Neidio i'r prif gynnwy

Gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r Grant Plant a Chymunedau i gefnogi anghenion y bobl fwyaf agored i niwed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nodau ac amcanion strategol

Mae'r Grant Plant a Chymunedau yn helpu i gefnogi babanod, plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'n darparu gwasanaethau cymorth cynnar ac atal. Ei nod yw lleihau anfantais a rhoi'r un cyfleoedd i bawb.

Mae'r Grant Plant a Chymunedau yn cyfuno sawl rhaglen a arferai fod ar wahân yn un ffrwd gyllid.

Mae pum amcan cyffredinol i'r Grant, sef:

  • rhoi mwy o ymreolaeth ynghylch y ffordd y darperir gwasanaethau, yn enwedig mewn perthynas â chynllunio a chomisiynu ar y cyd
  • rhoi mwy o ryddid a hyblygrwydd ariannol er mwyn galluogi awdurdodau lleol i weithio'n wahanol
  • galluogi awdurdodau lleol i gynllunio'n strategol ac yn gyfannol
  • ei gwneud yn bosibl i wasanaethau gael eu hailgynllunio
  • lleihau biwrocratiaeth ddiangen

Rhaglenni o fewn y grant

Mae'r cyllid ar gyfer 2025 i 2026 yn seiliedig ar yr wyth rhaglen ganlynol:

  • Teuluoedd yn Gyntaf
  • Dechrau’n Deg
  • Gofal Plant a Chwarae (gan gynnwys Hyfforddiant a Chymorth)
  • Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol Ymhlith Pobl Ifanc sydd mewn Perygl o Droseddu
  • Cronfa Dydd Gŵyl Dewi
  • Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu allan i'r Llys
  • Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae
  • Cymorth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Rhianta

Mae pob rhaglen yn cadw ei hamcanion craidd a'i brandio. Mae egwyddorion cyllido hyblyg y Grant yn galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio eu gwybodaeth leol i gynllunio a rheoli gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yn eu hardaloedd.

Yr unig eithriad yw bod y cyllid ar gyfer ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar drwy Dechrau’n Deg (Cam 3 ar hyn o bryd) wedi'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau penodol yn ymwneud â’r gwaith ehangu, ac nid yw hwnnw'n elwa ar yr hyblygrwydd a gynigir fel rhan o’r Grant.

Enghreifftiau o Ymarfer

Anogir awdurdodau lleol i rannu enghreifftiau o ymarfer, sydd i'w gweld ar dudalen Ffocws y Grant Plant a Chymunedau ar ExChange Cymru.