Mae Llywodraeth Cymru a'r 22 cyngor lleol yng Nghymru wedi llofnodi cytundeb pwysig a fydd yn cryfhau'r berthynas rhwng llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol.
Mae'r Cytundeb Partneriaeth Strategol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol yng Nghymru yn addo cydweithio ac yn ymrwymo i fynd i'r afael â heriau.
Mae'r cytundeb yn creu fframwaith er mwyn i lywodraeth genedlaethol a lleol weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd, gan dorri biwrocratiaeth ddiangen tra'n parchu rolau democrataidd ei gilydd.
Mae hefyd yn mynd i'r afael â phryderon ymarferol gan gynnwys trefniadau cyllido, gydag ymrwymiadau i ymgysylltu’n gynnar ar brosesau cyllido a setliadau ariannol amlflwyddyn lle bo hynny'n bosibl.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:
"Mae'r cytundeb hwn yn garreg filltir hanfodol yn ein hymrwymiad cyffredin i roi pobl yn gyntaf.
"Bydd pobl ledled Cymru yn elwa o wasanaethau cyhoeddus cryfach wrth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol yng Nghymru greu cytundeb partneriaeth strategol newydd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a chydweithio.
"Trwy weithio gyda'n gilydd, heb ddyblygu gwaith na biwrocratiaeth diangen, gallwn sicrhau canlyniadau gwell i gymunedau ledled Cymru."
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:
"Mae cymunedau ym mhob rhan o Gymru wedi elwa o'r berthynas adeiladol hirsefydlog rhwng cynghorau a Llywodraeth Cymru. Drwy ffurfioli'r bartneriaeth ffrwythlon honno, bydd y cytundeb hwn yn caniatáu inni fanteisio hyd yn oed mwy ar y cyfleoedd a gynigir gan ein cydweithrediad agos."
