Neidio i'r prif gynnwys

Cefnogi datblygiad gweithwyr proffesiynol caffael: ceisiadau ar gyfer Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol CIPS 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol y CIPS yn rhaglen arloesol sy'n rhan o raglen galluogrwydd Llywodraeth Cymru. Ei nod yw darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol i staff, gan gefnogi gweithwyr proffesiynol caffael y dyfodol, gyda'r nod o leihau'r problemau capasiti a wynebir ar draws y proffesiwn a chodi proffil caffael yng Nghymru.

Hyd yn hyn, mae dros 330 o leoedd ar y Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, gan helpu gweithwyr proffesiynol caffael i ddatblygu eu sgiliau a chyfrannu at uchelgeisiau Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS).

Beth yw Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol y CIPS?

Mae Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol y CIPS wedi'i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol caffael sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a symud ymlaen tuag at aelodaeth lawn MCIPS. Mae'n rhaglen ddysgu fodiwlaidd a chymhwysol sy’n seiliedig ar waith, sy'n cynnig llwybr cyflym i MCIPS trwy ddwy lefel astudio.

Ar hyn o bryd mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno'n rhithwir, gyda darlithoedd byw trwy Microsoft Teams, gan roi'r hyblygrwydd i ddysgwyr gydbwyso eu datblygiad proffesiynol ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith ac ymrwymiadau eraill.

Er mwyn eich helpu i ddeall y rhaglen ac asesu ei haddasrwydd, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau sy’n nodi’r amrywiaeth o lwybrau sydd ar gael yng Nghymru i gyflawni MCIPS. Ochr yn ochr â’r canllawiau hyn, mae’r trosolwg byr isod yn cyflwyno Rhaglen Ymarferydd Dyfarniad Corfforaethol y CIPS.

Rhaglen Ymarferydd - Dyfarniad Corfforaethol y CIPS

Mae'r lefel hon yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a defnydd ymarferol dysgwyr o egwyddorion caffael hanfodol ac yn darparu llwybr i aelodaeth Diploma CIPS. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nhaflen gynnyrch Rhaglen Ymarferydd Dyfarniad Corfforaethol y CIPS.

Rhaglen Ymarferydd Uwch - Dyfarniad Corfforaethol y CIPS

Mae'r rhaglen Ymarferydd Uwch yn meithrin proffesiynoldeb ym maes caffael, yn helpu i sicrhau mwy o werth sefydliadol ac yn lleihau risg. Mae hefyd yn llwybr i gyflawni MCIPS.

Mae'r asesiad yn seiliedig ar aseiniad ac mae angen prosiect 10,000 o eiriau ar ddiwedd y cwrs Ymarferydd Uwch.  Mae'r prosiect yn rhoi cyfle i ddysgwyr gymhwyso eu dysgu i angen busnes go iawn, gan roi manteision ymarferol i'w sefydliad.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am statws MCIPS, ar ôl dangos tystiolaeth o'r nifer dymunol o flynyddoedd o brofiad caffael sy'n ofynnol.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn ymuno â'r lefel hon ddangos eu bod eisoes wedi cwblhau Diploma L4 y CIPS neu raglen dyfarniad corfforaethol ymarferydd y CIPS neu wedi llwyddo yn asesiad cymhwysedd y CIPS wrth iddynt wneud cais am y cwrs Ymarferydd Uwch.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen Dyfarniad Corfforaethol ar gael yn y ddogfen Cwestiynau Cyffredin. I gael rhagor o wybodaeth am lefel y rhaglen, ewch i dudalennau Rhaglen Ymarferydd Uwch Dyfarniad Corfforaethol y CIPS.

Sesiwn Trosolwg y CIPS

Cyn cyflwyno cais ffurfiol bydd gofyn i ddarpar fyfyrwyr wylio gweminar trosolwg ar-lein wedi'i recordio ymlaen llaw a gynhelir gan y CIPS a fydd yn rhoi trosolwg o'r rhaglen i fyfyrwyr a chyflogwyr a'r ymrwymiadau a ddisgwylir ohonoch wrth ichi gymryd rhan yn y rhaglen. Bydd Cytundeb Dysgu’n cael ei weithredu trwy'r broses ymgeisio i ddiogelu buddsoddiad Llywodraeth Cymru.

Sut i wneud cais

Ymunwch â chylchlythyr Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru yma. Bydd rhagor o fanylion am sut i wneud cais yn cael eu rhannu yn y cylchlythyr.

Fel arall, anfonwch e-bost at GalluMasnachol@llyw.cymru am becyn cais.

Dogfennau

Cwestiynau cyffredin

Datblygu gweithwyr proffesiynol ar gyfer dyfodol caffael Cymru

Hysbysiad Preifatrwydd Gwobr Gorfforaethol y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi

Dyfodol Dyfarniad Corfforaethol y CIPS

Mae adolygiad annibynnol o Ddyfarniad Corfforaethol y CIPS wedi dod i ben. Er na fydd hyn yn effeithio ar ddysgwyr presennol neu ddysgwyr sydd wedi'u cymeradwyo i ddechrau'r rhaglen hon, ni fydd unrhyw sicrwydd o gyllid yn y dyfodol gan y gallai'r rhaglen newid.