Neidio i'r prif gynnwy

Mae 88% o'r rhai sy'n gymwys wedi hawlio eu grant Hanfodion Ysgol am ddim i helpu gyda chostau fel gwisg ysgol, esgidiau, bagiau, dillad chwaraeon ac offer. Ydych chi wedi hawlio eich grant chi?

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall plant teuluoedd ar incwm is sy'n derbyn budd-daliadau penodol, y rhai sy'n ceisio lloches a phlant mewn gofal hawlio £125 y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol. Oherwydd y gost ychwanegol y gallai teuluoedd ei hwynebu pan fydd eu plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd, mae £200 ar gael i ddisgyblion sy'n mynd i flwyddyn 7. Gallai hefyd olygu cyllid ychwanegol i'ch ysgol.

Nid yw'n rhy hwyr i wirio cymhwystra a gwneud cais am gyllid ar gyfer eleni cyn i'r cyfnod ymgeisio ddod i ben ar 31 Mai.

Gallwch wneud cais bob blwyddyn ar gyfer pob un o'ch plant. Mae disgyblion o bob math o leoliadau addysg yn gymwys cyn belled â'u bod rhwng 4 (yn y dosbarth derbyn) ac 16 oed. Mae hyn yn berthnasol i ddisgyblion ym mhob ysgol a lleoliad, gan gynnwys ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.

Eglurodd Pennaeth Ysgol Gymunedol Trimsaran, Steffan Jones, sut mae'r grant yn helpu disgyblion yn ei ysgol:

Rydych chi am i bob plentyn gael ei drin yr un fath, ac rydych chi am i bob plentyn gael yr un profiadau. Mae'r grantiau hyn yn helpu, fel y gall pob plentyn gymryd rhan a mwynhau ei amser yn yr ysgol, nid dim ond y rhai sy'n gallu fforddio hynny.

Gallwch ddefnyddio'r grant i dalu am y canlynol:

  • gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
  • gweithgareddau ysgol, fel dysgu offeryn cerddorol, dillad chwaraeon ac offer ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
  • hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, fel pennau ysgrifennu, pensiliau a bagiau

Hyd yn oed os yw eich plentyn eisoes yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim, mae dal angen i chi wirio os ydych yn gymwys i gael y Grant Hanfodion Ysgol a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol. Am fwy o wybodaeth am y Grant Hanfodion Ysgolion ac i wirio os ydych yn gymwys, ewch i Hawliwch help gyda chostau ysgol | LLYW.CYMRU.