Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am danau a fynychwyd, marwolaethau o ganlyniad i danau, galwadau ffug, digwyddiad gwasanaethau arbennig a thanau mewn anheddau o fewn rheolaeth ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn ymwneud â digwyddiadau'r gwasanaeth tân ac achub rhwng mis Ebrill 2021 a diwedd mis Mawrth 2022, tra’n cymharu â Ebrill 2020 i Mawrth 2021, cyfnod wedi’i heffeithio i raddau health gan pandemig Coronafeirws (COVID-19), a felly’r cyfyngiadau iechyd cyhoeddus oedd yn eu lle trwy gyfnod y pandemig. Er llaciwyd cyfyngiadau yn ystod 2021-22 roedd yna rhai cyfnodau yn ystod y flwyddyn lle roedd cyfyngiadau dal ar waith ac mae posib bod patrymau ymddygiad heb dychwelyd i patrymau cyn y pandemig.

Adroddiad blynyddol sy’n cynnwys gwybodaeth am danau a fynychwyd, anafiadau o ganlyniad i danau, galwadau ffug, digwyddiadau gwasanaethau arbennig a thanau mewn anheddau o fewn rheolaeth.

Prif bwyntiau

  • Bod Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru wedi mynychu 10,736 o danau, sy’n cyfateb i 34 o danau fesul 10,000 o’r boblogaeth. Mae hyn yn gynnydd o 4% o gymharu â 2020-21. Ers i gyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub gael ei ddatganoli i Gymru yn 2004-05, mae’r nifer a’r gyfradd wedi mwy na haneru.
  • Roedd yna 15,799 o alwadau ffug a fynychwyd yn 2021-22, sy'n cyfateb i 50 fesul 10,000 o'r boblogaeth ac yn gynnydd o 2% o gymharu â 2020-21.
  • Roedd 152 o farwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i danau yng Nghymru (5 i bob 100,000 o'r boblogaeth). Mae hyn yn ostyngiad o 4% yn nifer y rhai a anafwyd.
  • Roedd 84% o danau mewn anheddau yng Nghymru wedi'u dal yn yr ystafell lle dechreuodd y tân.

Adroddiadau

Perfformiad awdurodau tân ac achub: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 631 KB

PDF
Saesneg yn unig
631 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Claire Davey

Rhif ffôn: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.