Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Croeso i Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sy'n nodi'r penderfyniadau ynghylch taliadau, treuliau a  buddion i aelodau etholedig Prif Gynghorau, Cynghorau Cymuned a Thref, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub sydd i'w rhoi ar waith o fis Ebrill 2024 ymlaen. 

Bu hon yn flwyddyn o newid i'r Panel, gydag un aelod hirsefydlog yn ymadael a dau aelod newydd yn cael eu penodi. Hoffwn ddiolch i Helen Wilkinson am ei chyfraniad i'r panel dros y blynyddoedd a dymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, llwyddwyd i benodi dau aelod newydd sy'n golygu bod gan y Panel bum aelod erbyn hyn.  Croeso i Dianne Bevan a Kate Watkins i'r Panel a diolch i Saz Willey, yr Is-gadeirydd, a Bev Smith am eu cyfraniad drwy gydol y flwyddyn. Ceir rhagor o wybodaeth am aelodau'r Panel ar ein gwefan.

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Rhan 8 (Y Mesur), sy'n rhoi'r awdurdod statudol dros waith y Panel, yn caniatáu penodi isafswm o 3 aelod ac uchafswm o 7 aelod.

Frances Duffy 
Cadeirydd

Ceir gwybodaeth fanwl am yr aelodau, ein Cynllun Strategol a'n trafodaethau, ynghyd ag ymchwil a thystiolaeth ategol, ar wefan y Panel.

Crynodeb gweithredol

Y llynedd, cyhoeddwyd ein Cynllun Strategol cyntaf. Mae hwn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2023 a 2025 ac mae'n amlinellu'r fframwaith ar gyfer ein trafodaethau a chyd-destun ehangach ein penderfyniadau. 

Nodir yr elfennau allweddol isod o dan Rolau a Chyfrifoldebau'r Panel.

Ar ôl cryfhau'r Panel, roeddem yn gallu canolbwyntio ar lunio ein cynllun ymchwil a thystiolaeth i gefnogi ein trafodaethau ar ein fframwaith cydnabyddiaeth ariannol. Mae ein cynllun tystiolaeth ar gael ar ein gwefan yn unol â'n nod o fod yn agored ac yn dryloyw yn ein holl benderfyniadau.

Ein nod o hyd yw sicrhau bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol yn deg ac yn rhesymol. Gwnaethom gytuno i barhau i gysoni lefelau cydnabyddiaeth ariannol i aelodau etholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yng nghyd-destun enillion cyfartalog yng Nghymru. Mae hyn wedi golygu defnyddio'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yng Nghymru (ASHE) a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn brif feincnod wrth bennu cydnabyddiaeth ariannol.

Mae'r Mesur yn nodi bod rhaid i'r Panel ystyried beth, yn ei farn ef, fydd effaith ariannol debygol ei benderfyniadau ar awdurdodau perthnasol. Ystyriodd y Panel dystiolaeth ynglŷn â sefyllfa ariannol y sector cyhoeddus a'r effaith ar gyllidebau Prif Awdurdodau. Er bod cyfanswm cost cydnabyddiaeth ariannol i aelodau etholedig yn gymharol isel yn nhermau'r cyllidebau cyffredinol, roedd y Panel yn ystyriol o'r pwysau economaidd a chyllidol cynyddol ar Brif Gynghorau. 

Wrth wneud ein penderfyniad i gadw'r cysylltiad rhwng cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub ac enillion cyfartalog eu hetholwyr (ASHE), mae'r Panel o'r farn y bydd pecyn cydnabyddiaeth ariannol teg a rhesymol yn parhau i gefnogi aelodau etholedig ac na fydd yn rhwystr i bobl rhag cymryd rhan. Mae hon yn egwyddor bwysig, sy'n sail i'n hystyriaethau o gydnabyddiaeth ariannol briodol. Cafodd hyn gefnogaeth eang yn ein cyfarfodydd ymgysylltu ac yn yr adborth i'r ymgynghoriad.

Yn unol â'n hymrwymiad i symleiddio prosesau adrodd a chydymffurfio, y flwyddyn hon, edrychodd y Panel ar y gofynion adrodd ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref. Ar hyn o bryd, rhaid i bob Cyngor Cymuned a Thref gyflwyno adroddiad i'r Panel bob blwyddyn a chyhoeddi ar ei wefan fanylion ac enwau pob cynghorydd sy'n cael unrhyw dreuliau. Mewn blynyddoedd blaenorol, gwnaethom gytuno, o ran costau lwfansau gofal a chymorth personol, y byddai'n amhriodol enwi cynghorwyr unigol, ac y byddai'n ddigon rhestru'r cyfansymiau a dalwyd a chyfanswm nifer y rhai a’u cafodd.

Mae'r Panel yn teimlo y byddai'n briodol estyn hyn i'r taliad gorfodol am weithio gartref, y lwfans cyfradd safonol am nwyddau traul, a hawliadau teithio a chynhaliaeth. Bydd hyn yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng atebolrwydd cyhoeddus a phreifatrwydd unigolion, ac rydym yn gobeithio y bydd yn annog pawb i hawlio'r taliadau y mae ganddynt yr hawl i'w derbyn. Cafwyd ymateb cadarnhaol i hyn yn ystod yr ymgynghori a'r ymgysylltu.

Byddwn yn darparu adroddiad templed newydd i'w ddefnyddio o fis Medi 2024 a byddwn yn parhau i fonitro lefel y taliadau a wneir.

Rydym yn parhau i gael ymholiadau ynglŷn â'r ymdriniaeth PAYE â'r lwfans gorfodol am weithio gartref (£156 y flwyddyn) a'r opsiwn o dalu cyfradd safonol o £52 y flwyddyn am nwyddau traul. Rydym yn diweddaru ein canllawiau ar y mater hwn, a ddylai helpu i roi eglurder i glercod lleol. 

Rydym hefyd yn ymwybodol bod rhai cynghorwyr Cymuned a Thref yn penderfynu peidio â hawlio'r symiau y mae ganddynt hawl iddynt, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, er bod y niferoedd yn lleihau erbyn hyn. Credwn yn gryf y dylai cynghorwyr gael ad-daliad o'r treuliau y maent, yn annorfod, yn eu hysgwyddo wrth gyflawni eu dyletswyddau, neu y dylent gael cyfraniad i helpu i'w digolledu am y costau hyn. Rydym yn pwysleisio eto bod y taliadau sylfaenol yn orfodol ac y dylent fod ar gael i'r holl gynghorwyr sydd â hawl i'w cael. Rhaid i unrhyw benderfyniad i beidio â derbyn y taliadau hyn fod yn ddewis personol ac unigol.

Y maes olaf a ystyriwyd gan y Panel  oedd y dull o gyfrifo taliadau a wneir i aelodau cyfetholedig o Brif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub.

Yn dilyn adborth ar Adroddiad Blynyddol y llynedd ac ymholiadau a godwyd drwy gydol y flwyddyn gan rai aelodau cyfetholedig a chan sawl Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, cymerodd y Panel dystiolaeth gan y gohebwyr ynglŷn ag effaith y cynnydd yn nifer yr aelodau cyfetholedig a natur newidiol patrymau gwaith. Roedd hyn yn dangos nad oedd y trefniant presennol o gyfradd hanner diwrnod am unrhyw beth hyd at 4 awr a chyfradd diwrnod llawn am unrhyw beth dros hynny, yn ddigon hyblyg i adlewyrchu'r patrymau gwaith sy'n fwy arferol erbyn hyn, yn bennaf o ganlyniad i fwy o weithio ar-lein neu weithio hybrid.

Yn ein Hadroddiad drafft, cynigiodd y Panel y dylai'r swyddog lleol perthnasol gael yr hyblygrwydd i  benderfynu pryd y bydd yn briodol defnyddio cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod a phryd y gellir defnyddio cyfradd yr awr pan fo'n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr. Mynegwyd ystod eithaf eang o safbwyntiau ar hyn yn ystod ein cyfarfodydd ymgysylltu, ond yr adborth cyffredinol yw y byddai'r newid hwn yn cael ei gefnogi. Felly, cytunodd y Panel y dylid rhoi'r hyblygrwydd hwn ac y dylai penderfyniadau ynghylch ai cyfradd yr awr neu gyfradd y dydd sy'n briodol gael eu gwneud yn lleol. 

Yn olaf, mae'r Panel yn ymwybodol o adborth y gall ein gwefan fod yn anodd ei defnyddio ac nad yw bob amser yn hawdd dod o hyd i'r Penderfyniad cywir i ymdrin â mater penodol, yn enwedig i swyddogion neu aelodau etholedig newydd. Felly, rydym wedi diweddaru'r dolenni ar y wefan ac wedi creu dolen newydd i dudalen sy'n nodi'r holl Benderfyniadau cyfredol y dylid eu cymhwyso. Caiff ei diweddaru bob blwyddyn pan gaiff yr Adroddiad Blynyddol Terfynol ei gyhoeddi, a'r gobaith yw y bydd hyn yn haws i'w ddefnyddio na gorfod cyfeirio at Adroddiad pob blwyddyn. 

Ategir hyn gan ein Canllawiau sydd newydd eu diweddaru (a elwid gynt yn Rheoliadau).

Rôl a chyfrifoldebau'r Panel

Ein rôl

Mae'r Panel yn gyfrifol am bennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig a chyfetholedig y sefydliadau canlynol, a'r trefniadau ar eu cyfer:

  • Prif Gynghorau, Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol
  • Cynghorau Cymuned a Thref
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
  • Awdurdodau Tân ac Achub
  • Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu
  • Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Mae'r Panel yn sefydliad annibynnol ac mae'n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i'r sefydliadau a restrir uchod roi'r penderfyniadau a wneir ganddo ar waith. 

Rydym yn gwneud penderfyniadau am: 

  • y strwythur cyflog ar gyfer rhoi cydnabyddiaeth ariannol i aelodau
  • y math o lwfansau a delir i aelodau a'u natur
  • a yw taliadau yn orfodol neu a oes rhywfaint o hyblygrwydd lleol
  • trefniadau mewn perthynas ag absenoldeb teuluol
  • trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â phenderfyniadau'r Panel

Ein nod 

  • Cefnogi democratiaeth leol a rhoi llais i gymunedau, drwy sefydlu fframwaith priodol a theg ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol, sy'n annog cynhwysiant a chyfranogiad.

Ein nodau 

  • Dylai ein Penderfyniadau sicrhau bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol yn deg, yn rhesymol, yn rhoi gwerth am arian i'r trethdalwr, ac yn cael eu gwneud o fewn cyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru.  
  • Dylai ein Penderfyniadau gefnogi aelodau etholedig o ystod eang o gefndiroedd ac ni ddylai lefelau cydnabyddiaeth ariannol rwystro cyfranogi. 

Ein hamcanion strategol

  • Gwneud Penderfyniadau ar sail tystiolaeth
  • Cyfathrebu mewn ffordd glir a hygyrch
  • Mynd ati i ymgysylltu ac ymgynghori'n rhagweithiol
  • Symleiddio trefniadau cydymffurfio ac adrodd
  • Cydweithio

Y panel 

Frances Duffy (Cadeirydd)
Saz Willey (Is-gadeirydd)
Dianne Bevan (Aelod)
Bev Smith (Aelod)
Kate Watkins (Aelod)

Ceir rhagor o wybodaeth am yr aelodau ar wefan y Panel

Trafodaethau a phenderfyniadau ar gyfer 2024 i 2025

Fel y noda ein hamcanion strategol, mae'r Panel wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. 

Eleni, gwnaethom baratoi papur tystiolaeth ac ymchwil i ddwyn ynghyd y gwahanol ffynonellau o wybodaeth a ystyriwyd gan y Panel wrth wneud ei Benderfyniadau. Roedd hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o ddata, tystiolaeth a ffactorau cyd-destunol er mwyn llywio proses gwneud penderfyniadau'r Panel mewn perthynas â'i Benderfyniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024 i 2025.  Roedd hynny’n cynnwys:

  • data ar enillion wythnosol cyfartalog yn y DU ac yng Nghymru, gan gynnwys ASHE (yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion) 
  • meincnodau cyfraddau chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr Blynyddol Tai (CPIH) a Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr yn yr Alban.
  • ymchwil i lwyth gwaith cynghorwyr, safbwyntiau ac agweddau tuag at gydnabyddiaeth ariannol ac amrywiaeth (Llywodraeth Cymru)
  • canfyddiadau Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Senedd Cymru (2019)
  • data a gasglwyd ar nifer y cynghorwyr sy'n hawlio cydnabyddiaeth ariannol a phecynnau buddion
  • data ar sefyllfa ariannol awdurdodau lleol 

Mae'r set lawn o dystiolaeth ac ymchwil a ystyriwyd ar gael ar ein gwefan.  

Yn unol â'n Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu wedi'i diweddaru, cynhaliodd y Panel nifer o drafodaethau â rhanddeiliaid allweddol a roddodd gyfle i'r Panel ystyried safbwyntiau ynglŷn â'r trefniadau presennol, effaith penderfyniadau ar unigolion, sut mae'r trefniadau'n gweithio'n ymarferol ac unrhyw faterion neu bryderon y mae unigolion am eu codi. Mae hefyd yn gyfle i drafod sefyllfaoedd sy'n dod i'r amlwg y bydd angen i'r Panel eu hystyried o bosibl mewn perthynas â'i brosesau gwneud penderfyniadau. 

Bu'r Panel yn trafod yn uniongyrchol â grwpiau sy'n cynrychioli rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Grŵp Prif Arweinwyr Cynghorau, Pwyllgor Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd, Un Llais Cymru, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol a Chymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru. Cynhaliodd y Panel seminar ar-lein ym mis Tachwedd ar gyfer cynghorwyr Cymuned a Thref a Chlercod lleol. Cafwyd cynrychiolaeth dda, a chawsom adborth da ar ein gwaith. Yn benodol, nododd y panel fater cydnabyddiaeth ariannol i Gynrychiolwyr Ieuenctid a chytunodd i adolygu hyn yn y dyfodol. 

Eleni, canolbwyntiodd y Panel ar dri phrif fater fforddiadwyedd, taliadau a wneir i aelodau cyfetholedig a gofynion adrodd Cynghorau Cymuned a Thref. Hoffai'r Panel ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein trafodaethau, naill ai'n uniongyrchol neu drwy adborth ac ymatebion i'r ymgynghoriad ar ein Hadroddiad Drafft.

Ymgynghoriad: crynodeb o'r ymatebion

Lluniodd a chyhoeddodd y Panel adroddiad drafft ddydd Gwener 13 Hydref 2023 ar gyfer ymgynghoriad wyth wythnos, a ddaeth i ben ddydd Gwener 8 Rhagfyr 2023. Estynnwyd y cyfnod ymgynghori hyd at ddydd Mercher 20 Rhagfyr 2023, er mwyn caniatáu mwy o amser i bob ymatebydd gyflwyno adborth.

Yn ogystal, fel rhan o'r broses ymgynghori, gwahoddwyd rhanddeiliaid i ateb chwe chwestiwn gan ddefnyddio arolwg ar-lein neu drwy anfon e-bost. Cafwyd cyfanswm o 44 o ymatebion ar-lein, ac ymatebodd 12 drwy e-bost i fewnflwch y Panel. Bu'r Panel yn cymryd rhan mewn nifer o gyfarfodydd rhanddeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori i gasglu adborth pwysig. Hoffai'r Panel ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad. Ceir crynodeb o'r ymatebion yn yr adroddiad isod.

Anfonwyd dolen y wefan a fersiwn Pdf o'r adroddiad drafft i:

  • Un Llais Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
  • Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol 
  • Prif Gynghorau
  • Awdurdodau Tân ac Achub
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol 
  • Cynghorau Cymuned a Thref

Penderfyniad 1: cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau etholedig prif gynghorau / Penderfyniad 2: cyflogau a delir i Uwch-aelodau, aelodau Dinesig ac aelodau Llywyddol gynghorau / Penderfyniad 3: cyflogau Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu / Penderfyniad 4: taliadau i awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub / Penderfyniad 7: digolledu am golled ariannol

Ni chafwyd unrhyw sylwadau/ymatebion uniongyrchol, ynglŷn â'r Penderfyniadau uchod. Fodd bynnag, yn ystod ein sesiynau ymgysylltu, clywodd y Panel bryderon am ddiffyg taliadau i Gynrychiolwyr Ieuenctid ar Gynghorau Cymuned a Thref a siom nad oedd y Panel wedi codi'r lefelau cydnabyddiaeth ar gyfer aelodau cyfetholedig Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Mae'r rhain yn faterion y bydd y Panel yn eu hystyried yn Adroddiadau'r dyfodol, o bosibl.

Penderfyniad 5: taliadau a wneir i aelodau etholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub

Dim ond nifer bach o ymatebion a gafwyd ynglŷn â'r cynnig hwn. Roedd un ymateb yn cytuno â'r cynnig ynghylch newid mewn arferion gwaith ac yn cefnogi cyflwyno cyfradd yr awr ac roedd ymateb arall yn argymell y dylai'r canllawiau a gyhoeddir ynglŷn â'r taliad yr awr fod yn glir ynghylch pryd y dylai gael ei gymhwyso. 

Roedd un arall yn cefnogi'n gryf yr egwyddor y dylai awdurdodau allu bod yn hyblyg i weddu i'w gofynion eu hunain.

Penderfyniad 6: taliadau gorfodol Cynghorau Cymuned a Thref

Taliad am gostau ychwanegol gweithio gartref a thaliad sefydlog ar gyfer nwyddau traul

Gofynnodd dau Gyngor Cymuned am newid y cynnig i wneud y taliad o £156 i Gynghorwyr yn orfodol, er mwyn caniatáu i Gynghorwyr ddewis peidio â derbyn y taliad fel yn y blynyddoedd blaenorol.

Mae dau gyngor Cymuned yn cefnogi cynwysoldeb yn llawn ac yn gwerthfawrogi y gallai'r taliad fod o gymorth i aelodau etholedig ond maent yn teimlo'n gryf iawn na ddylai fod yn orfodol.

Mae'r Panel yn ailddatgan bod unigolion yn gallu dewis peidio â derbyn taliadau gorfodol.  Dylai unrhyw ddymuniad i beidio â derbyn taliadau gael ei ddatgan yn ysgrifenedig. 

Penderfyniad 8: y gofynion adrodd

Cytunwyd bod adrodd ar y taliad gorfodol am weithio gartref, y lwfans cyfradd safonol a hawliadau teithio a chynhaliaeth fel cyfansymiau i'r holl gynghorwyr, yn hytrach na rhestru unigolion, yn rhoi'r cydbwysedd cywir rhwng atebolrwydd cyhoeddus a phreifatrwydd unigolion.

Yn ogystal, fel rhan o'r broses ymgynghori, gwahoddwyd rhanddeiliaid i ateb chwe chwestiwn drwy arolwg ar-lein neu drwy anfon e-bost. Derbyniwyd cyfanswm o 44 o ymatebion ar-lein, a chyflwynwyd 12 drwy e-bost i fewnflwch y Panel. Mynychodd y Panel gyfarfodydd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod y broses ymgynghori i gasglu a chael adborth.

Crynodeb o'r ymatebion i holiadur ar-lein

Cwestiwn 1: cynyddu cydnabyddiaeth ariannol drwy ddefnyddio'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) 

Mae'r Panel yn gwbl ymwybodol o'r cyfyngiadau presennol ar gyllid cyhoeddus ac effaith ei benderfyniadau ar gyllidebau Prif Awdurdodau. Mae'r Panel hefyd yn cadw mewn cof ein Nodau a'n Hamcanion i gynnig pecyn cydnabyddiaeth ariannol teg a rhesymol i gefnogi aelodau etholedig ac annog amrywiaeth mewn cynrychioliaeth. Felly, rydym yn cynnig y dylid cynyddu eu cydnabyddiaeth ariannol yn seiliedig ar enillion cyfartalog eu hetholwyr. 

A ydych chi'n credu bod y Panel wedi taro'r cydbwysedd cywir rhwng fforddiadwyedd a chydnabyddiaeth ariannol ddigonol i gynrychiolwyr? Os nad ydych yn cytuno, a oes gennych unrhyw awgrymiadau eraill?

Ymatebion

Roedd 55% o'r rhai a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno bod y Panel wedi sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng fforddiadwyedd a chydnabyddiaeth ariannol ddigonol i gynrychiolwyr. Nid oedd 21% yn cytuno ac nid oedd gan 19% unrhyw farn ar y cwestiwn hwn.

Nododd rhai ymatebwyr ei bod yn bwysig denu ystod amrywiol o ymgeiswyr i sefyll mewn etholiad a bod angen gwneud mwy i gynyddu amrywiaeth.

Cynigiodd un arall y dylai'r adroddiad ddangos y cynnydd a argymhellir fel codiad canran, yn debyg i ddyfarniadau cyflog, fel bod y cyhoedd yn deall o ran tryloywder.

Cwestiwn 2: hyblygrwydd lleol ar gyfer taliadau i unigolion cyfetholedig

Mae'r Panel wedi cael tystiolaeth y byddai'n fwy costeffeithiol ac yn decach i roi hyblygrwydd o ran talu'r rhai sy'n aelodau cyfetholedig o bwyllgorau Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub.

Felly, mae'r Panel yn cynnig y dylai fod hyblygrwydd lleol i'r swyddog perthnasol benderfynu pryd y bydd yn briodol cymhwyso cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod neu ddefnyddio cyfradd yr awr lle mae'n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr.

A ydych yn cytuno â’r cynnig hwn? Os nad ydych yn cytuno, a oes gennych unrhyw awgrymiadau eraill?   

Ymatebion 

Roedd 64% o'r rhai a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno. Nid oedd 11% yn cytuno ac nid oedd gan 19% unrhyw farn. Teimlid bod cyfradd yr awr yn fwy cost-effeithiol ac y byddai'n rhoi hyblygrwydd i fynychu cyfarfodydd byrrach gyda swyddogion pan fo angen. Roedd un unigolyn yn gryf o blaid yr egwyddor bod awdurdodau yn gallu bod yn hyblyg i weddu i'w gofynion eu hunain.

Cwestiwn 3: hybu teithio cynaliadwy

Hoffai'r Panel sicrhau ein bod yn cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol yn ein penderfyniadau ynglŷn â chydnabyddiaeth ariannol. Rydym yn ymwybodol bod cynlluniau mewn llawer o gyrff yng Nghymru sy'n annog teithio cynaliadwy ac rydym wedi cynghori y dylai aelodau etholedig, os oes modd, gael eu hannog i gymryd rhan yn y cynlluniau hyn. 

A oes gennych unrhyw enghreifftiau o arfer da neu syniadau eraill o ffyrdd y gallem ddefnyddio ein pwerau i annog teithio mwy cynaliadwy ymhlith aelodau?

Ymatebion

O'r rhai a ymatebodd i'r cwestiwn hwn, fe wnaeth 34% ddarparu enghreifftiau o arferion da i annog teithio mwy cynaliadwy. Byddai cynnal cyfarfodydd ar-lein yn ddefnyddiol o ran sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol, ond cynigiwyd cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ogystal ag ar-lein. 

Ymhlith yr awgrymiadau eraill roedd awgrym y gallai darparu amserlenni gwasanaethau cyhoeddus yn adeiladau cynghorau helpu i annog pobl i ddewis dulliau cludiant gwahanol i geir preifat, ac awgrym y dylid annog aelodau sy'n mynychu'r un cyfarfod i rannu ceir. Un enghraifft a gafwyd oedd bod gan un awdurdod fap ardal a oedd yn dangos lle roedd pob aelod o Awdurdod y Parc yn byw, i annog rhannu ceir.

Cwestiwn 4: ymwybyddiaeth o hawliau cynrychiolwyr 

Mae'r Panel wedi gweld tystiolaeth o ddiffyg ymwybyddiaeth ymhlith aelodau etholedig lleol o'r taliadau y maent yn gallu eu hawlio. Hoffem glywed a yw hyn yn broblem sylweddol, ac os felly, byddwn yn anelu at godi ymwybyddiaeth ymhellach, drwy dargedu meysydd lle y gall hyn fod yn broblem.

Pa gamau y mae eich cyngor neu'ch awdurdod yn eu cymryd i sicrhau bod ei aelodau a'i aelodau cyfetholedig yn ymwybodol o'r symiau y mae ganddynt hawl iddynt?

Ymatebion 

Roedd y sylwadau'n nodi bod aelodau'n cael gwybod am eu hawliau drwy e-bost gan y Clerc wrth gael eu penodi, eu bod wedi'u cynnwys mewn pecyn briffio sy'n cael ei roi i aelodau newydd, a'u bod yn cael eu trafod adeg paratoi ar gyfer y gyllideb ac yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol. 

Fodd bynnag, cawsom enghreifftiau hefyd o ddiwylliant o aelodau nad ydynt yn hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo, a phwysau'n cael ei roi ar rai aelodau i lenwi ffurflen optio allan. Gall unigolyn wrthod derbyn taliad yn rhannol neu'n llwyr os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Rhaid i hynny gael ei wneud yn ysgrifenedig, ac mae'n fater i'r unigolyn. Rhaid i aelod o gyngor cymuned neu dref sydd am wrthod taliadau ysgrifennu'n bersonol at y swyddog priodol i wneud hynny. Rhaid i bob prif awdurdod cyngor cymuned a thref sicrhau nad yw'n creu hinsawdd sy'n atal pobl rhag cael gafael ar unrhyw arian y mae ganddynt hawl iddo a allai eu cefnogi i gymryd rhan mewn democratiaeth leol.

Cwestiwn 5: cyhoeddi symiau wedi'u cyfuno

Mae'n ofynnol i Gynghorau Cymuned a Thref gyflwyno datganiad blynyddol o daliadau i'r Panel erbyn 30 Medi bob blwyddyn, a’i gyhoeddi hefyd ar eu gwefan. Mae'r Panel wedi darparu ffurflen dempled at ddefnydd clercod. Mae'r Panel wedi trafod ac wedi ystyried newid y gofynion ar Gynghorau Cymuned a Thref wrth gyflwyno eu datganiad o daliadau. Nod y Panel yw symleiddio'r trefniadau gweinyddol ac annog Cynghorau i sicrhau bod yr holl daliadau gorfodol yn cael eu gwneud i aelodau unigol.

Mae'r Panel yn cynnig, o fis Medi 2024, mai dim ond y cyfansymiau a dalwyd mewn perthynas â'r taliadau gorfodol a grybwyllir uchod y bydd angen i'r datganiadau eu dangos. Hynny yw, y cyfraniad o £156 at gostau gweithio gartref a'r gyfradd benodedig o £52 am lwfans nwyddau traul a'r treuliau teithio a chynhaliaeth a dalwyd.

Mae hyn yn golygu y bydd y taliadau hyn yn gyson ag adrodd ar gostau lwfansau gofal a chymorth personol.

A ydych chi'n cytuno y gall y ffigurau hyn gael eu cyhoeddi fel cyfanswm i'r holl aelodau yn hytrach nag yn unigol? Beth yw'r rhesymau dros eich barn?

Ymatebion

Roedd y mwyafrif llethol yn cytuno â'r cynnig i gyhoeddi'r datganiad taliadau fel cyfanswm i'r holl aelodau. Nid oedd 11% yn cytuno ac nid oedd gan 2% farn ar y cwestiwn. Roedd yr ymatebwyr yn cytuno y byddai cyhoeddi cyfanswm i'r holl aelodau yn haws yn weinyddol ac yn rhoi cyfrinachedd i'r aelodau. Mae hefyd yn lleihau unrhyw embaras pe bai aelod yn dymuno hawlio. Fodd bynnag, nodwyd y dylid dangos bod cynghorwyr wedi cael y taliadau, er mwyn i drigolion allu gweld ble mae'r arian wedi wedi’i wario.  

Cwestiwn 6

Mewn adroddiadau yn y dyfodol, rydym yn ystyried caniatáu cyfuno costau teithio a chynhaliaeth aelodau prif gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub a hoffem glywed eich barn.

A ydych chi'n cytuno y gall y ffigurau hyn gael eu cyhoeddi fel cyfanswm i'r holl aelodau yn hytrach nag yn unigol? Beth yw'r rhesymau dros eich barn? 

Roedd ychydig llai na hanner yr ymatebwyr yn cytuno y dylid cyhoeddi'r taliadau ar gyfer teithio a chynhaliaeth fel cyfanswm i'r holl aelodau. Nid oedd 13% yn cytuno ac nid oedd gan 28% farn ar y cwestiwn. Byddai'r cynnig hwn yn helpu i osgoi adnabod unigolion / rhagfarn bosibl i'r rhai sydd angen hawlio. Fodd bynnag, dywedodd y rhai a oedd yn anghytuno fod dadansoddiad o'r holl dreuliau yn rhoi tryloywder ynghylch gweithgarwch cynghorwyr, yn caniatáu i drigolion graffu ar y manylion, ac yn rhoi tryloywder ynghylch y cyfiawnhad dros bob gweithgaredd.

Penderfyniadau'r Panel ar gyfer 2024 i 2025

Ar ôl ystyried y safbwyntiau a ddaeth i law mewn ymateb i'w ymgynghoriad, mae'r Panel yn awr yn gwneud ei benderfyniadau terfynol.

Cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau etholedig prif gynghorau: Penderfyniad 1

Mae'r cyflog sylfaenol, a delir i bob aelod etholedig, yn gydnabyddiaeth ariannol am ymgymryd â chyfrifoldeb cynrychioliaeth gymunedol ac am gymryd rhan yn swyddogaethau craffu, swyddogaethau rheoleiddio a swyddogaethau cysylltiedig llywodraeth leol. Mae'n seiliedig ar yr hyn sy'n gyfwerth â gweithio tri diwrnod yr wythnos yn amser llawn. Mae'r Panel yn adolygu'r ymrwymiad hwn o ran amser yn rheolaidd, ac ni chynigir unrhyw newidiadau ar gyfer 2024 i 2025.

Mae'r Panel yn gwbl ymwybodol o'r cyfyngiadau presennol ar gyllid cyhoeddus ac effaith ei benderfyniadau ar gyllidebau Prif Awdurdodau. Mae'r Panel hefyd yn cadw mewn cof ein Nodau a'n Hamcanion i gynnig pecyn cydnabyddiaeth ariannol teg a rhesymol i gefnogi aelodau etholedig ac i annog amrywiaeth mewn cynrychioliaeth. 

Nododd y Panel hefyd fod cydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr, yn y cylchoedd etholiadol blaenorol, dipyn yn is na meincnod allweddol Enillion Cyfartalog yr Awr yng Nghymru (ASHE) a bod angen codiad sylweddol felly yn 2022.

Felly, mae'r Panel wedi penderfynu, ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025 ei bod yn briodol cadw'r cysylltiad rhwng cyflog sylfaenol cynghorwyr a chyflogau cyfartalog eu hetholwyr. 

Bydd y cyflog sylfaenol yn cyd-fynd â thair rhan o bump o ASHE Cymru gyfan 2022. £18,666 fydd hyn, fel y nodir yn Nhabl 1.

Cyflogau a delir i Uwch-aelodau, aelodau Dinesig ac aelodau Llywyddol prif gynghorau: Penderfyniad 2

Bydd y terfyn ar nifer yr uwch gyflogau sy'n daladwy (“y cap”) yn parhau.  

Mae'r holl uwch gyflogau yn cynnwys taliad y cyflog sylfaenol. Cydnabyddir lefelau gwahanol cyfrifoldeb ychwanegol pob rôl a rhwng pob rôl mewn fframwaith â bandiau. Ni chynigir unrhyw newidiadau i'r bandiau eleni. 

Bydd yr elfen cyflog sylfaenol yn cynyddu yn unol ag ASHE a bydd y cynnydd hwn hefyd yn gymwys i elfen rôl Bandiau 1, 2, 3 a 4. Lle y telir Band 5, nid oes unrhyw gynnydd yn yr elfen rôl am fod y band hwn wedi'i rewi dros dro. Bydd y cynnydd yn y cyflog sylfaenol yn gymwys.

Felly, cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A) fydd £69,998. Penderfynwyd ar yr holl daliadau eraill gan gyfeirio at y cyflog hwn ac maent wedi'u nodi yn Nhabl 1.

Grŵp A

  • Caerdydd
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
Tabl 1: cyflogau a delir i Aelodau Sylfaenol, Uwch-aelodau, aelodau Dinesig ac Aelodau Llywyddol Prif Gynghorau  (Grŵp A)
DisgrifiadSwm
Cyflog sylfaenol (sy'n daladwy i bob aelod etholedig)£18,666
Band 1 Arweinydd   £69,998
Band 1 Dirprwy Arweinydd£48,999
Band 2 Aelodau Gweithredol        £41,999
Band 3 Cadeiryddion Pwyllgorau (os y'u telir)£27,999
Band 4 Arweinydd y Grŵp Gwrthbleidiol Mwyaf£27,999
Band 5 Arweinydd Grwpiau Gwleidyddol Eraill (os y'i telir)£22,406
Pennaeth Dinesig (os y'i telir)£18,666
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir)£22,406
Aelod Llywyddol (os y'i telir)£27,999
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig)£18,666

Grŵp B

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Sir Gaerfyrddin 
  • Conwy
  • Sir y Fflint 
  • Gwynedd
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot 
  • Sir Benfro 
  • Powys
  • Bro Morgannwg 
  • Wrecsam
Tabl 1: cyflogau sy'ndaladwy i AelodauSylfaenol, Uwch, Dinesiga Llywyddoly prifgynghorau (Grŵp B)
DisgrifiadSwm
Cyflog sylfaenol (sy'n daladwy i bob aelod etholedig)£18,666
Band 1 Arweinydd   £62,998
Band 1 Dirprwy Arweinydd£44,099
Band 2 Aelodau Gweithredol        £37,799
Band 3 Cadeiryddion Pwyllgorau (os y'u telir)£27,999
Band 4 Arweinydd y Grŵp Gwrthbleidiol Mwyaf£27,999
Band 5 Arweinydd Grwpiau Gwleidyddol Eraill (os y'i telir)£22,406
Pennaeth Dinesig (os y'i telir)£27,999
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir)£22,406
Aelod Llywyddol (os y'i telir)£27,999
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig)£18,666

Grŵp C

  • Blaenau Gwent
  • Ceredigion
  • Sir Ddinbych
  • Merthyr Tudful
  • Caerffili
  • Torfaen
  • Ynys Môn
Tabl 1: cyflogau sy'ndaladwy i AelodauSylfaenol, Uwch, Dinesiga Llywyddoly prifgynghorau (Grŵp C)
DisgrifiadSwm
Cyflog sylfaenol (sy'n daladwy i bob aelod etholedig)£18,666
Band 1 Arweinydd   £59,498
Band 1 Dirprwy Arweinydd£41,649
Band 2 Aelodau Gweithredol          £35,699
Band 3 Cadeiryddion Pwyllgorau (os y'u telir)£27,999
Band 4 Arweinydd y Grŵp Gwrthbleidiol Mwyaf£27,999
Band 5 Arweinydd Grwpiau Gwleidyddol Eraill (os y'i telir)£22,406
Pennaeth Dinesig (os y'i telir)£27,999

Nid oes unrhyw newidiadau pellach i'r taliadau a'r buddion a delir i aelodau etholedig. Mae'r holl Benderfyniadau cyfredol wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan.

Cyflogau Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu: Penderfyniad 3

Bydd cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn parhau i fod yn gyson â Band 3 a chaiff ei bennu ar £9,333.

Pennir cyflog is-gadeirydd yn 50% o gyflog y Cadeirydd, sef £4,667.

Nid oes unrhyw newidiadau eraill.

Taliadau i aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub: Penderfyniad 4

Mae tri pharc cenedlaethol yng Nghymru. Ffurfiwyd Parciau Cenedlaethol Eryri, Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog i ddiogelu tirweddau ysblennydd a chynnig cyfleoedd hamdden i'r cyhoedd. Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cynnwys aelodau sydd naill ai'n aelodau etholedig a enwebir gan y prif gynghorau o fewn ardal y parc cenedlaethol neu'n aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru drwy'r broses Penodiadau Cyhoeddus. Caiff aelodau a benodwyd gan Lywodraeth Cymru ac aelodau a enwebwyd gan gynghorau eu trin yn gyfartal o ran cydnabyddiaeth ariannol.

Mae tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru: Ffurfiwyd gwasanaethau Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a De Cymru fel rhan o ad-drefnu Llywodraeth Leol ym 1996. Maent yn cynnwys aelodau etholedig sy'n cael eu henwebu gan y Prif Gynghorau o fewn ardal pob gwasanaeth tân ac achub.

Yn unol â phenderfyniad y Panel i gynyddu cyflog sylfaenol aelodau etholedig prif gynghorau, bydd lefel cydnabyddiaeth ariannol aelodau cyffredin Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub hefyd yn cynyddu yn unol ag ASHE. Bydd cydnabyddiaeth ariannol Cadeiryddion yn parhau'n gysylltiedig â chyflog uwch-aelod Band 3 prif gyngor. Felly, bydd eu helfen rôl yn cynyddu'n unol â hynny. Bydd swyddi dirprwy gadeiryddion, cadeiryddion pwyllgorau ac uwch-swyddi eraill sy'n cael eu talu yn parhau'n gysylltiedig â Band 5. Mae'n hyn yn golygu y bydd elfen rôl eu cyflog yn parhau i gael ei rhewi dros dro. Ceir manylion llawn lefelau'r gydnabyddiaeth ariannol i aelodau awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub yn Nhabl 2.

Mae'r holl Benderfyniadau cyfredol, gan gynnwys cyfyngiadau ar dderbyn lwfansau dwbl, ar gael ar ein gwefan. Heblaw am y codiadau uchod, ni chynigir unrhyw newidiadau y flwyddyn hon.

Tabl 2: taliadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
Awdurdodau Parciau CenedlaetholSwm
Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelod cyffredin £5,265
Cadeirydd£14,598
Dirprwy Gadeirydd (os penodir un)£9,005
Cadeirydd Pwyllgor neu uwch-swydd arall£9,005
Tabl 2: taliadau i Awdurdodau Tân ac Achub
Awdurdodau Tân ac AchubSwm
Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelod cyffredin £2,632
Cadeirydd£11,965
Dirprwy Gadeirydd (os penodir un)£6,372
Cadeirydd Pwyllgor neu uwch-swydd arall£6,372

Taliadau a wneir i aelodau cyfetholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub: Penderfyniad 5

Mae'r Penderfyniad cyfredol (a wnaed yn Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023) yn nodi y dylai aelodau cyfetholedig y cyrff perthnasol gael cydnabyddiaeth ariannol ar sail diwrnod neu hanner diwrnod. Hefyd, gall y swyddog perthnasol benderfynu ar gyfanswm y diwrnodau y rhoddir cydnabyddiaeth ariannol ar eu cyfer mewn blwyddyn a phennu amser rhesymol am baratoi ar gyfer cyfarfodydd.

Mae'r Panel wedi nodi'r newidiadau i arferion gwaith, a roddwyd ar waith yn ystod Covid ac sydd bellach yn dod yn fwy arferol, sydd wedi golygu newid tuag at ddefnydd amlach o gyfarfodydd a/neu gyrsiau hyfforddi ar-lein, sydd yn aml yn fyr, yn ogystal â chyfarfodydd pwyllgor mwy rheolaidd. Mae'r Panel hefyd wedi cael adborth gan Benaethiaid Gwasanaethau Democrataidd yn codi'r mater hwn.

Ystyriodd y Panel newid i gyfradd yr awr yn lle hynny. Byddai hyn yn adlewyrchu'n well y ffyrdd newydd o weithio a'r oriau a weithiwyd mewn gwirionedd. Fodd bynnag, cydnabu'r Panel na fyddai hyn bob amser yn briodol o bosibl, yn enwedig ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb y disgwylir iddynt bara sawl awr.

Felly, mae'r Panel yn cynnig y dylai fod hyblygrwydd lleol i'r swyddog perthnasol benderfynu pryd y bydd yn briodol cymhwyso cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod neu ddefnyddio cyfradd yr awr pan fo'n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr. Bydd y Panel hefyd yn darparu canllawiau sy'n cynnwys enghreifftiau o arferion da. Nodir y symiau hyn yn Nhabl 3.

Tabl 3: taliadau a wneir i aelodau etholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub
RôlTaliad cyfradd fesul awrCyfradd talu hyd at 4 awrCyfradd talu 4 awr a throsodd
Cadeiryddion pwyllgorau safonau, a phwyllgorau archwilio£33.50£134£268
Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgorau Safonau ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref£29.75£119£238
Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau; Pwyllgor Craffu Addysg; Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anrhefn a Phwyllgor Archwilio£26.25£105£210

Cynghorau Cymuned a Thref

Mae'r Panel yn parhau i wneud taliadau am gostau ychwanegol gweithio gartref a thaliadau am  nwyddau traul swyddfa yn orfodol. Ni fydd unrhyw newid i'r Penderfyniad a wnaed y llynedd.

Taliadau Gorfodol:  Penderfyniad 6

Taliad am gostau ychwanegol gweithio gartref  

Rhaid i bob cyngor dalu £156 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd yn rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref. 

Taliad penodol am nwyddau traul

Rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl, neu fel arall rhaid i gynghorau ei gwneud yn bosibl i'w haelodau hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa.

Mater i bob cyngor yw gwneud a chofnodi penderfyniad polisi o ran pryd a sut y caiff y taliadau eu gwneud ac a ydynt yn cael eu talu'n fisol, yn flynyddol neu fel arall. Dylai'r polisi nodi hefyd a fydd unrhyw daliadau a wneir i aelod sy'n ymadael neu sy'n newid ei rôl yn ystod y flwyddyn ariannol yn cael eu hadennill, a sut.

Iawndal am Golled Ariannol: Penderfyniad 7

Taliad dewisol yw digolledu am golled ariannol. Ni chafodd y swm am golled ariannol ei gynyddu y llynedd. Yn flaenorol, penderfynodd y Panel y dylid pennu lefel briodol o daliadau ar gyfradd ddyddiol ASHE. Er mwyn cynnal y cyswllt hwn, mae'r ffigurau ar gyfer 2024 bellach wedi'u pennu ar £119.62 am ddiwrnod llawn a £59.81 am hanner diwrnod.

Gofynion Adrodd: Penderfyniad 8

Mae'n ofynnol i Gynghorau Cymuned a Thref gyflwyno datganiad blynyddol o daliadau i'r Panel erbyn 30 Medi bob blwyddyn, a’i gyhoeddi hefyd ar eu gwefan. Mae'r Panel wedi darparu ffurflen dempled at ddefnydd clercod.

Mae'r Panel wedi trafod ac wedi ystyried newid y gofynion ar Gynghorau Cymuned a Thref wrth gyflwyno eu datganiad o daliadau. Nod y Panel yw symleiddio'r trefniadau gweinyddol ac annog Cynghorau i sicrhau bod yr holl daliadau gorfodol yn cael eu gwneud i aelodau unigol.

Mae'r Panel yn cynnig, o fis Medi 2024, mai dim ond y cyfansymiau a dalwyd mewn perthynas â'r taliadau gorfodol a grybwyllir uchod y bydd angen i'r datganiadau eu dangos.  Hynny yw, y cyfraniad o £156 at gostau gweithio gartref a'r gyfradd benodedig o £52 am lwfans nwyddau traul a'r treuliau teithio a chynhaliaeth a dalwyd. 

Mae hyn yn golygu y bydd y taliadau hyn yn gyson ag adrodd ar gostau lwfansau gofal a chymorth personol.

Taliadau i Aelodau Cynghorau Cymuned a Thref
Math o daliadGrŵpGofyniad
Taliad costau ychwanegol1 (Etholaeth dros 14,000)Gorfodol ar gyfer pob Aelod
Uwch rôl1 (Etholaeth dros 14,000)Gorfodol: £500 ar gyfer 1 aelod; dewisol ar gyfer hyd at 7
Maer neu Gadeirydd 1 (Etholaeth dros 14,000)Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd 1 (Etholaeth dros 14,000)Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans presenoldeb1 (Etholaeth dros 14,000)Dewisol
Colled ariannol  1 (Etholaeth dros 14,000)Dewisol
Teithio a chynhaliaeth1 (Etholaeth dros 14,000)Dewisol
Costau gofal neu gynhorthwy personol1 (Etholaeth dros 14,000)Gorfodol
Taliad costau ychwanegol2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Gorfodol ar gyfer pob aelod
Uwch rôl2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Gorfodol ar gyfer 1 aelod; dewisol ar gyfer hyd at 5
Maer neu gadeirydd  2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans presenoldeb2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Dewisol
Colled ariannol  2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Dewisol
Teithio a chynhaliaeth2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Dewisol
Costau cofal neu gynhorthwy personol2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Gorfodol
Taliad costau ychwanegol3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Gorfodol ar gyfer pob aelod
Uwch rôl3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Dewisol hyd at 3 aelod
Maer neu gadeirydd  3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Diprwy faer neu ddirprwy gadeirydd 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans presenoldeb3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Dewisol
Colled ariannol  3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Dewisol
Teithio a chynhaliaeth3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Dewisol
Costau gofal neu gynhorthwy personol3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Gorfodol
Taliad costau ychwanegol4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Gorfodol ar gyfer pob aelod
Uwch rôl4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Dewisol hyd at 3 aelod
Maer neu gadeirydd  4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans presenoldeb4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Dewisol
Colled ariannol  4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Dewisol
Teithio a chynhaliaeth4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Dewisol
Costau gofal neu gynhorthwy personol4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Gorfodol
Taliad costau ychwanegol5 (Etholaeth llai na 1,000)Gorfodol ar gyfer pob aelod
Uwch rôl5 (Etholaeth llai na 1,000)Dewisol hyd at 3 aelod
Maer neu gadeirydd  5 (Etholaeth llai na 1,000)Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd 5 (Etholaeth llai na 1,000)Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans presenoldeb5 (Etholaeth llai na 1,000)Dewisol
Colled ariannol  5 (Etholaeth llai na 1,000)Dewisol
Teithio a chynhaliaeth5 (Etholaeth llai na 1,000)Dewisol
Costau gofal neu gynhorthwy personol5 (Etholaeth llai na 1,000)Gorfodol

Ni wnaed unrhyw newidiadau i daliadau am ymgymryd ac uwch-rolau; lwfansau ar gyfer teithio a chynhaliaeth; Lwfans Gofal a Chymorth Personol neu Lwfans Mynychu. Mae'r holl Benderfyniadau cyfredol bellach wedi'u cyhoeddi ar ein gwefan. 

Crynodeb o'r Penderfyniadau ar gyfer 2024 i 2025

Penderfyniad 1

Caiff lefel sylfaenol y cyflog i aelodau etholedig prif gynghorau ei phennu ar £18,666.

Penderfyniad 2

Cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A) fydd £69,998. Penderfynwyd ar yr holl daliadau eraill gan gyfeirio at y cyflog hwn. 

Penderfyniad 3

Cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu fydd £9,333.

Cyflog is-gadeirydd fydd £4,667.

Penderfyniad 4

Mae cyflog sylfaenol aelodau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub wedi cynyddu. 

Cyhoeddir yr holl Benderfyniadau cyfredol, gan gynnwys cyfyngiadau ar dderbyn lwfansau dwbl, ar ein gwefan. Heblaw am y codiadau uchod, ni chynigir unrhyw newidiadau y flwyddyn hon.

Penderfyniad 5

O ran taliadau i aelodau cyfetholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub, mae'r Panel yn cynnig y dylai fod hyblygrwydd lleol i'r swyddog perthnasol benderfynu pryd y bydd yn briodol cymhwyso cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod neu ddefnyddio cyfradd yr awr pan fo'n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr.

Nid yw cyfraddau diwrnod llawn na hanner diwrnod wedi newid ers 2023 i 2024. Yr unig newid yw pennu cyfraddau yr awr.

Penderfyniad 6

Bydd aelodau o Gynghorau Cymuned a Thref yn cael taliad o £156 y flwyddyn (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref. A rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl, neu fel arall rhaid i gynghorau ei gwneud yn bosibl i'w haelodau hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa. Felly, nid oes unrhyw newid ers y llynedd.

Penderfyniad 7

Taliad dewisol yw digolledu am golled ariannol. Ni chafodd y swm am golled ariannol ei gynyddu y llynedd. Penderfynodd y Panel y dylai'r taliad hwn barhau i fod yn gysylltiedig â chyfradd ddyddiol ASHE. 

Er mwyn cynnal y cyswllt hwn, mae'r ffigurau ar gyfer 2024 bellach wedi'u pennu ar £119.62 am ddiwrnod llawn a £59.81 am hanner diwrnod.

Penderfyniad 8

Mae'r Panel wedi penderfynu, o fis Medi 2024, mai dim ond y cyfansymiau a dalwyd mewn perthynas a'r taliadau gorfodol a grybwyllir uchod y bydd angen i ddatganiadau pob Cyngor Tref a Chymuned eu dangos. 

Hynny yw, y cyfraniad o £156 at gostau gweithio gartref a'r gyfradd benodedig o £52 am lwfans nwyddau traul a'r treuliau teithio a chynhaliaeth a dalwyd. 

Mae hyn yn golygu y bydd y taliadau hyn yn gyson ag adrodd ar gostau lwfansau gofal a chymorth personol.

Mae'r holl Benderfyniadau eraill a nodir ar ein gwefan yn parhau'n ddilys a dylent gael eu cymhwyso.

Manylion cysylltu

I ofyn am fersiwn brintiedig o'r Adroddiad Blynyddol anfonwch e-bost atom neu ysgrifennwch at:

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 
Trydydd Llawr Dwyrain
Adeiladau'r Goron 
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10  3NQ

Rhif ffôn: 03000 616095
Ebost: irpmailbox@llyw.cymru

Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn a gwybodaeth arall am y Panel a'i waith ar gael ar ein gwefan