Neidio i'r prif gynnwys

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi taliad ynni o £100 i aelwydydd ym mandiau A i D y dreth gyngor yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cynllun a gynlluniwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynorthwyo aelwydydd â'r pwysau costau byw parhaus sy'n wynebu cymunedau ledled Cymru, a hynny drwy gyhoeddi cyflwyno Cynllun Taliadau Ynni i Aelwydydd i helpu aelwydydd â chostau ynni sy'n cynyddu.

O dan y Cynllun, bydd aelwydydd ym mandiau treth gyngor A i D yn gymwys i gael taliad gwerth £100. Yn ogystal, bydd pob aelwyd sy'n cael cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a chartrefi sydd wedi’u haddasu sy’n cael gostyngiad band i bobl anabl, yn gymwys i gael y taliad, ni waeth ym mha fand treth gyngor y mae'r eiddo. Bydd tua miliwn o aelwydydd, sef oddeutu 73% o'r aelwydydd yng Nghymru, yn elwa ar y cymorth hwn. 

Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gan dynnu ar ddata'r dreth gyngor ac arbenigedd llywodraeth leol i ddarparu'r cymorth o fis Ionawr 2027 ymlaen. Ochr yn ochr â'r prif gynllun, byddwn hefyd yn sefydlu cronfa ddewisol fach ar gyfer awdurdodau lleol. Bydd y gronfa hon yn helpu rhai aelwydydd nad ydynt efallai yn bodloni'r prif feini prawf cymhwystra, yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol. Ariennir y cynllun yn llawn gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyllid ychwanegol i dalu costau gweinyddu awdurdodau lleol.

Bydd rhagor o wybodaeth am gymhwystra a gweithrediad y cynllun yn cael ei chyhoeddi maes o law. Os ydych chi'n talu eich treth gyngor drwy ddebyd uniongyrchol, nid oes angen ichi wneud dim.

Cynghorir aelwydydd i barhau i fod yn effro i sgamiau sy'n dod i'r amlwg ac i ddibynnu dim ond ar wybodaeth a ddarperir drwy sianeli swyddogol Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.