Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd heintus mewn ceirw yw Nychdod Cronig. Mae'n glefyd hysbysadwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Nychod Cronig yn fath o Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE). Nid oes unrhyw achos erioed wedi bod yn y DU.

Amheuon a chadarnhad

Os ydych chi'n amau achos o nychdod cronig yn eich anifeiliaid chi, neu mewn ceirw gwyllt, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.

Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio achosion tybiedig.

Arwyddion clinigol

Dylech chwilio am arwyddion fel:

  • colli pwysau
  • yfed a throethi gormodol
  • newidiadau mewn ymddygiad gan gynnwys iselder a gwahanu oddi wrth geirw eraill
  • glafoeri'n ormodol a llifanu dannedd
  • anhawster i gydsymud

Trosglwyddo, atal a thriniaeth

Gall nychdod cronig gael ei drosglwyddo un ai:

  • yn uniongyrchol (i geirw ifanc)
  • yn anuniongyrchol drwy amgylchedd, cyfarpar a dillad halogedig

Er mwyn atal y clefyd dylech wneud y canlynol:

  • dilyn arferion bioddiogelwch da ar eich safle
  • peidio â rhoi protein anifeiliaid na phrotein anifeiliaid wedi’i brosesu i anifeiliaid cnoi cil, gan gynnwys ceirw

Nid oes modd trin Nychdod Cronig. Os bydd milfeddyg yn amau bod Nychdod Cronig ar eich anifail bydd yn rhaid i'r anifail gael ei ladd er mwyn sicrhau nad yw'r clefyd yn lledu. Bydd samplau o ymennydd yr anifail yn cael eu hanfon i'w harchwilio ar ôl iddo gael ei ladd.