Neidio i'r prif gynnwys

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi taliad ynni o £100 i aelwydydd ym mandiau A i D y dreth gyngor yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cynllun a gynlluniwyd

Disgwylir i tua miliwn o aelwydydd elwa o'r cynllun, a fydd yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â’r awdurdodau lleol.

Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, gan gynnwys y trefniadau o ran pwy sy’n gymwys i gael y taliad a sut bydd yn cael ei dalu.

Cynghorir pobl i fod yn wyliadwrus o sgamiau posibl. Dylent ddibynnu ar wybodaeth sy’n cael ei darparu drwy sianeli swyddogol Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn unig.