Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas Grŵp Cynghori ar Bysgodfeydd Morol Cymru a sut y bydd yn gweithio.

Cyflwyniad

Diben y ddogfen hon yw nodi swyddogaeth, cyfansoddiad, cyfrifoldebau a threfniadau gweithredu Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru).

Cafodd Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol ei ffurfio yn 2014 i ddarparu cyngor strategol cyffredinol yn ystod y broses o ddatblygu’r Cynllun Pontio Morol. Ers hynny, mae’r grŵp wedi esblygu ac mae ei aelodaeth wedi cynyddu. Mae’r grŵp bellach yn bartneriaeth o randdeiliaid sydd wedi ymrwymo i gydweithio i gyflawni ein gweledigaeth ar y cyd fel y nodir yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru ac, yn benodol, yn y Naratif ar y Cyd, gweler Atodiad A.

Ym mis Mehefin 2021, cyflwynodd y grŵp gynnig i'r Gweinidog Newid Hinsawdd o'r enw ‘Leading a Blue Recovery’.

Ynddo, nodwyd pecyn o gamau y gellid eu cynnwys mewn cynllun gweithredu, gan gydnabod bod llawer o’r gwaith eisoes yn mynd rhagddo. Mae’r ffocws ar ecosystemau morol gwydn a’r twf y gallent ei gyflawni – drwy atebion sy’n seiliedig ar natur a chynyddu capasiti cymunedol – yn cyd-fynd ag uchelgeisiau’r Llywodraeth yn Rhaglen Lywodraethu 2021 o gael trawsnewidiad gwyrdd (a glas). Mae’r cynigion hefyd yn cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) y Cenhedloedd Unedig, ac SDG 14 yn benodol: “Conserve and sustainably use the oceans, seas and marine resources for sustainable development.”

Ym mis Medi 2021, derbyniodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, y cynnig a gofynnodd i Aelodau’r Senedd gefnogi camau i helpu cymunedau arfordirol adfer yn sgil pandemig COVID-19 a chyflawni ein gweledigaeth o sicrhau bod moroedd Cymru yn lân, iach, cynhyrchiol a bioamrywiol. Mae’r cylch gorchwyl diwygiedig yn adlewyrchu ffocws o’r newydd i’r grŵp, ac yn cadw’r gofyniad iddo gynnal trosolwg o weithgareddau ehangach ar draws Is-adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru a gweithgareddau aelodau’r bartneriaeth.

Diben a nodau lefel uchel

Drwy’r bartneriaeth, mae amrediad eang o grwpiau buddiant strategol yn dod ynghyd i hwyluso cydweithio ar draws y sectorau morol ac arfordirol er mwyn cyflawni’r canlynol:

  1. Sicrhau ymgysylltu effeithiol ac ystyrlon mewn perthynas â chyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru o gael moroedd sy’n lân, yn iach, yn fioamrywiol ac yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy.
  2. Parhau i gynnal trosolwg o gamau a gymerir ar draws Llywodraeth Cymru a’r bartneriaeth ehangach, a rhannu gwybodaeth ar draws eu rhwydweithiau o randdeiliaid.
  3. Canolbwyntio ar dri cham galluogi ar bob lefel i gefnogi ffyrdd cynaliadwy o ddefnyddio ein hecosystemau a’n hadnoddau morol, a gwella’r manteision maen nhw’n eu cynnig:
    • Llythrennedd Morol – meithrin dealltwriaeth o’r ffordd mae pobl, cymunedau a busnesau ledled Cymru yn cysylltu ag arfordiroedd a moroedd Cymru, effaith ein gweithredoedd cyfunol ac unigol ar iechyd y cefnfor a sut mae iechyd y cefnfor yn effeithio ar ein bywydau bob dydd, gan arwain at welliannau o ran sut rydym yn rheoli a defnyddio ein harfordiroedd a’n moroedd
    • Buddsoddi Cynaliadwy – bydd sicrhau mathau arloesol a thymor hwy o gyllid cyhoeddus, preifat a chyfun yn helpu i gyflawni amcanion allweddol, megis adfer Ardaloedd Morol Gwarchodedig a thrawsnewid systemau economaidd-gymdeithasol
    • Cynyddu Capasiti - hwyluso cydweithio a chydgynhyrchu er mwyn annog gweithredu cydgysylltiedig, yn lleol o fewn ein cymunedau, yn genedlaethol ac yn drawsffiniol, i ymateb i anghenion ac amodau sy’n newid wrth i’r pwysau ar ein harfordiroedd a moroedd gynyddu.

Amcan ac allbynnau

Dros y tair blynedd nesaf, bydd aelodau’r bartneriaeth yn gweithio gyda’i gilydd, a chyda phartneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau lleol, i nodi a chyflawni rhaglen waith sy’n seiliedig ar y tair thema fel sail i’n gweledigaeth a’n huchelgeisiau ar gyfer arfordiroedd a moroedd gwydn.

Bydd y bartneriaeth yn nodi, hwyluso, a chyflawni camau ac allbynnau ar y cyd er mwyn cyflawni’r diben a’r nodau lefel uchel. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Datblygu a chyflawni strategaeth a chynllun gweithreduLlythrennedd Morol, yn canolbwyntio ar feithrin a gwella dealltwriaeth o bwysigrwydd ein moroedd a’u stiwardiaeth.
  • Datblygu model cyllido hirdymor i gefnogi’r gwaith o gymryd camau i gynyddu gwytnwch ecosystemau a’r sectorau morol ac arfordirol.
  • Datblygu a chyflawni model hyblyg ar gyfer ymgysylltu â chymunedau arfordirol yn ystyrlon ar lefel leol er mwyn hwyluso’r gwaith o nodi effeithiau ar gymunedau, ac atebion o’r gwaelod i fyny, prosiectau a chyfleoedd, a nodi anghenion tystiolaeth er mwyn hybu datblygu cynaliadwy.

Llywodraethiant a ffyrdd o weithio

Y bartneriaeth yw’r grŵp rhanddeiliaid morol trosfwaol ar gyfer Is-adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru, a fydd yn darparu’r ysgrifenyddiaeth, ac yn monitro ac yn cofnodi’r cynnydd a wneir o ran y nodau, yr amcanion a’r allbynnau.

Nod y bartneriaeth yw cydnabod, addasu ac ymgorffori’r Pum Ffordd o Weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sef cydweithio, integreiddio, cyfranogiad, hirdymor ac atal.

Yr aelodaeth

Nodau’r aelodaeth yw:

  • bod mor gynhwysol â phosibl, gan sicrhau bod pawb â buddiant yn ardal forol Cymru (sectorau busnes e.e. ynni, pysgota, y gymuned, yr amgylchedd, llywodraeth leol, adloniant a hamdden) yn cael eu cynrychioli’n briodol
  • sicrhau cydbwysedd rhwng y grwpiau buddiant a’r cwmpas daearyddol a’r angen i gadw maint y grŵp yn hydrin.

Gweler Atodiad B am restr o’r aelodau presennol.

Rhaid i aelodau wneud y canlynol:

  • Cynrychioli safbwyntiau rhanddeiliaid o Gymru, a’u sector, a chyflwyno unrhyw faterion sy’n codi gerbron y bartneriaeth
  • Cyfleu a lledaenu gwybodaeth allweddol i rwydweithiau o randdeiliaid

Fe’u hanogir hefyd i gyfrannu’n frwd at gyflawni nodau, amcan ac allbynnau’r bartneriaeth ym mha bynnag fodd y gallant.

Y cadeirydd

Ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn cael ei arwain gan gadeirydd annibynnol a benodwyd ar gontract. O 2023 ymlaen, caiff y cadeirydd ei benodi gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a bydd yn atebol iddo.

Cyfarfodydd

Bydd cyfarfodydd CaSP Cymru yn cael eu cynnal o leiaf deirgwaith y flwyddyn, gyda’r nod o gynnal un cyfarfod bob chwarter. Bydd y cyfarfodydd yn gyfuniad o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Gweithgorau / grwpiau gorchwyl a gorffen

Mae’n bosibl y bydd angen sefydlu gweithgorau er mwyn symud meysydd penodol o waith ymlaen a diffinio camau pellach. Gellir sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen am gyfnod penodedig i ymgymryd â thasg benodol, a’u dirwyn i ben ar ôl i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau. Bydd grwpiau’n cael eu cadeirio a’u cynnal gan aelodau o’r bartneriaeth, ac yn adrodd i’r grŵp llawn.

Anogir cynrychiolwyr o blith rhanddeiliaid ehangach, y tu allan i aelodaeth graidd y bartneriaeth, i fod yn aelodau o weithgorau neu grwpiau gorchwyl a gorffen.

Gall y gweithgorau a’r grwpiau benderfynu pa mor aml maen nhw’n cynnal eu cyfarfodydd, ond disgwylir iddynt gwrdd o leiaf unwaith rhwng cyfarfodydd y bartneriaeth.

Mae’r gweithgorau presennol yn cynnwys:

  • Y Gweithgor Llythrennedd Morol o dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Y Gweithgor Buddsoddi Cynaliadwy o dan arweiniad Y Gymdeithas Cadwraeth Forol
  • Y Gweithgor Cynyddu Capasiti o dan arweiniad cadeirydd presennol CaSP Cymru