Neidio i'r prif gynnwy

Mae 13 o stiwdios a chwmnïau gemau yng Nghymru ar eu ffordd i 40fed Gŵyl Gemau GDC, prif gyfarfod byd-eang blynyddol y diwydiant gemau, yn San Francisco, Califfornia.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Disgwylir i 30,000 o bobl ddod i GDC eleni, gan gynnwys datblygwyr gemau fydd yn ceisio ennyn sylw, cefnogaeth a chyhoeddusrwydd.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Masnach a Buddsoddi, bydd stondin arddangosfa drawiadol Cymru yn lle i'r cwmnïau gynnal arddangosiadau byw o'u prosiectau diweddaraf, cwrdd â phrif gwmnïau'r byd ac estyn eu rhwydweithiau, gan greu cysylltiadau rhyngwladol cryf a allai sbarduno cyfleoedd mewnfuddsoddi mawr i Gymru.

Un o lwyddiannau mwyaf y daith fasnach yw'r Rocket Science Group. Penderfynodd y cwmni, sydd hefyd â safleoedd yn Efrog Newydd a Texas, sefydlu ei ganolfan yn y DU yng Nghymru ar ôl cwrdd ag aelodau o dîm Cymru Greadigol yn GDC 2022.

O fewn 12 mis, roedd eu swyddfa yng Nghaerdydd yn cyflogi 50+ o bobl greadigol, yn Gymry a phobl sy'n gweithio yng Nghymru, gan ganiatáu i'r cwmni ychwanegu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, a dyblu ei refeniw.

Mae rhai o stiwdios a chwmnïau gorau Cymru, gan gynnwys Breaking Change, COPA Gaming, Delta V a Dragon Scale Studios yn rhan o'r daith eleni.

Bydd Dragon Scale Studios hefyd yn ymuno i arddangos yr IP diweddaraf y maen nhw'n ei ddatblygu: Snuggly Tails, stori antur wedi'i chynllunio i rieni a phlant gyd-chwarae â'i gilydd.

Dywedodd Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr y Stiwdio, Jan Pelka:

Rydyn ni'n hapus iawn ein bod yn mynd yn ôl i GDC eleni! Mae bob amser yn gyfle anhygoel i ddangos ein prototeip diweddaraf i gynulleidfa ehangach o weithwyr proffesiynol y diwydiant, ac i dreulio amser yn cysylltu â chyd-ddatblygwyr, cyhoeddwyr, a chydweithwyr o bob rhan o'r diwydiant gemau.

Mae teithiau masnach fel hyn yn hynod werthfawr i stiwdios llai. Maen nhw'n ffordd i fusnesau newydd fynd i ddigwyddiadau rhyngwladol mawr a allai fod yn anodd iddynt fel arall, ac maen nhw'n cynnig cefnogaeth, amlygrwydd, a rhwydwaith cryf. Mae'r garfan Gymreig yn arbennig yn aml yn dod yn grŵp o ffrindiau agos o fewn y diwydiant, ac mae'r berthynas sy'n cael ei ffurfio yn ystod y teithiau hyn yn aml yr un mor werthfawr â'r cyfarfodydd a'r gynhadledd eu hunain.

Mae digwyddiadau fel GDC yn rhoi cyfle hefyd i stiwdios fel ein hun ni i  atgoffa pobl ein bod ni'n fyw iawn, yn egnïol, ac yn parhau i wneud pethau cŵl a phwerus!

Mae'r sector Gemau yn sector creadigol ffyniannus yng Nghymru, ac ymhlith llwyddiannau mawr y blynyddoedd diwethaf y mae llwyddiant Sker Ritual gan Wales Interactive ar siartiau Steam a phartneriaeth hirdymor Sugar Creative o Gaerdydd i greu deunydd ar gyfer Ubisoft.

Dywedir bod marchnad gemau'r DU yn werth tua £7.82 biliwn yn 2023 a thua £352 biliwn yn fyd-eang. Mae Cymru Greadigol wedi rhoi cymorth uniongyrchol i 77 o gwmnïau digidol, gan gynnwys gemau, animeiddio a stiwdios technoleg ymgolli.

Dywedodd Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant:

Mae'r daith fasnach hon yn erfyn pwysig sy'n rhoi cyfle i'n pobl greadigol dalentog rannu Eiddo Deallusol newydd, ennyn cysylltiadau, rhannu syniadau, creu partneriaethau parhaol a chyrraedd cynulleidfaoedd ledled y byd i sbarduno twf yma yng Nghymru.

Rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod ein cwmnïau gemau yn cael pob cyfle i dyfu a denu buddsoddiad ac rwy'n falch ein bod drwy Cymru Greadigol yn gallu cynnig y platfform y mae ein diwydiant gemau'n ei haeddu ar lwyfan y byd.