Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn defnyddio data personol a gesglir gan Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn ffordd bwysig i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid gasglu'r wybodaeth angenrheidiol am amrywiaeth o bynciau sy'n helpu i wneud penderfyniadau polisi. Mae'r arolwg yn cwmpasu pynciau fel iechyd, llesiant, cyllid, chwaraeon, gweithgareddau celfyddydol, a lefelau'r boddhad â gwasanaethau cyhoeddus.

Nod arolwg peilot 2025 yw treialu cynnwys a phrosesau'r arolwg cyn cynnal yr arolwg llawn yn 2026-27.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) i gynnal Arolwg Cenedlaethol Cymru o 2026-27 ymlaen. Mae'r arolwg yn casglu gwybodaeth am safbwyntiau a bywydau pobl er mwyn helpu i ddatblygu polisïau, a phenderfynu sut y dylid darparu gwasanaethau yng Nghymru. Mae'n darparu ffynhonnell o wybodaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, GIG Cymru, cynghorau lleol, a sefydliadau cyhoeddus eraill ledled Cymru.

Yn y gorffennol, cafodd yr arolwg ei gynnal dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. O 2026-27 ymlaen, bydd  yn cael ei gynnal ar-lein yn bennaf. Byddwn hefyd yn darparu opsiwn i gwblhau'r arolwg ar bapur neu dros y ffôn er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu cymryd rhan. Nod y peilot hwn, sy'n rhedeg o fis Hydref i fis Rhagfyr 2025, yw gwneud yn siŵr bod prosesau a chwestiynau'r arolwg yn gweithio’n dda cyn cynnal yr arolwg llawn yn 2026-27.

Fel rhan o'r peilot hwn, bydd NatCen yn casglu gwybodaeth trwy arolwg y gellir ei gwblhau ar-lein, ar bapur neu dros y ffôn.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr astudiaeth. Bydd unrhyw ddata personol sy'n darparu manylion y gellir eu defnyddio i'ch adnabod yn uniongyrchol yn cael eu storio ar wahân i brif set ddata'r arolwg.

Caiff yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan NatCen a Llywodraeth Cymru. Bydd unrhyw gasgliadau a gyhoeddir gennym yn ddienw, ac ni fydd unrhyw un sy'n edrych ar y casgliadau hynny'n gallu eich adnabod mewn unrhyw ffordd.

Mae'r cyfranogwyr yn cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich cyfranogiad yn bwysig er mwyn sicrhau bod Arolwg Cenedlaethol Cymru yn gweithio'n dda ac yn darparu tystiolaeth gadarn i helpu i lywio penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Yr unigolyn cyswllt yn NatCen ar gyfer yr ymchwil hon yw Melanie Doyle-Francis.

E-bost: melanie.doyle-francis@natcen.ac.uk

Ffôn: 020 7549 7052
 

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i'w adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Mae cyfeiriadau cyfranogwyr yn cael eu dewis ar hap o restr gyhoeddus y Post Brenhinol o’r holl gyfeiriadau yng Nghymru, ac anfonir llythyr at aelwydydd yn eu gwahodd i gymryd rhan. Er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu cymryd rhan, byddwn hefyd yn anfon llythyr atgoffa ac, os na allwch gwblhau'r arolwg ar-lein, gopi papur o'r arolwg.

Os byddwch yn cysylltu â NatCen i gymryd rhan dros y ffôn, efallai y gofynnir ichi roi eich enw, eich rhif ffôn, neu eich cyfeiriad e-bost er mwyn i gyfwelydd allu cysylltu â chi. Os bydd yn well gennych wneud eich apwyntiad yn Gymraeg, byddwch yn cael eich trosglwyddo i Drafnidiaeth Cymru Cyf sy'n ymdrin â galwadau yn Gymraeg ar ran NatCen. Bydd Trafnidiaeth Cymru Cyf yn gofyn am eich enw a'ch rhif ffôn, a bydd yn rhannu'r rhain yn ddiogel gyda NatCen er mwyn i gyfwelydd Cymraeg allu eich ffonio ’nôl.

Os byddwch yn cysylltu â NatCen i ofyn am gopi papur o'r arolwg, gofynnir ichi roi eich enw a'ch cyfeiriad llawn. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda chwmni Adetiq Ltd, sy'n gyfrifol am brosesu'r holiadur papur, er mwyn iddo allu anfon copi atoch.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu data personol, os ydych chi'n dewis eu darparu. Ni fyddwn ond yn gofyn am y data personol sy'n angenrheidiol ar gyfer cynnal yr arolwg a deall y canlyniadau. Bydd y data'n cael eu cadw'n gyfrinachol, ac yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Mae'r holl ganfyddiadau rydyn ni'n eu cyhoeddi yn ddienw, ac ni fydd unrhyw un sy'n edrych ar y casgliadau yn gallu eich adnabod mewn unrhyw ffordd.

Dyma'r data personol yr ydym yn gofyn amdanynt:

  • Enw
  • Cyfeiriad post llawn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Grŵp ethnig
  • Crefydd
  • Iechyd a salwch, gan gynnwys taldra a phwysau, ac a ydych yn feichiog
  • Dyddiad geni 

Rydym hefyd yn gofyn am y data personol categori arbennig canlynol:

  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Grŵp ethnig
  • Crefydd
  • Iechyd a salwch, gan gynnwys taldra a phwysau, ac a ydych yn feichiog

Mae eich cyfranogiad yn yr astudiaeth yn wirfoddol. Os nad ydych am gymryd rhan na chael negeseuon atgoffa gennym, rhowch wybod i NatCen drwy alw'r rhif ffôn sydd yn y llythyr, a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion cynnal yr arolwg peilot hwn y bydd NatCen yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn. 

Os byddwch chi'n cwblhau'r astudiaeth ar-lein, bydd eich atebion yn cael eu cadw bob tro y byddwch chi'n symud i'r dudalen nesaf. Gallwch ddychwelyd i gwblhau'r astudiaeth drwy ddefnyddio'r un cod mewngofnodi i barhau â'r arolwg, er efallai y bydd angen ichi fynd drwy nifer bach o gwestiynau eto. Os byddwch yn gadael yr arolwg ran o'r ffordd drwyddo, bydd NatCen yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i anfon negeseuon e-bost atoch sy'n cynnwys dolen ichi ailddechrau'r astudiaeth. 

Cynigir taleb i ymatebwyr i'r arolwg i ddiolch iddynt am gymryd rhan. Os byddwch yn dewis cael y daleb drwy e-bost, bydd NatCen yn ei hanfon atoch. Os hoffech daleb drwy'r post, yna bydd NatCen yn defnyddio'ch enw a'ch cyfeiriad post i anfon y daleb atoch. Ni fydd NatCen ond yn defnyddio eich manylion i anfon y daleb, ac ni fydd yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall. Bydd yn dileu eich manylion yn ddiogel o fewn mis i’w hanfon.

Os byddwch yn cwblhau'r arolwg ar bapur, bydd yn cael ei brosesu gan Adetiq Ltd, a fydd yn trosglwyddo eich ymatebion i'r arolwg peilot yn ddiogel i NatCen. Ni fydd Adetiq Ltd ond yn defnyddio eich data personol i drosglwyddo eich ymatebion i NatCen. Bydd Adetiq Ltd yn dinistrio'r arolwg papur a gafodd ei ddychwelwyd gennych mewn modd diogel o fewn 1 mis.

Fodd bynnag, os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, ni fyddwn yn ceisio'ch adnabod o'ch ymatebion, na'ch cysylltu â'r ymatebion hynny. 

Efallai y bydd rhai cyfweliadau ffôn yn cael eu harsylwi neu eu recordio at ddibenion hyfforddi a monitro yn unig gan aelodau'r tîm ymchwil o NatCen. Os bydd hyn yn berthnasol i'ch cyfweliad, byddwn yn egluro hynny wrthych cyn i'r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrth y sawl sy'n cynnal y cyfweliad nad ydych yn fodlon i'r cyfweliad gael ei recordio. Bydd unrhyw recordiad yn cael ei ddileu cyn gynted ag y bydd wedi'i ddefnyddio at ddibenion hyfforddi neu fonitro. 

Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, bydd cyfwelydd yn anfon y manylion hynny at y swyddog perthnasol yn unig.

Sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data

Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir rhywfaint o’r data a gasglwn fel rhan o'r arolwg yn ‘ddata categori arbennig’ (er enghraifft gwybodaeth am ethnigrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, ac iechyd)  a’r sail gyfreithlon dros brosesu’r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.

Mae cyfranogwyr yn cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau peilot fel hyn yn bwysig oherwydd maent yn ein galluogi i wneud yn siŵr bod y prif arolwg yn gweithio'n dda, a'n bod yn deall effeithiau unrhyw newidiadau i ddyluniad yr arolwg. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod data a gesglir yn yr arolwg yn darparu tystiolaeth gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau.  Mae’n bosibl y bydd yr wybodaeth a gesglir mewn arolygon yn y dyfodol yn cael ei defnyddio ar gyfer pethau fel:

  • darganfod pa mor fodlon yw pobl â'u hardal leol, ac am faterion yn eu hardal leol;
  • edrych ar sut y gallwn helpu pobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd i gael mynediad ato, ac i deimlo'n hyderus wrth  ei ddefnyddio; a
  • deall a yw pobl yn ei chael hi'n hawdd gwneud apwyntiadau yn y feddygfa, ac os nad ydynt, pa rwystrau penodol y mae angen inni fynd i'r afael â nhw
     

Diogelwch eich data personol

Mae'r wybodaeth bersonol a roddir i NatCen yn cael ei storio bob amser ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn fydd yn cael gweld yr wybodaeth honno. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd NatCen yn defnyddio'r wybodaeth. Mae gan NatCen nod ardystio Cyber Essentials Plus.  Wrth gynnal arolygon, mae NatCen yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolygon o'r enw Unicom Intelligence i gasglu data os ydych chi'n ymateb ar-lein neu dros y ffôn. Rydym wedi sicrhau bod Unicom Intelligence yn cydymffurfio â GDPR y DU, ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.

Mae gwybodaeth bersonol a roddir i Drafnidiaeth Cymru Cyf bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel mewn modd sy'n cydymffurfio â GDPR y DU. Dim ond at ddibenion trefnu cyfweliadau Cymraeg, neu gynorthwyo gydag ymholiadau eraill am yr arolwg, y bydd y data'n cael eu defnyddio. Er mwyn ymdrin â'r ymholiadau hyn, mae'n bosibl y bydd Trafnidiaeth Cymru Cyf yn trosglwyddo data personol i NatCen drwy weinydd diogel.

Bydd ymatebion papur i'r arolwg peilot a roddir i Adetiq Ltd yn cael eu cadw dan glo yn swyddfeydd Adetiq Ltd cyn ac ar ôl cael eu prosesu, hyd nes eu bod yn cael eu dinistrio mewn modd diogel.  Mae gan Adetiq Ltd ardystiad Cyber Essentials.  Mae Adetiq Ltd yn defnyddio rhaglen o'r enw OCR Plus Sight Verification i gasglu data os ydych chi'n ymateb ar bapur. Rydym wedi sicrhau bod  OCR Plus Sight Verification yn cydymffurfio â GDPR y DU, ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.

Er mwyn prosesu ymatebion papur, bydd Adetiq Ltd yn trosglwyddo data ymatebion, gan gynnwys data personol a data categori arbennig, i NatCen drwy weinydd diogel. 

Mae gan NatCen, Adetiq Ltd, a Thrafnidiaeth Cymru Cyf weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os ceir amheuaeth bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri mewn modd sy'n effeithio ar eich gwybodaeth, bydd NatCen yn rhoi gwybod am hyn i Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi gwybod i chi ac i unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith. 

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig, ac i ddod i gasgliadau am y boblogaeth yn gyffredinol, yn hytrach na chanolbwyntio ar bobl unigol.

Bydd NatCen yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad technegol a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unigolion a gymerodd ran. Cyhoeddir adroddiadau yn ‌www.llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol

Bydd NatCen yn cadw data personol (gan gynnwys data categori arbennig) yn ystod cyfnod y contract, a bydd yn dileu'r holl ddata personol o fewn chwe mis i'r set ddata gael ei chwblhau'n derfynol. Mae hynny’n cynnwys eich manylion cyswllt. Mae'n cael ei chwblhau'n derfynol tua thri mis ar ôl diwedd y cyfnod gwaith maes o fis Hydref 2025 i fis Rhagfyr 2025. 

Bydd copïau digidol o ddata ymateb (gan gynnwys data personol a data categori arbennig), a gedwir gan Adetiq Ltd, yn cael eu cadw nes bod y set ddata derfynol wedi'i chytuno gan Lywodraeth Cymru. Yna, bydd y data digidol yn cael ei ddileu'n ddiogel gan Adetiq Ltd o fewn mis.

Os byddwch yn siarad â Thrafnidiaeth Cymru Cyf, sy'n ymdrin â galwadau Cymraeg ar ran NatCen, bydd Trafnidiaeth Cymru Cyf yn dileu unrhyw ddata personol o fewn mis ar ôl i'r ymholiad gael ei ddatrys.

Os byddwch yn gofyn am gopi papur o'r arolwg, bydd NatCen yn defnyddio manylion eich cyfeiriad i anfon yr arolwg atoch, ac yn dileu'r rhain gyda'r holl ddata personol o fewn chwe mis ar ôl cwblhau'r set ddata derfynol. Os byddwch yn dewis derbyn taleb drwy'r post, bydd NatCen yn cadw eich manylion cyswllt ar ôl ichi gwblhau'r arolwg, a'u dileu o fewn mis i'ch taleb bost ddod i ben.

Bydd NatCen yn rhoi'r set ddata lawn i Lywodraeth Cymru, ond heb gynnwys enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, a rhif ffôn.

‌‌Bydd gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â chŵyn i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin fel y disgrifir yn‌ hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru.

Eich hawliau unigol

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), mae gennych  hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi fel rhan o'r ymchwil hon. Yn benodol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • cael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
  • gofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hynny;
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol);
  • gofyn inni ddileu eich data (o dan amgylchiadau penodol);
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer/Cheshire, SK9 5AF.

Ffôn: 0303 123 1113.

Gwefan: www.ico.org.uk

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a roddir at ddibenion yr astudiaeth hon, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio GDPR y DU, cysylltwch â'r person isod:

Tîm yr Arolwg Cenedlaethol

Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru: