NYTH/NEST ar waith: podlediadau
Cyfres o bodlediadau lle mae gwesteion o bob cwr o Gymru ac o wahanol broffesiynau yn siarad am ddefnyddio’r fframwaith NYTH/NEST i gefnogi iechyd meddwl a llesiant babanod, plant a phobl ifanc. Mae modd chwilio am y podlediadau ar blatfformau podlediadau arferol.
Ar y dudalen hon
These podcasts are searchable in normal podcast platforms.
NYTH ar Waith - Gwasanaethau Plant Awdurdod Lleol a Phartneriaeth Ranbarthol
Mae gwasanaethau plant ym Merthyr Tudful a Phartneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg yn trafod sut maent wedi defnyddio offeryn hunanasesu NYTH/NEST a fframwaith NYTH/NEST i ddathlu cyflawniadau, nodi cryfderau a datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer gwelliant.
Dysgwch mwy am NYTH/NEST:
Diabetes Math 1 a Chymorth Seicolegol
Mae tîm diabetes Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru yn trafod effeithiolrwydd darparu cymorth iechyd meddwl ac iechyd corfforol gyda'i gilydd, gan sicrhau mynediad hawdd at arbenigedd seicolegol i gleifion ac aelodau staff mewn clinig Diabetes Math 1 i oedolion ifanc.
Rydym hefyd yn clywed gan oedolyn ifanc a gafodd gymorth gan y clinig ac am yr effaith gadarnhaol a gafodd y dull integredig hwn ar ei hiechyd meddwl a'i llesiant.
Dysgwch mwy am NYTH/NEST:
Y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Dechrau'n Deg
Mae arweinydd Dechrau'n Deg ym Mhowys a lleoliad gofal plant blynyddoedd cynnar yn trafod sut maent wedi defnyddio fframwaith ac offeryn hunanasesu NYTH/NEST i gydnabod arfer da, cefnogi staff i fyfyrio ar eu gwaith a nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant.
Dysgwch mwy am NYTH/NEST:
Gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma ac ymlyniad
Mae Gwasanaeth Ymlyniad Gwent yn trafod sut maent yn gweithio gyda gwasanaethau a'r system ehangach i gynyddu dealltwriaeth o ymlyniad a chefnogi staff a gwasanaethau ar draws sectorau i weithio mewn ffyrdd sy'n ystyriol o drawma ac ymlyniad.
Dysgwch mwy am NYTH/NEST:
Perthnasoedd Rhiant-Baban ac Iechyd Meddwl Babanod
Yn y bennod hon, rydym yn archwilio perthnasoedd rhiant-baban ac iechyd meddwl babanod. Rydym yn tynnu sylw at waith Parents Plus, elusen sy'n defnyddio dulliau seicolegol i gefnogi rhieni, gofalwyr a phlant ifanc, ynghyd â'r Gwasanaeth Teuluoedd Meithringar yng Nghwm Taf Morgannwg, sy'n arwain tîm arbenigol rhiant-baban ac yn darparu cymorth therapiwtig i'r babanod sydd fwyaf agored i drawma cynnar ledled y rhanbarth.
Dysgwch mwy am NYTH/NEST:
- Fframwaith NYTH (iechyd meddwl a lles): cyflwyniad | LLYW.CYMRU
- Offeryn hunanasesu a gweithredu NYTH | LLYW.CYMRU
- https://parentinfantfoundation.org.uk/our-work/what-we-do/bear/
- https://www.brazelton.co.uk/
- Gwasanaeth Rhianta a Chwarae Caerdydd ~ Cardiff Parenting & Play Service
- Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd
- Magu Plant. Rhowch amser iddo | LLYW.CYMRU
- Llyfr Bach y Teimladau | LLYW.CYMRU
- Llyfr Mawr Teimladau | LLYW.CYMRU
Llais Pobl Ifanc a Hawliau Plant
Mae Comisiynydd Plant Cymru ac arweinwyr iechyd meddwl ifanc o Ogledd Cymru yn trafod hawliau plant, llais ac ymgysylltiad pobl ifanc, a'r hyn y mae pobl ifanc yn ei ddweud wrthym am gymorth iechyd meddwl a llesiant.
Dysgwch mwy am NYTH/NEST:
- Fframwaith NYTH (iechyd meddwl a lles): cyflwyniad | LLYW.CYMRU
- Offeryn hunanasesu a gweithredu NYTH | LLYW.CYMRU
- Meddwl Ymlaen / Mind Our Future | Barnardo's / Mind Our Future
- Hafan - Children’s Commissioner for Wales
- Senedd Ieuenctid Cymru
- The Lundy Model: Article 12 in Practice - Rights Respecting Schools Award
- Cymru Ifanc | Plant yng Nghymru
