Neidio i'r prif gynnwy

Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol Terfynol, a fydd yn effeithio ar flwyddyn ariannol 2019/20.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:
Penderfynodd y Panel y dylid darparu cynnydd o 1.97% i gyflog sylfaenol aelodau etholedig prif gynghorau er mwyn dechrau mynd i’r afael ag erydiad y cyflog o gymharu ag enillion cyfartalog. Bydd hyn yn golygu bod y cyflog sylfaenol yn £13,868. 

Nid yw cyflogau arweinwyr ac aelodau o'r weithrediaeth wedi cynyddu ers sawl blwyddyn (ac eithrio'r cynnydd i'r elfen sylfaenol).

Mae'r Panel o'r farn bod cyfrifoldeb gweithredol sylweddol ar ysgwyddau deiliaid y swyddi hyn, ac nad ydynt wedi'u talu'n dda iawn o gymharu â nifer o swyddogion sector cyhoeddus eraill. O ganlyniad, mae'r Panel wedi penderfynu y dylid gwneud cynnydd bach o £800 i uwch-gyflogau Band 1 a Band 2 sy'n daladwy i'r Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd ac Aelodau Gweithrediaethau. Mae hynny'n cynnwys y cynnydd o £268 i'r cyflog sylfaenol y bydd yr holl aelodau yn ei dderbyn.

Bydd dosbarthiad cynghorau cymuned a thref i mewn i dri band, yn ôl lefel incwm neu wariant yn parhau. Y bwriad yw adlewyrchu'r amrywiaeth eang yng nghyfrifoldebau cynghorau cymuned a thref ar draws Cymru.

Mae'r Panel yn parhau i orchymyn y dylid talu £150 fel cyfraniad at gostau a threuliau pob aelod cyngor cymuned a thref. Ar ben hynny, mae'n cynnig y dylai pob cyngor cymuned a thref ad-dalu costau gofal yr holl aelodau os oes angen. Nod y mesurau hyn yw galluogi cynghorwyr i gyflawni eu swyddogaethau.

Gellir gweld yr adroddiad terfynol hwn ac adroddiadau a phenderfyniadau blaenorol y Panel yma: https://beta.llyw.cymru/panel-annibynnol-cymru-ar-gydnabyddiaeth-ariannol-adroddiad-blynyddol-2019-i-2020.

Erioed wedi ystyried bod yn gynghorydd? Gwyliwch y ffilm fer hon i weld beth mae'r rôl yn ei olygu a’r gydnabyddiaeth ariannol y cewch hawlio: https://youtu.be/ooJFBXsUVvg.