Cyfarfod, Dogfennu
Papur i'w nodi: diweddariad ar Gaffael Cymdeithasol Gyfrifol
Diweddariad ar Gaffael Cymdeithasol Gyfrifol.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF , maint ffeil 91 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gofynnir i Aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor):
- nodi’r diweddariad hwn ar y cynnydd o ran dod â Rhan 3 ac adrannau 9 a 10 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 i rym
Mater
- Mae'r papur hwn yn diweddaru'r Cyngor ar weithredu’r elfennau sy'n weddill o Bartneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ( y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus): Rhan 3 (Caffael Cymdeithasol Gyfrifol) ac Adrannau 9 a 10 am is-grŵp caffael y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Mae cynnydd da yn cael ei wneud gyda'r holl waith hwn yn erbyn cyd-destun o bwysau ar amser ac adnoddau.
- Mae'r ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft yn fyw ar hyn o bryd a bydd yn cau ar 14 Hydref. Byddwn yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae'r ymgynghoriad wedi'i ddweud wrthym pan fydd y Cyngor yn cyfarfod ym mis Rhagfyr.
- Rydym yn disgwyl lansio ymgynghoriad ar y Cod Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweithlu drafft yn ddiweddarach y mis hwn, ac ymgynghoriadau pellach ar y Cymalau Gweithiau Cyhoeddus drafft a'r canllawiau statudol yn ddiweddarach yr hydref hwn.
- Mae'r broses Mynegi Diddordeb ar gyfer aelodaeth o Is-grŵp Caffael y Cyngor bellach yn fyw a bydd yn cau ar 26 Medi. Gellir dod o hyd i ddatganiad ysgrifenedig sy'n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais yma Datganiad Ysgrifenedig: Sefydlu Is-grŵp Caffael y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (27 Awst 2025). Mae'r panel dethol yn cynnwys cyd-gadeiryddion yr is-grŵp caffael Ruth Brady, y Cynghorydd Anthony Hunt a swyddogion Llywodraeth Cymru. Bydd yn ymgynnull i ystyried yr ymgeiswyr ym mis Hydref. Byddwn yn diweddaru'r Cyngor ar ganlyniad y broses hon yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr.
