Neidio i'r prif gynnwy

Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Blynyddol Drafft, sydd yn effeithiol dros y flwyddyn ariannol 2019/20. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r cyfyngiadau ariannol ar y sector gyhoeddus, yn enwedig llywodraethau lleol, wedi golygu fod y cysylltiad gyda thal cyfartalog Cymru wedi’i dorri. Mae’r Panel yn teimlo fod hwn yn tanseilio gwerth aelodau etholedig. Er mwyn osgoi dirywiad pellach i’r tal cyfartalog, mae’r Panel wedi penderfynu codi’r cyflog sylfaenol i £13,868 y.b. (cynnydd o 1.97%). 

Ni oes cynnydd wedi bod i gyflogau’r arweinwyr nac aelodau’r gweithrediaeth ers sawl blwyddyn. Mae’r Panel yn teimlo fod gan rheini sy’n dal y swyddi yma cyfrifoldebau swyddogaethol sylweddol. Mae’r Panel felly yn cynnig cynnydd o £800 (sy’n cynnwys £268 o gynnydd i’r cyflog sylfaenol). 

Mae’r Panel eisoes wedi datgan taliad tuag at gostau ar gyfer aelodau Cynghorau Tref a Chymunedau. Yn wreiddiol doedd y taliadau yma ddim yn orfodol ar gyfer pob cyngor, ond mae adborth wedi dangos crin siom gyda’r penderfyniad yma. Mae’r Panel felly yn teimlo fod gan unrhyw unigolyn sydd eisiau derbyn y taliad yr hawl i’w dderbyn.