Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Diben y fframwaith hwn

Mae Cafcass Cymru yn gweithio gyda phlant a theuluoedd ledled Cymru, ac mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhan sylfaenol o’r cyd-destun hwnnw.  Mae’r fframwaith hwn yn nodi sut y byddwn yn parhau i gryfhau gwelededd, dealltwriaeth a defnydd o’r Gymraeg a diwylliant Cymru ar draws ein sefydliad ac yn ein gwaith gyda phobl eraill.

Gan adeiladu ar ein fframwaith blaenorol (2022 i 2025) ac wedi’i alinio â’n cynllun strategol 2026 i 2031, mae’r fframwaith hwn yn diffinio ein dull o godi ymwybyddiaeth o gyfoeth diwylliant Cymru a datblygu darpariaeth Gymraeg yn ein gwasanaethau mewnol ac allanol.  Mae hefyd yn ailddatgan ein hymrwymiad parhaus i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

Ein nod yw nid yn unig bodloni gofynion, ond cefnogi diwylliant lle mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn weladwy, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu hadlewyrchu’n ystyrlon mewn ymarfer bob dydd.

I bwy mae hyn yn berthnasol

Mae’r fframwaith hwn yn berthnasol i holl staff Cafcass Cymru. 

Er bod uwch arweinwyr yn chwarae rhan bwysig wrth osod cyfeiriad ac arwain drwy esiampl, mae cyflawni’r fframwaith hwn yn gyfrifoldeb ar y cyd.  Mae gan bob aelod o staff, beth bynnag yw eu lefel o allu yn y Gymraeg, rôl i’w chwarae wrth gyfrannu at sefydliad mwy dwyieithog ac ymwybodol yn ddiwylliannol.

Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol lle mae staff yn teimlo’n hyderus i ymgysylltu â’r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn ffyrdd sy’n briodol i’w rôl a’u profiad.

Mesur cynnydd

Er mwyn darparu cyfeiriad ac atebolrwydd ar gyfer cyflawni amcanion y fframwaith, mae cynllun manwl wedi’i ddatblygu sy’n nodi’r gweithgareddau y byddwn yn eu cyflawni.  Defnyddir hwn fel sail i adrodd ar gynnydd i’r timau arweinyddiaeth uwch ar adegau penodedig. 

Gyda’i gilydd, bydd y camau hyn yn cynyddu gwelededd, meithrin hyder ac yn cefnogi defnydd 

Ein dull

Er mwyn cefnogi ein hamcanion, rydym wedi mabwysiadu model syml o wella parhaus yn seiliedig ar dair elfen allweddol: gwelededd, hyder a defnydd.

Mae ein dull yn seiliedig ar yr egwyddor bod cynyddu gwelededd y Gymraeg a diwylliant Cymru yn meithrin hyder staff i’w defnyddio yn eu gwaith.  Wrth i hyder gynyddu, mae defnydd hefyd yn cynyddu, sydd yn ei dro yn cryfhau gwelededd ar draws y sefydliad.

Mae hyn yn creu cylch parhaus o welliant, gan gefnogi datblygiad unigol a newid sefydliadol.

Image
Diagram sy'n dangos cylch parhaus o welliant, gan gefnogi datblygiad unigol a newid sefydliadol fel ei gilydd.

I roi’r dull hwn ar waith, rydym wedi nodi pum ymrwymiad sefydliadol clir

Y fframwaith ar waith: ein hamcanion

Rydym wedi nodi model sy’n cefnogi hyrwyddo, defnyddio a deall y Gymraeg a diwylliant Cymru o fewn Cafcass Cymru.  Nodir isod sut rydym yn bwriadu cyflawni’r amcanion hyn:

Parhau i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg

  • Gweithio gyda’r Cydlynydd Iaith Gymraeg a Thîm Safonau Llywodraeth Cymru i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus
  • Sicrhau bod pob cynnwys cyhoeddus a chyfathrebu sefydliadol allweddol ar gael yn ddwyieithog
  • Cynnal dealltwriaeth o sgiliau Cymraeg y gweithlu drwy ddadansoddi rheolaidd i lywio cynllunio a gwydnwch

Cynyddu gwelededd y Gymraeg yn y gwaith o ddydd i ddydd

  • Paratoi cyfathrebiadau corfforaethol craidd yn ddwyieithog (e.e. negeseuon y Prif Weithredwr, cylchlythyrau, diweddariadau i holl staff)
  • Annog defnydd o Gymraeg cwrteisi mewn cyfarfodydd, e-byst, hyfforddiant a deunyddiau
  • Darparu adnoddau Cymraeg hygyrch i gefnogi staff yn eu defnydd dydd i ddydd

Meithrin hyder staff i ddefnyddio’r Gymraeg

  • Darparu ardal ddigidol ganolog (e.e. MS Teams) i rannu adnoddau, cyfleoedd dysgu a rhoi cymorth ymarferol
  • Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg drwy gyfathrebu mewnol a dysgu a rennir (e.e. blogiau, profiadau cyfoedion)
  • Datblygu a rhannu offer syml ac ymarferol (e.e. geiriau, ymadroddion cyffredin) i gefnogi defnydd dyddiol

Cefnogi datblygiad sgiliau Cymraeg

  • Hyrwyddo cyfleoedd dysgu Cymraeg, gan sicrhau eu bod yn weladwy ac yn hygyrch i bob aelod o staff
  • Annog timau arweinyddiaeth i gefnogi staff yn weithredol i gychwyn neu barhau i ddysgu Cymraeg
  • Creu cyfleoedd ar gyfer cefnogaeth gan gyfoedion a dysgu ar y cyd ar draws y sefydliad

Hyrwyddo ac ymgorffori dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru

  • Codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymru a’i amrywiaeth drwy gyfathrebu mewnol a gweithgareddau sefydliadol
  • Hyrwyddo digwyddiadau diwylliannol cenedlaethol a rhanbarthol a chyfleoedd i staff ymgysylltu
  • Cefnogi staff i ddeall sut mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn llywio ein gwaith gyda phlant, teuluoedd a rhanddeiliaid

Gwasanaethau iaith Gymraeg a gwybodaeth bellach

Gellir ganfod fwy o wybodaeth am wasanaethau a chymorth iaith Gymraeg trwy’r adnoddau isod:

Cafcass Cymru

Llywodraeth Cymru

Gwybodaeth am polisi iaith Gymraeg, Cymraeg 2050 ac adnoddau i gefnogi Cymru dwyieithog.

Helo Blod

Gwasanaeth cyngor Cymraeg a chymorth cyfieithu am ddim, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru..

Comisiynydd y Gymraeg

Gwybodaeth am hawliau iaith, Safonau'r Gymraeg, a ffyrdd o hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.

Dysgu Cymraeg / Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol

Darparwr cenedlaethol dysgu'r Gymraeg sy'n darparu cyrsiau i ddysgwyr o bob lefel.