Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyflwynwyd y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) yn 2006 i asesu’r risgiau posibl i iechyd a diogelwch preswylwyr oherwydd diffygion mewn annedd. Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am anheddau y cafodd asesiadau’r HHSRS eu cynnal arnynt rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023 (nid oeddynt oll yn anheddau preswyl). Mae penawdau gwybodaeth am yr HHSRS ar gyfer pob math o annedd preswyl ar gael ar gyfer 2017-18 ym mhrif ganlyniadau’r Arolwg o Gyflwr Tai

Roedd y datganiad hwn yn arfer cyflwyno gwybodaeth am dai amlfeddiannaeth (HMO’s) ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Mae'r wybodaeth hon bellach yn cael ei chyflwyno ar wahân yn Trwyddedau Tai Amlfeddiannaeth (HMO).

Mae’r holl wybodaeth a gyflwynir yn y datganiad hwn wedi’i chasglu yn y datganiadau Peryglon a Thrwyddedau blynyddol gan awdurdodau lleol. Ceir rhagor o fanylion am y data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn yr adroddiad ansawdd trwyddedu Peryglon Tai a Thai Amlfeddiannaeth (HMO).

Prif bwyntiau

  • Yn 2022-23, cafodd 5,093 o asesiadau eu cynnal o dan yr HHSRS, 17% yn fwy na’r flwyddyn flaenorol ond ychydig yn llai na'r hyn a gynhaliwyd cyn y pandemig COVID-19 (5,652 yn 2018-19). 
  • O’r 5,093 o asesiadau, cafodd 2,387 eu cynnal mewn tai amlfeddiannaeth (47%). 
  • Datgelodd 1,514 o’r asesiadau a gynhaliwyd (30%) beryglon Categori 1. 
  • Y perygl Categori 1 mwyaf cyffredin mewn tai amlfeddiannaeth a chartrefi un aelwyd (tai nad ydynt yn rhai amlfeddiannaeth) oedd ‘Oerfel’.
  • Cymerodd awdurdodau lleol gamau i ddatrys 1,006 o beryglon Categori 1.

Asesiadau

Asesiad yn seiliedig ar risg yw’r HHSRS sy’n helpu awdurdodau lleol i nodi peryglon a risgiau posibl i iechyd a diogelwch ac amddiffyn rhagddynt. Mae’n cael ei defnyddio i benderfynu a yw annedd preswyl yn ddiogel i fyw ynddo. Er ei bod yn cael ei defnyddio i asesu pob math o annedd, mae’n cael ei defnyddio amlaf i asesu tai yn y sector preifat. 

Mae'r HHSRS yn cael ei defnyddio i asesu 29 math o berygl mewn tai ac yn rhoi sgôr ar gyfer pob un. Cyfeirir at beryglon sy'n sgorio'n uchel ar y raddfa (sy’n peri’r risg fwyaf) fel peryglon Categori 1. Os gwelir bod perygl Categori 1 mewn annedd, mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i gymryd camau gorfodi priodol. Cyfeirir at beryglon sy'n sgorio'n is ar y raddfa (sy'n peri risg llai) fel peryglon Categori 2. Pan geir perygl Categori 2, mae’r awdurdod lleol yn cael cymryd camau gorfodi. Mae awdurdodau lleol yn seilio'r holl benderfyniadau gorfodi ar gyfer safleoedd preswyl ar asesiadau’r HHSRS. Byddai unrhyw annedd y ceir Perygl Categori 1 ynddo yn 'methu' yn awtomatig Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS)

Gellir cynnal asesiadau’r HHSRS am nifer o resymau, gan gynnwys wrth drwyddedu tŷ amlfeddiannaeth, neu pan ddaw cwyn am annedd gan feddiannydd neu gymydog.

Cyflwynwyd y Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw ynddi (FFHH) ym mis Rhagfyr 2022 (sef yn ystod y cyfnod yr ymdrinnir ag ef yn y datganiad hwn) o dan Adran 91 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Deddfwriaeth y DU). Nod y Rheoliadau FFHH yw sicrhau bod landlordiaid yn cynnal a chadw anheddau a’u rhwystro rhag mynd yn anaddas i bobl fyw ynddynt. Mae’n bwysig cofio nad yw presenoldeb perygl mewn annedd o dan yr HHSRS yn golygu ei bod o reidrwydd yn anaddas i bobl fyw ynddi o dan y Rheoliadau FFHH. Er enghraifft, er y gellir ystyried amrywiad bychan yn arwyneb y llawr yn berygl o dan yr HHSRS, byddai hynny ar ei ben ei hun yn annhebygol iawn o arwain at benderfyniad bod yr annedd yn anaddas i bobl fyw ynddi.

Yn 2020-21, dim ond nifer fach o asesiadau a gynhaliwyd gan fod mesurau iechyd y cyhoedd a osodwyd i leihau trosglwyddiad y coronafeirws yn cyfyngu ar allu awdurdodau lleol i gynnal asesiadau. Yn y flwyddyn hon, lle cynhaliwyd asesiadau, roeddent yn canolbwyntio ar yr achosion gyda’r risg uchaf. Yn 2021-22, effeithiodd y pandemig ar awdurdodau lleol mewn gwahanol ffyrdd: parhaodd rhai awdurdodau lleol i gynnal nifer llai o asesiadau i leihau’r risg i staff a chleientiaid, tra bod cynhaliodd awdurdodau lleol eraill nifer fawr o asesiadau i weithio drwy’r ôl-groniad o achosion a gronnwyd yn y blynyddoedd blaenorol. Mae nifer yr asesiadau a gynhaliwyd yn 2022-23 (5,093) wedi cyrraedd lefel ychydig yn is na’r hyn a welwyd yn y blynyddoedd cyn y pandemig (5,652 yn 2018-19).

Yn 2022-23, cynhaliwyd y nifer fwyaf o asesiadau yng Nghaerdydd ac Abertawe (957 a 952 o asesiadau yn y drefn honno). Yn gymharol, cynhaliwyd llai na 100 o asesiadau eleni mewn 10 o’r 22 awdurdod lleol (Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion, Sir y Fflint, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Wrecsam a Bro Morgannwg).

Ffigur 1: Canran o’r holl asesiadau lle cafwyd o leiaf un perygl Categori 1 neu Gategori 2, 2013-14 i 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Disgrifwyd yn y testun isod.

[Nodyn 1] Gall asesiadau ddatgelu peryglon Categori 1 a Chategori 2.

[Nodyn 2] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir y Fflint.

[Nodyn 3] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Ddinbych a Wrecsam.

[Nodyn 4] Amcangyfrifon yw ffigurau Caerdydd.

[Nodyn 5] Ni chafodd data eu casglu yn 2019-20 oherwydd COVID-19.

[Nodyn 6] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Benfro.

[Nodyn 7] Amcangyfrifon yw ffigurau Castell Nedd Port Talbot.

Rhwng 2013-14 a 2018-19, roedd canran yr asesiadau sy’n cynnwys perygl Categori 1 yn amrywio rhwng 30% a 39%. Dros yr un cyfnod, roedd canran yr asesiadau sy’n cynnwys perygl Categori 2 wedi amrywio rhwng 57% a 70%. Yn 2020-21, bu cynnydd sylweddol yng nghanran yr asesiadau sy’n cynnwys peryglon Categori 1 (45%) a gostyngiad bach yn y ganran sy’n cynnwys perygl Categori 2 (67%), yn rhannol oherwydd effaith y pandemig ar weithrediadau’r awdurdodau lleol.

Yn 2022-23, roedd 30% o asesiadau sy’n cynnwys perygl Categori 1, sy’n gyson â’r flwyddyn flaenorol a’r blynyddoedd a welwyd cyn y pandemig. O gymharu â’r flwyddyn flaenorol, bu cynnydd bach yng nghanran yr asesiadau sy’n cynnwys perygl Categori 2 (o 52% yn 2021-22 i 54% yn 2022-23), er bod y ganran hon yn parhau i fod yn is na’r hyn a welwyd yn y blynyddoedd cynharach .

Ar lefel yr awdurdod lleol, roedd cyfran yr asesiadau sy’n cynnwys naill ai perygl Categori 1 neu Gategori 2 ar ei hisaf yn Abertawe. O'r 952 o asesiadau a gynhaliwyd yn Abertawe, roedd 4% yn cynnwys perygl Categori 1 a 19% yn cynnwys perygl Categori 2. Adroddodd Powys fod y gyfran uchaf o asesiadau sy’n cynnwys perygl Categori 1 (gyda 72% o’r 247 o asesiadau yn cynnwys perygl Categori 1), tra adroddodd Caerdydd y gyfran uchaf o asesiadau sy’n cynnwys perygl Categori 2 (gyda 953 o 957 o asesiadau yn cynnwys perygl Categori 2) [Nodyn 8].

[Nodyn 8] Heb gynnwys Bro Morgannwg lle roedd pob un o'r 38 asesiad yn cynnwys perygl Categori 2.

Ffigur 2: Canran yr asesiadau sy’n datgelu o leiaf un perygl Categori 1 yn ôl math o annedd, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Disgrifwyd yn y testun isod.

[Nodyn 1] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir y Fflint.

[Nodyn 2] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Ddinbych a Wrecsam.

[Nodyn 3] Amcangyfrifon yw ffigurau Caerdydd.

[Nodyn 4] Ni chafodd data eu casglu yn 2019-20 oherwydd COVID-19.

[Nodyn 5] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Benfro.

[Nodyn 6] Amcangyfrifon yw ffigurau Castell Nedd Port Talbot.

Ers cyflwyno'r HHSRS yn 2006, mae canran yr asesiadau sy’n cynnwys perygl Categori 1 wedi bod yn uwch mewn tai nad ydynt yn HMO o gymharu â HMO’s. Yn 2020-21, tyfodd y gwahaniaeth rhwng asesiadau HMO ac asesiadau nad ydynt yn HMO, yn rhannol efallai oherwydd y pandemig, gyda mesurau iechyd cyhoeddus yn ei gwneud yn anos cynnal asesiadau mewn HMO’s.

Yn 2022-23, roedd rhaniad cymharol gyfartal o asesiadau a gynhaliwyd mewn Tai Amlfeddiannaeth a rhai nad oeddent yn HMO (o’r 5,093 o asesiadau, 47% a gynhaliwyd gennym mewn HMO a 53% mewn tai nad ydynt yn HMO). Yn ystod y flwyddyn hon, cynyddodd canran yr asesiadau HMO sy’n cynnwys perygl Categori 1 o 13% i 17%, tra gostyngodd canran yr asesiadau sy’n cynnwys perygl Categori 1 mewn rhai nad ydynt yn HMO’s o 44% i 41%.

Ffigur 3: Canran yr asesiadau sy’n datgelu o leiaf un perygl Categori 2 yn ôl math o annedd, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Disgrifwyd yn y testun isod.

[Nodyn 1] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir y Fflint.

[Nodyn 2] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Ddinbych a Wrecsam.

[Nodyn 3] Amcangyfrifon yw ffigurau Caerdydd.

[Nodyn 4] Ni chafodd data eu casglu yn 2019-20 oherwydd COVID-19.

[Nodyn 5] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Benfro.

[Nodyn 6] Amcangyfrifon yw ffigurau Castell Nedd Port Talbot.

Rhwng 2014-15 a 2018-19, roedd canran uwch o beryglon Categori 2 mewn asesiadau HMO nag asesiadau nad ydynt yn HMO (yn 2018-19, 75% o asesiadau HMO yn cynnwys perygl Categori 2, o gymharu â 67% o asesiadau nad ydynt yn HMO). Yn 2020-21 a 2021-22, gwrthdrowyd y duedd hon, gyda chanran uwch o beryglon Categori 2 wedi'u canfod mewn rhai nad ydynt yn HMOs. Yn y flwyddyn ddiweddaraf, cynyddodd canran yr asesiadau HMO sy’n cynnwys perygl Categori 2 o 43% i 60%, tra gostyngodd canran yr asesiadau nad ydynt yn HMO sy’n cynnwys perygl Categori 2 o 60% i 49%.

Peryglon mewn tai amlfeddiannaeth

Mae llawer o wahanol fathau o dai yn y sector rhentu preifat yn dai amlfeddiannaeth. Mae pobl sengl ifanc ar incwm isel yn enwedig yn byw ynddynt ac mae llawer yn perthyn i grwpiau bregus/tan anfantais.

Ffigur 4: Nifer y peryglon Categori 1 a gafwyd mewn tai amlfeddiannaeth, yn ôl y math o berygl, 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad Ffigur 4: Siart fariau lorweddol sy’n dangos bod y peryglon mwyaf cyffredin oedd ‘rhy oer’, yna ‘tân’ a ‘Lleithder a llwydni’.

[Nodyn 1] Amcangyfrif yw ffigurau Castell Nedd Port Talbot.

[Nodyn 2] Gall asesiadau ddatgelu mwy nag un math o berygl Categori 1.

Ers 2012-13, ‘rhy oer’ yw’r perygl Categori 1 mwyaf cyffredin mewn tai amlfeddiannaeth. Yn 2022-23, ‘rhy oer’ oedd 286 (49%) o’r peryglon Categori 1 a gafwyd yn y math hwn o annedd, y gyfran fwyaf a gofnodwyd hyd yma.

Ffigur 5: Nifer y peryglon Categori 2 a gafwyd mewn tai amlfeddiannaeth, yn ôl y math o berygl, 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad Ffigur 5: Siart fariau lorweddol sy’n dangos bod y peryglon mwyaf cyffredin oedd ‘tân’, yna ‘lleithder a llwydni’ a ‘Mynediad gan ddieithriaid’.

[Nodyn 1] Amcangyfrif yw ffigurau Castell Nedd Port Talbot.

[Nodyn 2] Gall asesiadau ddatgelu mwy nag un math o berygl Categori 2.

Ers 2008-09, ‘tân’ yw’r perygl Categori 2 mwyaf cyffredin mewn tai amlfeddiannaeth (heblaw am ‘arall’). Roedd risg ‘tân’ yn cyfrif am 1,105 o beryglon Categori 2 a ddarganfuwyd yn y math hwn o annedd yn y flwyddyn ddiweddaraf (26%).

Peryglon mewn cartrefi un aelwyd

Cyfeirir at anheddau un aelwyd hefyd fel “tai nad ydynt yn HMO’s”.

Ffigur 6: Nifer y peryglon Categori 1 a gafwyd mewn cartrefi un aelwyd, yn ôl y math o berygl, 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad Ffigur 6: Siart fariau lorweddol sy’n dangos bod y peryglon mwyaf cyffredin oedd ‘rhy oer’, yna ‘Lleithder a llwydni’ a ‘tân’.

[Nodyn 1] Amcangyfrif yw ffigurau Castell Nedd Port Talbot.

[Nodyn 2] Gall asesiadau ddatgelu mwy nag un math o berygl Categori 1.

Yn 2022-23, ‘rhy oer’ oedd y perygl Categori 1 mwyaf cyffredin mewn cartrefi un aelwyd. Roedd ‘rhy oer’ yn cyfrif am 601 o beryglon Categori 1 a ganfuwyd yn y math hwn o annedd (34%).

Ffigur 7: Nifer y peryglon Categori 2 a gafwyd mewn cartrefi un aelwyd, yn ôl y math o berygl, 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad Ffigur 7: Siart fariau lorweddol sy’n dangos bod y peryglon mwyaf cyffredin oedd ‘lleithder a llwydni’ ac yna ‘tân’ a ‘Peryglon trydanol’.

[Nodyn 1] Amcangyfrif yw ffigurau Castell Nedd Port Talbot.

[Nodyn 2] Gall asesiadau ddatgelu mwy nag un math o berygl Categori 2.

Ers 2008-09, ‘lleithder a llwydni’ yw’r perygl Categori 2 mwyaf cyffredin mewn tai nad ydynt yn HMO (heblaw am ‘arall’). Yn 2022-23, ‘lleithder a llwydni’ oedd 834 (21%) o’r peryglon Categori 2 a gafwyd yn y math hwn o annedd.

Camau gorfodi

Gall awdurdodau lleol orfodi nifer o gamau gwahanol pan welir perygl, gan gynnwys cyflwyno hysbysiad ymwybyddiaeth o berygl neu hysbysiad gwella sy'n gofyn am wneud gwaith i ddileu neu leihau'r perygl, gorchymyn gwahardd i gyfyngu ar y defnydd o'r annedd neu ran ohono neu gallant gymryd eu camau eu hunain os ystyrir bod angen delio â'r perygl fel argyfwng. Efallai na fydd y camau gorfodi a gymerir yn arwain at ddatrys y perygl bob tro.

Ffigur 8: Nifer y peryglon Categori 1 gafodd eu datrys, yn ôl y math o annedd, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Disgrifwyd yn y testun isod.

[Nodyn 1] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir y Fflint.

[Nodyn 2] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Ddinbych a Wrecsam.

[Nodyn 3] Amcangyfrifon yw ffigurau Caerdydd.

[Nodyn 4] Ni chafodd data eu casglu yn 2019-20 oherwydd COVID-19.

[Nodyn 5] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Benfro.

[Nodyn 6] Amcangyfrifon yw ffigurau Castell Nedd Port Talbot.

Rhwng 2013-14 a 2018-19, gostyngodd nifer y peryglon Categori 1 a ddatryswyd mewn HMOs o 585 i 358. Dros yr un cyfnod, amrywiodd nifer y peryglon Categori 1 a ddatryswyd mewn tai nad ydynt yn HMOs rhwng 802 a 1,229. Yn 2020-21 a 2021-22, cafodd nifer is o beryglon Categori 1 eu datrys, yn ôl pob tebyg oherwydd effaith y pandemig coronafeirws ar weithrediadau’r awdurdodau lleol.

Yn 2022-23, Cymerodd awdurdodau lleol gamau i ddatrys 1,006 o beryglon Categori 1. Roedd hyn yn gynnydd ar y ddwy flynedd flaenorol (lle cafodd 567 a 797 o beryglon eu datrys yn ôl ei drefn) ond yn is na’r nifer gafodd eu datrys yn y blynyddoedd cyn y pandemig (1,352 yn 2018-19). Roedd y rhan fwyaf o’r rheini gafodd eu datrys (83%) mewn cartrefi un aelwyd. Mae hyn i'w ddisgwyl, o gofio bod y rhan fwyaf o beryglon Categori 1 i'w gweld mewn cartrefi un aelwyd (yn 2022-23, roedd 73% o’r asesiadau a ddatgelodd berygl Categori 1 yn asesiadau o anheddau un aelwyd).

Mae'n bwysig nodi y gallai'r asesiad o rai peryglon fod wedi'i wneud mewn blynyddoedd ariannol blaenorol. Mae rhai asesiadau hefyd yn gallu nodi mwy nag un perygl Categori 1. Am y rhesymau hyn, nid yw'n bosibl pennu cyfran y peryglon Categori 1 sy’n cael eu datrys mewn blwyddyn benodol.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Statws Ystadegau Cenedlaethol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a’r drafodaeth gyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei ddiddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan fodlonir y safonau.

Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cadw eu statws fel Ystadegau Gwladol yn 2022 yn dilyn asesiad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol: 

  • Esboniadau manylach gan gynnwys mwy o gyd-destun polisi a gweithredu
  • Cyhoeddiadau ar wahân am beryglon mewn tai, trwyddedu tai amlfeddiannaeth (HMO) a dymchweliadau i wneud y data’n fwy hygyrch ac yn haws eu defnyddio.
  • Hybu dibynadwyedd trwy gyfyngu ar y rheini sy’n cael eu gweld cyn eu cyhoeddi.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Mae’r datganiad yn cynnwys un dangosydd cyd-destunol, sef ‘(31) Canran yr anheddau sydd heb beryglon’. Cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad llesiant yn y ddolen flaenorol.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Holly Flynn
E-bost: ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 19/2024

Image
Ystadegau Gwladol