid cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol arall.
- O dan amod 11, mae angen caniatâd ymlaen llaw gan yr awdurdod perthnasol er mwyn claddu tail dofednod, sarn a hen ddeunydd gorwedd:
- Lloegr - The Environment Agency
- Cymru - Cyfoeth Naturiol Cymru
- Yr Alban - Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (ar sepa.org.uk);
- Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am arwyddion o glefydau a sicrhau bioddiogelwch da bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
- Mae rhagor o fanylion am y ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu ffliw adar ar gael yn:
- Lloegr – gweler canllawiau ffliw adar (ar GOV.UK)
- Cymru – gweler gwefan Llywodraeth Cymru
- Yr Alban – gweler gwefan Llywodraeth yr Alban (ar GOV.SCOT)
Mae methu â chydymffurfio â’r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n uwch na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.
Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
03003 038 268
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar GOV.UK).
Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr maes cywir.
