Ymgynghori ar cyfyngu ar werthu diodydd egni caffein uchel i blant yng Nghymru - Gorfodi
Sut y byddai'r cyfyngiadau arfaethedig ar werthu diodydd egni caffein uchel i blant dan 16 oed yng Nghymru yn cael eu gorfodi a'u gweithredu.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan y Gweinidog
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella iechyd a llesiant plant a phobl ifanc ac i greu amgylcheddau sy’n cefnogi dewisiadau iachach.
Cynhaliodd y Llywodraeth Cymru flaenorol ymgynghoriad yn 2022 ynghylch a ddylid cyfyngu gwerthiant diodydd egni sy'n uchel mewn caffein i blant a chynhaliodd ymarfer casglu tystiolaeth pellach yn 2024.
Mae’r dystiolaeth sydd ar gael a ystyriwyd wrth ddatblygu polisi hefyd yn nodi cysylltiadau rhwng plant yn yfed diodydd egni uchel mewn caffein a:
- chanlyniadau niweidiol o ran iechyd corfforol
- llesiant meddyliol
- cwsg
- ymddygiad
- chanlyniadau addysgol
Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymarferion cynharach hyn a'r dystiolaeth sydd ar gael, mae'r Llywodraeth Cymru bresennol wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynigion i wahardd gwerthu diodydd egni sy'n uchel mewn caffein i blant o dan 16 oed.
Mae'r ymgynghoriad yn awr yn ceisio barn ar weithredu, sut y dylid gorfodi cyfyngiad, sut i asesu cydymffurfiaeth a sut y dylid rhoi sancsiynau cymesur ar waith.
Yn benodol, rydym ni’n ceisio barn gan awdurdodau lleol, busnesau sy’n rhan o gwmpas y cyfyngiadau a sefydliadau sy’n cynrychioli’r rhai a fydd yn cael eu heffeithio’n sylweddol gan y cynigion. Fodd bynnag, rydym ni’n croesawu ymatebion gan bawb arall sydd â diddordeb hefyd.
Nerys Evans AS
Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol.
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 i wahardd gwerthu diodydd egni sy'n uchel mewn caffein i blant o dan 16 oed yng Nghymru.
Ymgynghorodd y Llywodraeth Cymru flaenorol ar y cynigion hyn yn 2022 a chasglodd dystiolaeth bellach drwy Alwad am Dystiolaeth yn 2024.
Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymarferion hynny a'r dystiolaeth ehangach sydd ar gael, gan gynnwys data arolygon Cymru, ymchwil gyhoeddedig a thystiolaeth rhanddeiliaid, mae'r Llywodraeth Cymru bresennol o'r farn bod sail ddigonol i fwrw ymlaen â chamau deddfwriaethol.
Mae'r dystiolaeth yn nodi cysylltiadau rhwng plant yn yfed diodydd egni sy'n uchel mewn caffein ac ystod o ganlyniadau niweidiol o ran iechyd, llesiant, cwsg, ymddygiad ac addysg.
Ein nod yw:
- lleihau gallu plant i gael gafael ar ddiodydd egni uchel mewn caffein a’u hyfed
- amddiffyn plant rhag canlyniadau niweidiol posibl o ran iechyd, llesiant, cwsg, ymddygiad ac addysg
- cefnogi ymddygiadau deietegol iachach a chyfrannu at leihau anghydraddoldebau iechyd
- creu safon glir a gorfodadwy ar gyfer busnesau a defnyddwyr
- darparu adnoddau gorfodi cymesur sy’n annog cydymffurfiaeth a mynd i’r afael â thramgwyddo bwriadol neu gyson
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach yn ceisio barn ar gynigion gweithredu a gorfodi i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn effeithiol, yn gymesur ac yn ymarferol i’w gweithredu.
Rydym ni hefyd wedi cyhoeddi asesiad effaith wedi’i ddiweddaru ar gyfer y cam ymgynghori. Mae’n nodi ein hasesiad cychwynnol o effaith y cynigion. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei ddiweddaru yn dilyn yr ymgynghoriad.
Yn benodol, rydym ni’n ceisio barn ar y canlynol:
- pwerau gorfodi a sancsiynau
- atebolrwydd am dramgwyddo
- asesu cydymffurfiaeth, gan gynnwys gofynion gwirio oedran
- trefniadau ac amserlenni gweithredu a monitro
- effeithiau tebygol y cynigion ar fusnesau, defnyddwyr ac awdurdodau gorfodi
Bydd yr ymatebion a ddaw i law yn helpu i lywio dyluniad terfynol, gweithredu a gorfodi’r ddeddfwriaeth arfaethedig.
Cefndir a’r camau a gymerwyd hyd yma
Pam mae gweithredu yn cael ei gynnig
Mae diodydd egni uchel mewn caffein ar gael yn eang, ac mae data’n awgrymu eu bod yn cael eu hyfed gan gyfran sylweddol o blant a phobl ifanc.
Ymchwil gan Brifysgol Teesside wedi cysylltu yfed diodydd egni â:
- chur pen
- poenau stumog
- blinder
- llai o gwsg a lleihad mewn ansawdd cwsg
- anniddigrwydd
- gorbryder
- lleihad yn y gallu i ganolbwyntio a chyrhaeddiad addysgol
- chymryd rhan mewn ymddygiadau llawn risg eraill
Er bod y farchnad bresennol yn cynnwys rhai manwerthwyr yn gweithredu cyfyngiadau oedran gwirfoddol, sydd i’w croesawu, nid yw’r trefniadau hyn ar waith ym mhob man ac maent yn gallu amrywio rhwng busnesau a sianeli gwerthu.
Byddai deddfwriaeth, yn hytrach na gweithredu gwirfoddol, yn darparu dull clir a gorfodadwy o fynd i’r afael â’r mater hwn, yn ogystal â mwy o gysondeb a thegwch i fusnesau.
Ymgynghoriad 2022
Bu'r Llywodraeth Cymru flaenorol yn ymgynghori rhwng 9 Mehefin a 1 Medi 2022 ar gynnig i roi terfyn ar werthu diodydd egni i blant dan 16 oed.
Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn:
- ar yr egwyddor o gyfyngiad statudol
- y trothwy oedran,
- y cynhyrchion i’w cwmpasu
- gwerthiannau mewn siopau ac ar-lein
- peiriannau gwerthu
- te a choffi
- effeithiau cydraddoldeb ac economaidd-gymdeithasol
Cafwyd 331 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Roedd 72% o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cyfyngiad mewn egwyddor.
Sefydlodd ymarfer 2022 gefnogaeth eang ar gyfer gweithredu ond nododd hefyd faterion a oedd angen eu hystyried ymhellach, gan gynnwys y:
- sylfaen dystiolaeth
- diffiniadau
- cydymffurfiaeth ymarferol
- beichiau ar fusnesau ac awdurdodau gorfodi
- sut i ymdrin â gwahanol sianeli gwerthu
Galwad am dystiolaeth 2024
Cynhaliwyd galwad arall am dystiolaeth rhwng 1 Mehefin a 23 Medi 2024.
Roedd yn gwahodd tystiolaeth am:
- batrymau defnydd a phrynu
- iechyd corfforol a meddyliol
- effeithiau cymdeithasol ehangach
- marchnata
- cyfyngiadau gwirfoddol
- gorfodi
- effeithiau economaidd
- gweithredu
- nodweddion gwarchodedig
- effeithiau gwledig a threfol
Derbyniwyd ymatebion gan sefydliadau iechyd ac academaidd, cyrff diwydiant a masnach, buddiannau gorfodi ac aelodau o’r cyhoedd.
Roedd yr ymarfer yn cryfhau’r dystiolaeth a’r wybodaeth a oedd ar gael i swyddogion, ac yn atgyfnerthu’r angen i ystyried gorfodi a gweithredu ochr yn ochr â’r achos iechyd cyhoeddus. Roedd hefyd yn tynnu sylw at safbwyntiau gwahanol ymhlith rhanddeiliaid.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad oes unrhyw astudiaeth unigol yn mynd i allu arwain at benderfyniad terfynol, a bod rhai cyfyngiadau o hyd o fewn y sylfaen dystiolaeth wyddonol.
Fodd bynnag, rydym ni o’r farn ei bod yn bwysig asesu’r dystiolaeth yn ei chyfanrwydd yn hytrach na dibynnu ar unrhyw astudiaeth neu ffynhonnell unigol.
Mae’r corff cyffredinol o dystiolaeth, gan gynnwys data arolygon yng Nghymru, ymchwil gyhoeddedig, ymatebion i’r ymgynghoriad a thystiolaeth a gasglwyd trwy Alwad am Dystiolaeth 2024, yn dangos bod yfed diodydd egni uchel mewn caffein gan blant yn gysylltiedig ag ystod o ganlyniadau niweidiol o ran iechyd, llesiant, cwsg ac ymddygiad.
Ar ben hynny, awgrymwyd fod lleihau gallu plant i gael gafael ar ddiodydd egni uchel mewn caffein yn meddu ar y potensial i gefnogi canlyniadau iechyd a llesiant gwell.
Gyda’i gilydd, rydym ni o’r farn bod hyn yn sail ddigonol i gefnogi cymryd camau deddfwriaethol i leihau gallu plant i gael gafael ar y cynhyrchion hyn ac i gefnogi amcanion iechyd y cyhoedd.
Rydym ni felly’n bwriadu bwrw ymlaen â chyflwyno deddfwriaeth i wahardd gwerthu diodydd egni uchel mewn caffein i blant o dan 16 oed yng Nghymru.
Pam mae’r trothwy oedran wedi’i osod ar 16
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod mabwysiadu trothwyon oedran amgen yn bosibl, ac mae wedi ystyried trothwyon amgen, gan gynnwys 18 oed.
Fodd bynnag, gan ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, barn rhanddeiliaid ac ystyriaethau gweithredu, mae’n ystyried bod cyfyngiad sy’n berthnasol i’r rhai dan 16 oed yn cynrychioli dull cymesur sy’n targedu’r grŵp oedran y mae’r pryderon iechyd y cyhoedd yn fwyaf uniongyrchol berthnasol iddo tra’n cyfyngu ar effeithiau diangen ar ddefnyddwyr hŷn a busnesau.
Mynegodd ymatebwyr ystod o safbwyntiau yn ystod ymgynghoriad 2022 ynghylch y trothwy oedran o ran cyfyngu ar werthu. Fodd bynnag, roedd llawer yn cefnogi cyfyngiadau gwerthu i’r rhai dan 16 oed.
Mae trothwy oedran o 16 hefyd yn adlewyrchu arferion manwerthu gwirfoddol presennol ac felly byddai’n darparu sail gyfarwydd ac ymarferol ar gyfer gweithredu.
Ar ben hynny, mae hefyd yn gyson â’r dull sy’n cael ei gymryd bellach yn Lloegr, gan helpu i gefnogi cysondeb i fusnesau sy’n gweithredu ar draws ffiniau.
Pam mae trothwy caffein yn cael ei gynnig
Bydd y cyfyngiad yn berthnasol i unrhyw ddiod sy’n cynnwys mwy na 150 miligram o gaffein y litr, ac eithrio te a choffi.
Mae’r diffiniad hwn o ddiod egni uchel mewn caffein yn cyd-fynd â Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 ar wybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchion sydd â lefelau caffein uwchlaw’r trothwy hwn gynnwys datganiad bod ganddynt gynnwys caffein uchel ac nad ydynt yn cael eu hargymell ar gyfer plant, menywod beichiog neu fenywod sy’n bwydo ar y fron.
Mae defnyddio’r trothwy presennol yn darparu meini prawf clir ar gyfer nodi cynhyrchion o fewn cwmpas, gan sicrhau eglurder a chysondeb i fusnesau, defnyddwyr ac awdurdodau gorfodi.
Mae’r cydweddu hwn hefyd yn adlewyrchu’r meini prawf sydd eisoes yn gyfarwydd i lawer o fanwerthwyr ac yn cael eu defnyddio gan lawer o fanwerthwyr trwy eu cyfyngiadau gwirfoddol presennol.
Mae’r diffiniad hefyd yn cynnwys cynhyrchion sydd i fod i gael eu glastwreiddio neu eu hailgyfansoddi cyn eu hyfed.
Mae’r gofynion labelu presennol ar gyfer diodydd uchel mewn caffein hefyd yn berthnasol i gynhyrchion ar ffurf grynodedig neu sych y bwriedir eu hailgyfansoddi cyn eu hyfed. Felly, mae cynnwys y rhain yn sicrhau dull cyson a gorfodadwy.
Mae trothwy caffein hefyd yn darparu sail glir a gwrthrychol ar gyfer nodi cynhyrchion sy’n dod o fewn cwmpas y cyfyngiad.
Mae hyn yn debygol o fod yn fwy ymarferol ac addas i’r diben yn y dyfodol na nodi brandiau neu gategorïau cynnyrch unigol, a allai newid dros amser.
Cynhyrchion y tu allan i’r cwmpas
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ystyried sefyllfa cynhyrchion eraill sy’n cynnwys caffein.
Nid yw’r cyfyngiad wedi’i fwriadu i fod yn berthnasol i gynhyrchion eraill sy’n cynnwys caffein nad ydynt yn ddiodydd, fel codenni caffein, gwm caffein neu gynhyrchion tebyg. Ar hyn o bryd mae llai o dystiolaeth ar gael ynghylch sut mae pobl yn cael gafael ar y cynhyrchion hyn a’u defnyddio.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ystyried a ddylid cynnwys te a choffi o fewn cwmpas y cyfyngiad arfaethedig.
Er bod te a choffi yn gallu cynnwys caffein, mae’r cynhyrchion hyn fel arfer yn cael eu marchnata, eu cyflwyno a’u hyfed mewn ffordd wahanol i gynhyrchion te a choffi traddodiadol. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael, ynghyd ag ymgysylltiad â rhanddeiliaid, wedi nodi’n bennaf bryderon sy’n ymwneud â phlant yn yfed diodydd egni uchel mewn caffein.
Wrth ystyried cwmpas y cyfyngiad, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, patrymau defnydd a safbwyntiau rhanddeiliaid.
Rydym ni’n ystyried bod canolbwyntio’r cyfyngiad ar ddiodydd egni uchel mewn caffein, ac eithrio te a choffi, yn darparu dull cymesur sydd wedi’i dargedu, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael a’r pryderon.
Busnesau o fewn cwmpas a gwerthiant ar-lein
Cytunodd y mwyafrif o’r ymatebion i ymgynghoriad 2022 y dylai unrhyw gyfyngiad gwmpasu pob siop, gan gynnwys amgylcheddau ar-lein.
Roedd ymatebwyr o’r farn y byddai cwmpas hollgynhwysol yn lleihau cyfleoedd i blant gael diodydd egni trwy sianeli amgen ac yn darparu mwy o eglurder a chysondeb i fanwerthwyr a defnyddwyr.
Roedd ymatebwyr iechyd y cyhoedd a’r sector cyhoeddus hefyd yn gryf eu cefnogaeth i gynnwys pob lleoliad manwerthu.
Ar ôl ystyried yr ymatebion a’r dystiolaeth sydd ar gael, bydd y cyfyngiad yn cwmpasu pob gwerthwr, manwerthwr a busnes sy’n gwerthu i ddefnyddwyr waeth beth fo’u maint, gan gynnwys y sector y tu allan i’r cartref a siopau nad ydynt yn gwerthu bwyd a diod yn bennaf (Er enghraifft, manwerthwyr dillad a siopau papurau newydd), a gwerthiannau ar-lein i ddefnyddwyr yng Nghymru.
Rydym ni o’r farn mai dyma’r dull gorau o sicrhau bod y cyfyngiad yn effeithiol ac i ddarparu tegwch i fusnesau hefyd. Mae hyn hefyd yn gyson â chynhyrchion eraill â chyfyngiadau oedran.
Fodd bynnag, ni fyddai’r cyfyngiad yn berthnasol i werthiannau busnes i fusnes, fel cyfanwerthwyr, lle nad oes budd iechyd y cyhoedd uniongyrchol i blant.
Mynegodd rhai ymatebwyr bryderon ymarferol hefyd ynghylch gwirio oedran a dulliau gorfodi ar gyfer gwerthiannau ar-lein. Rydym ni felly’n gofyn am farn bellach ar hynny, fel y nodir isod.
Pam mae peiriannau gwerthu yn cael eu cynnwys yn ein dull gweithredu
Roedd ymgynghoriad 2022 yn holi’n benodol am safbwyntiau ar werthiannau peiriannau gwerthu, gan gynnwys a ddylai eithriadau fod yn berthnasol mewn lleoliadau penodol.
Yn dilyn gwaith datblygu polisi pellach, rydym ni’n bwriadu gwahardd gwerthu diodydd egni uchel mewn caffein trwy bob peiriant gwerthu awtomataidd.
Mae hyn yn adlewyrchu pryderon am yr anawsterau ymarferol o gyfyngu ar y gallu i gael diodydd egni uchel mewn caffein trwy werthiannau peiriannau gwerthu.
Rydym ni wedi ystyried defnyddio dull sy’n seiliedig ar leoliadau, er enghraifft, trwy eithrio lleoliadau sy’n bennaf ar gyfer oedolion. Gallai dull o’r fath fod yn fwy cymhleth i’w weithredu a’i orfodi, yn enwedig os yw lleoliadau’n gymysg neu os yw eu defnydd yn amrywio dros amser a rhwng busnesau. Gallai hyn arwain at amrywiadau yn y ffordd y mae cyfyngiad yn cael ei weithredu.
Rydym ni hefyd wedi ystyried y defnydd o systemau gwirio oedran. O’r dystiolaeth a ddarparwyd, ystyrir nad yw’n glir a fyddai hyn yn ddigonol ac yn ddibynadwy i atal gwerthiannau dan oed.
Ar sail y dystiolaeth a ystyriwyd, rydym ni felly o’r farn y byddai gwaharddiad llwyr yn darparu’r hyn sy’n cael ei ddymuno, sef dull clir a chyson ar draws pob lleoliad peiriant gwerthu.
Mae’n darparu eglurder ynghylch ble mae’r cyfyngiad yn berthnasol, yn lleihau’r risg o amrywiadau ar draws lleoliadau, yn hwyluso’r gwaith o orfodi ac yn sicrhau bod y polisi yn parhau i fod yn effeithiol.
Byddai’r dull hwn hefyd yn gyson â’r dull a gymerwyd o gynhyrchion eraill gyda chyfyngiadau oedran mewn peiriannau gwerthu, megis gwerthu tybaco.
Datblygiadau yn Lloegr ac ystyriaethau pedair cenedl
Ym mis Gorffennaf 2026, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gyflwyno deddfwriaeth sy’n gwahardd gwerthu diodydd egni uchel mewn caffein i blant o dan 16 oed yn Lloegr.
Bwriedir i’w deddfwriaeth ddod i rym ym mis Ebrill 2027, yn amodol ar y prosesau, gwaith craffu a chymeradwyo Seneddol arferol yn San Steffan.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig dull sy’n cyd-fynd yn fras â Lloegr.
Fodd bynnag, bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio penderfyniadau ar drefniadau gorfodi, sancsiynau, amserlenni gweithredu a chyflawni gweithredol yng Nghymru.
Yn yr Alban, ymgynghorodd Llywodraeth yr Alban ar gyflwyno cyfyngiad ar werthu diodydd egni i blant a phobl ifanc.
Fodd bynnag, ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a’r dystiolaeth sydd ar gael, cyhoeddodd yn 2023 na fyddai’n mynd ar drywydd cyfyngiadau gorfodol ar y pryd ac y byddai’n parhau i ystyried tystiolaeth a dadansoddiadau pellach.
Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes cyfyngiad statudol ar werthu diodydd egni uchel mewn caffein i blant ar hyn o bryd.
Mae Adran Iechyd Gogledd Iwerddon wedi nodi ei bod yn ymwybodol o bryderon ynghylch cynnwys caffein a siwgr y cynhyrchion hyn ac yn cadw llygad ar ddatblygiadau mewn mannau eraill yn y DU.
Fframwaith gorfodi arfaethedig
Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i randdeiliaid helpu i lunio’r trefniadau ymarferol a fydd yn cefnogi gweithredu’r cyfyngiadau arfaethedig yn effeithiol, yn gymesur ac yn gyson ledled Cymru.
Er mwyn i gyfyngiad fod yn effeithiol, rhaid ei orfodi’n briodol. Ein bwriad yw defnyddio pwerau gorfodi yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (“Deddf 1990”) a Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008.
Byddai gwerthu diodydd egni uchel mewn caffein i rywun dan oed yn drosedd, gydag euogfarn ddiannod yn arwain at ddirwy heb fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol (£2,500).
I ategu hyn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol bennu cosb ariannol benodedig (dirwy) fel opsiwn amgen i gosb droseddol.
Byddai hynny’n gymwys lle mae’r awdurdod lleol yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol bod trosedd wedi’i chyflawni.
Rydym ni o’r farn y byddai sancsiwn sifil yn sicrhau ymateb gorfodi mwy priodol a chymesur i amgylchiadau’r drosedd.
Mae hyn hefyd yn unol â gorfodi deddfwriaeth bwyd arall o dan Ddeddf 1990, megis cyfyngiadau ar leoli a hyrwyddo cynhyrchion sy’n uchel mewn braster, siwgr a halen.
Fodd bynnag, byddai erlyn yn parhau ar gael fel opsiwn gorfodi, yn enwedig mewn achosion sy’n ymwneud â diffyg cydymffurfio difrifol, bwriadol neu gyson.
Awdurdod gorfodi
Cynigir mai awdurdodau bwyd awdurdodau lleol fyddai’n gyfrifol am orfodi’r cyfyngiad.
Byddai trefniadau lleol yn penderfynu a yw swyddogaethau’n cael eu cyflawni’n bennaf gan safonau masnach, iechyd yr amgylchedd neu wasanaeth awdurdodedig arall.
Mae hyn yn adlewyrchu eu cyfrifoldebau presennol ar gyfer gorfodi cyfraith bwyd a deddfwriaeth arall ar werthiannau â chyfyngiadau oedran, gan ganiatáu cyflwyno trwy drefniadau cydymffurfiaeth ac arolygu sefydledig.
Cefnogi cydymffurfiaeth a phwerau pryniannau prawf a gwyliadwriaeth
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi canllawiau gweithredu i gefnogi busnesau ac awdurdodau gorfodi.
Gallai’r canllawiau gwmpasu materion fel:
- y cynhyrchion
- y busnesau a’r gwerthiannau sy’n dod o dan y cyfyngiad
- trefniadau rhesymol ar gyfer gwirio oedran
- hyfforddiant staff
- cadw cofnodion
- cyfrifioldebau peiriannau gwerthu
- chymhwyso unrhyw amddiffyniadau
Rydym ni hefyd yn ceisio barn ar ba wybodaeth bellach a chymorth ymarferol y dylid eu cynnwys.
Gallai awdurdodau gorfodi ymateb i wybodaeth a chwynion drwy asesu cydymffurfiaeth â’r cyfyngiad ar oedran gwerthu a chynnal gwiriadau wedi’u targedu.
I roi cosb, byddai’n ofynnol i awdurdodau lleol gasglu tystiolaeth y tu hwnt i amheuaeth resymol fod person neu fanwerthwr wedi methu â chydymffurfio.
Y dull a ffefrir yw cefnogi cydymffurfiaeth drwy ganllawiau ac ymgysylltiad clir gan awdurdodau lleol. Yna byddai camau gweithredu ffurfiol ar gael lle bo’n briodol, yn enwedig ar gyfer diffyg cydymffurfiaeth bwriadol, difrifol neu gyson.
I wirio cydymffurfiaeth, caiff awdurdodau lleol archwilio cofnodion perthnasol a threfniadau gwerthu neu gynnal gweithredoedd pryniannau prawf.
Mae pryniannau prawf ar sail gwybodaeth sydd wedi dod i’r amlwg yn adnodd gorfodi sefydledig sy’n cael ei ddefnyddio i gefnogi cydymffurfiaeth ag ystod o gynhyrchion â chyfyngiadau oedran, fel alcohol.
Mewn rhai amgylchiadau ac yn dibynnu ar sut y mae’r gweithgaredd yn cael ei gynnal, gallai gweithgaredd gorfodi o’r fath fod angen awdurdodiad o dan Ran 2 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000, yn enwedig gyda chadw gwyliadwriaeth dan gyfarwyddyd neu pan fo’n cynnwys defnyddio neu gynnal ffynhonnell cudd-wybodaeth ddynol gudd.
Er yn fwy aflonyddgar, byddai’r dull hwn yn gyson â phrosesau presennol ar gyfer cynhyrchion eraill â chyfyngiadau oedran.
Er mwyn i awdurdodau lleol ddefnyddio’r dulliau hyn i asesu cydymffurfiaeth a chefnogi gorfodi’r cyfyngiad yn effeithiol mewn amgylchiadau priodol, byddai angen newidiadau deddfwriaethol i is-ddeddfwriaeth sy’n sail i Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried priodoldeb a chymesuredd y defnydd o’r pwerau gwyliadwriaeth cudd hyn i asesu cydymffurfiaeth ar gyfer gwaharddiad ar werthu diodydd egni i blant dan 16 oed.
Rydym ni hefyd yn trafod y mater hwn gyda Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, gan y byddai angen i’r newidiadau deddfwriaethol perthnasol i alluogi hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU.
Rydym ni’n ceisio barn ynghylch a ddylid ymestyn y pwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 i ganiatáu i awdurdodau leol asesu cydymffurfiaeth â chyfyngiad oedran ar werthu diodydd egni uchel mewn caffein.
Y weithdrefn ar gyfer dyroddi cosb ariannol benodedig a lefel y gosb ariannol
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol osod cosb ariannol benodedig pan fyddant yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol bod trosedd wedi’i chyflawni ac yn ystyried y byddai sancsiwn sifil yn ymateb mwy priodol a chymesur.
Mae Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 yn nodi’r broses ar gyfer dyroddi cosb ariannol benodedig. Mae’r Ddeddf yn mynnu bod awdurdod lleol yn cyflwyno hysbysiad o fwriad pan fydd yn bwriadu dyroddi cosb ariannol benodedig.
Mae’n rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys:
- gwybodaeth am y rheswm pam mae cosb wedi’i dyroddi
- lefel y gosb
- sut y gall y person neu’r manwerthwr ryddhau atebolrwydd (hynny yw, cyfaddef i’r drosedd a’r gyfradd y mae modd talu’r ddirwy er mwyn osgoi erlyniad)
- manylion am yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau i’r awdurdod lleol a’r cyfnod ar gyfer gwneud hynny
- yr amgylchiadau pan nad yw awdurdod lleol yn cael dyroddi cosb ariannol benodedig
Mae Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 yn caniatáu talu cyfradd ostyngedig sy’n llai na neu’n hafal i swm y gosb i ryddhau atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig. Rydym ni’n cynnig cyfradd ostyngedig o 50% o swm y gosb.
Mae’r Ddeddf hefyd yn caniatáu dim mwy na 28 diwrnod o’r dyddiad y daeth yr hysbysiad o fwriad i law ar gyfer naill ai:
- rhyddhau atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig
- cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau i’r awdurdod lleol
Rydym ni’n cynnig caniatáu uchafswm o 28 diwrnod.
Os nad yw atebolrwydd yn cael ei ryddhau o fewn 28 diwrnod, neu os yw sylwadau a gwrthwynebiadau a wnaed yn aflwyddiannus, byddai angen i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylid pennu cosb ariannol benodedig.
Pan fo’r awdurdod lleol yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol bod trosedd wedi’i chyflawni ac yn penderfynu bwrw ymlaen, byddai’n ofynnol iddo gyflwyno hysbysiad terfynol yn rhoi’r gosb.
Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys:
- gwybodaeth am y rhesymau dros roi’r gosb
- sut i wneud y taliad ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y taliad hwnnw
- unrhyw ddisgowntiau am daliadau cynnar neu gosbau am daliadau hwyr
- manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i roi’r gosb
- canlyniadau peidio â thalu
Pan ddyroddir hysbysiad terfynol, byddai’r gosb lawn yn daladwy o fewn 28 diwrnod neu mae’n rhaid i’r derbynnydd gyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
Byddai unrhyw gosb sy’n parhau heb ei thalu o fewn 28 diwrnod ac nad yw’n destun apêl yn cynyddu 50%.
Pan gyflwynir apêl, a’r apêl honno’n aflwyddiannus, byddai angen talu’r gosb lawn o fewn 14 diwrnod i benderfyniad yr apêl, gyda’r gosb yn destun cynnydd o 50% os na chaiff ei thalu o fewn 14 diwrnod.
Rydym ni hefyd yn cynnig y byddai awdurdodau lleol yn gallu adennill unrhyw gosb heb ei thalu o dan orchymyn llys.
Cynigir mai swm y gosb ariannol benodedig fyddai £1,500 ar gyfer unigolyn, microfusnes neu fusnes bach (sy’n cyflogi llai na 50 o bobl), a £2,500 ar gyfer busnes canolig neu fawr (sy’n cyflogi 50 neu fwy o bobl).
Bwriad y lefelau cosb arfaethedig yw darparu ataliad ystyrlon tra’n parhau i fod yn gymesur â natur y drosedd a maint y manwerthwr perthnasol.
Maent wedi’u llunio i annog cydymffurfiaeth ac i ddarparu dewis amgen effeithiol i erlyn mewn achosion priodol.
Rydym ni’n ceisio barn ynghylch a yw’r dull hwn a’r lefelau cosb hyn yn darparu mecanwaith gorfodi priodol, cymesur ac effeithiol ar gyfer torri’r cyfyngiad oedran arfaethedig.
Enghraifft o’r trefniadau cosb arfaethedig
Mae’r tabl isod yn darparu enghreifftiau o sut y byddai’r trefniadau cosb arfaethedig yn gweithredu yn ymarferol.
| Cosb safonol | Swm rhyddhau - 50% | Swm wedi’r cynnydd o 50% am daliad hwyr |
|---|---|---|
| £1,500 | £750 | £2,250 |
| £2,500 | £1,250 | £3,750 |
Atebolrwydd am droseddau
Rydym ni wedi ystyried pwy ddylai fod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â’r cyfyngiad.
Rydym ni’n cynnig y byddai busnesau sy’n gwerthu diodydd egni uchel mewn caffein yn uniongyrchol i ddefnyddwyr yn gyfrifol am sicrhau nad yw gwerthiannau yn cael eu gwneud i blant o dan 16 oed.
Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai camau gorfodi yn cael eu cyfeirio at y busnes sy’n gyfrifol am y gwerthiant. Byddai hyn yn cynnwys manwerthwyr sy’n gweithredu o fangreoedd ffisegol a manwerthwyr ar-lein.
Byddai manwerthwyr yn gyfrifol am gymryd camau rhesymol i atal gwerthiant i blant o dan 16 oed.
Ni fyddai’r rheoliadau yn rhagnodi dull gwirio oedran penodol.
Byddai busnesau yn gallu mabwysiadu trefniadau sydd, yn eu tyb nhw, yn gymesur ac yn briodol i’w model gwerthu. Gallai enghreifftiau o gamau rhesymol:
- gynnwys gweithredu polisi Her 25
- gofyn am gerdyn adnabod ffotograffig cydnabyddedig pan fo amheuaeth am oedran
- defnyddio systemau sicrhau oedran electronig priodol
Gan gydnabod pryderon am yr her ymarferol o ddilysu oedran ar gyfer gwerthiannau ar-lein, rydym ni’n ceisio barn bellach ar hyn, fel y nodir isod.
Ar gyfer peiriannau gwerthu, cynigiwn y byddai’r person sydd â rheolaeth dros, neu sy’n rheoli, y fangre lle mae’r peiriant wedi’i leoli yn atebol, yn unol ag atebolrwydd mewn perthynas â gwerthu tybaco mewn peiriannau gwerthu yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig darparu amddiffyniad lle gall person ddangos ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i atal y drosedd rhag digwydd.
Gwirio oedran ar gyfer gwerthiannau ar-lein
Byddai gwerthiannau diodydd egni ar-lein yn ddarostyngedig i’r un cyfyngiad oedran â gwerthiannau mewn mangreoedd ffisegol.
Fodd bynnag, roedd ymatebion i ymgynghoriad 2022 yn lleisio pryderon y gallai sefydlu systemau gwirio oedran ar gyfer danfoniadau ar-lein yng Nghymru fod yn anodd.
Rydym ni’n gwahodd barn bellach ar sut y dylai hyn weithio yn ymarferol, gan gynnwys a ddylid cynnal trefniadau dilysu oedran yn y pwynt gwerthu neu’r pwynt dosbarthu.
Gweithredu a monitro
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfnod gweithredu o chwe mis rhwng y rheoliadau yn cael eu gwneud a’r rheoliadau’n dod i rym.
Mae cyfnod gweithredu o chwe mis yn cael ei gynnig i gydbwyso’r angen i wireddu manteision iechyd y cyhoedd y cyfyngiad heb oedi diangen yn erbyn yr amser sydd ei angen i fusnesau ac awdurdodau gorfodi baratoi.
Er bod rhai manwerthwyr eisoes yn gweithredu cyfyngiadau oedran gwirfoddol, mae’n bosibl y bydd angen i eraill gyflwyno neu ddiweddaru:
- prosesau gwirio oedran
- hyfforddiant staff
- systemau ar-lein
- threfniadau contractiol
Byddai angen amser ar awdurdodau lleol hefyd i baratoi canllawiau a threfniadau gorfodi.
Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i asesu a yw 6 mis yn ddigonol ac yn gymesur ar gyfer busnesau o wahanol feintiau a modelau gweithredu.
Bydd y cyfnod gweithredu terfynol a’r dyddiadau i waharddiad ddod i rym yn cael eu llywio gan yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a’r amserlen ddeddfwriaethol a ragwelir.
Yn unol ag adran 67 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, bydd gofyn hefyd i Lywodraeth Cymru adolygu’r defnydd o bwerau’r ddeddf i orfodi’r polisi cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl 3 blynedd i’r cyfyngiad ddod i rym.
Mae’r Ddeddf honno hefyd yn darparu ar gyfer rhai gofynion ychwanegol i’r rheoleiddiwr.
Byddai’n ofynnol i awdurdodau lleol baratoi canllawiau, a’u hadolygu lle bo hynny’n briodol, am y cosbau ariannol penodedig newydd a sut y byddant yn cael eu defnyddio i orfodi trosedd.
Bydd hyn yn cynnwys materion fel:
- gwybodaeth am yr amgylchiadau pan fo cosb yn debygol, neu ddim yn debygol, o gael ei gosod
- sut i ryddhau atebolrwydd am y gosb ac effaith hynny
- hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, neu i apelio
Rhaid cyhoeddi’r canllawiau a byddai’n ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw iddynt.
Cyn cyhoeddi neu adolygu canllawiau, bydd angen i awdurdodau lleol ymgynghori â sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol gan y canllawiau ac unrhyw bersonau eraill y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol.
Byddai angen i awdurdodau lleol hefyd gyhoeddi adroddiadau sy’n nodi unrhyw achosion lle mae atebolrwydd wedi’i ryddhau ar gyfradd ostyngedig yn dilyn hysbysiad o fwriad a lle mae hysbysiad terfynol wedi’i gyhoeddi i bennu cosb ariannol benodedig.
Pan fo apêl i’r tribiwnlys haen gyntaf wedi bod yn llwyddiannus a bod y gosb yn cael ei diddymu, ni fyddai angen cyhoeddi’r achos.
Efallai y bydd rhai amgylchiadau lle gallai fod yn amhriodol i awdurdodau lleol gyhoeddi manylion yr achosion hyn. Rydym ni’n croesawu barn ar ba amgylchiadau y gallai’r rheiny fod, os o gwbl.
Asesiadau Effaith
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn diweddaru ei Hasesiad Effaith Rheoleiddiol ac Asesiadau Effaith Integredig.
Drwy’r ymgynghoriad hwn, rydym ni’n ceisio tystiolaeth ar gostau untro a pharhaus tebygol gweithredu, effeithiau posibl ar fusnesau bach a gwledig, capasiti gorfodi, manwerthu ar-lein, cydraddoldeb, hawliau plant, y Gymraeg a’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Ydych chi’n cytuno mai swyddogion bwyd awdurdodau lleol ddylai weithredu fel awdurdodau gorfodi at ddibenion y ddeddfwriaeth arfaethedig?
Cwestiwn 2
A ddylid diwygio’r ddeddfwriaeth gwyliadwriaeth berthnasol er mwyn i awdurdodau lleol Cymru allu defnyddio dulliau pryniannau prawf sydd wedi’u hawdurdodi’n briodol ar gyfer y drosedd hon?
Cwestiwn 3
Pa ddulliau dilysu oedran neu sicrhau oedran y mae busnesau yn eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer gwerthu ar-lein, a pha ganllawiau neu gymorth fyddai’n helpu busnesau i gydymffurfio â’r cyfyngiad arfaethedig?
Cwestiwn 4
A oes unrhyw heriau penodol ynghlwm wrth weithredu’r cyfyngiad arfaethedig mewn perthynas â gwerthiannau ar-lein? Os felly, sut mae mynd i’r afael â nhw?
Cwestiwn 5
Ydych chi’n cytuno y dylai cosbau ariannol penodedig fod ar gael fel dewis amgen i erlyn mewn achosion priodol?
Cwestiwn 6
Ydych chi’n cytuno â’r symiau cosb arfaethedig o £1,500 i unigolion, microfusnesau a busnesau bach, a £2,500 i fusnesau canolig a mawr?
Cwestiwn 7
Os ydych chi’n anghytuno ag unrhyw un o’r symiau arfaethedig, pa swm arall fyddai’n gymesur a pham?
Cwestiwn 8
Ydych chi’n cytuno y dylai’r sawl sy’n derbyn cosb gael 28 diwrnod ar ôl hysbysiad o fwriad i ryddhau atebolrwydd ar 50% o’r gosb neu i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau?
Cwestiwn 9
Ydych chi’n cytuno y dylai’r sawl sy’n derbyn cosb gael 28 diwrnod i dalu neu apelio yn erbyn hysbysiad terfynol, ac y dylai cosb sydd heb ei thalu a heb ei hapelio gynyddu 50% bryd hynny?
Cwestiwn 10
Ydych chi’n cytuno y dylai erlyniad barhau i fod ar gael ar gyfer achosion difrifol, bwriadol neu gyson o dorri’r cyfyngiad?
Cwestiwn 11
A oes amgylchiadau lle na ddylid gofyn i awdurdod lleol gyhoeddi manylion achos lle mae atebolrwydd wedi’i ryddhau neu gosb ariannol benodedig wedi’i phennu? Esboniwch beth yw’r amgylchiadau hynny a pham y byddai cyhoeddi yn amhriodol.
Cwestiwn 12
Ydych chi’n cytuno y dylai amddiffyniad fod ar gael lle mae’r holl ragofalon rhesymol a diwydrwydd dyladwy amlwg wedi digwydd?
Cwestiwn 13
A yw cyfnod gweithredu o chwe mis yn briodol?
Cwestiwn 14
Pa gostau untro neu gylchol ac effeithiau gweithredol fyddai’r cynigion yn eu creu i fusnesau, gan gynnwys busnesau bach, busnesau gwledig a busnesau ar-lein?
Cwestiwn 15
Pa gostau, anghenion o ran adnoddau neu effeithiau gweithredol fyddai’r cynigion yn eu creu ar gyfer awdurdodau gorfodi?
Cwestiwn 16
Pa effeithiau allai’r cynigion eu cael ar bobl â nodweddion gwarchodedig, hawliau plant, anghydraddoldebau iechyd neu bobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lliniaru’r effeithiau negyddol?
Cwestiwn 17
Pa effeithiau allai’r cynigion eu cael ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lleihau’r effeithiau negyddol?
Cwestiwn 18
A oes gennych chi unrhyw dystiolaeth neu sylwadau eraill ynglŷn â’r trefniadau gorfodi a gweithredu arfaethedig?
Cwestiwn 19
Ydych chi’n ystyried y byddai angen canllawiau neu ddeunyddiau cymorth ychwanegol i gefnogi gweithredu’r cyfyngiad? Os oes, beth ddylent ei gwmpasu?
Cwestiwn 20
Ydych chi’n cytuno y dylai’r cyfrifoldeb am gydymffurfio o ran gwerthiannau peiriannau gwerthu gael ei ysgwyddo gan y person neu’r busnes sy’n gweithredu neu’n rheoli’r peiriant neu’r fangre?
Cwestiwn 21
Pa ddangosyddion ddylai Llywodraeth Cymru eu monitro ar ôl gweithredu i asesu effeithiolrwydd y cyfyngiad a nodi unrhyw ganlyniadau anfwriadol?
Sut i ymateb
Ymatebwch erbyn 17th Rhagfyr 2026 gan ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:
- Cwblhewch y ffurflen ymateb ar-lein:
- Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen ymateb, yna anfonwch hi drwy e-bost i YGangenPenderfynyddionIechydEhangach@llyw.cymru.
- Postiwch y ffurflen ymateb i:
Y Gangen Penderfynyddion Iechyd Ehangach
Y Gyfarwyddiaeth Iechyd y Cyhoedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ.
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG55312
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
