Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer y tai mewn amlfeddiannaeth ac am gyflwr eiddo preswyl ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2017-18, cafodd 6,282(a) o asesiadau eu cynnal o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai, cynnydd o 3% ar y flwyddyn flaenorol.
  • Ni chofnodwyd unrhyw beryglon categori 1 mewn dros ddau draean (70%) o'r holl asesiadau a wnaed yn ystod 2017-18.
  • Yn ystod 2017-18, canfuwyd bod peryglon Categori 1 yn 1,860 (30%) o'r holl asesiadau a wnaed. Y perygl categori 1 mwyaf cyffredin mewn tai amlfeddiannaeth a thai nad oed yn rhai amlfeddiannaeth oedd ‘Oerfel’.
  • Arweiniodd camau gweithredu a gymrwyd gan awdurdodau lleol yn ystod 2017-18 at ddatrys 1,224 o beryglon Categori 1. Roedd 881 (72%) mewn tai nad oedd yn aelwydydd amlfeddiannaeth a 343 (28%) ohonynt mewn tai amlfeddiannaeth.
  • Ar 31 Mawrth 2018, amcangyfrifodd awdurdodau lleol bod tua 19,250 o anheddau amlfeddiannaeth yng Nghymru, ac o’r rhain roedd 77% (14,880) yn hysbys i awdurdodau lleol o gymharu â 81% y flwyddyn flaenorol.
  • Cynyddodd nifer y tai amlfeddiannaeth trwyddedig ledled Cymru yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf gydag 8,870 o amheddau amlfeddiannaeth wedi’u cofnodi ar 31 Mawrth 2018.

(a) Yn cynnwys ffigyrau wedi’u hamcangyfrif ar gyfer Caerdydd, gan na allai’r awdurdod ddarparu data ar asesiadau yn cynnwys peryglon category 1 a 2 yn ystod y flwyddyn.

Adroddiadau

Peryglon mewn tai a thrwyddedau, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.