Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar ddyfodol y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yng Nghymru.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar p'un a ddylai cynllun llaeth ysgol pwrpasol barhau, ac os felly, sut y dylai weithredu yn y dyfodol. Mae hefyd yn ceisio barn ar effeithiau posibl rhoi’r gorau i’r cynllun a’r graddau y gallai’r ddarpariaeth bwyd a diod ysgol bresennol barhau i gefnogi mynediad dysgwyr at laeth.

Cefndir

Bu'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol ar waith ers 1977 ac ar hyn o bryd mae'n darparu llaeth am ddim i ddysgwyr o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 a llaeth â chymhorthdal i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 3 i 6. Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig ar ran Gweinidogion Cymru.

Daw'r trefniadau dosbarthu presennol i ben o fis Ebrill 2027 ymlaen. Mae hwn yn gyfle i adolygu'r dull polisi yn y dyfodol ar gyfer darparu llaeth mewn ysgolion.

Ers cyflwyno'r cynllun, mae'r dirwedd bwyd mewn ysgolion yng Nghymru wedi newid yn sylweddol. Mae dysgwyr oedran cynradd bellach yn cael budd o becyn cymorth ehangach, gan gynnwys Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd a darpariaeth brecwast am ddim, a'r cyfan wedi'i ategu gan Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) 2025 a ddiweddarwyd yn ddiweddar.

O ganlyniad, nid yw mynediad at laeth bellach yn dibynnu'n llwyr ar y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol ac mae'r rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion yn ei gwneud yn ofynnol i'r bwyd a'r diod a weinir mewn ysgolion a gynhelir adlewyrchu'r cyngor deietegol diweddaraf. Y brif ystyriaeth yw a oes angen cynllun llaeth ysgol pwrpasol o hyd ochr yn ochr â'r rhaglenni bwyd ysgol ehangach hyn, sy'n cynnig cyfleoedd amgen i gael llaeth drwy gydol y dydd ac sydd wedi'u cynllunio i adlewyrchu'r cyngor deietegol diweddaraf.

Mae'r adolygiad yn gyfle i ystyried rôl darpariaeth llaeth yn y dyfodol o fewn amcanion polisi bwyd ysgolion ehangach, gan gynnwys gwella deiet plant, cefnogi iechyd a llesiant, hyrwyddo ymddygiadau bwyta'n iach a sicrhau dull cydlynol o ddarparu bwyd mewn ysgolion a gynhelir.

Yr hyn rydym yn ymgynghori arno

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried dau opsiwn posibl ar gyfer dyfodol darpariaeth llaeth bwrpasol mewn ysgolion.

Opsiwn 1: Cyflwyno Cynllun Llaeth Ysgol newydd yng Nghymru

Byddai'r opsiwn hwn yn disodli'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol presennol gyda model newydd a ariennir gan grant a ddarperir drwy'r Grant Addysg Awdurdod Lleol, ochr yn ochr â'r broses Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd. Byddai dysgwyr cymwys yn parhau i dderbyn llaeth am ddim neu â chymhorthdal, gan adlewyrchu'r trefniadau presennol yn fras, a byddai'r broses o weinyddu hyn yn cael ei symleiddio gan sicrhau ei bod yn cyd-fynd â rhaglenni bwyd ysgol ehangach.

Byddai'r cynllun yn parhau i wneud y canlynol:

  • gweithredu ar sail galw
  • ariannu cost lawn llaeth i ddysgwyr o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 a rhoi llaeth â chymhorthdal i ddysgwyr Blynyddoedd 3 i 6
  • caniatáu hawliadau am hyd at 250ml fesul disgybl y dydd
  • cadw'r taliad gweinyddu cyfredol o 3c fesul dogn ar gyfer hawliadau Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2, yn amodol ar amodau grant a gofynion tystiolaeth

Gallai newidiadau allweddol gynnwys:

  • cyllid yn cael ei dalu drwy’r Grant Cymorth Awdurdod Lleol, gyda’r awdurdodau lleol fel yr unig lwybr ar gyfer gwneud hawliadau i Lywodraeth Cymru
  • awdurdodau lleol yn penderfynu ar drefniadau cyflenwi gydag ysgolion a chyflenwyr
  • prosesau monitro a sicrwydd yn cael eu darparu drwy amodau grant yn hytrach na phwerau arolygu rheoleiddiol
  • cymhwysedd ysgolion annibynnol yn y dyfodol

Byddai awdurdodau lleol yn gweinyddu'r cyllid drwy broses hawlio a monitro gymesur. Byddai'r cynnig yn dileu'r gallu presennol i ysgolion a chyflenwyr hawlio'n uniongyrchol o'r cynllun. Felly byddai cyfranogiad yn dibynnu ar awdurdodau lleol yn derbyn ac yn gweinyddu'r grant.

Opsiwn 2: Terfynu’r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol

Byddai'r opsiwn hwn yn dod â'r cynllun llaeth pwrpasol i ben. Byddai dysgwyr yn parhau i gael cyfleoedd i gael llaeth drwy'r ddarpariaeth brecwast a chinio ysgol bresennol, er y byddai'n dibynnu ar gyfranogiad yn y gwasanaethau hynny.

Cymhwysedd ysgol annibynnol

Fel rhan o ddatblygu unrhyw gynllun newydd, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried a ddylid cyfyngu cymhwysedd i ysgolion a gynhelir (gan gynnwys ysgolion arbennig a gynhelir), gan sicrhau bod y cynllun yn cyd-fynd â rhaglenni bwyd ysgol eraill Llywodraeth Cymru.

Mae ysgolion annibynnol yn gymwys ar hyn o bryd o dan y trefniadau presennol, er mai dim ond un ysgol annibynnol yng Nghymru y gwyddom amdani sy'n cymryd rhan yn y cynllun. Rydym yn croesawu barn, ac unrhyw effeithiau posibl o drefniadau cymhwysedd yn y dyfodol.

Pam mae eich barn yn bwysig

Rydym am glywed gan ddysgwyr, rhieni a gofalwyr, ysgolion, awdurdodau lleol, cyflenwyr, sefydliadau cynrychioliadol ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn darparu bwyd a diod mewn ysgolion.

Bydd eich ymatebion yn ein helpu i ddeall effeithiau posibl yr opsiynau sy'n cael eu hystyried a byddant yn llywio penderfyniadau ar ddyfodol darpariaeth llaeth ysgol yng Nghymru.

Sut i ymateb

Gallwch gyflwyno eich sylwadau erbyn 04 Ionawr 2027, yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

  • cwblhau ein ffurflen ar-lein
  • lawrlwytho, cwblhau ein ffurflen ymateb a'i hanfon drwy e-bost i: BwydMewnYsgolion@llyw.cymru (cofiwch gynnwys y cyfeirnod WG55260 yn llinell pwnc eich e-bost)
  • lawrlwytho, cwblhau ein ffurflen ymateb a’i hanfon drwy’r post i:

Ymgynghoriad: WG55260
Y Tîm Bwyd mewn Ysgolion
Tegwch mewn Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiynau 1 i 8 ar gyfer pob ymatebydd

Cwestiwn 1

I ba raddau rydych chi'n credu bod y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol presennol yn darparu digon o gyfle i gael llaeth neu ddewisiadau amgen addas yn ystod y diwrnod ysgol?

Cwestiwn 2

Pa fanteision, os o gwbl, rydych chi'n credu fyddai'n deillio o barhau â Chynllun Llaeth Ysgol pwrpasol?

Cwestiwn 3

Pa fanteision, os o gwbl, rydych chi'n credu fyddai'n deillio o ddod â'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol pwrpasol i ben?

Cwestiwn 4

Pe bai'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yn dod i ben, pa mor debygol neu annhebygol yw hi y byddai dysgwyr yn parhau i gael mynediad at laeth trwy'r ddarpariaeth brecwast a chinio bresennol?

Cwestiwn 5

Pa effeithiau, os o gwbl, rydych chi'n credu fyddai'n codi pe byddai'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yn dod i ben?

  • Llai o laeth yn cael ei yfed.
  • Llai o fynediad i rai dysgwyr.
  • Effeithiau ar iechyd a llesiant dysgwyr.
  • Effeithiau ar ddysgwyr difreintiedig.
  • Effeithiau ar ysgolion neu awdurdodau lleol.
  • Effeithiau ar gyflenwyr a'r sector llaeth.
  • Dim effeithiau sylweddol.
  • Arall.

Cwestiwn 6

Pa grwpiau o ddysgwyr, os o gwbl, rydych chi'n credu y byddai dod â'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol i ben yn effeithio fwyaf arnynt?

  • Dysgwyr o aelwydydd incwm isel.
  • Dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
  • Dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
  • Dysgwyr sy'n mynd i ysgolion arbennig.
  • Dysgwyr sy'n dod â phecyn cinio.
  • Dysgwyr nad ydynt yn mynychu clybiau brecwast.
  • Dysgwyr mewn ardaloedd gwledig.
  • Ni fyddai effaith anghymesur ar unrhyw grwpiau penodol.
  • Arall.

Cwestiwn 7

Pa opsiwn sydd orau gennych chi?

  • Parhau â chynllun llaeth ysgol drwy fodel newydd a ariennir gan grant gan Lywodraeth Cymru (Opsiwn 1).
  • Dod â'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol i ben a dibynnu ar y ddarpariaeth brecwast a chinio bresennol i gael llaeth yn ystod y diwrnod ysgol (Opsiwn 2).
  • Dim ffafriaeth.
  • Ddim yn siŵr.

Cwestiwn 8

Os bydd llaeth ysgol yn parhau i gael ei ddarparu drwy gynllun newydd gan Lywodraeth Cymru, a ddylai ysgolion annibynnol barhau i fod yn gymwys, neu a ddylai'r cynllun gael ei gyfyngu i ysgolion a gynhelir yn unol â pholisïau bwyd ysgol ehangach Llywodraeth Cymru?

  • Dylai cymhwysedd gynnwys ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol.
  • Dylai cymhwysedd gynnwys ysgolion a gynhelir yn unig.
  • Dim ffafriaeth.
  • Ddim yn siŵr.

Cwestiynau 9 i 12 ar gyfer ymatebwyr o awdurdodau lleol yn unig

Cwestiwn 9

Pa effeithiau gweithredol, ariannol neu gaffael y byddai parhau â'r ddarpariaeth llaeth drwy gynllun newydd yn eu cael ar eich awdurdod, os o gwbl?

Cwestiwn 10

Pa gamau gweithredu a allai helpu i liniaru unrhyw effeithiau andwyol, os o gwbl?

Cwestiwn 11

Pa effeithiau gweithredol, ariannol neu gaffael y byddai dod â'r ddarpariaeth i ben yn eu cael ar eich awdurdod, os o gwbl?

Cwestiwn 12

Pa gamau gweithredu a allai helpu i liniaru unrhyw effeithiau andwyol, os o gwbl?

Cwestiwn 13 ar gyfer staff ysgol yn unig

Cwestiwn 13

Pe bai'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yn dod i ben, a fyddai eich ysgol yn ceisio trefniant arall i barhau i ddarparu llaeth y tu hwnt i unrhyw ddarpariaeth brecwast neu ginio bresennol?

Cwestiynau 14 i 16 ar gyfer cyfranogwyr y gadwyn gyflenwi yn unig

Cwestiwn 14

Pa effaith, os o gwbl, fyddai parhau â'r cynllun llaeth ysgol trwy fodel a ariennir gan grant a ddarperir drwy Grant Addysg Awdurdod Lleol (LAEG) yn ei chael ar eich sefydliad neu fusnes?

Cwestiwn 15

Pa effaith, os o gwbl, fyddai rhoi’r gorau i’r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yn ei chael ar eich sefydliad neu fusnes?

Cwestiwn 16

Pa gamau lliniaru y gallai Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol neu ysgolion eu cymryd i leihau unrhyw effeithiau andwyol ar gyflenwyr a'r sector llaeth ehangach?

Cwestiynau gorfodol i bob ymatebydd

Cwestiwn 17

Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol dod â'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol i ben ar yr iaith Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg:

  • Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 18

Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol er mwyn:

  • sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â'i thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, neu
  • lliniaru unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â'i thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd rheolydd data ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol y byddwch yn eu darparu fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad.

Bydd Gweinidogion Cymru yn dibynnu ar y pwerau statudol sydd ganddynt i brosesu'r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau hyddysg ar y ffordd y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Mae'r sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yn rhan o'n tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol, Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Byddwn yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni fydd eich enw na'ch manylion cyswllt yn cael eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Fel arall, bydd unrhyw ddata a ddelir gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a ddelir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i ofyn i'ch data gael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r defnydd a wneir ohoni, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod: 

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ico wefan

Gwneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn ddiogel a dim ond cyhyd ag y bydd eu hangen arnom.

Os bydd gennych unrhyw bryderon ynghylch sut rydym yn defnyddio eich data personol, byddem yn eich annog i'w codi gyda'r tîm perthnasol yn y lle cyntaf.

Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i'r cyfeiriad isod:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, mae sawl ffordd o wneud hynny:

Ffurflen ar-lein: Cwblhau ein ffurflen gwyno ar-lein

Ffôn: 03000 251378

e-bost: Lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon dros e-bost i cwynion@llyw.cymru

Drwy'r post i:

Tîm Cynghori ar Gwynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.