Neidio i'r prif gynnwy

Manylion

Rhif: LlC46419

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2023

Camau i’w cymryd: Ymatebion erbyn 17 Ebrill 2023

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn am ddiwygiadau pellach drafft i ganllawiau cynllunio mewn perthynas â llifogydd ac erydu arfordirol. Cynhaliwyd ymgynghoriad blaenorol rhwng 9 Hydref 2019 ac 17 Ionawr 2020 - mae manylion ar gael ar ein gwefan:

Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol

Pan gyhoeddir y fersiwn derfynol, bydd y TAN 15 diwygiedig yn disodli Nodyn Cyngor Technegol 14, a gyhoeddwyd ym 1998, a Nodyn Cyngor Technegol 15, a gyhoeddwyd yn 2004.

Sut i ymateb

Ymatebwch i'r ymgynghoriad hwn drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb. Gellir cyflwyno ymatebion mewn nifer o ffyrdd:

Ar-lein: Diwygiadau pellach i Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol

E-bost: planconsultations-j@llyw.cymru

Post:

Ymgynghoriad TAN 15,
Y Gangen Polisi Cynllunio,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd
CF10 3NQ

Wrth ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu'n cynrychioli barn sefydliad.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau perthnasol

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Mae'r TAN 15 diwygiedig ar gael fel atodiad i'r ddogfen hon. 

Mae'r ymgynghoriad hwn a'r ymgynghoriad blaenorol wedi'u llywio gan y Strategaeth Genedlaethol ddrafft ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, sydd ar gael ar ein gwefan: 

Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth:
Y Gangen Polisi Cynllunio
Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: planconsultations-j@llyw.cymru

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd:

Further amendments to Technical Advice Note (TAN) 15: Development, flooding and coastal erosion

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i Gais am Dystiolaeth, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod y Cais am Dystiolaeth wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn hefyd. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych chi’n dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Yna byddwn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r Cais am Dystiolaeth, yna caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch, a’u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. 

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), gweler y manylion cyswllt isod. 
 
Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
 
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 
0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

1. Beth yw TAN 15?

1.1 Dogfennau canllaw ar gynllunio defnydd tir a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyngor ac arweiniad ymarferol ar feysydd polisi a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru yw Nodiadau Cyngor Technegol (TANs). Mae TAN 15 yn canolbwyntio ar ddatblygu a pherygl llifogydd. Cyhoeddwyd y fersiwn bresennol yn 2004 a chynhaliwyd adolygiad o'i heffeithiolrwydd yn 2017. O ganlyniad i'r adolygiad, paratôdd Llywodraeth Cymru ddogfen wedi'i diweddaru a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Hydref 2019 (ar gael ar ein gwefan: Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol). O ganlyniad i faterion a godwyd yn dilyn yr ymgynghoriad blaenorol a chyhoeddi'r TAN diwygiedig, cynigir rhai newidiadau penodol pellach i'r TAN diwygiedig. 

2. Ar beth rydym ni'n ymgynghori?

2.1 Rydym yn ceisio cyflwyno mwy o hyblygrwydd yn y TAN er mwyn caniatáu adfywio ac ailddatblygu priodol. Rhaid sicrhau cydbwysedd gofalus rhwng yr angen i adfywio ein trefi a'n dinasoedd a chydnabod y bygythiad a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd.  Nid ydym yn ail-ymgynghori ar egwyddorion sylfaenol y TAN a gyhoeddwyd y llynedd sy'n ceisio sicrhau na ddylai fod unrhyw risg annerbyniol i fywyd yn deillio o ddatblygiad newydd a'r ffaith bod rhaid i amcanestyniadau ynghylch y newid yn yr hinsawdd fod yn rhan o'n meddylfryd yn y dyfodol. 

2.2     Rhoddir ystyriaeth fanylach i'r materion sy'n ymwneud â'r system a arweinir gan gynllun a'r cyfiawnhad dros ddatblygu. Mae'r TAN wedi'i ailstrwythuro mewn mannau, ond mae'r prif newidiadau sydd wedi'u gwneud i'w cael yn adrannau 7 a 10 o'r ddogfen.

2.3     Mae'r newidiadau arfaethedig wedi'u cynnwys yn y fersiwn o TAN 15 rydym bellach yn ymgynghori arni. Mae'r cynigion hyn fel a ganlyn:

  • Cydnabyddiaeth gliriach nad yw gweithgareddau ailddatblygu ac adfywio priodol yn anghydnaws ag egwyddorion cyffredinol y TAN sy'n ceisio osgoi gosod datblygiadau dan fygythiad mawr yn yr ardaloedd risg uchaf;
  • Cyflwyno mwy o hyblygrwydd o ran datblygiadau sydd dan lai o fygythiad er mwyn hwyluso darpariaeth seilwaith angenrheidiol;
  • Cydnabyddiaeth y gall safleoedd presennol mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd gael eu hailddatblygu os yw’r gwaith yn cael ei gynllunio'n ofalus ac yn cynnwys mesurau lliniaru priodol;
  • Y gofyniad i gynhyrchu Cynlluniau Addasu a Gwydnwch Cymunedol (CARPs) ar gyfer unrhyw gynllun adfywio strategol. Byddai CARPs yn ystyried ac yn nodi piblinell briodol o fesurau amddiffyn rhag llifogydd i ddiogelu'r ardal a gwmpesir gan y cynllun adfywio, yn ogystal â mesurau lliniaru angenrheidiol;
  • Adran ddiwygiedig ar gyfiawnhau datblygiadau mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd sy'n llywio datblygiadau newydd i ffwrdd o safleoedd maes glas mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd; ac 
  • Eglurhad y gall ailddatblygu sy'n arwain at ddatblygiad sydd dan fygythiad mawr fwrw ymlaen yn ofalus, ond y bydd angen iddo ddangos yn glir y gallu i wrthsefyll perygl llifogydd.

3. Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno bod y fersiwn ddiwygiedig o TAN 15 yn ei gwneud hi'n ddigon clir pryd y gall gweithgareddau ailddatblygu ac adfywio priodol fod yn dderbyniol? 

Cwestiwn 2: Mae'r TAN diwygiedig yn ceisio sicrhau bod newid hinsawdd a pherygl llifogydd yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau cynllunio, a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud pan fo'r risgiau cysylltiedig yn hysbys. Ydych chi'n cytuno bod y TAN yn gwneud hyn?

Cwestiwn 3: Wrth geisio caniatáu adfywio strategol, mae'r TAN yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol baratoi Cynlluniau Addasu a Gwydnwch Cymunedol yn amlinellu sut y maent yn bwriadu sicrhau bod amddiffynfeydd llifogydd digonol yn cael eu hadeiladu a sut y bydd mesurau gwydnwch eraill yn cael eu hymgorffori. Ydych chi'n cytuno bod angen gofyniad o'r fath?

Cwestiwn 4: Mae rhywfaint o seilwaith yn hanfodol ar gyfer lles economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol. Mae adran newydd ar seilwaith hanfodol wedi'i chynnwys yn y TAN diwygiedig. Ydych chi'n cytuno bod yr adran yn angenrheidiol a'i bod yn glir?

Cwestiwn 5: Hoffem glywed eich barn ynglŷn â'r effaith y byddai'r TAN diwygiedig yn ei chael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

  • Beth fyddai’r effeithiau yn eich tyb chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?
  • Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r gwelliannau arfaethedig i'r TAN gael eu llunio neu eu newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac 
  • er mwyn sicrhau na fydd effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 6: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. A oes unrhyw faterion cysylltiedig eraill nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw yn benodol?

4. Beth yw'r camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad?

4.1 Caiff yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad hwn eu dadansoddi a'u hystyried a bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn gwneud penderfyniad ynghylch gweithredu'r newidiadau arfaethedig i TAN 15 ai peidio.