Neidio i'r prif gynnwy

Mae hwn yn gosod ystod a lefel uchaf y lwfansau sy’n daladwy ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Manylion

O dan ofynion Mesur Llywodraeth Leol 2011, mae’n ofynnol i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ddarparu adroddiad drafft i:

  • Weinidogion Cymru
  • awdurdodau perthnasol y mae’r Panel yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud taliadau i’w haelodau mewn perthynas â materion perthnasol neu’n eu hawdurdodi i wneud hynny
  • unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn nhyb y Panel

A:

  • chymryd i ystyriaeth y sylwadau a ddaw i law ynglŷn â’r drafft

Er mwyn bodloni’r gofyniad yn y Mesur i gyhoeddi’r adroddiad blynyddol erbyn 28 Chwefror 2023, dylai sylwadau ddod i law erbyn 1 Rhagfyr 2022.

Gallwch roi adborth ar yr adroddiad drafft hwn trwy lenwi'r ffurflen ar-lein neu drwy ein e-bostio irpmailbox@llyw.cymru.